Dwy ganrif o hanes yn Nhafarn Y Plu, Llanystumdwy

- Cyhoeddwyd
Pan y cafodd tafarn adnabyddus Y Plu yn Llanystumdwy ei phrynu gan y gymuned yn 2019, dyma oedd pennod newydd mewn hanes sy'n para dros 200 mlynedd.
Cafodd y dafarn ei hadeiladu gan y saer coed John Ellis, a brynodd y tir yn 1813.
Mae hi ar gau am flwyddyn ar hyn o bryd, ar gyfer gwaith adeiladu ac adnewyddu helaeth, ar ôl i Fenter Y Plu sicrhau grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Y bwriad yw i ailagor yn hwyrach eleni, ond mae'r amserlen wreiddiol wedi gorfod cael ei haddasu ychydig ar ôl i'r adeiladwyr ddod o hyd i rywbeth diddorol o dan lawr y bar, fel yr eglurodd aelod o fwrdd Menter Y Plu, Miriam Williams, wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.
"Pan oedd yr adeiladwyr yn chwalu'r bar cefn i lawr – fan'na fydd yr estyniad newydd yn mynd – o'ddan nhw'n chwalu slab concrit, a daethon nhw ar draws slab o lechen go fawr, a ffynnon oedd o dan y lechen – sy'n gwneud synnwyr pam fod yr adeilad mor damp, a deud y gwir."

Doedd yna neb yn gwybod am fodolaeth y ffynnon a oedd yn cuddio o dan far y dafarn!
Does neb yn hollol siŵr o oedran y ffynnon sydd 2.5m o ddyfnder, er, oherwydd fod yr adeilad yn rhestredig, roedd yn rhaid sicrhau nad oedd hi'n ffynnon hynafol. Mae'n rhaid fod cannoedd, os nad miloedd, o yfwyr wedi cerdded drosti dros y blynyddoedd, a neb fawr callach!
Mae pwyllgor Menter Y Plu yn dyfalu y byddai'r ffynnon wedi cael ei defnyddio i oeri cwrw'r dafarn, a'r dŵr yn cael ei ddefnyddio yn y broses bragu cwrw.
Wrth gwrs, does dim angen y ffynnon yma ar y dafarn bellach, ond mae'r Fenter dal yn awyddus i'w gadw, eglura Miriam.
"'Da ni'n gobeithio ei chadw hi yn rhan o'r adeilad newydd, gyda gwydr dros ei phen hi fel y gall pobl ei gweld hi."
"'Da ni'n sicrhau i bobl fod y teimlad cartrefol, hen ffasiwn 'na oedd yn perthyn i'r Plu yn aros."
Miriam Williams yn siarad ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru
Achub yr unig dafarn sydd ar ôl
Syniad criw bach o drigolion lleol dros beint yn y dafarn oedd mynd ati i brynu'r Plu pan gafodd ei roi ar y farchnad. Yn 2019, llwyddodd Menter Y Plu yn eu hymgais i sicrhau 80,000 o gyfranddaliadau, a daeth Y Plu i ddwylo'r gymuned.
"Roedd 'na fygythiad y byddai 'na fragdy yn prynu'r adeilad neu dwylo estron yn dod," eglurodd Miriam.
"Roedd y criw eisiau cadw'r dafarn yn nwylo'r gymuned. Ar ôl gweld tafarndai tebyg fel Y Fic yn Llithfaen yn llwyddo, penderfynwyd creu cymdeithas nid er elw, er mwyn gobeithio prynu'r dafarn drwy werthu siârs, ac mi 'naethon ni hynny yn 2019."

Mae'r pentref yn adnabyddus am fod yn gartref i David Lloyd George, Prif Weinidog Cymreig cyntaf Prydain.
Mae llyfr gan ei frawd ieuengaf, William George, yn adrodd peth o hanes y pentref yn ail hanner yr 1800au, ac mae sôn am dafarn 'The Feathers Inn' ynddo, meddai'r hanesydd lleol John Dilwyn Williams.
"Mae William George wedi ysgrifennu cofiant i'w ewythr, Richard Lloyd. Mae ganddo bennod am y pentre, ac yn sôn am 'y ddwy hen wraig' oedd yn cadw'r dafarn – yn eu 50au canol oedden nhw!"
Dwy ferch John Ellis - a adeiladodd y dafarn - oedd rhain, Hannah a Gwen, a gymerodd yr awennau ar ôl marwolaeth eu mam yn 1863.

Hen lun o'r dafarn - does dim dyddiad
Yn ôl yr awdur, roedd pedair tafarn yn y pentref bryd hynny, ond dim ond un sydd wedi goroesi.
"Ochr draw i'r afon, roedd y Crown – mae'r tŷ dal yno, o tua 1770 – o'dd 'na dafarn tu draw i eglwys, Ty'n Llan. A'r ochr yma i'r afon, oedd Pen y bont, oedd yn wynebu'r bont, a'r tŷ dal yna. Hon – Y Plu – falle fasa'r diweddara ohonyn nhw."

Ddoe a heddiw: John Ellis Hughes a'i chwaer Hannah Mary oedd yn rhedeg yn dafarn am gyfnod (y llun o tua 1893) - a llun mwy diweddar o'r Plu
Yr un hen le
Arhosodd Y Plu yn yr un teulu tan 1948, pan fu'n rhaid, oherwydd costau cynyddol, werthu'r tŷ potes i fragdy, fel oedd yn gyffredin bryd hynny.
Ond bellach, mae hi'n ôl yn 'dŷ rhydd' ac yn nwylo'r gymuned fel tafarn gydweithredol.
Ers cael ei phrynu gan y gymuned, mae hi'n mynd o nerth i nerth, a datblygiadau lu wedi bod.

Mwynhau cerddoriaeth fyw yn yr ardd gwrw
Daeth criw Prosiect Pum Mil acw yn 2020 i helpu i adeiladu llwyfan a gardd gwrw, ac mae rhandiroedd ar y cae drws nesaf yn cael eu cynnal a'u cadw gan wirfoddolwyr.
Mae'r Capel Bach – y capel drws nesaf i'r dafarn – bellach hefyd wedi cael ei brynu gan y Fenter ac yn cynnig llety i ymwelwyr, ac mae cwt wedi ei droi yn siop fach gyfleus i'r trigolion lleol, sy'n gwerthu hanfodion fel papur tŷ bach, pasta, coffi a siocled!
Mae pob ceiniog sy'n cael ei wario – yn y dafarn, y siop neu'r llety – yn mynd yn ôl i'r gymuned.
Wrth i'r gwaith adeiladu barhau, mae'r dafarn hefyd yn edrych am denantiaid newydd i redeg y lle, felly bydd llawer wedi newid erbyn i'r dafarn ailagor ddiwedd y flwyddyn.

Y Bar Bach fel oedd yn edrych cyn y gwaith adeiladu - bydd cymeriad y lle yn parhau
Ond yr un hen le fydd Y Plu, eglura Miriam.
"Mi oedd o wedi dyddio. Roedd y lloriau'n gam, y trydan yn dodgy, ac roedd angen gwydr peint i gasglu dŵr glaw yng nghornel y stafell... Roedd Y Plu angen hyn.
"Ond fydd cymeriad y dafarn ddim yn cael ei golli.
"Mae o'n lle i gofio am draddodiadau Cymreig ond lleol hefyd - mae 'na lwyth o bosteri dramâu Wil Sam ar wal y bar bach, felly fydd rheiny'n mynd nôl fyny.
"'Da ni'n sicrhau i bobl fod y teimlad cartrefol, hen ffasiwn 'na oedd yn perthyn i'r Plu yn aros. Ei 'neud o'n adeilad sy'n adlewyrchu hanes ond yn ei 'neud o'n berthnasol i'r gymuned fodern."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd2 Mehefin

- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025
