Y bar yn Fringe Caeredin er cof am Gymro 'oedd wastad fyny am laff'

Bu Gwynfor (dde) yn gweithio ar baratoadau ar gyfer y Fringe ers dros ddegawd
- Cyhoeddwyd
Gyda miloedd wedi heidio i Gaeredin fis yma ar gyfer gŵyl Fringe, yng nghanol yr atynfeydd mae yna far Cymreig – Gwyn's Bar – er cof am Gymro "oedd wastad fyny am laff".
Roedd Gwynfor Davies, yn wreiddiol o Lyn Ceiriog ger Wrecsam, yn rheolwr llwyfan am flynyddoedd a bu'n gosod bariau a llwyfannau ar gyfer y Fringe am dros ddegawd.
Bu farw Gwynfor yn sydyn yn 53 oed yn 2024 ac wedi hynny fe benderfynodd y cwmni roedd Gwynfor yn gweithio iddo, Assembly, fod yn rhaid gwneud rhywbeth er cof amdano.
Bydd Gwyn's Bar yng nghanol yr ŵyl yn deyrnged iddo ac mae'n cynnwys rhai o'i hoff ddywediadau, gan gynnwys cyfarchion a gwaith celf Cymraeg.
Yn ôl ei gefnder, yr actor Rolant Prys, mae'r deyrnged yn un addas gan fod Gwynfor "jest yn licio cael laff – o'dd o'n gweithio'n galed ond hefyd played hard – jest person normal oedd yn tynnu coes pawb".

Roedd Gwynfor (chwith) yn gymeriad mawr yn ôl Rolant ac roedd yn mwynhau tynnu coes pawb
Wrth gerdded o gwmpas y bar fe welwch chi eiriau Cymraeg fel 'Iechyd Da' ar y waliau, geiriau caneuon enwog fel 'Calon Lân' ac 'Yma o Hyd' a gwaith celf hefyd i adlewyrchu ei hunaniaeth.
Ond yn eu plith mae dyfyniadau gan Gwynfor ei hun hefyd - gan gynnwys 'I am a giant amongst my people'.
"Dyna oddo'n licio ei ddeud," meddai Rolant "achos boi bach odd o - ond o'dd o'n small in stature yes, but a huge character.
"Ac o'dd o'n cael argraff le bynnag oddo'n mynd."
Cafodd Rolant ei fagu gyda Gwynfor meddai, gan "mai ond ychydig fisoedd oedd rhyngdda ni a odd hwna'n lot o sbort".
Ond ar ôl i Gwynfor golli ei swydd yng ngogledd Cymru fe symudodd i'r Alban gan fod swydd ar gael gyda'r cwmni theatr The Singing Kettle.
"So 'nath o werthu ei dŷ ym Mangor a symud i'r Kirkcaldy.
"'Waeth imi drio fo' ddudodd o a setlodd o yna wedyn."
Rheolwr llwyfan oedd ei rôl yn adeiladu setiau a llwyfannau ond "odd o'n perfformio weithe," meddai Rolant – "gwisgo lan fatha ci neu wbath – he loved the job, it was right up his street".
Ond gan nad oedd cynyrchiadau drwy'r flwyddyn gyfan, yn yr haf fe ddechreuodd helpu cwmni Assembly gyda'u gwaith yn paratoi ar gyfer gŵyl Fringe Caeredin.

Fe wnaeth Rolant, ei fab Eban a ffrind Gwynfor, Scott fwynhau wrth iddyn nhw ymweld â'r bar
"Roedd o'n mwynhau ei hun Gwynfor, yn gweithio i'r cwmni yna ac o nhw'n mwynhau ei gael o.
"Sylweddolon nhw 'o Gwynfor's a great little worker' a dewis ei ofyn o nôl – a dyna fuodd o'n neud wedyn am 10 i 15 mlynadd."
Gan fod y gwaith yna'n ei gadw'n brysur dros yr haf, pur anaml yr oedd Gwynfor yn cael cyfle i fynd i'r Eisteddfod, meddai Rolant ond yn 2024 cafodd gyfle i fynd i Eisteddfod Pontypridd.
"Odd hwna'n grêt," ychwanegodd Rolant.
"Nath o gwrdd â loads o ffrindie'r wythnos yna.
"Ac Eden oedd y gig ola' ac odd Tudur [Owen], fi ac Iwan John efo fo'n y gig ola' so getho ni sesh cyn cael y trên yn ôl – brilliant."
Yn fuan wedi hynny, ar ôl dychwelyd i'r Alban, cafodd Gwynfor ei ganfod yn farw yn ei gartref gan ffrind.
"Roedd hwnna'n anodd iawn," meddai Rolant. "Ei galon o odd y rheswm ddudon nhw".
Er pa mor drasig oedd y digwyddiad a'r newyddion "mae pawb oedd yn ei adnabod o am ei gofio fo - a bydd y bar yma yn y Fringe bob haf tra bod ei griw o ffrindiau fo dal yn gweithio yno".
"Dathliad o'i fywyd" fyddai Gwynfor ei eisiau meddai Rolant ac mae Gwyn's Bar yng nghanol George Square Gardens yn cynrychioli hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2025

- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl

