Episode details

Available for 27 days
Lois Cernyw sy'n cyfarfod y pencampwr plygu gwrych o Langernyw, Aled Roberts, i glywed ei hanes, ac i ddysgu mwy am yr hen grefft sy'n un o draddodiadau cefn gwlad. Hefyd, mae Sara Elan Jones yn sgwrsio gyda Huw Edwards o gwmni Tidy Teas yn Llanbedr-Pont-Steffan - ffermwr sydd wedi arallgyfeirio, a bellach yn cynhyrchu a gwerthu te. Mae Terwyn Davies yn edrych ymlaen at Eisteddfod CFFI Cymru ym Mhontrhydfendigaid, Ceredigion yng nghwmni Prif Weithredwr y Mudiad, Mared Rand Jones, a Chadeirydd Eisteddfod CFFI Cymru, Enfys Hatcher Davies. Hefyd, y newyddion diweddaraf o'r sector cig coch gyda Glesni Phillips o Hybu Cig Cymru. Cynhyrchiad cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.
Programme Website