Dilyniannau llinolCanfod yr nfed term

Dilyniant llinol ydy’r enw ar batrwm rhif sy’n cynyddu (neu’n lleihau) yr un faint bob tro. Y gwahaniaeth cyffredin ydy’r term am y maint y mae’n cynyddu neu’n lleihau.

Part ofMathemategPatrymau a dilyniannau

Canfod yr nfed term

Weithiau, yn hytrach na chanfod y rhif nesaf mewn dilyniant llinol, efallai fod arnot angen canfod y \({41}^{fed}\) rhif, neu’r \({110}^{fed}\) rhif.

Mae ysgrifennu \({41}\) neu \({110}\) o rifau’n cymryd amser, felly gelli di ddefnyddio rheol gyffredinol.

I ganfod gwerth unrhyw derm mewn dilyniant, defnyddia reol yr \({n}^{fed}\) term.

Question

Beth ydy \({n}^{fed}\) term y dilyniant hwn?

Diagram dilyniant llinol

Er enghraifft, i ganfod y \({10}^{fed}\) term, cyfrifa \({5}\times{10} = {50}\). I ganfod y \({7}^{fed}\) term, cyfrifa \({5}\times{7} = {35}\)

Felly y \({41}^{fed}\) term ydy \({5}\times{41} = {205}\) a’r \({110}^{fed}\) term ydy \({5}\times{110} = {550}\)

Question

Beth ydy \({n}^{fed}\) term a \({10}^{fed}\) term y dilyniant hwn: \({2},~{4},~{6}, ...\) ?

More guides on this topic