Nofiwr 69 oed wedi marw ar ôl cael ei achub o'r môr ym mae Caswell

- Cyhoeddwyd
Mae dyn 69 oed wedi marw ar ôl iddo gael ei achub o'r môr ym mae Caswell, ger y Mwmbwls, brynhawn Iau.
Dywedodd Tîm Achub Gwylwyr y Glannau y Mwmbwls eu bod wedi cael eu hanfon i fae Caswell ar ôl adroddiadau bod pedwar nofiwr mewn trafferthion a bod un person ar goll.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r bae tua 15:45.
Datblygodd y digwyddiad yn gyflym i fod yn ymateb amlasiantaethol, gyda hofrennydd Gwylwyr y Glannau, hofrennydd achub ac Ambiwlans Awyr Cymru yn cael eu hanfon yno.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod dyn o ardal Mount Pleasant yn Abertawe, wedi cael ei ganfod ac wedi cael cymorth meddygol gan barafeddygon a Gwylwyr y Glannau ar ôl cael ei dynnu o'r dŵr.
Ond er gwaethaf yr ymdrechion i'w drin, cafodd ei ddatgan yn farw am 16:18.
Ychwanegodd yr heddlu fod perthnasau'r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth ac nad ydyn nhw'n credu bod unrhyw amgylchiadau amheus ynghlwm â'r digwyddiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.