Beth nesaf i stad o dai gwag ble dydy pobl sydd eisiau byw yno ddim yn cael eu prynu?

Er bod asiant wedi derbyn dwsinau o ymholiadau, nid oes modd defnyddio'r tai fel cartrefi parhaol
Disgrifiad o’r llun,

Er bod asiant wedi derbyn dwsinau o ymholiadau, nid oes modd defnyddio'r tai fel cartrefi parhaol

  • Cyhoeddwyd

Beth ddylai ddigwydd nesaf i stad o dai ar Ynys Môn sydd bron i gyd yn wag - oherwydd rheol sy'n dweud eu bod ond yn gallu cael eu gwerthu fel cartrefi gwyliau?

Roedd yr 16 tŷ yn Storws Wen, Bryn-teg ger Benllech, wedi'u hadeiladu ar yr amod eu bod ond i'w defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau.

Er bod asiant wedi derbyn dwsinau o ymholiadau gan bobl sydd eisiau eu prynu, nid oes modd byw ynddyn nhw fel cartrefi parhaol.

Does dim un ymweliad gan ddarpar brynwr wedi bod ers 18 mis felly.

Cafodd y tai eu marchnata'n wreiddiol am £285,000 yr un, ond dim ond dau dŷ sydd wedi'u gwerthu, gyda'r gweddill yn wag.

Mae datblygwyr y tai wedi cadarnhau i'r BBC eu bod yn apelio penderfyniad y cyngor i wrthod cais i dynnu'r amod cynllunio o'r stad.

Ond beth ydy'r farn yn yr ardal?

Jane Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jane Roberts atgofion melys o'i phlentyndod ym Mryn-teg, ble cafodd llawer o'i theulu eu magu

"Yr hyn alla i ddim ei ddeall ydy bod y cyngor yn meddwl bod hyn yn iawn i'r ardal," meddai Jane Roberts, a gafodd ei magu ym Mryn-teg.

Dydyn nhw ddim yn sylweddoli'r effaith mae hyn yn ei gael ar bobl leol."

Roedd gan Ms Roberts gynlluniau i symud yn ôl i'r ardal, ble mae ei theulu wedi byw ers cenedlaethau, yn 2024.

Ond sylweddolodd pe bai hi eisiau prynu un o'r tai yma, y byddai'n rhaid iddi osod ei chartref yn Llangefni i'w rentu.

Teulu'n 'troi yn eu beddi' o wybod

Ers mis Ebrill 2024, mae perchnogion ail gartrefi ar Ynys Môn yn talu 100% ychwanegol o dreth cyngor ar eu heiddo.

Daw yn sgil cynllun ledled Cymru sy'n caniatáu i gynghorau godi hyd at bedair gwaith y lefel arferol o dreth, fel rhan o ymdrechion i'w gwneud yn haws i bobl fforddio cartrefi yn eu hardaloedd lleol.

Erbyn diwedd 2023, roedd tua 10% o stoc dai'r ynys wedi ei nodi fel ail gartrefi neu dai gwyliau, yn ôl dogfennau cynllunio.

Dywedodd Ms Roberts bod yr amod ar y tai newydd "ddim yn teimlo'n iawn i fi".

"Mi fysa' fy nhad a neiniau a theidiau'n troi yn eu beddi tasa nhw'n gweld bod y tai ddim yn cael eu gwerthu i brynwyr lleol.

"Mae wedi gwneud i fi beidio chwilio am rywle arall yn y pentra'."

Dywedodd Ms Roberts, 66, fod Bryn-teg, ble cafodd llawer o'i theulu eu magu, yn "bentref hyfryd i dyfu i fyny ynddo fo - gafon ni y plentyndod gorau yna".

Mae ei merch yn byw ym Mryn-teg gyda'i phlant, ac yn "anhapus iawn efo'r sefyllfa", meddai, fel "lot o bobl" sy'n byw yno.

"Dydy o ddim yn edrych yn dda i'r ardal. Dydy o ddim yn creu teimlad da."

Phil Morrill
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Morrill yn teimlo nad yw'r sefyllfa'n gwneud unrhyw synnwyr

Nid Ms Roberts ydy'r unig berson o Fryn-teg sy'n synnu ynghylch y sefyllfa.

"Mae gormod o fiwrocratiaeth... mae'n ofnadwy," meddai Phil Morrill.

"Dyle bod dim byd yn rhwystro unrhyw un rhag prynu a byw yn y tai yma... dydy o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Does dim defnydd i neb yn wag."

Dywedodd Richard Jones ei bod hi "ddim yn gwneud synnwyr bod pobl leol yn methu prynu a byw yn y tai".

"Mae'n lleoliad da, yn agos iawn at dafarn y pentra', a bysa nhw'n gartrefi delfrydol i deuluoedd.

"Byddai hi'n well fyth pe bai'r cyngor yn eu prynu fel tai cymdeithasol a'u rhentu, gan eu bod nhw'n wag."

Richard Jones
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Richard Jones y byddai'r cartrefi yn ddelfrydol fel tai cymdeithasol

Mae Mike Williams o gwmni Beresford Adams yn un o ddau asiant sy'n ceisio gwerthu'r tai gwyliau.

Dywedodd fod gadael y tai yn wag yn "wastraff llwyr o arian".

Dywedodd Mr Williams, sy'n byw ym Mryn-teg, ei fod yn "rhwystredig" bod tai sy'n "berffaith" i bobl leol ddim yn cael eu defnyddio.

"Yn llythrennol, dydyn ni ddim wedi cael unrhyw ymweliadau i weld y datblygiad ers tua blwyddyn a hanner," meddai.

"Doedd y farchnad ail gartrefi erioed wir wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn llefydd fel Bryn-teg.

"Roedd gan bobl fwy o ddiddordeb mewn llefydd fel Benllech a Moelfre, sy'n nes at yr arfordir."

Mae'r tai yn "berffaith" i bobl leol, meddai Mike Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tai yn "berffaith" i bobl leol, meddai Mike Williams

Mewn adroddiad cynllunio, dywedodd cwmni datblygu PLanD fod o leiaf 37 o deuluoedd, y rhan fwyaf ohonynt yn lleol i Ynys Môn, wedi holi am brynu'r tai ar gyfer cartrefi parhaol mewn "cymuned glos".

Ond dywedodd Mr Williams fod pobl sy'n byw ym Mryn-teg a'r ardal gyfagos yn gwybod nad oes modd eu gwerthu fel cartrefi preswyl, ac oherwydd hynny nad oedd rhagor o ymholiadau wedi dod i law.

Dywedodd ymgynghorydd cynllunio PLanD, Simon James, fod y newidiadau i dreth cyngor ail gartrefi yng Nghymru wedi "lladd y farchnad am dai gwyliau".

"Mae'r tai yma wedi'u hadeiladu, maen nhw yna, ac maen nhw'n cael eu gadael yn wag," meddai.

Mae'n credu y byddai newid defnydd yr eiddo yn "fanteisiol" ac yn helpu i ddiwallu anghenion tai yr ardal.

Cadarnhaodd PLanD y byddai'n apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor i wrthod y newid defnydd i eiddo preswyl.

Perygl o osod cynsail i weddill yr ynys

Ond pam felly nad yw'r cyngor wedi newid amod y tai yma?

Mae Cyngor Môn yn cydnabod sylwadau pobl leol, ond yn y gorffennol maen nhw wedi dweud y byddai caniatáu'r newid yn gosod cynsail allai gael effaith ar weddill yr ynys.

Pan gafodd cais i dynnu'r amod cynllunio ei wrthod fis diwethaf, dywedodd swyddogion y gallai hynny "arwain at ddatblygwyr yn gwneud cais am lety gwyliau yng nghefn gwlad agored ac yna'n gwneud cais i newid y defnydd i ddatblygiad preswyl ar y farchnad agored".

Ychwanegon nhw y byddai hynny'n "cael effaith andwyol ar yr ynys ac yn tanseilio polisïau'r Cynllun Datblygu Lleol".

Wrth ymateb i'r sylwadau diweddaraf, dywedodd llefarydd bod angen i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth nad oedd y cynllun llety gwyliau a gafodd ei gymeradwyo bellach yn hyfyw yn ariannol er mwyn cefnogi'r cais i ganiatáu gwerthu'r tai ar y farchnad agored.

Dywedodd y cyngor eu bod wedi gofyn am asesiad hyfywedd manwl a gwybodaeth ychwanegol "ar sawl achlysur", ond nad oedden nhw wedi eu derbyn.

Heb y wybodaeth honno, ni allai gefnogi'r cais, meddai.

Ychwanegodd llefarydd: "Byddai cymeradwyo'r cynnig heb y wybodaeth ategol angenrheidiol wedi mynd yn erbyn y fframwaith polisi cynllunio ac wedi gallu gosod cynsail ar gyfer ceisiadau tebyg mewn mannau eraill ar yr ynys."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.