Dau fachgen wedi marw o anafiadau 'trawma' yn dilyn gwrthdrawiad - cwest

Cerbydau a swyddogion heddlu yn safle'r gwrthdrawiad yn ardal Ringland, Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Cerbydau a swyddogion heddlu ar safle'r gwrthdrawiad yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd

Bu farw dau fachgen yn eu harddegau ar ôl dioddef anafiadau "trawma" yn dilyn gwrthdrawiad rhwng beic modur a cherbyd arall, clywodd cwest.

Roedd Jaydon Jack Eric Bowyer yn 19 oed ac o ardal Alway, Casnewydd, ac roedd Ta-Shay Carlton Canoville yn 16 oed ac yn dod o ardal Llanwern.

Fe glywodd Llys Crwner Gwent fod eu marwolaethau'n rhan ganolog mewn ymchwiliad i lofruddiaeth yng Nghasnewydd.

Clywodd y llys fod y ddau ar gefn beic modur pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad â cherbyd arall ar 7 Mai 2026. Clywon nhw hefyd i'r cerbyd arall yrru i ffwrdd ar ôl y digwyddiad.

Cafodd parafeddygon a'r heddlu eu galw i Ffordd Aberthaw yn Alway ond cafodd y ddau eu datgan yn farw yn y fan a'r lle am tua 01:40.

Cafodd cyrff y ddau eu hadnabod gan eu tadau.

Dywedodd y Crwner Rose Farmer fod archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal y diwrnod canlynol gydag achos y farwolaeth, i ddechrau, yn cael ei roi fel anafiadau "trawma".

Mae dau ddyn, Terell Case - 18 oed a Joshua Williams - 34 oed sydd heb gartref sefydlog, wedi cael eu cyhuddo o ddau achos o lofruddio a bydden nhw yn y llys eto fis nesaf.

Mae'r cwest wedi cael ei ohirio oherwydd ymchwiliad yr heddlu - sy'n parhau ac mae disgwyl i gwest llawn gael ei gynnal ar 25 Chwefror 2027.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol