Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,1 min

Cerdd yr Wythnos - Hannah Sams-Jones (Y Ffoaduriaid)

Y Talwrn

Available for over a year

Diwedd Tymor Roedd e’ ar ei meddwl ar ddiwrnod fel heddi’, hyd yn oed; pan na allai’r haul fod wedi codi’n uwch i’w chyfarch a phan na allai’r awyr fod yn lasach na’r môr yn ddisgleiriach a goleuni’r dydd wedi lapio mor dynn amdani fel na theimlai hi arlliw o’r tywyllwch. Ar ôl heddi’, gwyddai y byddai’n dechrau colli gafael. Dechreuodd baratoi, fel y gwnâi bob blwyddyn gan gasglu pob mefusen a mafonen o fewn cyrraedd; llwytho darnau o’r haul fesul bocs i’r rhewgell a’u cadw’n rheng o jariau. Aeth ati i dorri coed, a rheini yn eu hanterth a’r paill yn glynu wrth ei dwylo, yn y gobaith y byddent, o’u llwytho i’r tân, yn ddigon eleni. Hannah Sams- Jones

Programme Website
More episodes