Codi pryderon am 'wthio llwyfan digidol S4C Clic i'r ymylon'

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon am ddyfodol gwasanaeth digidol S4C Clic
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi codi pryderon am ddyfodol gwasanaeth digidol S4C Clic.
Yn ôl y grwp ymgyrchu, mae cyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth ganddyn nhw i S4C a'r BBC yn "awgrymu gwthio llwyfan digidol annibynnol y darlledwr Cymraeg i'r ymylon".
Gwrthod hynny mae S4C, gan ddweud bod "S4C Clic yn parhau i fod yn flaenoriaeth" ac mai "pwrpas ein strategaeth ddigidol yn gyntaf yw denu mwy o wylwyr at gynnwys Cymraeg S4C".
Daw'r pryderon wedi cytundeb partneriaeth rhwng S4C a'r BBC yn gynharach eleni, sydd yn rhoi lle mwy blaenllaw i gynnwys S4C ar wasanaeth digidol iPlayer.
Yn ôl Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans, mae nifer gwylwyr misol S4C drwy iPlayer wedi cynyddu 25% ers y cytundeb, o 200,000 i 250,000.
25,700 o ddefnyddwyr misol oedd gan wasanaeth S4C Clic y llynedd yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf S4C.
Adroddiad S4C: Mwy yn gwylio'n ddigidol wrth i lai wylio ar deledu
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf
Dyfodol darlledu Cymraeg 'mewn perygl' ac 'mae'n rhaid newid ffi'r drwydded'
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
S4C i roi mwy o bwyslais ar gynnwys 'digidol yn gyntaf'
- Cyhoeddwyd11 Medi 2025
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Carl Morris, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith: "Mae'n bwysig yn y dyfodol bod S4C yn deall potensial Clic i ddatblygu algorithm o blaid y Gymraeg - un o'r ychydig rai sydd yn - a fel ffordd o ddeall patrymau gwylio.
"Os ydyn ni'n rhoi app gwahanol o flaen ein plant a'n teuluoedd, mae 'na duedd at ieithoedd eraill - Saesneg yn benodol.

Pryder yr ymgyrchwyr, medd Carl Morris, yw bod y gwasanaeth iPlayer y BBC yn cael ei ddyrchafu uwchben Clic fel prif hyrwyddwr gwasanaeth-ar-alw S4C
"Rydyn ni'n pryderu yn fawr am yr hyn rydyn ni wedi ei weld yn y ceisiadau rhyddid gwybodaeth o ran y sgwrs am ddyrchafu iPlayer uwchben Clic fel prif gwasanaeth-ar-alw mae S4C yn hyrwyddo."
Cyfeirio mae'r ymgyrchwyr at gymalau mewn dogfennau, gan gynnwys un sydd yn nodi: "Fan lleiaf, cyn gwneud iPlayer yn brif BVoD [darlledwr fideo ar alw], byddai'n rhaid cael y nodweddion ychwanegol yma mae S4C Clic yn ei ddarparu ar hyn o bryd."

Yn ôl yr Athro Jamie Medhurst, arbenigwr ar astudiaethau ffilm, theatr a theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae yna wasgfa fawr ar ddarlledwyr cyhoeddus ym Mhrydain ac ar draws y byd, sydd nawr yn cystadlu â chwmnïau mawr fel Netflix, Amazon a Disney.
"Mae'n rhaid derbyn o ran gwylwyr sy'n gwylio BVoD, broadcast video on demand, mai at iPlayer mae pobl yn mynd a ddim gymaint at Clic," dywedodd.
"Felly mae 'na benfderfyniad ar sail y dystiolaeth mae'n siŵr sydd gan S4C, eu bod nhw'n rhan o'r iPlayer - yn rhan weladwy o rywbeth mawr - er mwyn cystadlu â'r cwmnïau mawr yma."
Rhoi'r Gymraeg 'ar y platfformau mwyaf poblogaidd'
Mewn datganiad, dywedodd Geraint Evans: "Os yw'r Gymraeg i ffynnu, mae'n rhaid iddi gael ei gweld a'i chlywed ar y platfformau mwyaf poblogaidd lle mae cynulleidfaoedd yn byw a bod. A phwrpas ein strategaeth ddigidol yn gyntaf yw denu mwy o wylwyr at gynnwys Cymraeg S4C.
"Nod y bartneriaeth gyda BBC iPlayer yw gwneud y Gymraeg yn fwy amlwg ar un o'r platfformau gwylio mwyaf poblogaidd yn y DU."
"Does dim amheuaeth fod S4C Clic yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni fel darlledwr gan lansio yn yr wythnosau diwethaf ar Google TV ac Android TV.
"Daw hynny yn sgil y buddsoddiad sylweddol sy'n cael ei wneud o hyd i gynnal a datblygu S4C Clic ac i sicrhau ei fod ar gael ar ragor o blatfformau teledu."

Dywed Geraint Evans mai nod y bartneriaeth gyda BBC iPlayer "yw gwneud y Gymraeg yn fwy amlwg"
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC bod y gorfforaeth yn "falch iawn o'i phartneriaeth gydag S4C er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt yn gallu cael mynediad at gynnwys Cymraeg".
"Mae trafodaethau rheolaidd rhwng y BBC a S4C yn rhan gwbl arferol o ddatblygu'r bartneriaeth honno gyda'r nod o'i gwneud yn haws i gynulleidfaoedd ddarganfod a defnyddio cynnwys iaith Gymraeg.
"Nid ydym yn derbyn yr awgrym bod y gwaith hwn yn tanseilio annibyniaeth ddigidol S4C. Mae unrhyw benderfyniadau ynghylch Clic yn fater i S4C."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd24 Ebrill
