Episode details

Available for over a year
Dr Alun Ashton sy'n tywys Elin Rhys o gwmpas sefydliad unigryw yn y Swistir o'r enw PSI - y Paul Scherrer Institute lle mae e'n bennaeth data a chyfrifiaduron. Hwn yw'r sefydliad pwysicaf yn Ewrop sydd yn cynnal arbrofion ar gyfer Prifysgolion a diwydiant led led Ewrop, ymchwil sydd yn arwain at rhai o ddatblygiadau pwysicaf mewn meddygaeth a thechnoleg. Ac yna, ymweliad gyda chynhadledd gemeg gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg lle ddaeth nifer o gemegwyr ifanc at ei gilydd i rannu gwybodaeth am eu hymchwil.
Programme Website