Merch o Sir Gâr a oroesodd wrthdrawiad yn codi £65,000 i elusen

GracieFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Pan gafodd Gracie ei rhyddhau o'r ysbyty, roedd mewn cadair olwyn, yn defnyddio tiwb bwydo ac wedi gorfod dysgu cerdded eto

  • Cyhoeddwyd

Mae merch saith oed o Gaerfyrddin wnaeth oroesi gwrthdrawiad difrifol wedi helpu i godi £65,000 i Ambiwlans Awyr Cymru.

Cafodd Gracie Kinnear, oedd yn bedair oed ar y pryd, anafiadau oedd yn peryglu ei bywyd ar ôl cael ei tharo gan fan ym mis Chwefror 2023 ac fe dreuliodd rhai diwrnodau mewn coma.

Ar ôl treulio mis yn yr ysbyty cafodd Gracie fynd adref, ond bu'n rhaid iddi ddysgu cerdded unwaith eto.

Mae Gracie bellach wedi derbyn tystysgrif teilyngdod yng Ngwobrau Plentyn Cymru 2026 am ei hymdrechion i godi arian i'r elusen a fu'n gofalu amdani.

Gracie a'i mam EmmaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd mam Gracie, Emma fod yna gyfnod pan "nad oedd hi'n siŵr a fyddai ei merch fach yn goroesi"

Roedd Gracie yn chwarae y tu allan i dŷ ffrind pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Dywedodd ei mam, Emma Kinnear, ei bod wedi gweld y fan yn symud lawr y lôn a'i bod wedi chwifio ar y gyrrwr i geisio cael ei sylw.

Esboniodd fod y fan wedi stopio am eiliad cyn ail-ddechrau, ond erbyn hynny doedd dim amser i symud Gracie allan o'r ffordd.

"Cafodd Gracie a'i beic eu llusgo o dan y fan," meddai, gan ychwanegu ei bod wedi neidio o flaen y cerbyd a'i daro yn galed i geisio cael sylw'r gyrrwr.

Cafodd Gracie ei chludo i Ysbyty Glangwili cyn cael ei throsglwyddo i Ganolfan Niwrolawfeddygaeth a Thrawma Pediatrig Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

GracieFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu Gracie mewn coma am bum niwrnod wedi'r digwyddiad

Roedd Gracie wedi dioddef sawl anaf yn y gwrthdrawiad gan gynnwys niwed i'w hysgyfaint, ei iau, ei haren a'i phen tra bod ei phelfis a sawl aren wedi torri hefyd.

Dywedodd Emma mai "hunllef gwaethaf pob rhiant" oedd gweld ei merch yn "brwydro am ei bywyd".

Cafodd lawdriniaeth i ailgysylltu ei chlust a rhan o groen ei phen, ac yna treuliodd ddwy flynedd yn cael triniaeth adsefydlu er mwyn dysgu cerdded yn annibynnol eto.

Ym mis Medi 2025, cafwyd gyrrwr y fan yn euog Yn Llys y Goron Abertawe o achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal, a cafodd ei ddedfrydu i 10 mis yn y carchar.

GracieFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Gracie dystysgrif teilyngdod yng Ngwobrau Plant Cymru yr wythnos diwethaf

Cafodd Gracie ofal gan barafeddygon Ambiwlans Awyr Cymru cyn ac yn ystod ei thaith i'r ysbyty yng Nghaerdydd.

Dywedodd Emma: "Oni bai amdanyn nhw, mae'n debyg na fyddai fy merch yma heddiw."

Roedd y parafeddygon wedi rhoi trallwysiadau gwaed i Gracie a'i rhoi ar beiriant anadlu i helpu diogelu ei hymennydd.

Yn ôl Emma, doedd hi ddim wedi deall faint o ofal yr oedd ei merch wedi ei dderbyn gan yr Ambiwlans Awyr, a phwysigrwydd y gofal hwnnw hefyd.

"Maen nhw wedi rhoi dyfodol i Gracie - rhywbeth y byddaf yn ddiolchgar amdano am byth," ychwanegodd.

Mae Gracie bellach yn gallu cerdded a bwyta'n annibynnol ac wedi dychwelyd i'r ysgol.

Gracie yn ymweld ag Ambiwlans Awyr CymruFfynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Gracie driniaeth gan barafeddygon Ambiwlans Awyr Cymru cyn ac yn ystod ei thaith i'r ysbyty yng Nghaerdydd

Daeth y teulu i wybod mwy am yr elusen ar ôl i un o'r parafeddygon, Connor Morgans, ymweld â Gracie yn yr ysbyty ar ôl y gwrthdrawiad, oedd yn rhywbeth "nad oedd rhaid iddo wneud", yn ôl Emma.

Ar ôl gwella fe wnaeth Gracie ymweld â safle'r Ambiwlans Awyr i gwrdd â'r tîm hefyd.

Daeth Gracie yn wyneb ymgyrch Nadolig Ambiwlans Awyr Cymru ym mis Rhagfyr y llynedd, gan helpu i godi mwy na £65,000 - digon i ariannu 18 o deithiau awyr a ffordd gyda'i gilydd.

Wedi'i henwebu gan Ambiwlans Awyr Cymru, derbyniodd Gracie dystysgrif teilyngdod gan Wobrau Plentyn Cymru 2026 yr wythnos diwethaf, i gydnabod ei hymdrechion.

Gracie a'i brawd Chester mewn hofrennyddFfynhonnell y llun, Ambiwlans Awyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gracie a'i brawd, Chester, wedi ymweld â thîm yr Ambiwlans Awyr sawl gwaith ers iddi wella

Dywedodd Emma ei bod yn "foment mor arbennig" pan gafodd Gracie ei thystysgrif, gan ychwanegu fod Gracie yn "falch iawn".

"Pe baech chi wedi dweud wrtha i dair blynedd yn ôl mai dyma fyddai'r dyfodol, fyddwn i byth wedi'ch credu chi," meddai.

Enillodd Gracie wobr Plentyn Dewrder hefyd yng Ngwobrau Radio'r Cenhedloedd hefyd yn gynharach eleni.

Dywedodd Emma bod y "profiad negyddol yma yn sicr wedi bod o fudd i gymaint o bobl, a dyna'r ffordd mae'n rhaid i chi edrych arno."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.