Episode details

Available for 30 days
Mewn rhaglen arbennig mae Manon Steffan Ros yn sgwrsio hefo'r artist arbennig ac unigryw, Dewi Tudur. Mae Dewi Tudur, sydd o'r Wyddgrug yn wreiddiol, yn adnabyddus am ei dirweddau tawel, myfyriol, a'i ddefnydd sensitif o liw a gofod gwag. Mae ei dirweddau Cymreig yn deimladwy ac yn tueddu i graffu ar nodweddion sydd ddim i'w gweld yn aml mewn celf. Ond, mae Dewi hefyd yn cael ei ysbrydoli gan dirwedd Ewropeaidd, yn enwedig ar ôl cyfnod yn byw a gweithio yn Tysgani yn Yr Eidal. Yn rhan gyntaf y rhaglen mae Manon yn ymweld â Dewi yn ei gartref yn Northwich, yng ngogledd Lloegr, a hynny ychydig ddyddiau cyn iddo ef a'i wraig symud i fyw i Dde Ffrainc. Ac yna, chwe mis ar ôl iddo adael Northwich, mae Manon yn cael sgwrs arall hefo fo i weld sut mae ef a'r teulu wedi setlo mewn gwlad ddiethr. Yn ogystal â hyn, mae Manon yn cael cwmni Rolant Powell o Oriel Ffin y Parc, Llandudno i drafod perthynas Dewi efo'r oriel yma a pham ei fod yn artist o bwys ym myd celf gyfoes Cymru.
Programme Website