Cymuned ralïo yn 'teimlo'n hollol wag' ar ôl marwolaeth swyddog

Lôn gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger CorwenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i wrthdrawiad ar lôn gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger Corwen, toc wedi hanner nos

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gymuned ralïo yn "teimlo'n hollol wag" yn dilyn marwolaeth swyddog 70 oed yn ystod digwyddiad yn Sir Ddinbych.

Cadarnhaodd Motorsport UK a Clwyd Vale Motor Club fod Ian Williams wedi marw, ar ôl yr hyn y maen nhw'n amau oedd yn "ddigwyddiad meddygol".

Yn wreiddiol cafodd y digwyddiad, The Bob Twin Cam Memorial 12 Car Navigational Rally ei sefydlu er cof am dad y dyn fu farw, Bob Williams ac mae ralïo wedi bod yn rhan fawr o'r teulu ers blynyddoedd maith.

Cafodd Heddlu'r Gogledd eu galw i wrthdrawiad ar lôn gefn rhwng y B5105 a Melin-y-Wig, ger Corwen, toc wedi hanner nos fore Sadwrn.

Wrth roi teyrnged dywedodd Clwyd Vale Motor Club fod y newyddion wedi'u "llorio".

"Roedd Ian yn un o'r dynion hyfrytaf y gallwch chi fyth gwrdd ag ef a bydd pawb oedd yn ei adnabod yn ei golli'n fawr."

Cafodd y digwyddiad ei stopio a'i ohirio ar ôl y gwrthdrawiad a dywedodd Motorsport UK eu bod nhw, ynghyd a'r tîm trefnu, yn cefnogi ymholiadau'r awdurdodau.

'Ralïo wrth wraidd y teulu'

Dywedodd y llu ar y penwythnos fod y gwrthdrawiad yn ymwneud â char rali Ford Escort melyn o 1992 ac y bu farw'r gyrrwr 70 oed yn y fan a'r lle.

Ddydd Sadwrn cyhoeddodd Motorsport UK ddatganiad yn dweud bod Ian Williams wedi marw yn dilyn yr "hyn sy'n cael ei amau o fod yn episod meddygol".

"Er gwaethaf ymateb ac ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys...bu farw Ian yn ystod y digwyddiad," meddai'r llefarydd.

"Mae ralïo wedi bod wrth wraidd y teulu Williams ers pedair cenhedlaeth," meddai'r llefarydd.

"Roedd mab ac ŵyr Ian hefyd yn swyddogion yn y digwyddiad neithiwr, gan adlewyrchu ymrwymiad oes y teulu i'r gamp a natur glos y gymuned ralïo."

Ychwanegodd y llefarydd fod eu meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r diweddar Mr Williams "yn yr amser eithriadol o anodd yma".

"Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod yr amser anodd yma ac ni fydd unrhyw wybodaeth bellach yn cael ei rhyddhau ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig