Casi: Tor-perthynas yn ysbrydoli albwm newydd

- Cyhoeddwyd
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i Casi Wyn.
Mae hi newydd ryddhau ei halbwm gyntaf un er ei bod wedi bod yn perfformio a rhyddhau senglau ac EPs ers blynyddoedd.
Fe eisteddodd i lawr gyda Manon Steffan Ros ar gyfer rhaglen Llwyfan ar Radio Cymru i sôn am ei chariad tuag at farddoniaeth, sgwennu yn dilyn tor-perthynas a dechrau cylchgrawn.
Dyma rhai o'r pethau oedd ganddi i ddweud yn ystod y sgwrs honno.
Albwm newydd

Clawr Albwm Newydd Casi - Plentyn Yr Haul
Mae hi'n anodd credu nad yw Casi erioed wedi rhyddhau albwm o'i gwaith cerddorol o'r blaen.
Mae Plentyn yr Haul allan ers mis Ebrill ac mae Casi'n disgrifio'r albwm fel "10 o straeon byrion sydd â delweddau, ysbrydoliaeth a phrofiadau gwahanol, gwirioneddol tu ôl i bob cân.
"Mae wedi bod yn ddymuniad ers amser maith i gyflwyno casgliad o ganeuon fel albwm.
"Dwi'n teimlo bod yna rhywbeth hardd iawn am gynnwys casgliad o ganeuon a'i dogfennu nhw ar ffurf albwm.
"Mae gen ti nofelau, mae gen ti farddoniaeth, mae gen ti ffilmiau ac mae albwm yn gwneud rhywbeth tebyg iawn," meddai.
Mae sawl un o'r caneuon yn cyfeirio at lefydd gwahanol ar draws y byd a phob un yn croniclo cyfnod Casi o dreulio amser yn y lleoliad hwnnw.
"Mi ddechreues i sgwennu'r rhain yn ôl ym mis Awst 2024 yn dilyn diwedd perthynas ac mi ddaeth y caneuon cynharaf, Pompeii, Totoro a Kyoto, fe ymddangosodd nhw yn weddol gynnar yn y mis Awst hwnnw ac felly o'n i'n gwybod fod 'na fomentwm a bod y rhain yn ganeuon fysa'n cysylltu efo'i gilydd a bod rhain yn ganeuon i'w rhyddhau."
"Maen nhw i gyd wedi'u sgwennu yn yr union yr un drefn ac maen nhw yn ymddangos ar yr albwm," meddai.
Mae rhai o leisiau cyfarwydd eraill yn ymddangos ar yr albwm hefyd gan gynnwys Siân James, Gareth Bonello, Tecwyn Ifan a Marged Siôn gyda'i thad, Delwyn Siôn.
"Dwi'n licio pan mae artistiaid iau yn gwneud hynny, yn gwahodd eiconau os lici di, i ymuno efo nhw ac mae'n cyflwyno'r lleisiau rheiny i bobl o'r newydd hefyd.
"Achos dwi'n gwybod am waith Tecwyn Ifan drwy fy rhieni i raddau am fod ei recordiau o rownd y tŷ.
"'Wyrach gei di bobl 17-18 oed yn gwrando ar y gân 'ma ac yn cael eu cyflwyno i'w lais o, ei holl waddol o'r newydd," meddai.
Codi Pais

Un o gloriau'r cylchgrawn - Codi Pais
Wrth dyfu fyny mae Casi yn cofio gweld cylchgronau Pais ei Mam o amgylch ei chartref - cylchgrawn oedd yn rhedeg yn ystod y 70au.
Nawr, Casi yw Cyfarwyddwr Creadigol y Cylchgrawn Codi Pais - sy'n amlygu ac yn dathlu creadigrwydd cymunedau Cymru, yn enwedig felly lleisiau benywaidd.
"Dros gyfnod o amser mae o'n rywbeth sydd wedi datblygu'n naturiol, a 15 rhifyn yn ddiweddarach dwi'n gobeithio eu bod nhw'n ddogfennau o allu a phersbectif unigryw cymunedau amrywiol Cymru."
"Rydan ni angen drychau i fedru gweld ein gilydd yng Nghymru fel nad ydan ni'n or ddibynnol ar gyfryngau sydd 'wyrach wedi'u hail bobi o bersbectif Llundeinig neu Brydeinig neu Saesnig, dyna'r prif reswm dros fynd ati i greu'r cylchgrawn," meddai.
Barddoniaeth

Roedd ymweliad â chartref T H Parry Williams yn ysbrydoliaeth i Casi
Yn ogystal â pherfformio mae barddoniaeth yn elfen bwysig iawn o fywyd Casi.
Roedd hi'n Fardd Plant Cymru rhwng 2021 nes 2023 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol o gerddi o'r enw Cariad Yw.
Mae Casi'n sôn am ei dylanwadau barddonol a'r defnydd o farddoniaeth yn ei chaneuon.
Cafodd trip ysgol i Hen Dŷ'r Ysgol yn Rhyd Ddu, cartref T H Parry Williams dipyn o effaith arni yn ieuengach.
"Dwi'n cofio Mam yn gwneud i fi ddarllen ychydig o weithiau TH cyn mynd, fel mod i'n dallt lle o'n i'n mynd.
"Dwi'n cofio darllen llinellau olaf, dwi'n credu mai cerdd o'r enw Tŷ'r Ysgol:
Onid rhag ofn i'r ddau sydd yn y gro
Synhwyro rywsut fod y drws ynghlo.
Dwi'n cofio darllen y rheina a thrafod nhw efo Mam i wybod beth oedden nhw yn ei olygu. Dwi'n cofio hwnna fel rhyw drobwynt.
"Mae 'na rywbeth am y ffordd mae geiriau'n gallu awgrymu pethau, a'r dirgelwch sy'n gallu bodoli mewn barddoniaeth," meddai.
Roedd Casi'n canmol ei hathrawon Cymraeg hefyd yn Ysgol Uwchradd Tryfan, Bangor ble gafodd hi gyfle i astudio gwaith Iwan Llwyd a Waldo Williams.
"Mae cymaint o deimlad y tu ôl i farddoniaeth, a'r teimlad wedyn oedd yn dy daro di o'u darllen nhw, neu glywed nhw, roedden nhw yn aros hefo fi ar ôl y gwersi.
"Mae 'na ddimensiwn i'r gweithiau [barddol] yna sy'n rhoi awch i ti a chwilfrydedd. Rhywbeth gwerth ei brofi, rhywbeth ysbrydoledig iawn," meddai.
I glywed y sgwrs rhwng Manon a Casi yn llawn cliciwch yma.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2021

- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2025
