Diogelu rhag troseddau 'yn mynd ymhellach na giât at y fferm'

Yn ôl yr heddlu, mae troseddau seibr a thwyll yn gyfrifol erbyn hyn am hyd at 50% o holl droseddau Cymru a Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae pobl mewn ardaloedd cefn gwlad yr un mor debygol o ddioddef troseddau seibr â thrigolion trefi a dinasoedd.
Dyna un o negeseuon digwyddiad codi ymwybyddiaeth yn Sir Ddinbych nos Iau ar gyfer ffermwyr, perchnogion busnesau gwledig, tirfeddianwyr a phobl sy'n ymwneud â'r economi wledig.
Nod y digwyddiad yn Neuadd y Dref Rhuthun yw rhoi cyngor ac arweiniad ar gamau i bobl warchod eu hunain rhag troseddau ar ffermydd - yn uniongyrchol ac ar-lein.
Yn ôl Heddlu'r Gogledd, sy'n trefnu'r digwyddiad gydag elusen Tir Dewi a Swyddfa Comisiynydd Heddlu'r Gogledd, mae busnesau cefn gwlad a ffermydd yn cael eu targedu fwyfwy gan sgamiau digidol cymhleth - o dwyll anfonebau i ladrad offer.
"Tydy troseddwyr seibr na sgamwyr ar-lein ddim yn cymryd unrhyw sylw o ffinia' trefol," dywedodd y Cwnstabl Dewi Owen o dîm troseddau seibr y llu ar raglen Dros Frecwast.
"Er bod cefn gwlad Cymru yn le diogel i fyw ynddo fo ac efo lefela' trosedd eitha' isel, ma' rhywun yng nghefn gwlad yn gallu cael eu targedu jest yr un peth efo trosedd seibr neu dwyll ar-lein â rhywun yng Nghaerdydd neu Wrecsam neu Manceinion."

Mae sawl cam posib i gadw ar y blaen i'r sgamwyr, medd Dewi Owen
Mae'r digwyddiad nos Iau yn gyfle i drafod camau i atal troseddau arferol fel dwyn eiddo, da byw a pheiriannau.
Ond gan fod y bygythiadau diweddaraf yn llawer mwy soffistigedig, mae'r heddlu'n rhybuddio fod angen codi "ffensys digidol yr un mor ddiogel â rhai corfforol".
"Mae diogelu fferm yn mynd ymhellach na giât at y fferm y dyddia' yma," meddai'r Cwnstabl Owen.
"Mae angen cymryd camau i ddiogelu eich byd ar-lein hefyd."

Mae trefnwyr y digwyddiad yn Rhuthun yn gobeithio sicrhau bod economi wledig y gogledd "yn parhau i fod yn darged anodd i droseddwyr"
Un o'r camau diogelu, meddai, yw "gwneud yn siŵr bod gennych chi gyfrinair cry' ar eich cyfrifon ar-lein - ma' hynny'n golygu cyfrinair hir.
"Wedyn 'dan ni'n sôn am ddiweddaru meddalwedd [sy'n golygu] bo' chi'n cael gwared ar unrhyw wendidau i 'neud yn siŵr bod y troseddwyr seibr a'r sgamwyr methu dod i mewn i'ch dyfais chi.
"'Dan ni'n cymharu hynny i checkio ffens am dyllau, a thrwsio tyllau."
Colledion 'yn gallu bod yn anferthol'
Ychwanegodd y Cwnstabl Owen: "Wedyn 'dan ni'n sôn am ddilysu dau gam, lle rydych chi'n ychwanegu haen ychwanegol o ddiogelwch i'r cyfrif.
"'Dach chi'n rhoi'r cyfrinair i mewn i ddechra' a wedyn yn gorfod cael côd wedyn i fewngofnodi.
"'Dan ni'n cymharu hynna i 'roi clo ychwanegol ar ddrws y sied."

Mae camau fel CCTV yn help i atal troseddau fel dwyn o ffermydd, ond mae troseddau seibr yn anoddach i'w datrys
Dywedodd bod maint colledion o ganlyniad i dwyll ar-lein "yn gallu bod yn anferthol" ac mae yna "effaith emosiynol hefyd o gael eich targedu".
"'Dan ni'n cael busnesa' ledled Cymru yn colli cannoedd, miloedd - cannoedd o filoedd weithia' - a mae'n job adfer o hynny.
"Mae'n eitha' anodd dal rhai o'r troseddwyr 'ma achos maen nhw yn bell ar draws y byd.
"Y peth nesa' fedrwn ni 'neud ydy mynd allan i gymunedau a rhannu gwybodaeth fel bod o ddim yn digwydd yn y lle cynta'."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2025

- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2025

- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2024
