Buddugoliaeth gyfforddus i Gymru yn erbyn Japan yn y WXV

Dyma'r eildro i Gymru ennill yn erbyn Japan mewn wythnos yn dilyn buddugoliaeth o 0-17 yn Tokyo yr wythnos diwethaf
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru wedi sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth mewn pedair gêm yng nghystadleuaeth y WXV ar ôl trechu Japan o 5-29.
Fe reolodd Cymru'r gêm o'r gic gyntaf draw yn Kumagaya City gyda pherfformiad llawer mwy hyderus ac ymosodol o'i gymharu â'r hyn welwyd yn Tokyo wythnos diwethaf.
Daeth cyfanswm o bum cais i'r ymwelwyr gyda Nel Metcalfe, Kelsey Jones, Amy Williams (2) a Sisilia Tuipulotu i gyd yn sgorio.
O bosib y prif achos pryder wedi'r ornest fore Sadwrn oedd diffyg disgyblaeth, wrth i Gymru orfod chwarae gydag 13 ar y cae am gyfnod oherwydd cardiau melyn.
Cymru'n curo Japan yng Nghystadleuaeth y WXV
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Colledion Undeb Rygbi Cymru wedi cynyddu i £18m
- Cyhoeddwyd22 Hydref
Y chwiorydd Metcalfe i ddechrau gêm brawf gyda'i gilydd am y tro cyntaf
- Cyhoeddwyd22 Hydref
Fe aeth Cymru ar y blaen gydag ond pum munud ar y cloc yn dilyn gwaith ardderchog gan Alex Callender, Sisilia Tuipulotu a Kelsey Jones lawr yr asgell chwith.
Cafodd y bêl ei lledu yn gyflym drwy'r dwylo allan at Nel Metcalfe a orffennodd y symudiad yn hyderus.
Fe darodd y tîm cartref yn ôl drwy fanteisio ar ddiffyg disgyblaeth Cymru. Yn dilyn lein pum metr o'r llinell gais, doedd amddiffyn Cymru methu ymdopi â grym y sgarmes symudol wrth i'r bachwr, Moe Nagaoka sgorio cais haeddiannol.
Ond fe brofodd y sgarmes symudol yn effeithiol i Gymru hefyd wrth i Kelsey Jones groesi yn y gornel wedi gwaith da gan y blaenwyr.
Llwyddodd Cymru i ymestyn eu mantais cyn yr egwyl. Unwaith eto roedd y sgarmes symudol yn hollbwysig wrth ynysu amddiffyn y tîm cartref.
Fe wibiodd Seren Lockwood lawr yr ochr dywyll cyn lledu'r bêl i Amy Williams a lwyddodd i sgorio yn y gornel.

Dywedodd y prif hyfforddwr, Sean Lynn wedi'r fuddugoliaeth ei fod yn "gam arall ymlaen" ar y llwybr tuag at Gwpan y Byd 2029
Cafodd Jennifer Nduka ei hanfon i'r gell gosb ar ddechrau'r ail hanner gan roi cyfle i Gymru gynyddu'r pwysau ar amddiffyn y tîm cartref.
Pum munud yn ddiweddarach daeth pedwerydd cais diolch i'r prop Sisilia Tuipulotu.
Gyda'r hyder yn llifo ymhlith chwaraewyr Cymru fe sgoriodd Amy Williams am yr eildro.
Yn dilyn pas hir ardderchog gan Alex Callender fe wibiodd Lisa Neumann drwy fwlch yn amddiffyn Japan cyn lledu'r bêl i Williams ar yr asgell chwith.
Ond yng nghyfnod ola'r gêm daeth diffyg disgyblaeth Cymru i'r amlwg unwaith eto.
Ar ôl 67 munud fe gafodd yr eilydd Keira Bevan ei hanfon i'r gell gosb am daro'r bêl ymlaen yn fwriadol, ac yna dau funud yn ddiweddarach derbyniodd Hannah Dannavalle gerdyn melyn am dynnu gwallt un o chwaraewyr Japan.
Ond, er eu bod lawr i 13 o chwaraewyr am gyfnod, fe lwyddodd amddiffyn Cymru i atal y tîm cartref rhag lleihau'r fantais.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.