Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,14 Jun 2026,56 mins

Ffilmiau Madfabulous ac Effi o Blaenau

Llwyfan gyda Manon Steffan Ros

Available for 29 days

Manon Steffan Ros a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru a thu hwnt. Yn y rhaglen hon mae Manon yn cael cwmni y cynhyrchydd a’r sgwennwr Dafydd Llewelyn sydd yn rhannu ei argraffiadau o ffilm 'Madfabulous', ffilm sydd yn seiliedig ar stori wir ac yn dilyn hanes Henry Paget, pumed Marciws Sir Fôn wrth iddo gyrraedd yr ynys i hawlio ei etifeddiaeth. Ac yn sgil y ffilm yma mae Manon hefyd yn cael cwmni y cyfarwyddwr a’r cynhyrchydd Llŷr Morus, yr awdur Ruth Richards a’r cyn-athrawes ddrama Lowri Cynan i drafod sut mae mynd ati i gyflwyno straeon hanesyddol mewn ffyrdd creadigol. Ac i barhau ym myd y ffilmiau, mae'r cynhyrchydd Branwen Cennard yn trafod ei chysylltiad hi hefo’r ffilm 'Effi o Blaenau', ac mae awdur gwreiddiol y ddrama lwyfan, 'Iphigenia in Splott', Gary Owen yn ymuno i sgwrsio am egin y gwaith creadigol.

Programme Website
More episodes