Pobl o bedwar ban byd yn cadw crefftau'r gorffennol yn fyw yn Ystrad Fflur

Mae Ystrad Fflur yn un o safleoedd treftadaeth mwyaf arwyddocaol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae myfyrwyr o Gymru, Awstralia a'r Bahamas ymhlith grŵp sy'n treulio 10 wythnos yn Ystrad Fflur, Ceredigion yn dysgu a mireinio sgiliau adeiladu a chrefftau traddodiadol.
Mae'r grŵp yn treulio'r cyfnod ar safle'r hen abaty fel rhan o raglen y King's Foundation, gan ddefnyddio hanes a threftadaeth gyfoethog yr ardal fel ysbrydoliaeth i'w gwaith.
Yn ôl y myfyrwyr, mae'n "fraint" cael dysgu ar "un o safleoedd mwyaf arwyddocaol Cymru".
'Llên gwerin Cymru yn ysbrydoliaeth'
Mae Olivia Stokes, un o'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan, yn defnyddio hanes Ystrad Fflur fel ysbrydoliaeth wrth adeiladu wagen – cerbyd traddodiadol hanesyddol.
"Dwi wedi bod yn archwilio llawysgrifau Cymraeg canoloesol, llên gwerin lleol a darganfyddiadau archaeolegol, ac rydw i bellach yn dod â'r dylanwadau hynny at ei gilydd mewn nenfwd wedi'i baentio gan ddefnyddio techneg wyau tympera draddodiadol," meddai.

Mae Abaty Ystrad Fflur yn cynnig cefndir hanesyddol unigryw i'r rhaglen hyfforddi
Dywedodd Olivia mai'r awydd i ddatblygu ei sgiliau y tu hwnt i waith paentio ac addurno confensiynol oedd un o'r rhesymau dros ymuno â'r rhaglen.
Roedd hi'n awyddus i ddysgu mwy am grefftau treftadaeth a thechnegau addurniadol traddodiadol, ac mae'r cyfnod yn Ystrad Fflur wedi rhoi cyfle iddi gyfuno'r diddordeb hwnnw â hanes y safle.
"Mae wedi bod yn gyfle anhygoel. Yr hyn dwi wedi'i fwynhau fwyaf yw gallu ymgolli yn hanes yr abaty a'r dirwedd o'i gwmpas, a defnyddio'r ymchwil honno i ysbrydoli'r gwaith addurniadol ar y wagen."

Mae'r prosiect yn helpu i sicrhau bod hanes a sgiliau traddodiadol yr ardal yn parhau i gael eu trosglwyddo
Mae hi'n dweud ei bod yn anarferol cael cymaint o amser i ymchwilio i hanes lle cyn creu rhywbeth ar ei gyfer.
"Dwi wrth fy modd gyda'r syniad y bydd y wagen orffenedig yn adrodd straeon bach am Ystrad Fflur na fyddai pobl efallai'n eu darganfod fel arall."
Mae gweithio gyda chrefftwyr o wahanol gefndiroedd hefyd wedi bod yn rhan bwysig o'r profiad, meddai Olivia.
"Mae wedi bod yn wych gweithio ochr yn ochr â grŵp mor dalentog o grefftwyr o wahanol feysydd. Rydyn ni i gyd yn dysgu oddi wrth ein gilydd, ac mae rhywbeth arbennig iawn am greu rhywbeth gyda'n gilydd fydd â lle parhaol yn Ystrad Fflur."

Mae'r myfyrwyr yn dysgu ac yn ymarfer technegau adeiladu a chrefftau traddodiadol
Mae'r gwaith yn rhan o ymdrechion i gadw sgiliau adeiladu a chrefftau traddodiadol yn fyw, gan roi cyfle i genhedlaeth newydd ddysgu technegau a fu'n rhan o adeiladu a chynnal adeiladau hanesyddol Cymru.
Dywedodd John Darlington, un o gyfarwyddwyr y prosiect, ei fod yn gyfle i fyfyrwyr gyfrannu at adeilad hanesyddol go iawn wrth ddatblygu eu sgiliau.
"Yr hyn sy'n gwneud y prosiect hwn yn wahanol yw bod y cadwraeth ei hun yn rhan o'r dysgu.
"Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd myfyrwyr yn gweithio ochr yn ochr â chrefftwyr medrus ar adeilad hanesyddol go iawn, gan ddilyn ôl troed cenedlaethau sydd wedi adeiladu a chreu pethau yn Ystrad Fflur."

Mae deunyddiau lleol yn cael eu defnyddio fel rhan o'r gwaith
Yn ôl Huw Thomas, un o’r tiwtoriaid, mae gweithio ar brosiect o'r fath yn cynnig profiad nad oes modd ei efelychu mewn ystafell ddosbarth.
"Mae'r bartneriaeth hon gydag Ystrad Fflur yn rhoi cyfle unigryw i ddysgwyr ddatblygu eu sgiliau ar brosiect adfer treftadaeth o bwys cenedlaethol," meddai.
"Bydd gweithio ochr yn ochr â chrefftwyr profiadol yn rhoi profiad ymarferol amhrisiadwy iddynt, wrth helpu i ddiogelu un o safleoedd hanesyddol mwyaf arwyddocaol Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.