Brodyr yn euog o achosi marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ym Mhowys

Cafodd Rhys Jenkins ei ladd yn y gwrthdrawiad fis Tachwedd 2024, a chafodd ei fab naw oed ei anafu'n ddifrifol
- Cyhoeddwyd
Mae dau frawd wedi eu cael yn euog o achosi marwolaeth tad i ddau o blant mewn gwrthdrawiad ym Mhowys.
Cafwyd Abubakr Ben Yusaf, oedd yn gyrru ar gyflymder gormodol gan oddiweddyd sawl cerbyd yn anystyriol ger y Trallwng, yn euog o achosi marwolaeth y dyn, ac anafu bachgen naw oed yn ddifrifol drwy yrru'n beryglus.
Roedd ei frawd Umar Ben Yusaf yn wynebu yr un cyhuddiadau yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau.
Cafwyd o'n ddieuog o yrru'n beryglus, ond yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal, ac achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal.
Bu farw Rhys Jenkins o Ddeuddwr, Powys, yn y gwrthdrawiad ar 16 Tachwedd 2024.
Cafodd ei fab Ioan ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd, pan darodd BMW X3 a oedd yn cael ei yrru gan Abubakr Ben Yusaf, eu car Toyota Yaris.

Cafwyd Abubakr Ben Yusaf yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, a'i frawd Umar Ben Yusaf yn euog o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal
Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Abubakr ac Umar Ben Yusaf, y ddau yn optometryddion locwm, yn gyrru'n ôl o Aberystwyth i gartref y teulu ym Manceinion, pan geisiodd y ddau fynd o flaen ei gilydd, gan yrru ar gyflymder gormodol a mynd heibio nifer o bobl eraill oedd yn gyrru ar y ffordd.
Clywodd yr achos gan nifer o lygad dystion a welodd y ddau yn gyrru'r noson honno, gan ddisgrifio'r sefyllfa fel un frawychus a pheryglus.
Roedd camerâu ANPR, sy'n adnabod platiau rhif cerbydau, wedi cofnodi'r dynion mewn rhai mannau ar hyd yr A483, gan ddangos bod Umar Ben Yusaf yn ei Audi wedi cau'r bwlch rhyngddo fo a'i frawd o fwy na 2 funud i 6 eiliad.
Roedd y ddau ddyn wedi gwadu eu bod yn gwybod bod y naill a'r llall yno, gan ddweud nad oedden nhw wedi gweld ei gilydd ar y daith tan ychydig cyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd.
Dywedodd Umar Ben Yusaf iddo sylweddoli mai car ei frawd oedd o'i flaen pan ddechreuodd cerbyd ei frawd golli rheolaeth a llithro ar draws y ffordd.
Dywedodd y brodyr fod malurion a mwd ar y ffordd wedi achosi i'r BMW droi i'r cyfeiriad arall, ac nad oedd y naill na'r llall wedi defnyddio cyflymder gormodol nac wedi annog ei gilydd i yrru'n gyflymach.
Ond ar ôl ystyried y dystiolaeth am oddeutu pum awr, penderfynodd y rheithgor fod Abubakr Ben Yusaf wedi achosi'r gwrthdrawiad gyda'i yrru peryglus, ac Umar Ben Yusaf gyda'i yrru diofal.
Cafwyd Abubakr Ben Yusaf yn euog hefyd o achosi marwolaeth wrth yrru heb yswiriant.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng ym mis Tachwedd 2024
Ar ôl y gwrthdrawiad lle bu farw Rhys Jenkins, stopiodd Umar Ben Yusaf ei Audi ac aeth at y Toyota, gan godi Ioan Jenkins o'r cerbyd a'i roi i orwedd ar y glaswellt.
Fe yrrodd yn yr un cerbyd a'i frawd o'r lleoliad, heb ffonio'r gwasanaethau brys, gan droi i mewn i faes parcio Tesco ger y Trallwng.
Tra roedd yn defnyddio'r toiled yn yr archfarchnad, lawrlwythodd Abubakr Ben Yusaf ap yswiriant car ar ei ffôn gyda'r bwriad o ôl-ddyddio'r yswiriant ar gyfer y BMW yr oedd yn gwybod nad oedd wedi'i yswirio i'w yrru.
Fe stopiodd swyddog cymorth yr Heddlu y ddau frawd wrth iddyn nhw geisio dychwelyd i safle'r gwrthdrawiad, ac fe gafodd y ddau eu harestio'n ddiweddarach.
Dywedodd y barnwr Timothy Petts fod y ddau frawd bellach yn anghymwys i yrru.
Fe gofleidiodd y ddau frawd ei gilydd yn y llys, cyn i Abubakr Ben Yusaf gael ei gadw yn y ddalfa, ac Umar Ben Yusaf gael ei ryddhau ar fechnïaeth.
Mae disgwyl i'r ddau gael eu dedfrydu ar 27 o Orffennaf.
'Ceisio ail-adeiladu ein bywydau'
Mewn datganiad ar ôl y dyfarniadau, fe ddiolchodd gweddw Mr Jenkins, Carrie Jenkins i bawb oedd ynghlwm â'r achos llys, yn cynnwys y rheithgor, Gwasanaeth Erlyn y Goron, yr heddlu, a'r nifer o dystion a gymrodd ran.
"Mae colli Rhys mewn amgylchiadau mor annisgwyl a diangen wedi bod yn ddinistriol, ond rydym fel teulu wedi canolbwyntio ar geisio ail-adeiladu ein bywydau, ac i wneud y mwyaf o bob dydd, fel y byddai Rhys wedi bod eisiau i ni ei wneud, gyda chefnogaeth ein ffrindiau a'r gymuned.
"Rwy'n gobeithio y bydd y cyhoeddusrwydd ynghlwm â'r achos yn Llys y Goron yn tanlinellu i eraill y peryglon o yrru ar gyflymder, gan atgoffa bod gennym ni i gyd gyfrifoldeb wrth fynd y tu ôl i olwyn cerbyd."
Dywedodd ei chyfreithiwr, Joanne Brine o gwmni JMW, fod Mrs Jenkins "wedi delio â sefyllfa sydd wedi newid ei bywyd gyda dewrder ac urddas, wrth iddi hi, ei phlant a'r teulu ehangach ddod i delerau gyda cholled erchyll gŵr a thad oedd yn cael ei garu'n fawr."
"Fydd dim byd yn gwella'r boen aruthrol o'i golli, ond maen nhw'n parhau tuag at y dyfodol yn y ffordd orau posib, gyda chefnogaeth amhrisiadwy'r gymuned ehangach.
"Fe fyddwn ni'n parhau i gefnogi'r teulu wrth iddyn nhw barhau ag achos sifil am iawndal am y gweithredoedd a achosodd farwolaeth Rhys."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 Mehefin
