Episode details

Radio Cymru,31 May 2026,56 mins
Dathlu bywyd a gwaith yr artist Iwan Gwyn Parry
Llwyfan gyda Manon Steffan RosAvailable for 29 days
Rhaglen arbennig yn canolbwyntio ar un artist dylanwadol a thalentog. Ddiwedd 2025 bu farw'r artist Iwan Gwyn Parry yn 54 oed. Roedd yna nifer o deyrngedau iddo pan fu farw a llawer yn ei ddisgrifio fel person ac arlunydd rhyfeddol. Yn enedigol o Gaergybi, mi oedd Iwan yn adnabyddus am ei ddarluniau trawiadol o'r môr a'r arfordir, ac mi fuodd o’n arddangos ei waith mewn orielau yng Nghymru, Llundain, Dulyn a thu hwnt. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mi fuodd Iwan yn sgwrsio’n gyhoeddus am fyw efo anhwylderau bwyta. Mae yna ddathliad o weithiau Iwan yn cael eu harddangos yn Oriel Ffin y Parc, Llandudno, ar hyn o bryd - gweithiau sy'n amlygu ei ysbryd a’i weledigaeth artistig. Yn ystod yr awr mi fyddwn ni’n ymweld â’r arddaganosfa yma yng nghwmni dau artist i werthfawrogi ei dalent hynod. Yn ogystal â hyn cawn ddathlu ei fywyd a'i waith yng nghwmni aelodau o'i deulu a'i ffrindiau.
Programme Website