Episode details

Available for 29 days
Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru sy’n ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol a’r opera yng Nghymru a thu hwnt. Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth ers 2021, ac mae’n arwain cerddorfa Philomusica of Aberystwyth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth ers 2023 ac yn Bennaeth Cerdd ar Ŵyl Ryngwladol Buxton yn Swydd Derby.
Programme WebsiteTracklist
- TrackArtist
- 1.Orfeo: Addio miei sospiriOrfeo: Addio miei sospiriAndrew Wilson-Dickson & Buddug Verona James
- 2.Waterloo SunsetWaterloo SunsetThe Kinks
- 3.Everything's Coming Up RosesEverything's Coming Up RosesImelda Staunton
- 4.If You Want To Sing Out, Sing OutIf You Want To Sing Out, Sing OutCat Stevens