Dathlu Ivor Novello

Nos Wener 6/3/26, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dathlu Ivor Novello

Bydd egwyl o 10 munud

IanMcMillan-Davidson arweinydd
Jessica Robinson soprano
Trystan Llŷr Griffiths tenor
Claire Barnett-Jones mezzo-soprano

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei ddarlledu’n fyw ar y rhaglen Friday Night is Music Night ar BBC Radio 3; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Roedd David Ivor Davies, seren y llwyfan a’r sgrin o Gaerdydd, yn adnabyddus i filiynau fel Ivor Novello. Cyhoeddodd dros 230 o ganeuon ar hyd ei oes, llawer ohonynt o’i wyth sioe gerdd ar gyfer y West End, a fu’n dominyddu’r byd theatr gerdd ym Mhrydain am dri degawd.

Heno – 75 mlynedd i’r dyddiad ers marwolaeth Ivor Novello – mae tri o gantorion arbennig yn ymuno â BBC NOW a’r arweinydd Ian McMillan-Davidson, sy’n arbenigwr ar Ivor Novello, i ddathlu gwaddol y cyfansoddwr o Gymru. A pha ffordd well o nodi ei gamp aruthrol na theyrnged gala arbennig ar Friday Night Is Music Night, sioe gerddoriaeth fyw fwyaf hirhoedlog y BBC? Mae’n argoeli i fod yn achlysur i’w gofio.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Ivor Novello (1893–1951)

A Celebration

Cyfansoddwr, seren enwog, dramodydd: Roedd Ivor Novello yn un o hoelion wyth adloniant Prydeinig yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd yn 1893, lle roedd ei fam yn hyfforddwr llais enwog; ymysg ei chleientiaid roedd y sêr opera Adelina Patti a Clara Butt. Roedd yn gerddor addawol iawn yn ifanc, gan ennill ysgoloriaeth gorawl i Brifysgol Ysgol Coleg Magdalen, Rhydychen, a dechreuodd ysgrifennu caneuon pan oedd yn ei arddegau. Symudodd i Lundain gyda’i fam yn 1913, i fflat uwchben Theatr y Strand (Theatr Novello erbyn hyn) ac yno y bu’n byw weddill ei oes.

Cafodd Novello ei drochi mewn gweithiau clasurol yn gynnar iawn, ac roedd dylanwad hyn yn amlwg ar ei gerddoriaeth, a ddaeth i ymgorffori traddodiad operetta Prydain, sy’n adnabyddus am gyfuno’r cain â’r ingol. Sbardunwyd ei enwogrwydd gan ei anthem wladgarol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ‘Keep the Home Fires Burning’, a fu’n llwyddiant ysgubol yn 1914. Aeth ymlaen i fyd y sioeau cerdd yn 1916, gyda’r sioe boblogaidd Theodore & Co yn y West End, y cyd-ysgrifennodd y sgôr ar ei chyfer gyda Jerome Kern.

Ar ôl y rhyfel, cydweithiodd Novello ag unigolion nodedig eraill, gan gynnwys P. G. Wodehouse, ar rifiw a chomedi cerdd. Mentrodd wedyn i fyd actio, gan ymddangos mewn amryw o ffilmiau mud Prydeinig, Americanaidd ac Ewropeaidd, gan gynnwys The Lodger gan Hitchcock (1927), yn ogystal â sawl drama yn y West End. Gweithiodd sawl gwaith gyda’i gyfaill mynwesol, Noel Coward, ac ymysg ei bartneriaid roedd Siegfried Sassoon. Roedd Novello’n cael ei edmygu’n fawr am ei broffil golygus, a daeth yn un o sêr mwyaf Prydain yn y 1920au.

Ac eto, y gwaith y mae’n cael ei gofio amdano fwyaf heddiw yw ei gyfres o sgorau ar gyfer sioeau cerdd yn y blynyddoedd cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Fel arfer, roedd yn serennu yn y cynyrchiadau ac cyfansoddi’r gerddoriaeth, gan weithio gyda’r awdur geiriau Christopher Hassall. Glamorous Night (1935) oedd y sioe a sefydlodd fodel ei waith aeddfed, gyda’i llwyfaniad drud a’i naws Rwritanaidd a oedd yn adleisio ei hoff operetta, The Merry Widow gan Lehár. Cadarnhawyd pwysigrwydd Novello gyda chynyrchiadau fel Careless Rapture (1936) a The Dancing Years (1939).

Yn ystod y rhyfel, cafodd Novello ei garcharu am gyfnod byr am gamddefnyddio cwponau petrol, a methodd Arc de Triomphe (1943) â chydio yn y cyhoedd, ond atgyfodwyd ei yrfa gyda mwy o sioeau poblogaidd fel Perchance to Dream (1945) a King’s Rhapsody (1949). Ar adeg pan oedd bywiogrwydd Oklahoma! a Carousel gan Rodgers a Hammerstein yn dominyddu’r West End, helpodd Novello i gynnal poblogrwydd sioeau cerdd Prydeinig a oedd yn dod o draddodiad arddull gwahanol.

Nodyn y rhaglen © Dominic Broomfield-McHugh

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Cariad a Thrawsnewid

Nos Iau 12/3/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Britten An American Overture 
Joan Tower Love Returnspremière y DU
Weber Symffoni Rhif 2 
Hindemith Metamorffosis Symffonig o Themâu gan Carl Maria von Weber

Tomas Djupsjöbacka arweinydd
Steven Banks sacsoffon

GODIDOG | GOSGEIDDIG | TRAWSFFURFIOL

Ymunwch â BBC NOW am noson sy’n dathlu cariad, egni a thrawsnewid cerddorol. Bydd American Overture gwefreiddiol Britten yn agor y cyngerdd gyda naws bywiog, ac yna ceir y première Prydeinig o Love Returns cariadus Joan Tower, wedi’i berfformio gan y sacsoffonydd rhagorol, Steven Banks. Yna, byddwn yn teithio i fyd Weber, yn gyntaf drwy swyn a ffraethineb ei Ail Symffoni, cyn i ni glywed ailddychmygiad lliwgar Hindemith o alawon Weber yn ei Fetamorffosis Symffonig. Dyma noson o synau beiddgar, straeon teimladwy a cherddoriaeth sy’n ailddyfeisio ei hun yn gyson.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

IanMcMillan-Davidson arweinydd

Ian McMillan-Davidson yw Cyfarwyddwr Cerdd a Phrif Arweinydd Cerddorfa a Chantorion y London Pops, y London Operetta Company, a Cherddorfa Cerddoriaeth Ysgafn Prydain, gan arbenigo mewn arwain a chyflwyno cerddoriaeth y llwyfan a’r sgrin.

Dechreuodd ei ymrwymiad i hyrwyddo cerddoriaeth Ivor Novello 40 mlynedd yn ôl pan oedd yn Gyfarwyddwr Cerdd ar y cynhyrchiad Dear Ivor a aeth ar daith gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1984, gan fynd ymlaen i arwain cynyrchiadau o King’s Rhapsody a The Dancing Years yn Llundain ac Ipswich.

Mae wedi bod yn arweinydd gwadd ac wedi cyflwyno cyngherddau gyda Cherddorfa a Chorws Philharmonia, y Gymdeithas Gorawl Frenhinol, Côr Meibion Treforys, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, Cantorion Maida Vale, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Symffoni Llundain a’r Corws Opera Ambrosaidd.

Mae hefyd wedi creu ac arwain sawl tymor Pops ar gyfer Cerddorfa a Chorws Ffilharmonig Brenhinol Lerpwl, Cerddorfa Symffoni Bournemouth, y Royal Northern Sinfonia a Cherddorfa Siambr yr Alban.

Fel Cyfarwyddwr Cerdd ar gyfer adfywiad Opera Carl Rosa, arweiniodd dros 1,000 o berfformiadau operetta yn genedlaethol, ar ôl bod yn arweinydd gwadd ar gyfer Opera D’Oyly Carte yn flaenorol.

Dechreuodd ei yrfa fel Cyfarwyddwr Cerdd ar gyfer sawl sioe gerdd yn y West End ac ef oedd y cyfarwyddwr cerdd ieuengaf yn y West End yn Llundain gyda Singin’ in The Rain yn y London Palladium, ac yna Charlie Girl yn Theatr Victoria Palace. Bu’n gweithio’n agos gyda Lionel Bart yng nghynhyrchiad Syr Cameron Mackintosh o Oliver! ar gyfer y Mileniwm yn y London Palladium.

Ian McMillan-Davidson yw creawdwr ac awdur IVOR!, sy’n crynhoi saith mlynedd ddiwethaf Ivor Novello fel Brenin Theatr Gerdd ym Mhrydain.

 Jessica Robinsonsoprano

Sian Trenberth

Sian Trenberth

Graddiodd y soprano o Gymru, Jessica Robinson, o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a rhagoriaeth mewn MA Perfformio Opera. Yn y coleg, enillodd wobr goffa Aneurin Davies; gwobr Mansel Thomas; gwobr Margaret Tann a gwobr Soprano Elias, ac fe’i dewiswyd yn Ysgolor Tywysog Cymru yn 2016. Mae ei llwyddiannau eraill mewn cystadlaethau yn cynnwys ennill Cystadleuaeth Cantorion Cymru yn 2022.

Fel unawdydd oratorio a chyngerdd, mae hi’n perfformio’n rheolaidd ledled y DU; mae ei huchafbwyntiau’n cynnwys perfformio Serenade to Music Vaughan Williams ar gyfer BBC Radio 3 gyda Cherddorfa Symffoni Dinas Birmingham; ymddangos fel unawdydd yn y Royal Albert Hall ar gyfer y Gala Côr Meibion 1,000 o Leisiau; ac fel unawdydd yn y Meseia gan Handel yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Yn rhyngwladol, mae hi wedi canu yn Efrog Newydd, Tsieina, y Swistir a’r Eidal.

Mae perfformiadau operatig Jessica Robinson yn cynnwys Rose (Lakmé), Rosina (Barbwr Seville) a Despina (Così fan tutte) gydag Opera Dinas Abertawe; Heavenly Voice (Don Carlos) a Tetka (Jenůfa) gydag Opera Grange Park; Spell for Reality (Spell Book) a Siren (La liberazione di Ruggiero) yng Ngŵyl Opera Longborough; a Gweithiwr/Corws Bychan (Gair ar Gnawd) gydag Opera Cenedlaethol Cymru/S4C.

Trystan Llŷr Griffithstenor

Y tymor hwn mae’r tenor o Gymru, Trystan Llŷr Griffiths yn perfformio rhan Steuermann (Yr Holandwr Hedegog) am y tro cyntaf yn ei ymddangosiad cyntaf gydag Opera Monte-Carlo, a bydd yn ailgydio yn y rhan hon gydag Opera Genedlaethol Cymru, cyn perfformio yn La Monnaie am y tro cyntaf fel Spoletta (Tosca).

Mae ei uchafbwyntiau’r tymor diwethaf yn cynnwys perfformio rhan Tamino (Y Ffliwt Hud) am y tro cyntaf gydag Opera North, a rhan Alfred (Die Fledermaus)ar gyfer Gŵyl Grange, yn ogystal â dychwelyd at Opera Cenedlaethol Cymru fel Rinuccio (Gianni Schicchi) a’r Cariad Ifanc (Il tabarro).

Mae ganddo berthynas arbennig o agos ag Opera Cenedlaethol Cymru, lle mae wedi perfformio rhannau Tamino (Y Ffliwt Hud), Don Ottavio (Don Giovanni)a Beppe (Pagliacci). Mae ei uchafbwyntiau fel arall yn cynnwys ymddangosiadau yn Opéra National du Rhin, Opéra National de Lorraine, Opera’r Alban, Opera Garsington ac Opera West Green House.

Mae ei uchafbwyntiau mewn cyngherddau’n cynnwys noson o gerddoriaeth Leonard Bernstein gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd dan arweiniad Alexander Shelley yn y Concertgebouw yn Amsterdam; Requiem Mozart gydag Orchestre Prométhée yng Ngŵyl Lacoste; Meseia Handel yn y Royal Albert Hall; ac Elijah gan Mendelssohn gyda Cherddorfa Ffilharmonig Rhydychen. Perfformiodd yn y BBC Proms am y tro cyntaf yn canu Serenade to Music Vaughan Williams gyda Sakari Oramo.

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf, Trystan, yn 2015. Ymddangosodd hefyd fel unawdydd mewn recordiad o O Holy Night gyda’r Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol a bu’n perfformio rhan Carlos yn Le Duc d’Albe gan Donizetti gyda’r Hallé dan arweiniad Syr Mark Elder.

Mae Trystan Llŷr Griffiths wedi cael gradd o’r Academi Gerdd Frenhinol, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a’r Stiwdio Opera Genedlaethol, ac roedd yn aelod o’r Stiwdio Opera Ryngwladol yn Opera Zurich.


Claire Barnett-Jones mezzo-soprano

Rowan Prins

Rowan Prins

Mae’r mezzo-soprano o Brydain, Claire Barnett-Jones, yn prysur ddod yn un o leisiau mwyaf poblogaidd y llwyfan operatig a’r llwyfan cyngerdd. Yn ddiweddar, cafodd ei henwi’n un o’r 10 uchaf yn rhestr Sêr Newydd Operawire ar ôl cyrraedd rownd derfynol Gwobr y Gynulleidfa’r Fonesig Joan Sutherland yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd 2021.

Y tymor hwn bydd yn perfformio am y tro cyntaf gydag Opera Calgary fel y Wrach/Gertrude (Hansel a Gretel)dan arweiniad Jonathan Brandani, yng Ngŵyl Bregenz fel Annina (La traviata) dan arweiniad Kirill Karabits, a gydag Accademia Nazionale di Santa Cecilia yn Rhufain fel Waltraute (Die Walküre)dan arweiniad Daniel Harding. Bydd hefyd yn canu rhan Mrs Grose (The Turn of the Screw)yn Theatr Linbury’r Royal Ballet & Opera.

Mae ei huchafbwyntiau mewn cyngherddau’r tymor hwn yn cynnwys Das klagende Lied gan Mahler gyda Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm a Ryan Bancroft; Requiem Mozart yng Nghanolfan Barbican gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC dan arweiniad Sakari Oramo; The Dream of Gerontius gan Elgar yng Ngholeg King’s, Caergrawnt, gyda Cherddorfa Gyngerdd y BBC a Daniel Hyde; Lieder Altenberg gan Berg a Kindertotenlieder gan Mahler yn Espoo gyda’r Tapiola Sinfonietta dan arweiniad Ryan Bancroft, a’r Meseia gyda Chorws a Sinfonia Glyndebourne dan arweiniad Aidan Oliver yn Neuadd Glyndebourne a’r Royal Albert Hall yn Llundain. Mae hi hefyd yn ymddangos mewn datganiad yn Neuadd Wigmore yn Llundain gyda’r pianydd Rebecca Cohen.

Mae ei chynlluniau’n cynnwys dychwelyd i’r Royal Ballet & Opera a Covent Garden, ac ymddangos am y tro cyntaf yn Opera Garsington.

Astudiodd Claire Barnett-Jones yn y Conservatoire Brenhinol yn Birmingham, yn Opera’r Academi Frenhinol ac Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall, ac mae wedi derbyn Cymrodoriaeth Syr John Tomlinson yn ogystal â bod yn Gymrawd Opera Annibynnol ac Artist Samling.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Mira Marton
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Ruth Heney **
Anna Cleworth
Emilie Godden
Kerry Gordon-Smith
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Gary George-Veale
Rebecca Totterdell

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Laurence Kempton

Fiolâu
Francis Kefford
Peter Taylor
Lydia Abell
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Anna Growns
Nancy Johnson
Charlotte Limb
Lucy Theo

Soddgrythau
Pedro Silva
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Keith Hewitt
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Rachel Ford
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Alexander Jones #
James Manson
Christopher Wescott
Emma Prince
Georgina McGrath
Thea Sayer

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
Lindsey Ellis

Ffliwt Alto
Lindsey Ellis †

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers **+

Clarinét Bas
Lenny Sayers †**+

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Llinos Owen

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Edward Griffiths
Flora Bain
John Davy

Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Louis Barclay

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Richard Evans

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Rebecca Celebuski
Phil Girling
Rhydian Griffiths

Y Delyn
Sally Pryce

 Piano/Selesta
Jâms Coleman

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications