Pecynnau a blasau plaen i wneud fêps yn llai deniadol i blant?

Fêps ar silffoedd siop
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried cynlluniau posib yn cynnwys pecynnau plaen, cyfyngu ar enwau blasau, a chadw fêps y tu ôl i'r cownter mewn siopau

  • Cyhoeddwyd

Gallai rheolau newydd gael eu cyflwyno er mwyn ceisio gwneud fêps yn llai deniadol i blant.

Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â llywodraethau eraill y DU yn dechrau ar ymgynghoriad ar gyfres o gynigion newydd - maen nhw'n cynnwys pecynnau plaen, cyfyngu ar enwau blasau, a chadw fêps y tu ôl i'r cownter mewn siopau.

Mae ffigyrau yn dangos bod dros chwarter pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru wedi rhoi cynnig ar fepio, a 7% yn fepio bob wythnos.

Ymhlith pobl ifanc 16 oed yn benodol, mae dros 45% wedi rhoi cynnig ar fepio ac 16% yn defnyddio fêps yn wythnosol.

Nerys Evans Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer y plant a phobl ifanc sy'n defnyddio fêps yn destun pryder i'r Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans

Wrth annog pobl i roi eu barn yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol yn Llywodraeth Cymru, Nerys Evans ar raglen Dros Frecwast, ei bod yn bryderus iawn ynglŷn â nifer y bobl ifanc a phlant sy'n defnyddio fêps.

"Fi'n bryderus bod y sefyllfa wedi datblygu fel y mae hi nawr.

"Ni'n gwybod bod y diwydiant wedi newid, pan wnaeth Cymru roi ban ar fêps chi'n gallu defnyddio unwaith, dros nos wnaethon nhw newid y fêps oedd ar gael ar y farchnad.

"Un peth sydd y tu ôl beth mae'r cwmnïau yn ei wneud yw gwneud elw a trial gwneud e y mwyaf deniadol i blant a phobl ifanc, felly ni wrthi'n edrych ar beth arall allwn ni wneud, a fi yn pryderu'n fawr ynglŷn â faint o blant a phobl ifanc sy'n fêpio, ac yn gobeithio wir y bydd hwn y cam cyntaf i drial mynd i'r afael â'r issue 'ma."

Katie Gramich
Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie Gramich o Aberystwyth yn credu y byddai'n syniad da newid y rheolau

Wrth gael ei holi ar y stryd yn Aberystwyth, dywedodd Katie Gramich ei bod yn cytuno bod angen newid y rheolau.

"Wi'n credu bod fêps yn boblogaidd iawn ymysg pobl ifanc, a dwi ddim yn meddwl bod e'n beth iachus iawn, a hefyd dwi'n credu bod e yn wir eu bod nhw'n cael eu marchnata bron fel melysion - achos maen nhw'n lliwgar, maen nhw'n bert, mae nhw'n apelio, felly ie dwi'n credu bod e'n syniad da i newid y rheolau."

Dywedodd Mansel Beechey bod y fêps yn rhy ddeniadol i blant a phobl ifanc.

"Mae smell fel cappuccino, mae smell sweets, candy floss - hwnna fi'n gweld - gwertha fe fel beth yw e ddim fel peth arall i hala pobl i ddefnyddio fe."

Iestyn Carr
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Iestyn Carr o Lanilar, gallai fêps gael eu cadw tu ôl i'r cownter fel sigaréts fel nad ydyn nhw mor amlwg i bobl ifanc

Yn ôl Iestyn Carr o Lanilar, gallai fod yn syniad da i fêps beidio bod mor amlwg i bobl ifanc.

"Mae'r lliwiau, maen nhw'n llachar iawn, maen nhw'n really deniadol i bobl ifanc, a mae nhw'n denu'r plant tuag ato fe.

"Dwi'n gwybod pobl sydd wedi bod yn fepio ers mae nhw'n 12 neu 13 falle.

"Mae'r packaging - fel sigaréts maen nhw'n gallu cael eu cadw mewn bocs tu ôl i'r cownter, a mae'r fêps fan'na yn dy wyneb - so ie falle jest newid rhywbeth fel bod nhw yn y case hefyd jest i ddim denu pobl ifanc tuag ato fe."

Mae Nia Wyn Jones, diprwy bennaeth Ysgol Maes Garmon yn Yr Wyddgrug yn croesawu edrych ar gamau i wneud fêps yn llai deniadol i blant.

"Dwi'n gwybod, fel rhywun sydd wedi bod yn gweithio yn Yr Wyddgrug dros 20 mlynedd bod nifer y siopau fêps sydd wedi ymddangos ar y stryd fawr yn frawychus.

"Dwi'n gweld yn y siopau, mae'r ffenest yn llawn lliw, mae 'na arwyddion neon a mae 'na fflachio a mae o yna i ddenu, a felly dwi'n meddwl os 'dan ni'n gallu cael rhyw fath o symudiad tuag at newid hynny, fel oedd wedi gwneud hefo sigarennau o ran y pecynnau, gwneud o'n fwy plaen a llai deniadol, dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth positif i'w groesawu."

Merch yn defnyddio fêpFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ymgynghoriad ar y rheolau newydd posib yn para tan ddechrau fis Hydref

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, yr Athro Isabel Oliver: "Y prif risg iechyd sy'n deillio o gynhyrchion fepio a nicotin i blant a phobl ifanc yw dibyniaeth.

"Mae gan y cynigion hyn y pŵer i atal cenedlaethau'r dyfodol o bobl ifanc rhag dod yn gaeth i gynhyrchion fepio a nicotin, a all gael effeithiau sylweddol ar eu hiechyd a'u llesiant."

Bydd gan y cyhoedd a busnesau gyfle i roi eu barn yn yr ymgynghoriad cyn 2 Hydref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig