Golygfeydd 'ofnadwy' o bentyrrau sbwriel ar draethau Cymru

Rhan fach o'r sbwriel oedd wedi'i adael ar draeth Ynys y Barri yr wythnos hon
- Cyhoeddwyd
Mae pobl wedi ymateb yn ddig i olygfeydd "ofnadwy" o bentyrrau o sbwriel sydd wedi'u gadael ar draethau Cymru dros yr wythnos diwethaf.
Mae lluniau yn dangos caniau diod, peli pêl-droed, bwcedi a rhawiau, a hyd yn oed flippers wedi'u gadael ar Ynys y Barri ar 26 a 27 Mai.
Ym Mhorthcawl fe wnaeth tîm casglu sbwriel lleol gasglu 18 bag o sbwriel ar un bore yn unig, oedd yn cynnwys cewynnau a thyweli mislif.
Dywedodd corff Cadwch Gymru'n Daclus fod y golygfeydd yn "ofnadwy" a bod pobl i weld yn "gadael eu hunain yn rhydd" yn ystod y tywydd poeth ac yn anwybyddu rheolau.

Yr hyn a gafodd ei gasglu gan y tractor fu'n cribo'r sbwriel oddi ar draeth Ynys y Barri
Ar Ynys y Barri, mae'r cyngor lleol yn ceisio'n barhaus i gyfleu'r neges am beidio â thaflu sbwriel, gydag arwyddion ar hyd y traeth yn cynnwys negeseuon fel "gwnewch atgofion, nid llanast".
Mae'r tywydd poeth a gwyliau hanner tymor yr wythnos hon wedi golygu y bu hi'n gyfnod eithriadol o brysur ar Ynys y Barri, yn ôl rheolwr ailgylchu ac isadeiledd Cyngor Bro Morgannwg, James Webber.
Ond yn anochel, mae hynny'n golygu mwy o sbwriel.

Mae'n ergyd i ysbryd y criw pan maen nhw'n wynebu pentyrrau o sbwriel, meddai James Webber
"Ni'n cynllunio ar gyfer y digwyddiadau yma," meddai Mr Webber, sy'n rheoli tîm sy'n glanhau'r traeth gyda thractor er mwyn cribo'r holl sbwriel oddi yno.
"Ni yn casglu sbwriel ond mae rhai pethau sy'n diweddu lan o dan y tywod, a falle na fyddech chi'n gallu gweld e."
Ychwanegodd y gall hi fod yn ergyd i ysbryd y criw pan maen nhw'n wynebu pentyrrau o sbwriel, ond bod y mwyafrif yn cymryd eu gwastraff gyda nhw pan maen nhw'n gadael.

Dywedodd y Cynghorydd Steffan Wiliam fod angen gwneud gadael sbwriel ar draethau yn "gymdeithasol annerbyniol"
Dywedodd y Cynghorydd Steffan Wiliam, sy'n cynrychioli Ynys y Barri fel rhan o ward Baruc ar Gyngor Bro Morgannwg a Chyngor Tref y Barri, fod y rhan fwyaf o ymwelwyr yn ymddwyn yn gyfrifol ond bod lleiafrif yn parhau i adael llanast ar ôl.
"Mae 'na broblem gyda ni o bobl sydd ddim yn parchu'r traeth, maen nhw'n gadael y traeth gyda phob math o lanast ac yn ei adael mewn cyflwr eitha' gwael.
"Ry' ni'n lwcus iawn bod gyda ni nid yn unig gwirfoddolwyr ond hefyd pobl sy'n cael eu talu i gadw a chynnal y traeth, ond fe hoffwn i pe bai pobl yn fwy rhagweithiol ac yn cymryd eu sbwriel nhw adre'."
Ychwanegodd ei fod wedi awgrymu gosod bagiau sbwriel mewn mannau penodol er mwyn annog ymwelwyr i gasglu eu gwastraff a'i adael wrth finiau.
"Dwi eisiau ei wneud yn gymdeithasol annerbyniol i bobl adael sbwriel ar y traeth, yn yr un modd ag y mae hi i adael baw cŵn ar y pafin," meddai.
Ei neges i ymwelwyr oedd: "Peidiwch cymryd dim byd heblaw lluniau a pheidiwch gadael dim byd heblaw am ôl traed - cymerwch eich sbwriel adre'."

Ym Mhorthcawl cafodd 18 bag o sbwriel ei gasglu ar un bore yn unig
Dywedodd Jo Golley o gorff Cadwch Gymru'n Daclus ei bod wedi cael sioc o weld y golygfeydd "ofnadwy" ar draws y wlad.
"Pan fo cymaint o bobl o gwmpas, unwaith y mae un person anghyfrifol yn gollwng darn o sbwriel, yna mae'r person drws nesaf yn meddwl ei bod hi'n fwy derbyniol i wneud yr un peth," meddai.
"Y realiti yw, dyw ein hisadeiledd ni ddim wedi'i ddylunio ar gyfer delio gyda miloedd o bobl ar y traeth pob dydd.

Mae Paul Jackson a Marcie yn dweud fod dim esgus i adael sbwriel ar draethau
Pan aeth BBC Cymru i Ynys y Barri yr wythnos hon, roedd y traeth yn lân wedi i dimau fod yn gweithio o'r bore cynnar, ond roedd ymatebion cryf gan y rheiny oedd yn mwynhau tywydd braf hanner tymor.
Dywedodd Marcie, sy'n 8 oed ac ar wyliau o Hampshire gyda'i theulu, fod ymddygiad o'r fath yn "torri fy nghalon", a hithau eisiau achub anifeiliaid pan mae hi'n hŷn.
"Mae pawb yn dal i daflu sbwriel a dyw e ddim yn deg - gallai'r gwylanod dagu arno fe," meddai.
Cofnodi diwrnod poethaf Mai erioed wrth gyrraedd 32.9C
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Sut mae ymdopi yn y tywydd cynnes ar faes yr Eisteddfod?
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
Roedd Paul Jackson o Rymni ar y traeth gyda'i wraig, a dywedodd ei fod yn credu bod pobl un ai yn "anwybodus neu'n ddiog".
"Dyw e ddim yn anodd. Chi'n gweld pobl yn taflu pethau allan o'u ceir hefyd. Does dim angen - cymrwch e gartre' gyda chi."
Roedd Sallianne Lloyd o Abertyswg ar y traeth gyda'i gŵr, a'i hwyrion ac wyresau, a dywedodd y dylai pobl ystyried pwy allai godi'r sbwriel sy'n cael ei daflu.
"Meddyliwch am y perygl i'r plant bach. Mae biniau o amgylch y lle, a dylai pobl gael mwy o barch."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.