Dyn 18 oed wedi marw ar ôl mynd i drafferthion yn Afon Gwy - cwest

Bu farw Umar Dumbuya yn dilyn digwyddiad ar Afon Gwy ar 30 Mehefin
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed i ddyn 18 oed farw ar ôl mynd i drafferthion yn Afon Gwy yn ystod taith Gwobr Dug Caeredin.
Roedd Umar Dumbuya o Lundain yn cymryd rhan mewn taith gerdded ger Y Clas-ar-Wy ym Mhowys ar 30 Mehefin.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi adroddiadau bod "dyn wedi mynd i'r afon ac nad oedd modd dod o hyd iddo".
Dywedodd y crwner fod yr amgylchiadau'n awgrymu bod ei farwolaeth yn annaturiol.

Cafodd blodau eu gadael ar lannau Afon Gwy wedi marwolaeth Umar Dumbuya
Clywodd agoriad y cwest ym Mhontypridd fod Mr Dumbuya wedi mynd i Afon Gwy yn ystod y daith ac wedi mynd i drafferthion.
Dywedwyd wrth y gwrandawiad iddo "gael ei suddo gan y cerrynt ac na ddaeth i'r wyneb eto".
Fe gafodd ei adnabod yn ddiweddarach gan un o'i athrawon.
Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant ar 9 Gorffennaf, ond ni roddwyd achos marwolaeth dros dro tra bod ymchwiliadau pellach yn parhau.
Dywedodd crwner Canol De Cymru, Kerrie Burge: "Rwy'n fodlon bod angen agor cwest i farwolaeth Mr Dumbuya oherwydd bod yr amgylchiadau'n awgrymu bod ei farwolaeth yn annaturiol."
Estynnodd ei chydymdeimlad â'i deulu ac fe gafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad sydd eto i'w bennu.

Cafodd yr heddlu eu galw i Afon Gwy yn ardal Y Clas-ar-Wy ar 30 Mehefin
Dywedodd teulu Umar Dumbuya eu bod yn "dorcalonnus" o golli eu mab, eu brawd a'u hŵyr, gan ychwanegu y bydden nhw'n cofio ei "garedigrwydd, ei gynhesrwydd a'i hiwmor".
Ychwanegon nhw ei fod yn "fachgen cariadus a fydd yn cael ei golli'n arw gan bawb oedd yn ei adnabod".
Dywedodd Coleg Chweched Dosbarth Leyton, lle'r oedd yn fyfyriwr, fod cymuned y coleg "yn drist iawn" am ei farwolaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwobr Dug Caeredin fod y sefydliad yn "cydweithio'n agos" â'r coleg a'r awdurdodau perthnasol "i ddeall sut y digwyddodd y digwyddiad trasig hwn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
