Episode details

Available for over a year
I gloi'r gyfres mae Elin yn dychwelyd i'w gorffennol pell - ac yn troedio llwybrau cyfarwydd wrth ymweld â gwaith trin carthion Tregŵyr, cyn mynd i'r gogledd i waith puro dŵr yfed lled newydd, Dolbenmaen. Ac yna i Labordy Glaslyn - gan weld pa mor wahanol yw labordai heddiw o gymharu gyda'r saithdegau hwyr a'r wythdegau cynnar. Wedi fflysio tŷ bach, buan iawn y mae rhywun yn anghofio beth sydd yn digwydd wedyn - heb sylweddoli y prosesau cymhleth sydd tu cefn i lanhau ein dŵr gwastraff er mwyn iddo ddychwelyd i afonydd a môr yn lân, ac wedi ei ddi-heintio. Gwyddoniaeth glyfar yw'r cyfan - o hidlo a setlo, a thrin y solidau tan ei fod ddigon da i fod yn wrtaith ar dir amaeth. Ac yna mae bacteria bach clyfar, penodol, yn bwyta y defnydd organig yn ein gwastraff mewn tanciau awyru, gan adael ar eu hôl dŵr glân - sydd yn cael ei lanhau eto gyda golau UV. Pwy fyddai wedi meddwl bod gennym ddyled i facteria mewn tanc i lanhau ar ein hôl! Bydd ambell wers ar hyd y ffordd am y pethau NA ddylem ei roi lawr y tŷ bach! Mae gwyddoniaeth tu cefn i buro dŵr gwastraff yn gymhleth ac yn gorfod digwydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos am byth! Mae Dan Humphreys ac Aled Howells yn tywys Elin o gwmpas gwaith trin carthion Tregŵyr - sydd yn delio gydag oddeutu 900 litr o ddŵr gwastraff yr EILIAD. Fel mae Dan yn ei ddweud - dyna 900 potel o bop yn dod atyn nhw bob eiliad! Ac yna ein dŵr yfed. Mae gwaith trin dŵr Dolbenmaen ger Porthmadog yn gymharol newydd - ac yn derbyn dŵr o gronfa Cwmystradllyn. Mae Victoria Collier, neu Tori fel mae pawb yn ei nabod, yn tywys Elin i mewn i'r adeiladau enfawr lle mae prosesau gwyddonol yn glanhau'r dŵr i'r safon gorau i'r cwsmeriaid. Cael gwared ar ronynnau bach, ychwanegu clorin er mwyn lladd unrhyw facteria, sicrhau bod y blas yn iawn, a bod y lliw a lefel pH yn addas. Ac mae rheolau llym i'w dilyn o ran purdeb y dŵr - a llawer o arbrofi a chasglu data dyddiol. Ac ar ben hynny - mae holl ddŵr glân Cymru yn cael ei samplo a'i anfon i labordy. Bydd Elin yn ymweld â Hanna Evans yn labordy Glaslyn yng Nghasnewydd - lle mae pethe wedi newid cryn dipyn ers ei dyddiau hi, pan oedd hi'n arfer cadw llygad ar ansawdd dŵr. Mae Hanna yn ei thywys drwy bob cam o'r profi gan holi Elin sut ma’ pethe wedi newid ers y saithdegau hwyr - a rhoi cyfle iddi wneud arbrawf bach ei hun!
Programme Website