BBC NOW x Jasdeep Singh Degun

(rhan o Ŵyl Llais)

Nos Iau 8/10/26, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dinuk Wijeratne
Two Pop Songs on Antique Poems – A Letter from the After-life

Jasdeep Singh Degun
Arya: concerto i’r sitar a’r gerddorfa

EGWYL: 15 munud

Raag Bageshri

Philip Glass
Satyagraha – Act 3, Rhan 3, ‘Evening Song’

Jasdeep Singh Degun
Orpheus – Act 3 (detholiad)
Abbhā
Orpheus – 
Galargan

Clark Rundellarweinydd
Jasdeep Singh Deguncyfansoddwr/sitar
Kaviraj Singhsantŵr/llais
Yarlinie Thanabalasingamllais
Gurdain Rayatttabla
James Waytenor
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i fod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio i’w ddarlledu yn y dyfodol ar BBC Radio 3, yn cael ei ffrydio'n fyw ac yn cael ei ffilmio i’w ryddhau yn y dyfodol ar BBC iPlayer ac ar wefan BBC NOW.

Cyflwyniad

Wrth siarad â’r tîm yn Llais am yr hyn y gallai Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ei gyfrannu at ŵyl sy’n dathlu lleisiau unigryw ac sy’n hybu darganfyddiadau annisgwyl, daeth Jasdeep Singh Degun i’r meddwl ar unwaith. Mae’n artist rydw i wedi ei adnabod ac wedi bod eisiau cydweithio ag ef ers blynyddoedd. Yn ganolog i’n sgyrsiau oedd tapestri rhyfeddol traddodiadau cerddorol India ac Ewrop a blethodd Jasdeep drwy ei ailddychmygiad clodwiw o Orpheus Monteverdi.

Heno yw penllanw deialog sy’n archwilio beth sy’n digwydd pan fydd gwahanol draddodiadau cerddorol yn cwrdd â chwilfrydedd, parch ac uchelgais gwirioneddol. Mae gan bob traddodiad ganrifoedd o hanes, arferion sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn a dulliau unigryw o ymdrin â chreadigrwydd, boed hynny wedi’i nodiannu neu’n fyrfyfyr, yn ysgrifenedig neu ar lafar. Mae’r naill a’r llall yn ymgorffori ysbryd o adnewyddu ac arloesi parhaus. Yr ysbryd cyffredin hwnnw yr ydym yn gobeithio’i danio gyda’n gilydd.

Mae Jasdeep yn ymddangos heno fel cyfansoddwr, perfformiwr byrfyfyr, unawdydd, cydweithredwr a chynullydd, gyda chast eithriadol o berfformwyr ochr yn ochr â’r gerddorfa a’r corws. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni mewn man lle mae traddodiadau’n cwrdd, ffiniau’n pylu a phosibiliadau newydd yn dod i’r amlwg drwy’r weithred o ddod at ein gilydd.

George Lee
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Dinuk Wijeratne (ganed 1978)

Two Pop Songs on Antique Poems – A Letter from the After-life(2023)

‘A Letter from the After-life’ yw’r cyntaf o waith dwy ran o’r enw Two Pop Songs on Antique Poems, a glywir yma yn fy nhrawsgrifiad ar gyfer cerddorfa linynnol o’r hyn a oedd yn Bedwarawd Llinynnol Rhif 1 gennyf yn wreiddiol, enillydd Gwobr JUNO Canada 2016 am Gyfansoddi Clasurol. Roedd y gerddoriaeth - a gomisiynwyd gan Bedwarawd Afiara - yn ymateb i’r cysyniad o gerddoriaeth wedi’i dylanwadu gan gerddoriaeth bop, a hynny ar gyfer pedwarawd llinynnol clasurol: rhyw fath o ymgiprys efallai, rhwng traddodiad ac arloesi. Ceisiais greu fy math fy hun o wrthdrawiad rhwng yr hen a’r newydd, lle gallai harddwch ac ystyr hen gerddi ysbrydoli’r math o ddolenni, rhigolau ac alawon bachog sy’n cael eu clywed mewn cerddoriaeth bop. Mewn gwirionedd, gosodiadau o destunau o gerddi yw’r alawon, a’r rheini heb y geiriau.

Ar y pryd, roeddwn i’n gweithio gyda DJ Skratch Bastid, yn arbrofi gyda samplau ar fwrdd troi. Ar fympwy, gofynnais iddo grafu agoriad Pedwarawd ‘Marwolaeth a’r Ferch Ifanc’ gan Schubert, ac roedd y canlyniad yn ysgubol. Mae dau ddyfyniad o’r gwaith hwnnw yn ymddangos yma. Yn eironig, roedden nhw’n fy nharo i fel pethau a oedd yn debyg i gerddoriaeth bop, felly gadewais iddyn nhw ddod i’r amlwg fel pe baen nhw’n fyrfyfyr, er mwyn byrfyfyrio arnynt wedyn. Mae’r ostinato rhythmig a glywir yn yr agoriad a thrwyddi draw, wedi’i dynnu o tabla kaida (ffurf thema ac amrywiadau).

Roedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ‘A Letter from the After-life’ yn rhan o Rubáiyát Omar Khayyám:

I sent my Soul through the Invisible,
Some letter of that After-life to spell:
And by and by my Soul return’d to me,
And answer’d ‘I Myself am Heav’n and Hell’.

o Rubáiyát Omar Khayyám (1048–1131), cyfieithiad Edward FitzGerald (1809–83)

Nodyn y rhaglen © Dinuk Wijeratne

Jasdeep Singh Degun (ganed 1991)

Arya: concerto i’r sitar a’r gerddorfa (2019)

1 Raag Jogkauns
2 Raag Gujri Todi
3 Raag Charukeshi

Jasdeep Singh Degunsitar

Y sitar, sy’n cynrychioli’r Arya – sy’n golygu ‘pendefigaidd’ neu ‘perlaidd’ yn Sansgrit – yw llais canolog y gwaith. Mae’r teitl hefyd yn chwarae ar y gair Eidalaidd ‘Aria’, sef alaw sy’n cael ei chanu gan un llais, gan adlewyrchu gayaki ang neu ‘arddull canu’ y sitar y cefais fy hyfforddi ynddo. Mae pob symudiad wedi’i gyfansoddi mewn taal neu ‘gylch amser’ clasurol Indiaidd gwahanol: Jhaptal, cylch 10 curiad; Teental, cylch 16 curiad; a Deepchandi, cylch 14 curiad.

Byddai’n hawdd disgrifio Arya fel cyfarfod rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin. Ond mae’r gwahaniaeth hwnnw yn wastad wedi teimlo braidd yn hen ffasiwn i mi. Ni chafodd y darn erioed ei ddychmygu fel ymgais i ddod â dau fyd cerddorol gwahanol at ei gilydd, ond yn hytrach fel adlewyrchiad o’r gerddoriaeth a’r iaith gerddorol sy’n dod yn naturiol i mi. Nid yw hynny’n golygu mai rhywbeth syml yw dod â’r ddau draddodiad hyn at ei gilydd. Mae’n cymryd amser ac ystyriaeth ofalus i ddod o hyd i ffyrdd lle gall eu systemau cerddorol gwahanol weithio gyda’i gilydd heb gyfaddawdu ar y naill na’r llall. Un o’r technegau a ddatblygais wrth ysgrifennu Arya oedd gosod rheolau a gramadeg raag clasurol Indiadd uwchben gwrthbwynt Gorllewinol, gan ganiatáu iaith harmonig gyfoethocach tra’n aros o fewn cymeriad y raag. Ers hynny, mae’r dull hwn wedi dod yn rhan bwysig o’m hiaith gerddorol fy hun. Arya oedd fy ymgais gyntaf i’w archwilio ar y raddfa hon, a gobeithio ei fod wedi gwneud cyfiawnder â hi.

Nodyn y rhaglen © Jasdeep Singh Degun

EGWYL: 15 munud

Raag Bageshri

Kaviraj Singhsantŵr/llais
Yarlinie Thanabalasingamllais
Gurdain Rayatttabla

Mae cerddoriaeth glasurol Indiaidd wedi’i gwreiddio mewn fframweithiau melodaidd a rhythmig raag a taal, wrth i gerddorion gyfansoddi a byrfyfyrio. Yn y perfformiad hwn, bydd y cantorion Kaviraj a Yarlinie yn canu i gyfeiliant y tabla, gan ddatblygu’r raag drwy gyfuniad o adrannau wedi’u cyfansoddi a cherddoriaeth fyrfyfyr.

Yn hytrach na dilyn sgôr sydd wedi’i chynllunio ymlaen llaw, mae llawer o’r gerddoriaeth yn tyfu yn y foment. Mae’r ddau gantor yn ymateb i’w gilydd, gan gyfnewid a datblygu syniadau melodaidd o fewn fframwaith y raag, tra bo’r tabla yn mynegi ac yn ymateb yn fyrfyfyr i’r taal o danodd. Mae’r cydbwysedd rhwng strwythurau cerddorol sefydledig ac ymyriadau mympwyol yn ganolog i gerddoriaeth glasurol Indiaidd, sy’n golygu nad oes fyth ddau berfformiad yr un fath.

Nodyn y rhaglen © Jasdeep Singh Degun

Philip Glass (ganed 1937)

Satyagraha (1980) – ‘Evening Song’

James Way tenor
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Satyagraha gan Philip Glass yn adrodd hanes Gandhi yn Ne Affrica rhwng 1893 a 1914, cyfnod pan ddatblygodd ef yr egwyddor a’r ymarfer satyagraha – ‘grym y gwir’ neu brotestio di-drais – a fyddai yn y pen draw yn rhyddhau India o reolaeth drefedigaethol Prydain. Mae ‘Evening Song’, sef aria Gandhi ar ddiwedd yr opera, wedi’i seilio’r noson cyn Ymdaith Newcastle, sef gorymdaith boblogaidd fawr gyntaf Gandhi cyn iddo adael y wlad ar ôl treulio 21 mlynedd yno. Roedd y weithred hon wedi braenaru’r tir i ddiddymu deddfwriaeth gamwahaniaethol y Ddeddf Cofrestru Asiaidd yn Ne Affrica. Fel gweddill yr opera, daw’r geiriau o Bhagavad-Gita (yn y Sansgrit gwreiddiol); yma mae’n gydnabyddiaeth o bresenoldeb Duw ar y ddaear ar ffurf cyfiawnder a gonestrwydd, sef egwyddorion a oedd yn sail i waith bywyd Gandhi ei hun.

Mae ail opera Glass, sef Satyagraha, wedi’i chyfansoddi yn ei arddull finimalaidd hawdd ei hadnabod, ond gyda ffocws mwy telynegol, llai llym na’i rhagflaenydd, Einstein on the Beach (1976). Mae ‘Evening Song’ wedi’i saernïo o amgylch alaw sy’n dod i’r amlwg bron yn ddamweiniol o’r olygfa flaenorol. Prin yn fwy na graddfa am i fyny, yn codi fel gweddi, mae’n bryfoclyd o syml ond eto’n bwerus tu hwnt: yn symbol addas o satyagraha ei hun.

Nodyn y rhaglen © Tim Rutherford-Johnson

Jasdeep Singh Degun

Orpheus (2022) – Act 3 (detholiad)

James Way tenor
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Cefais fy nghomisiynu gan Opera North a SAA-uk i gyfansoddi cerddoriaeth newydd ar gyfer Orpheus, ailddychmygiad o L’Orfeo Monteverdi sy’n dod â cherddoriaeth glasurol Indiaidd a cherddoriaeth Baróc orllewinol India i’r ddeialog. Yn y dyfyniad hwn o Act 3, mae Orpheus yn dod ar draws Charon, y cychwr sy’n gwrthod iddo fynd i mewn i’r Isfyd. Mae’r olygfa’n symud rhwng cerddoriaeth wreiddiol Monteverdi a’m deunydd newydd i gan arwain at gyfnewid byrfyfyr rhwng y ddau ganwr yn Raag Sindhi Bhairavi, wrth iddyn nhw ymateb i’w gilydd yn rhydd yn y foment.

Nodyn y rhaglen © Jasdeep Singh Degun


Jasdeep Singh Degun

Abbhā (2024)

Jasdeep Singh Degunsitar
Kaviraj Singhsantŵr
Gurdain Rayatt tabla

Mae Abbhā yn deyrnged i’r enwog Ustad Vilayat Khan, y mae ei gelfyddyd a’i ddyfeisgarwch yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion ledled y byd. Roedd yn athro i’m hathro innau, Ustad Dharambir Singh, ac mae ei etifeddiaeth yn hynod bwysig i’m taith gerddorol fy hun. Y teitl, Abbhā, yw’r enw annwyl a ddefnyddir gennym i gyfeirio at Ustad Vilayat Khan, sy’n golygu ‘tad’ neu ‘daid’.

Mae’r gwaith hwn wedi’i wreiddio yn Raga Gawati, sy’n cynnwys un o fandis teenatal Ustad Vilayat Khan (darn wedi’i rwymo gan y cylch teenatal 16 curiad) cyn symud i arddull fwy traddodiadol o chwarae sitar, wedi’i osod yn Tala Ektal. Drwy gydol y gwaith, mae’n ceisio pontio’r traddodiadol a’r cyfoes, gan adlewyrchu ymgais ddiffuant i anrhydeddu celf oesol Ustad Vilayat Khan wrth archwilio llwybrau creadigol newydd.

Yn ddiddorol, roedd Ustad Vilayat Khan yn aml yn ystyried bod archwiliadau traws-genre o’r fath yn wamal ac yn arwynebol, gan eu crynhoi â’r ymadrodd ‘drysu pethau yw cyfuno pethau’ (fusion is confusion). Er y gall y gwaith hwn herio confensiwn, mae’n ymdrechu i gadw cysylltiad dwfn â hanfod y ffurf gelfyddydol. Gobeithio ei fod yn adlewyrchu fy mharch at ei etifeddiaeth ef a’r llawenydd o weu traddodiadau cerddorol â’i gilydd.

Nodyn y rhaglen © Jasdeep Singh Degun

Jasdeep Singh Degun

Orpheus – Galargan

Kaviraj Singhsantŵr
Yarlinie Thanabalasingamllais

Mae Galargan yn drefniant o un o’r darnau o’m opera Orpheus. Yn Orpheus, lleisiau clasurol Indiaidd oedd yn canu’r darn yn wreiddiol gydag ensemble Indiaidd clasurol a Baróc – yn galarnadu am y prif gymeriad Eurydice. Roedd y darn yn ymddangos ar ddiwedd Act 2, cyn yr egwyl.

Mae Galargan yn seiliedig ar raga Indiaidd clasurol o’r enw Sindhi Bhairavi, ac wedi’i osod i taal, neu gylch amser, rhythmig 8 curiad a elwir yn Keherva. Mae arddull y raga Sindhi Bhairavi yn addas iawn i gyfleu emosiwn dwys, sy’n esbonio pam ei fod mor boblogaidd pan gaiff ei ganu/chwarae mewn arddulliau lled-glasurol fel ghazal neu thumri.

Cyfieithwyd y libretto o’r Eidaleg wreiddiol i Hindi gan Ustad Dharambir Singh a Shahbaz Hussain.

Nodyn y rhaglen © Jasdeep Singh Degun


Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

BBC NOW: NOW!

Nos Iau 26/11/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

HK Gruber Straeon byrion o Goedwig Vienna première DU
Stanley Bate Concerto i’r Fiola première DU
Steven Mackey Concerto for Curved Space première DU

Simon Crawford-Phillipsarweinydd
Lawrence Powerfiola

CANFOD | MOMENTWM | MYNEGIANT

Dyma raglen feiddgar, lawn dychymyg dan arweiniad Simon Crawford-Phillips, gyda thri premiere yn y DU. Bydd HK Gruber yn agor gyda Short Stories, Lawrence Power fydd yn perfformio Concerto newydd Stanley Bate i’r Fiola, a daw’r cyngerdd i ben yn wefreiddiol gyda’r Concerto for Curved Space gan Steven Mackey. 

Sain Amgylchol BBC NOW

Nos Fercher 19/5/27, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Steve Reich Duet for Two Violins and Strings
Daphne Oram Deunydd archifol o weithdy’r BBC Radiophonic
Terry Riley In C

Daniel Pioro chwaraewr/gyfarwyddwr

PERLESMAIR | YMSYMUD | YMBRESENOLI

Dydy sain byth yn aros yn llonydd yn y perfformiad ymdrochol hwn. Wedi’i greu gan y feiolinydd Daniel Pioro, gwahoddir y gwrandawyr i symud yn rhwydd drwy’r neuadd gyngerdd – i gerdded, newid seddi neu eistedd ymysg y cerddorion wrth i’r gerddoriaeth ddatblygu. O batrymau mesmereiddiol o newidiol Reich i fyd archwiladol o sŵn Daphne Oram ac In C amrywiol Riley, gall y gwrandawyr symud yn rhwydd drwy gerddoriaeth sy’n cael ei theimlo yn gymaint â’i chlywed.

Bywgraffiadau

Jasdeep Singh Deguncyfansoddwr/sitar

Mae Jasdeep Singh Degun yn chwareawr sitar, cyfansoddwr, trefnydd a pherfformiwr byrfyfyr arobryn, sy’n enwog am ei sgiliau a’i greadigrwydd. Ac yntau’n unawdydd penigamp ac yn artist cydweithredol, mae’r meistr cerddorol hwn a aned yn Leeds yn ail-lunio’r dirwedd gerddorol gyda’i allu i gyfuno cerddoriaeth glasurol Indiaidd â dylanwadau cyfoes. 

Mae’n Artist Preswyl yng Nghanolfan y Barbican y tymor hwn. Yng Ngŵyl Darbar, bydd yn cyflwyno premiere byd o’i goncerto newydd i’r sitar gyda Symffoni’r BBC a Kirill Karabits, yn ogystal â pherfformiad cyngerdd o’i opera enwog Orpheus gydag Opera North. Mae’r perfformiad o’r opera yn rhan o daith ledled y DU. Uchafbwyntiau eraill y tymor fydd prosiect siambr gyda cherddorion o Gerddorfa Symffoni Dinas Birmingham a datganiadau yn Neuadd Wigmore, Neuadd Djangoly Nottingham, Gŵyl Gerddoriaeth Caergrawnt a Choleg St John’s, Rhydychen.  

Yn ddiweddar, mae wedi perfformio am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Tampere a Cherddorfa Chineke!, yn ogystal â pherfformiadau gyda Geneva Camerata, Cerddorfa Fantasia, Ensemble yr Alban. Roedd pob un o’r ymddangosiadau hyn yn cynnwys perfformio ei gyfansoddiadau ei hun ar gyfer sitar a cherddorfa. Mae hefyd wedi cael dau gomisiwn gan y BBC: gwaith ar gyfer Cerddorfa Ffilharmonig y BBC a chyfansoddiad newydd ar gyfer Cerddorfa Gyngerdd y BBC. Mae hefyd wedi cael y pleser o berfformio mewn neuaddau enwog fel Kings Place, Canolfan y Southbank, Upstairs at Ronnie Scott’s, Abaty Westminster, Gŵyl WOMAD a Neuadd Frenhinol Nottingham.  

Jasdeep Singh Degun oedd wedi cyfansoddi ac arwain y perfformiadau cyntaf erioed o Orpheus ac yntau’n Artist Preswyl gydag Opera North yn 2022. O ganlyniad, cafodd glod arbennig ac anrhydeddau niferus, gan gynnwys Gwobr Cyflawniad Eithriadol mewn Opera y Critics’ Circle a’r Cynhyrchiad Llwyfan Gorau yng Ngwobrau Cyfryngau Asia. Yn 2023, enillodd Wobr Celf a Diwylliant yr Asian Achievers a’r Newydd-ddyfodiad Gorau yng Ngwobrau Songlines. Yn 2024, ef oedd y chwaraewr sitar a’r cerddor Asiaidd Prydeinig cyntaf i ennill Gwobr Offerynnwr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol. 

Dan law Ustad Dharambir Singh, mireiniodd Degun ei sgiliau mewn gayaki ang, sef arddull delynegol o chwarae sitar sy’n efelychu’r llais dynol. Mae ei albwm cyntaf Anomaly, a recordiwyd gyda Nitin Sawhney ac a ryddhawyd yn 2022, yn arddangos ei ddawn o roi’r sitar mewn cyd-destunau modern gan anrhydeddu gwreiddiau clasurol yr offeryn ar yr un pryd. Y llynedd rhyddhaodd ei ail albwm a’i albwm clasurol Indiaidd cyntaf, Jogkauns, wedi’i recordio gyda’r chwaraewr tabla Harkiret Bahra. 

Wrth berfformio ar y llwyfan operatig, yn y stiwdio, neu mewn neuaddau cyngerdd ym mhedwar ban byd, mae gwaith Jasdeep Singh Degun yn parhau i wthio ffiniau’r ffurf gerddorol, gan arddangos ymrwymiad parhaus i waith arloesol ar draws amrywiaeth o dirweddau cerddorol.

Clark Rundell arweinydd

Gyda’i repertoire sy’n croesi’r canrifoedd, cyfandiroedd ac arddulliau, mae Clark Rundell wedi’i sefydlu ei hun yn hyrwyddwr cerddoriaeth o’r 18fed ganrif hyd heddiw, o jazz i kora ac o’r tango i foderniaeth Ewropeaidd.

Mae wedi perfformio’n ddiweddar neu bydd yn perfformio cyn bo hir am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Ffilharmonig Brwsel, Royal Liège a Tokyo, Cerddorfa Genedlaethol Gwlad Belg, Cerddorfeydd symffoni Barcelona, Boston ac Oregon, Klangforum Wien, Cerddorfa Gulbenkian, Lisbon, SWR-Sinfonieorchester Baden-Baden a Cherddorfa NDR Hannover. Mae’n gweithio’n rheolaidd gyda holl gerddorfeydd y BBC, Britten Sinfonia, Royal Liverpool Philharmonic, Royal Northern Sinfonia, Ensemble 10/10 ac Asko | Schönberg.

Ymhlith ei premieres opera, mae Clemency gan Sir James MacMillan yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden, Voices & Votes Orlando Gough yng Ngŵyl Bergen, The Light of Lesser Days Oscar Bettison yn yr Iseldiroedd ac Iphigenia gan Wayne Shorter ac Esperanza Spalding yn Boston ac yn y Kennedy Centre, Washington, D.C.

Yn y neuadd gyngerdd hefyd mae wedi cyflwyno premieres byd o ddarnau gan gyfansoddwyr fel Louis Andriessen, Steve Reich, Mark-Anthony Turnage, Django Bates, Richard Rodney Bennett, Gary Carpenter, Trish Clowes, Tansy Davies, Tim Garland, Adam Gorb, David Horne, Julian Joseph, Steve Mackey, Steve Martland, Grace Evangeline Mason, Brad Mehldau, Martijn Padding, Gwilym Simcock, Joey Roukens a Julia Wolfe.

Fel trefnydd, cydweithiodd ag Andriessen ar gyfres o’i opera Rosa, dan y teitl Rosa’s Horses, gyda’r premiere yn y Royal Concertgebouw, Amsterdam. Cydweithiodd y ddau hefyd ar Vermeer Pictures, cyfres o’r opera Writing to Vermeer gan Andriessen. Ar hyn o bryd mae Clark Rundell yn gweithio ar gyfresi eraill o operâu mwy diweddar Andriessen.

Mae wedi arwain prosiectau cerddorfaol uchel eu bri gydag artistiaid fel Elvis Costello, the Wayne Shorter Quartet, Esperanza Spalding, Toumani Diabate, Brad Mehldau, Tim Garland, Trish Clowes, Julian Joseph, Abel Selaocoe, Gwilym Simcock a Pablo Ziegler. Ac yntau’n gerddor amryddawn, mae hefyd wedi perfformio gydag artistiaid fel John Dankworth, Bob Brookmeyer, Victor Mendoza, Guy Barker, Julian Argüelles, Ed Thigpen, Cleo Laine, Andy Sheppard, Lew Tabakin a Michael Gibbs.

Mae’n frwd dros weithio gyda phobl ifanc ac mae’n Athro ar Arwain yn y Royal Northern College of Music ym Manceinion ac mae ganddo berthynas agos iawn ag Academi Gerddorfaol yr Iseldiroedd.

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn cynnwys dros 120 o gantorion, ac mae’n un o brif gorau symffoni cymysg y DU. Er bod ganddo statws côr amatur, mae’n gweithio yn ôl y safonau proffesiynol uchaf dan ofal Adrian Partington, y Cyfarwyddwr Artistig.

Mae’r corws yn cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Mae wedi'i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, ac mae’n gweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ac yn cynnal cyngherddau’n annibynnol.

Mae uchafbwyntiau diweddar y côr yn cynnwys perfformio Symffoni Salmau Stravinsky dan arweiniad Ryan Bancroft, A German Requiem gan Brahms yn Eglwys Gadeiriol drawiadol Tyddewi, a Gloria gan Poulenc dan arweiniad MichałNesterowicz, gyda Sophie Bevan.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC wedi ymrwymo i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig a cherddoriaeth gyfoes, a nhw a roddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis gan Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl y perfformiad cyntaf. Fe recordiwyd y darn hwn ar gyfer cryno ddisg a gafodd ei ryddhau yn ystod gwanwyn 2025. Ar ben hyn, mae’r Corws wedi rhoi’r perfformiad cyntaf o weithiau gan lawer o gyfansoddwyr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out gan Kate Whitley, sef gosodiad o eiriau Malala Yousafzai o’i Haraith i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac fe ymddangosodd yn ddiweddar ar drac sain y rhaglen Wonders of the Celtic Deep ar BBC Cymru Wales.

 Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngerdd i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Paul Mealo

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Soprano
Ella Edwards Beavington
Amelia Beecroft
Kate Bidwell
Eleanor Cantrill
Eve Carey
Logan Clark
Katie Cross
Penelope George
Olivia Ghanem
Sarah Jane Griffiths
Claire Hardy
Rhiannon Humphreys
Victoria Illsley
Frankie Ingall
Delyth Jewell
Vanessa John-Hall
Lucie Jones
Margaret Lake
Bethan Nicholas-Thomas
Joanna Osborn
Hannah Robertson
Melanie Taylor
Helen Thomas
Lydia Wilson

Alto
Yasmin Browne
Alex Butler
Alison Davies
Catherine Duffy
Elouise Frost
Annette Hecht
Naomi Hitchings
Eleri Hurley
Max Keith
Avery Rabbitt
Sian Schutz
Abigail Shepherd
Zozi Sookanadenchetty
Yirui Wang
Vicki Westwell
Julie Wilcox

Tenor
Jacob Bussell
Keith Davies
Roland George
Andrew Lunn
Rory McIver
Richard Shearman
Ethan  Stockham
Nick Willmott

Bas
Noah Boneham-Hill
David John Davies
Ethan Davies
Lyndon Davies
James Downs
David Hutchings
Jack Irwin
Mike Osborn
Joseph Pitkethly
Neil Schofield
Will Walshe-Grey

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ffidlau Cyntaf
Róisín Verity blaenwr gwadd
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Ruth Heney **
Carmel Barber
Anna Cleworth
Zhivko Georgiev
Laura Senior
Eduarda Prata
Elena Abad

Ail Ffidlau
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Vickie Ringguth
Michael Topping
Katherine Miller
Joseph Williams
Beverley Wescott
Laurence Kempton
Anna Szabo

Fiolâu
Rebecca Jones *
Peter Taylor
Mungo Everett-Jordan
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Anna Growns
Mark Coates-Smith

Soddgrythau
Sébastien van Kuijk ‡ 
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Keith Hewitt

Basau Dwbl
Alexander Jones #
Marianne Schofield
Emma Prince
Annabel Beniston

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Polly Bartlett ‡ 
Sam Baxter
Amy McKean

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White †
Lenny Sayers
Eleanor Kershaw

Clarinét Bas
Lenny Sayers † ** +

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Daniel Curzon ‡ 
Meilyr Hughes

Utgyrn
Phillipe Schartz *
Robert Samuel

Trombôn
Donal Bannister *

Timpani
Daniel Gonzalez-Esteves

Offrynnau Taro
Andrea Porter

Y Delyn
Elen Hydref Wright

Piano/Selesta/Organ
Gregory Drott

* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall +
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Llyfrgellydd y Gerddorfa Jenny Dobinson (cyfnod mamolaeth)
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Cynhyrchydd Rebecca Bean (cyfnod mamolaeth)
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Uwch Oruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Cynhyrchydd AddysgApril Heade (cyfnod mamolaeth)
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cydlynydd Marchnata Twf Angharad Muir–Davies
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Prentis Marchnata Mya Clayden
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications