Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,13 Sep 2026,27 mins

Defaid Pavarotti Llanbed

Troi'r Tir

Available for 25 days

Sara Elan Jones sy'n sgwrsio gyda Timothy Evans o Lanbed am ei ddefaid Torwen a Thorddu, wrth i'r Gymdeithas Torddu a Thorwen ddathlu pen-blwydd yn hanner cant eleni. Hefyd, wrth i Dreialon Cŵn Defaid y Byd gael eu cynnal yn yr Alban yr wythnos hon, Lois Cernyw sy'n cyfarfod ag Aled Owen, un o aelodau tîm Cymru, gan glywed ychydig o'i hanes. Dyfan a Rheon James o ardal Castellnewydd Emlyn sy'n sôn am eu cwmni Cig Cymreig Cowin - gan werthu'r cig o'r fferm yn syth i'r cwsmer. Y newyddion diweddaraf o'r sector cynhyrchu llaeth gyda Richard Davies, ac eitem o archif BBC Cymru, gyda John Evans yn holi'r baledwr Bertie Stephens o Langeitho am ei bac o gŵn hela. Cynhyrchiad Cwmni Telesgop i BBC Radio Cymru.

Programme Website
More episodes