Tân mawr yn y gogledd yn gorfodi trigolion i adael eu cartrefi

Tân Bwlch Sychnant
Disgrifiad o’r llun,

Mae tân mawr ar Fwlch Sychnant ers yr oriau mân ddydd Sul yn effeithio ar rai o drigolion pentref Capel Ulo

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion mewn pentref yn Sir Conwy wedi gorfod gadael eu cartrefi yn dilyn tân mawr yn yr ardal.

Mae criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn delio gyda thân ar Fynydd Conwy a Bwlch Sychnant ers oriau mân fore Sul, ac wedi ei dynodi fel "digwyddiad difrifol".

Gyda'r tân yn achosi cymaint o fwg, fe gafodd trigolion rhannau o bentref Capel Ulo, ger Penmaenmawr - "yn enwedig o amgylch tafarn y Fairy Glen", yn ôl Cyngor Tref Penmaenmawr - gyngor i adael yr ardal.

Mae Hen Ffordd Conwy yn Nwygyfylchi ar gau ac mae trigolion wedi cael cyngor i gadw'u drysau a ffenestri ar gau "a gofyn am gyngor meddygol os yn cael trafferthion anadlu".

"Oherwydd maint a chymhlethdod y digwyddiad, mae disgwyl i'n gwaith barhau am gryn amser," dywedodd Jami Jennings o'r gwasanaeth tân.

"Mae ymladdwyr tân yn dal yn y lleoliad ac yn gweithio dan amodau heriol i reoli'r tân a gwarchod cymunedau, eiddo, seilwaith a'r amgylchedd o'i gwmpas."

Cadarnhaodd y gwasanaeth tân nos Sul bod swyddogion yn dal yn ymateb "i nifer o danau gwair ar draws gogledd Cymru, a byddwn yn parhau i'w monitro dros nos".

Mae yna danau hefyd ar Fynydd Helygain yn Sir Y Fflint, ac yng Nghoedwig Braichmelyn ym Methesda yng Ngwynedd.

Mwg a thân ym Mwlch SychnantFfynhonnell y llun, Rita Raweily
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl peiriant ac adnoddau tân gwyllt arbenigol wedi eu hanfon i Fwlch Sychnant a sawl gwasanaeth yn rhan o'r ymateb

Ychwanegodd bod y gwasanaeth tân a'r heddlu'n apelio ar y cyhoedd i osgoi'r ardal fel eu bod "yn gallu gweithio'n ddiogel ac yn effeithlon" ac i ddilyn cyfarwyddiadau.

Mae gofyn i yrwyr "ddigwyl oedi" a defnyddio ffyrdd eraill yn yr ardal.

Mae'r ddau wasanaeth, meddai, yn ymateb i'r sefyllfa gyda chymorth "y gwasanaeth ambiwlans, yr awdurdod lleol, tirfeddianwyr ac asiantaethau amgylcheddol".

"Byddwn yn parhau i asesu'r sefyllfa a rhoi adnoddau ble mae ein hangen fwyaf."

Maen nhw'n rhybuddio hefyd bod tanau gwair "yn gallu lledu'n gyflym, yn enwedig yn ysgod cyfnodau o dywydd poeth, sych a gwyntog" gan ofyn i bobl fod yn gyfrifol trwy osgoi defnyddio barbeciws tafladwy, diffodd sigaréts yn llwyr a ffonio 999 yn syth os oes unrhyw arwydd o dân.

Mae'r ardal ger arfordir y gogledd wedi gweld tymhereddau hyd at 28C ddydd Sul, ynghyd ag awel gryf yn hyrddio ar gyflymder hyd at 30mya - ffactor sydd wedi achosi i'r fflamau ledu.

'Dan ni'n saff - dyna'r peth pwysicaf'

Cafodd trigolion loches yn y lle cyntaf yng Nghlwb Golff Penmaenmawr cyn symud i dafarn y Gladstone.

Un o'r bobl sydd wedi gorfod gadael eu cartrefi yw Rita Raweily, a gafodd ei deffro tua 05:15 fore Sul gan sŵn ei chi'n "cyfarth yn wyllt".

"Ro'n i'n ogleuo arogl llosgi felly wnes i neidio o'r gwely achos yn amlwg roedd rhywbeth o'i le a taflu dillad ymlaen," meddai.

Rita Raweily
Disgrifiad o’r llun,

A hithau'r llywydd y Clwb Rotari lleol, aeth Rita Raweily ati i drefu nifer o wirfoddolwyr i helpu'r bobl sydd wedi gorfod cael lloches tra bo'r gwasanethau brys yn delio gyda'r tân

Aeth hi a ffrind sy'n byw drws nesaf â phaneidiau i griwiau'r gwasanaethau brys ar droed y mynydd.

Roedd yr ardal ben bore "yn wirioneddol fyglyd," dywedodd, ond "ddim mor ddrwg i ddechrau ond yna mi gododd y gwynt ac mae hynny yn amlwg wedi megino'r fflamau [ac] mae jest wedi mynd o ddrwg i waeth".

Dywedodd eu bod wedi cael eu symud o'u cartrefi "oherwydd y mwg yn bennaf yn hytrach na'r tân, ond mae'r ardal gyfan bellach yn evacuation zone a dydan ni ddim yn gw'bod pryd fyddan ni'n mynd adra.

"Ond mae hynny'n iawn achos 'dan ni'n saff - dyna'r peth pwysicaf."

Yr awyr yn oren ym mhentref Capel Ulo fore SulFfynhonnell y llun, Rita Raweily
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r olygfa ben bore Sul, gyda'r awyr yr oren a lludw yn yr aer, wedi ei ddisgrifio gan un person fel rhywbeth o ffilm 'llosgfynydd'

"'Dach chi'n gallu teimlo'r gwres wrth i chi ddreifio i fyny'r allt - es i ryw hanner ffordd i fyny ac mae'r gwres yn llethol, ac roedd hynny'n eitha' pell o le mae'r tân.

"Does gen i ddim syniad be sy'n digwydd yna [ond] dydw i ddim yn meddwl y byddan ni'n ôl [adra] heno.

"Dydw i ddim yn meddwl bydd fy nhŷ wedi ei ddifrodi mewn unrhyw ffordd - efallai bydd yna ddifrod mwg... dwi'n croesi popeth y byddan ni'n ôl yna ond mae'n destun pryder achos, yn llythrennol, ble mae mae'r tân yn dod i lawr y mynydd, dyna lle 'dan ni'n byw".

Ychwanegodd bod y gwasanaethau brys "wedi bod yn rhyfeddol", a'i bod ar ddeall bod "pawb, hyd y gwn, a'u hanifeiliaid a'u hanifeiliaid anwes yn saff", er bod un person oedrannus wedi mynd i'r ysbyty fel cam rhagofal.

Gan ategu'r apêl i bawb ddilyn cyfarwyddiadau'r gwasanaethau brys, ychwanegodd: "Cadwch eich hunan yn saff... wnai grio os mae fy nhŷ wedi llosgi ond mae'n bosib cael tŷ newydd - fedrwch chi ddim gwneud hynny efo pobol."

Yr awyr yn oren ym mhentref Capel UloFfynhonnell y llun, Rita Raweily
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor tref yn apelio ar bobl i osgoi'r ardal er mwyn cadw'r ffyrdd yn glir ar gyfer y gwasanaethau brys

O'r safle: 'Gallwch deimlo'r mwg yn eich gwddf'

GanBrendon Williams
Gohebydd BBC Cymru

Nid yn unig y gallwch chi weld blanced enfawr o fwg o filltiroedd i ffwrdd - yma ym Mhenmaenmawr, gallwch ei demlo yn eich gwddf. Mae'r aer yn drwch ohono.

Dywedodd un swyddog heddlu wrtha i bod yr olygfa y bore 'ma 'fel ffilm llosgfynydd", a bod lludw'n "syrthio ymhobman".

Mae trigolion sydd wedi gadael eu cartrefi wedi cael lluniaeth yn nhafarn y Gladstone. Mae pawb yn llonydd, ond yn poeni.

Hyd yn oed os nad yw'r fflamau'n cyrraedd eu cartrefi, mae'r mwg wedi, ac mae un cwpl eisoes yn gwybod eu bod wedi cael difrod mwg.

Mae nifer o bobl wedi dweud nad ydyn nhw'n disgwyl cael mynd adref heno.

Does dim golwg o ddiwedd ar yr awel gryf sydd wedi chwythu drwy'r dydd - nac, am y tro, ar y tân ychwaith.

Ffordd ar gau ger safle'r tân
Disgrifiad o’r llun,

Ffordd ar gau ger safle'r tân - mae'r gwasanaethau brys wedi rhybuddio y gallai gymryd "cryn amser" nes bod y sefyllfa dan reolaeth

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.