Heddlu'n chwilio am ddau berson ar ôl i fechgyn gael eu trywanu yng Nghaerdydd

Parc Lydstep, CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dau fachgen, 16 ac 17 oed, eu cludo i'r ysbyty ar ôl cael eu trywanu ym Mharc Lydstep, Caerdydd, nos Sul

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu'n chwilio am ddau berson ar ôl i ddau fachgen yn eu harddegau gael eu trywanu yng Nghaerdydd.

Cafodd dau fachgen lleol, 16 ac 17 oed, eu cludo i Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael eu trywanu ym Mharc Lydstep, Gabalfa, ychydig cyn 19:00 nos Sul.

Dywedodd Heddlu'r De nad yw'r anafiadau'n rhai sy'n peryglu bywyd a bod un o'r bechgyn bellach wedi gadael yr ysbyty.

Mae'r llu yn chwilio am ddau berson y maen nhw'n credu oedd yn teithio ar feic Surron yn y parc o gwmpas amser yr ymosodiad.

Ychwanegon nhw eu bod wedi dod o hyd i gyllell.

Presenoldeb yr heddlu am gynyddu

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phil Marchant, o Heddlu'r De: "Mae'n destun pryder mawr pan gaiff unrhyw un ei drywanu, ond mae oedran y ddau ddioddefwr yn debygol o bryderu rhieni a phobl ifanc eraill yn yr ardal.

"Rydym yn cynnal ymholiadau helaeth i adnabod y rhai sy'n gyfrifol cyn gynted â phosibl, a bydd lluniau teledu cylch cyfyng yn allweddol i'r ymchwiliad.

"Rydym yn annog tystion neu unrhyw un sydd â system deledu cylch cyfyng i gysylltu â Heddlu De Cymru neu Crimestoppers."

Ychwanegodd bod y llu yn ymwybodol o bryderon yn yr ardal am ddefnydd anghyfreithlon a gwrthgymdeithasol o feiciau trydan a beiciau modur a dylai trigolion weld cynnydd ym mhresenoldeb yr heddlu dros y dyddiau nesaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.