Episode details

Available for 27 days
Canrif a hanner ers i Glwydfardd honni mai ef oedd yr Archdderwydd cyntaf, E Wyn James sy'n edrych ar yr hanes tra bod Christine James yn hel atgofion o'i chyfnod fel yr Archdderwydd benywaidd cyntaf. Dewi Alter sy'n sôn am ddau draethawd gan ŵr o Gaernarfon y daeth o hyd iddynt yn y Fatican yn ddiweddar. A draw ar Y Cob ym Mhwllheli, John Dilwyn Williams sy'n olrhain hanes datblygiad y dref ar draws y canrifoedd.
Programme Website