Galw am weithredu wrth i fwy o bobl ifanc wynebu digartrefedd

Elliw yn eistedd wrth fwrdd mewn caffi prysur yn gwenu at y cameraFfynhonnell y llun, Elliw Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elliw Jones bod cael cymorth i'w hatal rhag digartrefedd wedi newid ei bywyd

GanGareth BryeraMatthew BassettBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Doedd Elliw Jones byth wedi meddwl y byddai mewn perygl o fod yn ddigartref, ond ar ôl gorffen cwrs celf yng Ngholeg Dolgellau, "nes i jyst mynd mewn slop rili".

Yn 18 oed, doedd hi methu wynebu gadael ei 'stafell wely, a'i pherthynas gyda'i theulu yn dirywio.

Ond yna, daeth cynnig o gefnogaeth a llety annibynnol sydd wedi bod yn newid byd iddi.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod nifer y bobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd ar draws Cymru wedi cynyddu 8% rhwng 2024 a 2025, ac mae elusennau yn galw ar y llywodraeth newydd i ymyrryd ar frys.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd gweinidogion yn penderfynu ar eu blaenoriaethau yn fuan.

Elliw a'i ffrind yn tynnu selfie. Mae ganddi wallt coch llachar. Mae goedwig yn y cefndir. Ffynhonnell y llun, Elliw Jones
Disgrifiad o’r llun,

Elliw gydag aelod o staff GISDA, sydd wedi newid ei bywyd

Cafodd Elliw ei magu yn Nhrawsfynydd, ond ar ôl gorffen yn yr ysgol, "o'n i'n edrych ar uni ac o'n i'm yn gw'bod be' o'n i isio wneud - o'n i'm yn gw'bod pa path o'n i isiogymryd".

"Roedd fy iechyd meddwl i jyst 'di mynd yn isel, o'n i jyst yn fwy a mwy anxious bob dydd.

"Do'n i'm yn mynd allan o'r llofft, faswn i'm yn bwyta llawer, ac o'n i jyst yn bedrottio, basically."

Roedd ei pherthynas gyda'i theulu yn dirywio, yn "teimlo lot o stress, cerdded ar plisgyn ŵy - roedd pob dim yn wrong".

Yn y diwedd, ei mam awgrymodd y dylai Elliw chwilio am gymorth. Cafodd hi weithiwr cymdeithasol, wnaeth ei chyflwyno i weithdai GISDA.

Penderfynodd yr elusen, sy'n gweithio gyda phobl ifanc yn y gogledd-orllewin, bod ganddi risg o ddigartrefedd, gydag Elliw yn teimlo y byddai'n rhaid iddi adael ei chartref, er mwyn pawb.

Cafodd hi gynnig fflat mewn adeilad llety â chymorth.

Elliw yn sefyll gyda dau unigolyn arall o flaen ffotograffiau mewn oriel. Mae'r tri yn gwenu. Ffynhonnell y llun, Elliw Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae celf Elliw (chwith) yn hollbwysig iddi

Fel tenant mewn fflat, mae staff GISDA ar gael am gymorth, ond mae'n rhaid i Elliw drefnu ei bywyd, yn enwedig ei chyllid.

"Roedd o'n rili scary - dim yn gwybod sut i dalu biliau," meddai.

"Yn y tri mis dwytha' dwi wedi dysgu lot am fyw yn annibynnol drwy'r staff.

"Pryd bynnag dwi efo problem, dwi o hyd yn gallu ffonio nhw, a wedyn mae'n gweithio, a dwi'n cofio hynny.

"A dwi'n teimlo fel ti'n gorfod gwneud mistakes in order i ddysgu.

"Dwi just yn rili ddiolchgar dwi 'di cael y cyfle i fyw yn annibynnol efo gymaint o gymorth."

'Wedi dod yn agosach i Mam a Dad'

Mae hi'n cyfaddef "heb y push bach 'na gan Mam, faswn i heb gael yr help 'na - heb fynd i GISDA".

Mae hi'n dweud fod ei byd wedi newid erbyn hyn, ac mae'n gobeithio dechrau gwirfoddoli cyn hir, gyda'r gobaith o hyfforddi fel therapydd celf yn yr hirdymor.

"Os faset ti 'di gweld fi ar dechrau'r siwrne faset ti'm yn credu 'mod i'r un person.

"Dwi'n agosach efo teulu fi rŵan, wedi symud allan. Ar y pryd roedd o'n teimlo fel lot o pressure, a gwneud i fi deimlo fel o'n i'm yn gallu anadlu yn y tŷ.

"Trwy gael allan o tŷ Mam a Dad, dwi 'di dod yn agosach i Mam a Dad. Dwi'n treulio mwy o amser efo Mam rŵan."

Reece yn edrych ar y cameraFfynhonnell y llun, Reece Moss Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Reece wedi profi problemau iechyd meddwl ers eu harddegau

Fel Elliw, mae Reece Moss Owen yn byw mewn fflat cymorth â llety GISDA.

Yn eu harddegau, fe wynebodd Reece broblemau iechyd meddwl, ond wedi iddyn nhw ddod allan yn anneuaidd a hoyw pan yn 18 oed, er i'w teulu gynnig cefnogaeth "anhygoel", dechreuon nhw deimlo mewn perygl yn y pentref bach lle cafon nhw eu magu.

Ar ôl troi'n 19, roedd yn rhaid i Reece ofyn am gymorth brys wedi i bethau waethygu, gyda graffiti homoffobig yn ymddangos yn y pentref.

"O'n i'n gwybod do'n i ddim yn saff. Yn ffodus o'n i ar y ffordd i GISDA," meddai.

"Nes i ddweud wrth staff member, 'gwranda mae hyn wedi digwydd, dwi angen help as soon as possible'."

O fewn pum diwrnod roedd yr elusen wedi cynnig llety iddo, ac fe symudodd Reece i hostel yng Nghaernarfon, gyda stafell eu hunain, ond yn rhannu cegin, ystafell 'molchi a lolfa - sefyllfa na fydden nhw fyth wedi disgwyl, hyd yn oed wythnos ynghynt.

Reece yn gwisgo siaced smart ddu gyda crys gwyn a tei du. Mae'n dal gwobrFfynhonnell y llun, Reece Moss Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Reece wedi mynd ymlaen i ennill gwobr genedlaethol am wirfoddoli

Er mewn lle diogel, dywedodd Reece fod "y noson gynta' yn un od".

"Doedd o ddim yn scary o gwbl, ond dwi'n berson sy'n reit anxious a do'n i methu cysgu noson gynta' fi.

"Mae staff yn cysgu yn yr hostel pob nos, a 'naeth un ohonyn nhw aros i fyny efo fi yn siarad jyst i wneud yn siŵr o'n i'm yn anxious ac yn teimlo'n gyfforddus, a 'naeth yr un noson yna literally newid bywyd fi.

"Do'n i'm yn disgwyl bod mewn sefyllfa o fod mewn hostel o'r blaen, ond mae'r pethau dwi 'di dysgu o fod yn y sefyllfa yma ddim yn rhywbeth baswn i'n newid am y byd."

"Mae 'di newid persbectif fi. Mae pawb ofn bod yn ddigartref. Prisiau tai, prisiau electrig, prisiau pob dim - 'di o ddim yn hawdd fforddio byw dim mwy.

"Ond mae GISDA yn gwneud job dda o dynnu ffwrdd y stigma yna, a mae pob person yn cerdded trwy eu drws nhw yn gwybod fod GISDA yna iddyn nhw."

Beth Gallivan yn edrych at y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae Beth Gallivan ac End Youth Homelessness Cymru yn brwydro i atgyfnerthu lleisiau pobl ifanc

Mae rhesymau Elliw a Reece am fod mewn perygl o ddigartrefedd yn debyg i'r rhai mae llawer o bobl ifanc yn profi.

Er i'r ddau dderbyn cefnogaeth yn eu cartrefi, yn aml, chwalfa neu gwrthdaro teuluol sy'n achosi i berson ifanc orfod gadael ble mae nhw'n byw - fel costau byw neu drais yn y cartref.

Yn aml, unigolion sy'n niwrowahanol neu'n hoyw sy'n wynebu problemau yn y cartref, wrth i'w rhieni gael trafferth ymdopi am un rheswm neu'r llall gyda'u plant.

Yn ôl Beth Gallivan o elusen End Youth Homelessness Cymru: "Mae pobl ifanc mewn cyfnod o'u bywydau lle maen nhw'n dal i ddatblygu - yn gorfforol, seicolegol, cymdeithasol - a does ganddyn nhw ddim yr un profiad bywyd a resilience ag oedolion hŷn".

'Pethau'n gwaethygu'

Er hynny, mae'r broblem yn un gudd o'i gymharu â digartrefedd ymysg pobl hŷn, meddai Beth.

"Maen nhw'n debygol o fod yn cysgu ar sofas, mewn ceir, mewn sefyllfaoedd lle 'fallai mae 'da nhw tô dros eu pen, ond dy'n nhw ddim yn ddiogel.

"Maen nhw hefyd yn llai tebygol o gyflwyno fel digartref i'r awdurdod leol."

Mae ffigyrau'r llywodraeth yn dangos y bu cynnydd 8% yn nifer y bobl ifanc oedd mewn perygl o ddigartrefedd rhwng 2023/24 a 2024/25.

Yn ôl Beth Gallivan, "o'r bobl ifanc 'da ni'n gweithio efo, maen nhw i gyd wedi sôn bod pethau'n gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf".

Ym mis Mawrth fe wnaeth y llywodraeth ddiwethaf gyflwyno Deddf Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) 2026.

Mae'r ddeddf yn rhoi ffocws ar atal digartrefedd - rhywbeth sydd wedi ei groesawu gan elusennau digartrefedd - ond, er bod y ddeddfwriaeth yn blaenoriaethu pobl ifanc mewn sawl ffordd, mae Beth Gallivan yn dweud nad oes digon wedi ei anelu at bobl ifanc.

"Maen nhw'n cymryd approach all ages," meddai.

"Bydden ni'n rili hoffi gweld strategaeth benodol ar gyfer digartrefedd ieuenctid, sy'n ymwybodol o'r ffaith bod achosion a profiadau pobl ifanc o ddigartrefedd yn wahanol i oedolion hŷn."

Mae Beth yn dweud fod atal digartrefedd ymysg pobl ifanc yn helpu atal digartrefedd ymysg pobl hŷn, gydag o leiaf hanner o'r oedolion sy'n profi digartrefedd wedi cael eu profiad cyntaf cyn troi'n 21.

"Os ydyn ni'n gallu llwyddo i atal digartrefedd tra bod pobl dal yn ifanc, mae fe lot llai tebygol bod nhw'n mynd i brofi digartrefedd wedyn fel oedolion."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod yn rhy fuan i roi ymateb manwl, ond y bydd "pob gweinidog yn cyflwyno eu blaenoriaethau cyn hir."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.