Ailagor canolfan gymunedol yn Aberystwyth wedi i gar ddifrodi'r adeilad

Difrodwyd blaen adeilad Porthi Aber pan aeth car am yn ôl i mewn iddo ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae Porthi Aber, canolfan gymunedol sy'n darparu prosiectau bwyd lleol, wedi ailagor lai na 48 awr ar ôl i gar ddifrodi blaen yr adeilad.
Ni chafodd neb eu hanafu yn y gwrthdrawiad ar y Stryd Fawr yn Aberystwyth brynhawn Mercher.
Dywedodd y sefydliad eu bod yn "hynod ddiolchgar na chafodd neb niwed" a'u bod yn falch o allu ailagor mor gyflym.
Mae'r ganolfan wedi dychwelyd i'w horiau agor arferol ac yn parhau i gynnal eu gwasanaethau a'u prosiectau cymunedol.

Ailagorodd Porthi Aber lai na 48 awr ar ôl y digwyddiad
Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 16:00 ddydd Mercher pan aeth car am yn ôl i mewn i flaen adeilad Porthi Aber yn ddamweiniol, yn ôl y sefydliad.
Dywedodd y sefydliad fod dau aelod o staff, y gyrrwr a phobl oedd ar y stryd wedi dianc heb gael eu hanafu.
Maen nhw hefyd wedi diolch i gymydog "a alwodd y gwasanaethau brys ar unwaith ac a sicrhaodd fod y gyrrwr yn ddiogel".
Dywedodd Porthi Aber, er bod y difrod i flaen yr adeilad yn edrych yn sylweddol, nad oedd unrhyw ddifrod strwythurol.
Dywedodd llefarydd ei bod yn "bwysig iawn gallu parhau i gefnogi'r gymuned drwy brosiectau fel ein blwch llysiau organig lleol Bwyd Dyfi Hub, nosweithiau cinio cymunedol, nosweithiau tecawê a'r pantri cymunedol".
Dywedodd mai prif nod Porthi Aber yw defnyddio bwyd i gysylltu cymunedau ac effeithio'n gadarnhaol ar yr hinsawdd.
Ychwanegodd y sefydliad eu bod wedi'u syfrdanu gan y cynigion o gymorth a'r negeseuon o gefnogaeth gan y gymuned.
Fe wneth Porthi Aber ailagor tua blwyddyn yn ôl ar ôl cyfnod hir o adnewyddu'r adeilad, ac roedd y posibilrwydd o orfod cau eto wedi peri pryder i staff, gwirfoddolwyr ac aelodau'r gymuned, yn ôl y sefydliad.
Dywedodd y sefydliad eu bod yn wynebu cyfnod ansicr yn ariannol wrth aros am benderfyniadau ar geisiadau am gyllid, ac yn dibynnu'n helaeth ar roddion i barhau â'u gwaith.