Cyhuddo pedwerydd person wedi marwolaeth Gorseinon

Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau am wrthdrawiad yn ymwneud â char a beic oddi ar y ffordd ar Ffordd Pen Cae Crwn

  • Cyhoeddwyd

Mae pedwerydd person wedi cael ei gyhuddo ar ôl i ddyn farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngorseinon, Abertawe.

Bu farw Ceiran Evans, 18 oed, yn dilyn digwyddiad ar Ffordd Pen Cae Crwn ar 9 Gorffennaf, pan gafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau am wrthdrawiad yn ymwneud â char a beic oddi ar y ffordd.

Trisha Thomas, 36 ac o Orseinon, yw'r diweddaraf i gael ei chyhuddo mewn cysylltiad â'r digwyddiad a hynny am gynorthwyo troseddwr.

Cafodd Tyler Ford, 18 oed ac o Dreforys, ei gyhuddo o lofruddio Ceiran Evans yn ogystal â cheisio llofruddio un arall mis diwethaf.

Ceiran EvansFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Ceiran Evans ar 9 Gorffennaf

Mae Elliot Truelove, 33 oed ac o West Cross, Abertawe a Liam Thomas, 18 oed ac o Dreforys hefyd wedi'u cyhuddo o lofruddio a cheisio llofruddio un arall.

Bydd Mr Ford, Mr Thomas a Mr Truelove yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 29 Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.