Codi'r gwaharddiad ar ddefnydd pibellau dŵr yn y gorllewin

Er bod y gwaharddiad ar ben, mae Dŵr Cymru yn annog pobl i barhau i fod yn ofalus gyda'u defnydd o ddŵr
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru wedi codi'r gwaharddiad dros dro ar ddefnyddio pibelli dŵr (hosepipes) mewn rhannau o'r gorllewin.
Daeth y gwaharddiad i rym ar 19 Gorffennaf yn dilyn "cyfnod estynedig o alw uchel dros ben am ddŵr yfed".
Roedd yn cael effaith ar 33,000 eiddo ar draws canolbarth a de Ceredigion, gogledd Sir Benfro a gogledd Sir Gaerfyrddin.
Mewn datganiad fore Gwener, fe gadarnhaodd Dŵr Cymru fod y gwaharddiad bellach ar ben "yn sgil adfer lefel y storfeydd o ddŵr wedi ei drin".
Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw gyfyngiadau mewn grym unrhyw le yng Nghymru.
Gwahardd defnyddio pibelli dŵr mewn rhannau o'r gorllewin
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf
Tywydd sych yn datgelu olion strwythurau Ail Ryfel Byd ger plasty
- Cyhoeddwyd17 Awst
Cymru gyfan bellach mewn sychder swyddogol
- Cyhoeddwyd30 Gorffennaf
Dywedodd prif swyddog cwsmeriaid Dŵr Cymru, Kit Wilson: "Rydyn ni'n gwybod pa mor anghyfleus oedd y cyfyngiadau hyn, yn enwedig yn ystod gwyliau'r haf, ac rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i'n cwsmeriaid am eu hymateb.
"Trwy leihau defnydd o ddŵr, chwaraeodd ein cwsmeriaid ran allweddol wrth helpu i adfer y storfeydd o ddŵr wedi ei drin ar draws y rhwydwaith.
"Mae hyn, a gwaith diflino ein timau gweithredol, wedi ein galluogi ni i godi'r cyfyngiadau."
Tra'n diolch i gwsmeriaid am eu cydweithrediad, mae Dŵr Cymru yn annog pobl i barhau i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.