'Port Talbot cystal ag unrhyw le yn y byd i leoli straeon mawr'

Jon Doyle yn edrych yn syth i'r cameraFfynhonnell y llun, Jon Doyle
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jon Doyle wedi'i gynnwys ar restr flynyddol yr Observer o'r nofelwyr cyntaf i'w dilyn

GanGareth Bryer
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Roedd y foment pan ddysgodd Jon Doyle fod ei nofel Communion wedi ei gynnwys ar rhestr anrhydeddus o nofelau cyntaf orau'r flwyddyn yn teimlo fel "buddugoliaeth".

Mae'r awdur a gafodd ei fagu ym Mhort Talbot yn dilyn ôl traed enwau mawr fel Sally Rooney a Douglas Stuart wrth gael ei gynnwys ar restr flynyddol yr Observer o'r nofelwyr cyntaf i'w dilyn.

Mae'r ffaith mai ef yw'r unig un o'r wyth ar y rhestr eleni sy'n byw tu allan i Lundain yn "gyfiawnhad" am y "blynyddoedd o ymdrechu", meddai.

Ond dim ond ar ei dryddyd tro o geisio sgwennu nofel y darganfyddodd fod Port Talbot yn lleoliad cystal â Llundain neu Efrog Newydd i osod llyfr.

Dau fachgen tua 10 mlwydd oed, yn sefyll ar draeth yn gwenuFfynhonnell y llun, Jon Doyle
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl gadael er mwyn astudio am radd, fe symudodd Jon a'i frawd Liam yn ôl i'r cartref teuluol ym Mhort Talbot

Mae'r awdur 35 oed yn dal i fyw gyda'i efaill Liam yn ei gartref teuluol yn Nhaibach - y strydoedd o dai teras yn nwyrain Port Talbot rhwng gwaith dur Tata a'r M4.

Ond pan ddechreuodd geisio sgwennu "ro'n i'n darllen yr awduron Americanaidd mawr, ro'n i eisiau sgwennu am Efrog Newydd neu Llundain, jest achos mae'n teimlo'n fwy cyffrous".

Ond unwaith y dechreuodd sgwennu Communion, fe welodd yn fuan beth oedd ar ei stepen drws.

Mae'r gwaith dur yn "le hudol ac yn le bygythiol, ac mae'n bosib iddo fod y ddau beth yna ar yr un pryd".

"Pan oedd y blast [y ffwrnais chwyth] yn mynd gyda'r nos, a'r cymylau yn isel a'r holl awyr yn lliw, roeddech chi'n meddwl 'tydi pob man ddim fel 'ma'."

"Mae'r teimlad yna o hud a, bron, arswyd yn rhywbeth ni'n caru ac yn peri ofn, rhywsut.

"Chi'n dod i weld Port Talbot fel rhywle sy'n haeddu ei lle ym myd ffuglen llenyddol gyda syniadau mawr, themf mawr, gydag unrhyw le arall."

Jon Doyle yn sefyll o flaen hen sinema y Plaza ym Mhort TalbotFfynhonnell y llun, Jon Doyle
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd lansiad y llyfr ei gynnal yn hen sinema y Plaza yn y dref - lleoliad pwysig yn y nofel

Mae stori Communion yn cyfuno fersiynau ffuglennol o ddau ddigwyddiad yn y dref.

Y cyntaf yw seren Hollywood yn dychwelyd i'r dref i lwyfannu drama gymunedol ar draws y dref un penwythnos - yn debyg i gynhyrchiad Michael Sheen a Theatr Genedlaethol Cymru, The Passion of Port Talbot, yn 2011.

Ond cafodd y llyfr ei sgwennu yn ystod cyfnod anodd iawn i'r dref, ac mae'r ail ddigwyddiad yn adlewyrchu hynny.

Penderfynodd Tata droi y ffwrnais chyth olaf yn y gwaith dur i ffwrdd yn hydref 2024, gyda'r bwriad o adeiladu ffwrnais arc drydanol fydd yn agor erbyn diwedd 2027.

Er y bydd y broses newydd yn fwy gwyrdd, dim ond cyfran o'r staff fydd ei angen, gan arwain at golli dros 2,000 o swyddi.

Mae'r llyfr yn dangos fersiwn ffuglennol o'r gweithredu diwydiannol ddigwyddodd yn dilyn y cyhoeddiad.

Gwaith Dur Port TalbotFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gweithfeydd dur yn taflu cysgod dros y stori yn Communion

"Roeddwn i wedi gorffen y drafft cyntaf [o Communion] cyn iddi ddod yn glir beth oedd yn digwydd," medd Jon.

"Mae'r gweithfeydd wedi bod mewn sawl cyfnod o berygl am flynyddoedd maith - mae wastad wedi bod bygythiad."

Wrth iddo weithio ar ail ddrafft o'r nofel, roedd y dadleuon o amgylch y penderfyniad i gau ym mhobman, ac mae'r cymeriadau yn adlewyrchu'r safbwyntiau cymhleth oedd i'w clywed ar y naill ochr.

"O'n i'n gallu gweld y dadleuon yn y newyddion a gyda ffrindiau yn y dref, a siarad gyda phobl.

"[Yn y llyfr] mae pobl yn gwrth-ddweud eu hunain o fewn brawddeg.

"Dwi'n meddwl fod hi'n bosib bod yn weithiwr dur a bod yn falch o ble chi'n gweithio, eich hanes, hanes eich teulu yn y diwydiant yna, ar yr un pryd â bod yn rhywun sy'n poeni am yr amgylchedd.

"Mae'n bosib i'r ddau beth fodoli o fewn un person."

Hen lun o Jon Doyle ifanc yn chwarae golffFfynhonnell y llun, Jon Doyle
Disgrifiad o’r llun,

Mae diwydiant a hamdden yn mynd law yn law ar hyd arfordir Port Talbot ac Aberafan

Symudodd cyndeidiau Jon i ardal Port Talbot o Iwerddon i chwilio am waith, ac mae'r gweithfeydd dur yn taflu cysgod dros y stori - yn yr un modd ag y maen nhw'n dal i wneud dros y dre heddiw, er i'r mwg a nifer o'r swyddi adael.

"Rwy'n Bort Talbot o fy mhen i fy nhraed," meddai.

"Roedd fy hen-dad-cu yn weithiwr dur, roedd fy nhad-cu yn weithiwr dur, ac yna fy ewythr o'r genhedlaeth nesaf i lawr - roedden nhw yn y gweithfeydd hefyd."

Jon a'i frawd oedd y cyntaf i fynd i brifysgol, gyda Jon yn derbyn cefnogaeth yn ei sgwennu fel awdur dosbarth gweithiol - label sy'n ei wneud yn anghyfforddus, er i hynny agor drysau iddo.

Cafodd sawl cynnig o asiantau llenyddol wedi i bennod agoriadol Communion ennill gwobr awduron dosbarth gweithiol y Writer's and Artist's Yearbook.

Ond yn ôl Jon, ni fyddai wedi cyrraedd y garreg filltir honno heb y gefnogaeth y derbyniodd fel awdur dosbarth gweithiol o raglen Cynrychioli Cymru, sy'n cael ei rhedeg gan Lenyddiaeth Cymru.

"'Naeth o newid fy myd," meddai, i dderbyn gwobr ariannol, hyfforddiant a mwy.

Cafodd hefyd fentor, sef yr awdur Tom Bullough - cyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn a'i gyflwyno i gymuned o 14 o awduron ledled Cymru o gefndiroedd amrywiol.

Maen nhw'n dal i gefnogi ei gilydd a "dathlu llwyddiannau ein gilydd", gyda "phleser mawr" wedi dod o lwyddiant llyfr cyntaf Anthony Shapland, A Room Above a Shop, a gafodd ei enwi ar sawl rhestr nofelau gorau'r flwyddyn y llynedd.

Mae'r llyfr hefyd wedi cael ei gyfieithu'n llwyddiannus i'r Gymraeg gan Esyllt Angharad Lewis - Lan Stâr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.