Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,5 mins

Wedi teithio’r byd – ond ymweliad â’r Tŷ Gwyn newidiodd bopeth

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Dr Gareth Hallet Davis yw gwestai Beti a'i Phobol. Ar ôl 20 mlynedd o grwydro’r byd, un ymweliad â’r Tŷ Gwyn oedd y trobwynt a newidiodd gwrs ei fywyd. Mae wedi treulio 20 mlynedd yn teithio'r byd gan iddo weithio i gwmni Americanaidd oedd yn cynhyrchu rhaglenni teithio. Mae wedi hwylio'r afon Nile dair gwaith ac wedi cysgu allan yn yr anialwch yng ngwlad yr Iorddonen, ond ar ôl ymweliad a'r Tŷ Gwyn yn Washington fe benderfynodd ddod i wybod mwy am hanes gogledd America a'r Unol Daleithiau a gwneud ei radd doethuriaeth yn y pwnc, erbyn hyn mae'n byw yn y byd academaidd, yn aelod o staff adran Hanes Prifysgol Abertawe ar Coleg Cymraeg. Fe ddaw yn wreiddiol o bentref bach Pant y Brad, sydd rhwng Tonyrefail a Llantrisant. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys un gan Gôr Merched Llanuwchllyn.

Programme Website
More episodes