Gweithio gyda sgriptLleoliad a nodiadau ar y sgript

Pan rwyt ti'n gweithio gyda sgript, edrycha'n ofalus ar y lleoliad, y cyfarwyddiadau llwyfan a'r deialog. Mae ymchwilio'r rhannau a chefndir y ddrama yn dy helpu i ddeall bwriad y dramodydd.

Part ofDramaSgiliau perfformio

Lleoliad a nodiadau ar y sgript

Bydd y sgript hefyd yn rhoi manylion i ti am y lleoliad - neu leoliadau os bydd angen nifer o newidiadau golygfa. Gallai fod gwybodaeth am y cynllun, propiau a gwisgoedd hefyd. Dyma ddetholiad o gyfarwyddiadau lleoliad ar gyfer Mwnci ar Dân.

Dylai’r gofod fod mor foel a gwag â phosibl. Mae tri lleoliad: blaen dau dŷ, sef rhif 13 a 15 Park View (wedi eu gorchuddio â graffiti); ystafell wely Shell; y parc.
— Sera Moore Williams

Mae’r disgrifiad hwn yn dweud wrthon ni bod y set yn finimalaidd a bod y ddrama wedi ei gosod mewn ardal drefol ddifreintiedig (fel y mae’r waliau â graffiti’n ei awgrymu). Os oes disgrifiad manwl o’r set, mae gan y dramodydd farn glir o’r hyn sy’n hanfodol wrth gyflwyno’r set.

Ambell waith, yn enwedig mewn drama fer, mae’r ddrama’n barhaus, ond os ceir newidiadau hanfodol yn y ffrâm amser, caiff y rhain eu hesbonio. Mae newidiadau golygfa a newidiadau amser fel arfer yn cael eu marcio fel toriadau yn y ddrama - gan ei rhannu’n actau ac ambell waith golygfeydd o fewn yr actau hynny. Er enghraifft ar ddiwedd golygfa 8 mae Sera Moore Williams yn nodi:

Mae Hen yn troi i syllu ar Mwnci. Mae’r olygfa’n rhewi.
— Mwnci ar Dân gan Sera Moore Williams
Dau actor ar lwyfan gyda chefndir graffiti. Un yn gwisgo dillad milwr a’r llall mewn crys gyda’r slogan ‘Who’s the Daddy?’ ar y blaen.
Image caption,
Actorion yn perfformio yng nghynhyrchiad Arad Goch o Mwnci ar Dân, 2008 LLUN: Andy Freeman/Arad Goch