Romeo a Juliet

Nos Wener 6/11/26, 7.30pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Claude Debussy
Prélude à L’après-midi d’un faune 10’

Paul Mealor
Concertoi’rEwffoniwm 15’

Théodore Akimenko
Angel (Poème-Nocturne ar ôl Lermontov) 11’

EGWYL: 20 munud

Sergey Prokofiev
Romeo a Juliet – detholiadau 47’

Martyn Brabbinsarweinydd
David Childs ewffoniwm

Mae’r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3, i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Radio 3 in Concert a bydd ar gael am 30 diwrnod drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Croeso

Heno, bydd un o gydweithredwyr artistig hirdymor BBC NOW, Martyn Brabbins, yn ymuno â ni ar gyfer rhaglen sy’n cyfuno campweithiau poblogaidd â pherlau cerddorfaol llai adnabyddus. Llenyddiaeth ac adrodd straeon yw’r llinyn sy’n rhedeg drwy’r cyngerdd hwn, gyda cherddoriaeth sy’n adrodd straeon rhyfeddol mewn sain.

Mae’r Prélude à l’après-midi d’un faune, y gellir ei adnabod ar unwaith, gan Debussy ac a ysbrydolwyd gan gerdd Stéphane Mallarmé, yn creu byd rhwng breuddwydion a realiti, lle mae hiraeth yn disgleirio ychydig y tu hwnt i gyrraedd. Mae Concerto Paul Mealor i’r Ewffoniwm wedi cael ei ysbrydoli gan stori Aeleg am gariad coll, ac mae gwaith y cyfansoddwr llai adnabyddus o Wcráin, Angel gan ThéodoreAkimenko, yn fyfyrdod cywrain sydd wedi cael ei siapio gan farddoniaeth, ysbrydolrwydd a hiraeth am adref.

Mae stori Shakespeare am Romeo a Juliet yn parhau i fod yn un o’r portreadau mwyaf oesol o gariad yn ei holl gymhlethdod. Yn nwylo Prokofiev, daw’r stori’n gampwaith o adrodd straeon dramatig. Yn fwyaf adnabyddus i lawer o bobl ar ôl i un o’i themâu gael ei fenthyg ar gyfer prif gerddoriaeth rhaglen The Apprentice, heno, byddwch yn clywed y darn hwnnw ochr yn ochr â detholiad o olygfeydd eraill a ddewiswyd gan Martyn Brabbins o un o sgorau bale gorau’r 20fed ganrif.

George Lee
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Claude Debussy (1862–1918)

Prélude à l’après-midi d’un faune(1891–4)

Yn ôl y cyfansoddwr a’r arweinydd Pierre Boulez, cafodd dechrau cerddoriaeth fodern ei ddiffinio gan y perfformiad cyntaf o Prélude à l’après-midi d’un faune (‘Preliwd i Brynhawn Ffawn’) gan Debussy ar 22 Rhagfyr 1894 yn y Société National ym Mharis. Roedd syniadau cerddorol chwyldroadol newydd y gwaith yn deillio o’r unawd ffliwt hiraethus sy’n agor, ac yn diffinio, y gerdd symffonig gerddorfaol hudolus hon. Yn amddifad o unrhyw ymdeimlad clir o ‘gywair’ am ychydig, mae’r thema hudolus ar y ffliwt yn amlinellu’r trithon – sef y mwyaf arallfydol o gyfyngau melodaidd – ac yn hongian, yn arnofio yn yr awyr cyn cael ei ateb gan gord wedi ei addurno gan delynau ysgafn a chyrn yn ochneidio sydd yn ymestyn yr amwysedd harmonig ymhellach, gan ymdoddi’n dawel. Gan hynny, mae Debussy yn ein tynnu i fyd sy’n rhydd o strwythurau harmonig confensiynol, lle mae cerddoriaeth yn dod yn llif di-dor o soniaredd tawel, sy’n newid drwy’r amser – y ffordd berffaith y gwireddwyd maniffesto esthetig Verlaine yn ei gerdd L’art poétique (1874), a ddatganodd: ‘Cerddoriaeth o flaen popeth … mwy amwys ac ystwyth yn yr awyr heb unrhyw beth cadarn na thrwm.’ 

Er bod Debussy yn aml yn cael ei drafod o ran Argraffiadaeth, mewn gwirionedd roedd ganddo gysylltiad agosach â’r Symbolyddion llenyddol, yn enwedig yn ystod ei gyfnod cynnar wrth gyfansoddi’r Prélude. Cafodd y gwaith hwn ei ysbrydoli’n uniongyrchol gan gerdd Mallarmé, L’après-midi d’un faune (1876), sy’n disgrifio dyhead cnawdol ffawn dirgel (hanner dyn, hanner gafr) mewn monolog breuddwydiol o 110 llinell sy’n cyfateb yn union i 110 bar cerddoriaeth Debussy. Gan sefydlu palet cerddorfaol Ffrengig yn ei hanfod, mae cynildeb y lliwiadau offerynnol a harmonig yma ymhlith rhai mwyaf synhwyrus Debussy. 

Er bod yr unawd ffliwt yn symbol o’r ffawn yn arddull Pan, y duw Groegaidd sy’n chwarae’r ffliwt, mae unawdau eraill ar chwythbrennau yn asio’r llinellau melodaidd dros garpedi sain y llinynnau tawel lle mae’r telynau’n ychwanegu at y cyseiniant. Ac eto, mae’r syniadau sy’n ymddangos yn rhydd yn cuddio ffurf bwa arloesol y gwaith sydd wedi ei strwythuro’n ofalus, sydd hefyd yn ymgorffori cyfrannau’r Adran Aur – syniad a fenthycwyd gan y Symbolyddion. Mae lliwiau Debussy ar eu mwyaf hudolus yn eiliadau olaf y gwaith, lle clywir atsain o’r thema agoriadol ar gyrn tawel wedi eu hategu gan ffidlau gyda harmonigau telyn sy’n canu’n ysgafn a symbalau hynafol. 

Ar ôl gwefreiddio pobl ar ei berfformiad cerddorfaol cyntaf, mae’r Prélude à l’après-midi d’un faune wedi parhau i fod yn un o weithiau mwyaf poblogaidd Debussy. Gyda choreograffi gan Vaslav Nijinsky ar gyfer Ballet Russes Serge Diaghilev ym 1912 a dyluniadau moethus gan yr arlunydd Léon Bakst, achosodd y fersiwn bale sgandal oherwydd bod yr is-destun erotig yn cuddio o dan ffasâd hynafiaeth Groeg. 

Nodyn y rhaglen © Caroline Rae

Paul Mealor (ganwyd 1975)

Concerto i’r Ewffoniwm (2017)

David Childsewffoniwm

Ysgrifennais fy Nghoncerto i’r Ewffoniwm ar gyfer David Childs, cerddor y mae ei feistrolaeth eithriadol ar yr offeryn wedi gwneud cymaint i’w sefydlu fel llais concerto o ddifri. Wrth ysgrifennu ar gyfer David, roeddwn i’n gwybod y gallwn archwilio nid yn unig harddwch telynegol mawr yr ewffoniwm, ond hefyd union gyfyngiadau ei bosibiliadau technegol. Rhoddodd ei dechneg hynod ryddid enfawr i mi fel cyfansoddwr: Roeddwn i’n gallu ysgrifennu cerddoriaeth o ystwythder, amrywiaeth a meistrolaeth eithafol, gan wybod y byddai’r llinell gerddorol a’r pwrpas mynegiannol bob amser yn parhau i fod wrth ei chalon.

Daw’r ysbrydoliaeth ar gyfer y concerto, fodd bynnag, o rywbeth llawer hŷn a mwy personol ei gymeriad: y gân Aeleg o’r Alban Fear a’ Bhàta (‘Y Cychwr’). Roedd ei halaw ac, yn bwysicach, y stori y tu ôl iddi yn fan cychwyn emosiynol ar gyfer y gwaith cyfan.

Mae Fear a’ Bhàta yn sôn am fenyw y mae ei chariad yn bysgotwr. Mae hi’n mynd gydag ef i’r lan ac yn gwylio wrth iddo fynd allan i’r môr, ond nid yw byth yn dychwelyd. Ddydd ar ôl dydd mae hi’n dod yn ôl at y dŵr ac yn canu iddo, gan aros a gobeithio am ateb nad yw byth yn dod. Mae’r pennill olaf, a osodais ar frig y sgôr, yn cyflwyno delwedd o unigrwydd dwys: mae’r fenyw a adawyd yn cymharu ei hun ag alarch gwyn wedi ei anafu, gan alw allan ar draws llyn bach ond heb gael ateb.

Y syniad hwn o alw i’r pellter – cariad, absenoldeb, cof a chân heb ei hateb – sydd y tu ôl i’r concerto. Felly, mae’r agoriad yn dod i’r amlwg bron fel pe bai’n dod o dirwedd bell. Nid dyfyniad neu ddarn o addurn gwerin yn unig yw’r alaw Albanaidd; i mi, dyma DNA emosiynol y gwaith. Mae’r ewffoniwm yn dod yn fath o lais heb eiriau, gan ganu’r galarnad a chario’r naratif. Roedd ei gynhesrwydd a’i ansawdd dynol eithriadol yn ymddangos yn gwbl addas ar gyfer y rôl hon. Ar gefndir cerddorfaol tywyll a pharhaus, mae’r unawdydd yn canu gydag ymdeimlad o unigrwydd a hiraeth, ac mae darnau a siapiau o’r gân wedyn yn dod o hyd i’w ffordd i weddill y concerto.

Mae’r gwaith yn cael ei gyflwyno fel un symudiad parhaus, er ei fod yn cynnwys pedair pennod sy’n cyferbynnu’n gryf. O lonyddwch a chymeriad galarus yr agoriad, mae’r gerddoriaeth yn datblygu egni yn sydyn. Mae’r ail adran yn Allegro con brio, lle mae syniadau sy’n deillio o’r gân yn cael eu trawsnewid yn addurniadau cyflym sy’n cael eu cyfnewid rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa. Yma roeddwn eisiau datgelu personoliaeth gwbl wahanol yr ewffoniwm. Mae llais canu’r agoriad yn dod yn fwyfwy athletaidd ac anwadal, gan ddringo i mewn i gywair uchaf yr offeryn sy’n gofyn am gryn hyblygrwydd, mynegiant a stamina.

Ysgrifennwyd hwn gyda David mewn golwg, yn sicr. Pan fydd rhywun yn ysgrifennu ar gyfer chwaraewr sydd â'i ddawn eithriadol ef, mae ffiniau technegol arferol offeryn yn mynd yn llawer llai cyfyngol. Roeddwn i eisiau manteisio ar y rhyddid hwnnw – adrannau llanw cyflym, eithafion cywair, llamau mawr a newidiadau sydyn mewn cymeriad – ond nid er mwyn meistrolaeth yn unig. Mae’r gwaith ysgrifennu technegol yn deillio o’r un deunydd â’r galarnadu: mae galar a hiraeth wedi mynd yn aflonydd – yn wyllt, hyd yn oed.

Mae’r drydedd adran yn mynd â ni’n ôl i fyd llawer arafach a mwy mewnblyg. Mae deunydd a oedd yn arfer rhedeg a neidio drwy’r offeryn yn cael ei drawsnewid yn fath arall o gân. Mae’r ewffoniwm unwaith eto’n dod yn llais dynol, ond mae’r gerddoriaeth wedi cael ei newid gan yr hyn sydd wedi digwydd o’r blaen. Mae hyn yn tyfu’r cadenza, lle mae’r unawdydd yn cael y rhyddid mwyaf a lle gall cyfuniad eithriadol David o feistrolaeth dechnegol a dwyster mynegiannol ddod i’r amlwg yn llawn.

O’r cadenza, mae’r gerddoriaeth yn ymbaratoi ar gyfer yr Allegro con spirito a’r Allegro vivace olaf. Yma, mae’r gofynion technegol yn dod yn fwyfwy cyffrous. Mae'r unawdydd a’r gerddorfa yn gyrru ei gilydd ymlaen, a gofynnir i’r ewffoniwm arddangos amrediad llawn ei gymeriad: telynegol a phwerus, hyblyg a disglair, sy’n gallu bod yn dyner ond hefyd yn hynod fedrus.

Ac eto, nid taith tuag at anobaith yw taith y concerto yn y pen draw. Er mai Fear a’ Bhàta a ddarparodd wreichionen gychwynnol y gwaith a bod ei ddelwedd ganolog yn un am golled, nid oeddwn am i’r concerto aros mewn tywyllwch. Mae’r gerddoriaeth yn symud o dywyllwch tuag at oleuni. Mae’r alarnad yn cael ei thrawsnewid; yn y pen draw mae’r llais unig a glywir ar y dechrau yn canfod egni, symudiad a chadarnhad.

I mi, mae’r trawsnewid hwnnw’n bwysig. Efallai fod y stori’n dechrau gyda llais yn galw ar draws y dŵr ac yn clywed dim byd yn ôl, ond mae’r concerto ei hun yn ceisio rhywbeth y tu hwnt i’r tawelwch hwnnw.

Mae gobaith bob amser yn aros.

Nodyn y rhaglen © Paul Mealor

Théodore Akimenko (1876–1945)

Angel (Poème-Nocturne ar ôl Lermontov) (tua 1915–22)

Fel gyda llawer o weithiau Akimenko, ychydig a wyddwn am yr amgylchiadau y tu ôl i gyfansoddi ei gathl symffonig fer, Angel. Mae’n bosibl iddo ddechrau ym 1915 pan oedd y cyfansoddwr yn byw ym Mharis. Cafodd ei berfformio am y tro cyntaf ym mis Mawrth 1922 yn Petrograd (St Petersburg erbyn hyn), dan arweiniad y cyfansoddwr. Fe’i diwygiwyd gan Akimenko i’w gyhoeddi ym 1924, a’i gyflwyno i’w gyhoeddwr, Émile-Alphonse Leduc. Cyhoeddwyd Angel fel rhan o gyfres ‘Modern Russian School’ Leduc, ac mae’n rhaid bod Leduc wedi ei hyrwyddo’n gydwybodol, gan iddo gael ei berfformio am y tro cyntaf ym Mhrydain yn nhymor Proms 1926, ar 17 Awst, gyda Henry Wood yn arwain Cerddorfa Newydd Neuadd y Frenhines.

Mae’r cliw am ddechreuad Angel yn gliriach, sydd i’w weld yn ei isdeitl, Poème-Nocturne ar ôl Lermontov, gan ei fod yn cyfeirio at y gerdd eponymaidd a ysgrifennwyd ym 1831 gan fardd mawr Rwsiaidd y cyfnod Rhamantaidd, Mikhail Lermontov (1814–41). Mae’r bardd yn dychmygu angel yn canmol purdeb nefoedd Duw, wrth iddo gludo enaid plentyn i ddechrau ei fodolaeth ddynol gyda holl fwrlwm bywyd. 

Mae Angel wedi’i siapio ar ffurf bwa, gyda’i syniadau thematig yn deillio o gymal sy’n disgyn yn araf ar y ffidlau a’r oboau ar y dechrau, ac yna’n cael eu hehangu gan glarinét, sy’n dwyn i gof yn berffaith y sêr nosol yn disgleirio a’r ddelwedd o’r angel yn hofran gyda’r enaid ifanc sydd ar fin cael ei eni. Yn agos at y diwedd, yn hudolus iawn, mae Akimenko yn cyflwyno naws soniarus newydd, y piano, sy’n symbolaidd o bosibl o ddiniweidrwydd a genedigaeth. 

Nodyn y rhaglen © Andrew Burn

EGWYL: 20 munud

Sergey Prokofiev (1891–1953)

Romeo a Juliet, Op. 64 (1935–6) – detholiadau

Y Montagues a’r Capulets (Cyfres rhif 2/1)
Juliet y Ferch Ifanc (Cyfres rhif 2/2)
Minwét (Cyfres rhif 1/4)
Mygydau (Cyfres rhif 1/5)
Dawns (Cyfres rhif 2/4)
Y Brawd Laurence (Cyfres rhif 2/3)
Romeo a Juliet cyn gwahanu (Cyfres rhif 2/5)
Dawns Werin (Cyfres rhif 1/1)
Dawns Foreol (Cyfres rhif 3/2)
Marwolaeth Tybalt (Cyfres rhif 1/7)
Romeo wrth Feddrod Juliet (Cyfres rhif 2/7)
Marwolaeth Juliet (Cyfres rhif 3/6)

Roedd Prokofiev ei hun yn nodi bod pedair ‘llinell sylfaenol’ yn ei waith: clasurol, modern, moduraidd a thelynegol. A gafodd y gwrthdaro yn ei waith ei ddatrys gan y ffaith ei fod wedi closio at yr Undeb Sofietaidd, rhywbeth sy’n dal yn anesboniadwy yn ôl rhai pobl? Ym Moscow aeth bywyd teuluol y cyfansoddwr ar chwâl, gan arwain at ganlyniadau trychinebus i’w ddibynyddion. A, gyda chymheiriaid artistig a galluogwyr biwrocrataidd yn tueddu i ddiflannu heb rybudd wrth i’r Teyrnasiad fynd rhagddo, nid oedd pryderu ynghylch ymateb Stalin i Shakespeare en pointe yn flaenoriaeth gan Prokofiev. Ond eto, yr hyn mae Romeo a Juliet yn ei awgrymu yn y pen draw yw y gellir cyfansoddi cerddoriaeth dan amodau gorfodaeth ideolegol. Mater arall oedd llwyfannu’r perfformiad.

Roedd hi'n 11 Ionawr 1940 pan ddadorchuddiwyd cynhyrchiad Sofietaidd hirddisgwyliedig Leonid Lavrovsky yn Leningrad. Rhoddwyd y première byd yn Brno, Tsiecoslofacia, ym mis Rhagfyr 1938, a barodd anesmwythyd sylweddol i’r awdurdodau gartref. Roedd Prokofiev eisoes wedi ailwampio’r gerddoriaeth i greu dwy gyfres gerddorfaol ym 1936 ac wedi creu cyfres o drawsgrifiadau ar gyfer piano ym 1937. Dilynodd y drydedd gyfres gerddorfaol ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hyn, roedd Prokofiev yn cefnogi ei wraig a’i blant a oedd wedi ymddieithrio, yn ogystal â’i bartner newydd, Mira Mendelson.

Heb fod yn fodlon â thanlinellu pasiant egsotig o gyfnod y Dadeni, roedd Prokofiev wedi llenwi ei ben â’i gronfa ddihysbydd o alawon ‘baletig’ gydag ymgysylltiad ‘sinematig’ ag emosiwn craidd. Un peth dadleuol a wnaeth oedd rhoi ‘diweddglo hapus’, gwahanol i un Shakespeare, i’r gwaith gwreiddiol, a’r rheswm dros hynny yn ôl y cyfansoddwr yn ddiweddarach oedd: ‘gall pobl sy’n fyw ddawnsio, ond ni all y meirw’. Mae rhai sylwebwyr yn honni bod y cynllwyn hwnnw yn ymwneud â chyswllt Prokofiev â Gwyddoniaeth Gristnogol ar ôl 1924, a oedd yn dysgu mai rhithiau yn unig yw dioddefaint, drwg a marwolaeth, hyd yn oed. Felly, gallai cymeriadau Shakespeare symud ymlaen i fywyd newydd, a chael eu rhyddhau o realiti ffug eu bodolaeth faterol. Yr hyn sy’n anhygoel yw bod Prokofiev wedi llwyddo i gymhwyso ei gredoau ei hun, beth bynnag oedd eu natur benodol, i syniad y Kremlin o realaeth sosialaidd mewn cynyrchiadau diwylliannol. Yn eu ffyrdd hynod wahanol, gellid dehongli’r ddwy system gred fel ceisio cyrraedd ffurf uwch o brofiad dynol. Ym mlynyddoedd gwaethaf Teyrnasiad Stalin, roedd y realiti o ddydd i ddydd yn rhy ddidrugaredd i’w amgyffred, o bosibl. Gyda chydweithwyr y cyfansoddwr yn dueddol o ddiflannu dros nos, gwaith oedd yr unig achubiaeth.

O ystyried dull ‘torri a gludo’ ysbrydoledig Prokofiev o gyfansoddi, mae ei gerddoriaeth yn fwy tragwyddol yn llythrennol na’r rhan fwyaf o gyfansoddwyr. Mae’r deunydd mae’n ei ddefnyddio i animeiddio hanes cyfarwydd y Montagues a’r Capulets yn dyddio’n ôl i gyfnod cyn Romeo a Juliet, ac yn sicr cyn rhaglen The Apprentice. Cafodd Prokofiev y syniad cerddorol ym 1930 yn ystod ei ymgais ofer i ail ysgrifennu ei opera, The Fiery Angel. (Yn debyg iawn i hynny, deunydd â seiniau ragtime o’r diweddglo i Romeo a Juliet a gafodd ei hepgor sy’n dechrau ail symudiad y Bumed Symffoni.)

Drwy ryw alcemi athrylithgar anesboniadwy, mae’r darnau’n dod at ei gilydd i ffurfio naratif â naws bale sy’n fwy grymus nag unrhyw un arall yn y repertoire ôl-Tchaikovsky. Mae’r gerddoriaeth y dywedwyd ‘nad oedd modd dawnsio iddi’ wedi cipio calonnau pobl ar draws y byd, drwy gyflawni hynny’n union. Mewn cyngherddau, mae arweinwyr fel arfer yn gwneud eu detholiad eu hunain i gadw’r hyrddiad hwn sydd bron yn ffilmaidd, boed hynny drwy ddefnyddio rhifau sy’n cael eu difa’n uniongyrchol o’r bale neu ddewis (fel heno) ar gyfer dangosiadau sydd weithiau wedi eu sgorio’n fwy gofalus o’r un deunydd a gyflwynir yn y cyfresi. Yma, mae gofynion y plot a’r angen i gyflenwi darnau dawns effeithiol yn golygu bod mwy o le i ymestyn yr astudiaethau o’r cymeriadau i gyfleu naws drasig y stori.

Cyflwynir y Montagues a’r Capulets ymrysongar gan apêl pwerus – ond ofer yn y pen draw – Tywysog Verona am heddwch a threfn, sef cyfres o gordiau grymus sy’n gosod y cyd-destun ar gyfer y drasiedi sydd i ddod. Mae thema enwog milwyr y ddau deulu’n gorymdeithio yn cael ei gwrthgyferbynnu gan unawd ffliwt yn cyfleu Juliet (Capulet) wrth iddi ddod i’r llwyfan gyda Paris, y gŵr mae ei rhieni am iddi ei briodi. Yn y cyfamser, mae Romeo yn cael ei gipolwg cyntaf arni. Mae tair alaw hyfryd yn cael eu cyflwyno i ‘Juliet y Ferch Ifanc’ yn y llun cyn dawns teulu Capulet. I ddechrau, mae’r gerddoriaeth yn fywiog ac yn wyllt, ac mae’n ysgogi emosiynau aeddfed wrth i Juliet weld ei hun mewn drych. Mae ei thema ffliwt yn fregus ac yn dyner, ac mae brawddeg gan y soddgrwth fel petai’n awgrymu tristwch i ddod.

Mae’r ‘Minwét’ a’r ‘Mygydau’ yn eitemau sy’n cyfleu dyfodiad y gwesteion; gellir clywed Romeo a’i ffrindiau Mercutio a Benvolio yn sleifio i mewn i’r lleoliad gydag offerynnau taro disglair yn gefndir iddynt. Daw’r ‘Ddawns’ yn ddiweddarach, darn awyr agored sy’n darparu camau ysgafn ond tyner i bum cwpl cyn i’r tensiwn symud yn ôl i’r prif blot. Wedi ei gyflwyno gan y basŵn, mae’r ‘Brawd Laurence’ yn cynnwys portread o gymeriad yr offeiriad sympathetig sy’n cytuno i briodi Romeo a Juliet yn gyfrinachol ar ôl iddynt syrthio mewn cariad. Mae ‘Romeo a Juliet cyn gwahanu’ yn craffu ar ddarnau agos, llechwraidd a bygythiol, o’r cwpl yn deffro ac yn ffarwelio’n angerddol yn ystafell wely Juliet iddi hi’n cymryd diod y Brawd, sy’n ysgogi cwsg sy’n debyg i farwolaeth.

Mae ‘Dawns Werin’ hwyliog mewn rhythm tarantella yn mynd â ni i’r farchnad ar ddechrau ail act y bale. Mae’r ‘Ddawns Foreol’ yn dangos cymdeithion Romeo, Mercutio a Benvolio, yn gwneud eu gorau i godi ei galon tra bo’r stryd yn llawn bwrlwm. Mae ‘Marwolaeth Tybalt’ wedi ei seilio ar olygfa olaf Act 2 ac mae’n cynnwys deunydd trawiadol ohono’n ymladd â Mercutio a Romeo, gyda 15 cord taro a gorymdaith angladdol ddwys. Caiff ei gorff ei godi gan y Capulets, sy’n galaru ac yn tyngu y byddan nhw’n dial mewn rhan wrthbwyntiol a thanbaid gan yr offerynnau pres. Mae ‘Romeo wrth feddrod Juliet’ yn dangos yr olygfa drasig o’r Epilog lle mae Romeo, sydd wedi cael ei alltudio ac sy'n anymwybodol o’r cynllwyn gyda’r ddiod, ac felly’n meddwl bod ei wraig wedi marw, yn sleifio i mewn i feddrod teulu’r Capulets ac yn gweld ei chorff difywyd, ac felly’n lladd ei hun mewn anobaith. Mae’r cynllwyn wedi methu’n drasig. Mae derbyniad tawel y torcalon a fynegir ym 'Marwolaeth Juliet' o bosibl yn adlewyrchu'r syniad nad yw marwolaeth yn wirionedd ontolegol. Mae ein harwres wedi deffro i ddarganfod corff difywyd Romeo. Gan afael yn ei ddagr, mae hi’n ei wthio i mewn i’w bron ac yn marw gyda Romeo yn ei breichiau. Mae’r Montagues a’r Capulets yn nesáu at y gladdgell yn betrus. Mae’r llen yn cwympo.

Nodyn y rhaglen © David Gutman

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Cerddoriaeth Bale: Stravinsky a Ravel

Nos Iau 18/3/27, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 19/3/27, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Stravinsky Jeu de cartes
Britten Concerto Dwbl i’r Ffidil a’r Fiola
Ravel Y Fam Ŵydd

Ludovic Morlotarweinydd
Benjamin Bakerffidil
Timothy Ridoutfiola

DEIALOG | CRAFFTER | CYFAREDD

Dan arweiniad Ludovic Morlot, bydd tri llais dychmygus yn hawlio’r llwyfan. Mae Jeu de cartes gan Stravinsky yn llawn ffraethineb disglair, ac yna bydd Ben Baker a Tim Ridout yn perfformio’r Concerto Dwbl, a gyfansoddwyd gan Britten pan oedd yn ifanc iawn. I gloi, cawn Gyfres y Fam Ŵydd gan Ravel, lle mae lliwiau’r chwedlau’n pefrio.

Ffawd a Ffantasi  

Nos Iau 13/5/27, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Nos Wener 14/5/27, 7.00pm
Bristol Beacon

Anna Clyne Masquerade
Rachmaninov
Concerto Rhif 3 i’r Piano
Janáček Taras Bulba
R. Strauss Don Juan

Otto Tauskarweinydd
Syr Stephen Hough piano

YSBLENNYDD | ANGERDDOL| CHWEDLONOL    

Daw ffawd a ffantasi yn fyw o dan arweiniad Otto Tausk. Bydd Masquerade gan Anna Clyne yn llawn lliw, bydd Stephen Hough yn mynd i’r afael â Choncerto Rhif 3 meistrolgar Rachmaninov i’r Piano, a bydd Taras Bulba gan Janáček yn arwain at Don Juan trawiadol Strauss.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Pob Nodyn yn Gwneud Gwahaniaeth! 

Gall eich cefnogaeth chi helpu i ddod â llawenydd cerddoriaeth fyw i fwy o bobl ym mhob cwr o Gymru. Mae Cyfeillion Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn elusen gofrestredig (Rhif yr elusen: 1062645) sy’n ariannu ein gwaith gydag ysgolion, a’n gwaith cymunedol ac allgymorth, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a rhannu cerddoriaeth lle mae ei hangen fwyaf. Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, ystyriwch roi arian. Gallwch gyfrannu’n ddiogel gyda cherdyn neu arian parod ym mhwynt rhoddion y Cyfeillion ar y Bont Gyswllt wrth i chi fynd i mewn i Neuadd Hoddinott y BBC. Mae pob rhodd, beth bynnag ei maint, yn helpu i wneud gwahaniaeth. 

Mwynhewch BBC NOW yn fyw gartref 

Dylai pawb allu mwynhau cerddoriaeth wych. Efallai eich bod chi’n methu dod i’r neuadd gyngerdd neu’n byw filltiroedd o’r lleoliad agosaf, ond gallwch chi fwynhau rhai o gyngherddau Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn fyw drwy gydol tymor 2026/27. Gwyliwch nhw ar ein gwefan neu eu mwynhau gartref ar BBC iPlayer. Cliciwch i weld rhestr lawn o’n ffrydiau byw y tymor hwn. BBC NOW 2026-27 Ffrwd Fyw - Digwyddiadau - BBC

 Cyngherddau Gwyrddach

 Fel cerddoriaeth, mae gofalu am ein planed yn dod â phobl at ei gilydd. Os gallwch chi, dewiswch fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, beicio neu rannu car i’r cyngerdd. Os ydych chi’n ymweld â Neuadd Hoddinott y BBC, fe welwch chi finiau ailgylchu drwy'r lleoliad i helpu i leihau gwastraff. Drwy newid i raglenni cyngherddau digidol, rydyn ni eisoes wedi arbed dros 2 dunnell fetrig o bapur rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Diolch i chi am ein helpu ni i wneud cerddoriaeth fyw yn fwy cynaliadwy. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau ynglŷn â sut gallwn ni wella. Anfonwch e-bost now@bbc.co.uk

Bywgraffiadau

Martyn Brabbins arweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Martyn Brabbins yw Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Malmö a Cherddorfa Symffoni India ar hyn o bryd.

Mae’n arwain y prif gerddorfeydd rhyngwladol yn rheolaidd fel y Royal Concertgebouw Orchestra, Cerddorfeydd Symffoni Metropolitan Tokyo a San Francisco a DSO Berlin, yn ogystal â’r Philharmonia, Cerddorfa Symffoni’r BBC a’r rhan fwyaf o brif gerddorfeydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae’n ffigwr poblogaidd ym Mhroms y BBC, a gomisiynodd 14 o gyfansoddwyr i ysgrifennu teyrnged pen-blwydd yn 60 oed iddo yn 2019. Mae’n adnabyddus am ei gefnogaeth i gyfansoddwyr Prydeinig, ac mae wedi arwain cannoedd o premières ledled y byd. Yn 2023, enillodd Wobr Arweinydd RPS am ei gyfraniad ‘aruthrol’ at fywyd cerddorol y Deyrnas Unedig.

Mae wedi cael gyrfa brysur ym myd yr opera, ers ei ddyddiau cynnar yn y Kirov ac yn fwy diweddar yn La Scala, Opera Talaith Bafaria ac yn rheolaidd yn Lyon, Amsterdam, Frankfurt ac Antwerp. Agorodd dymor 2023/24 Opera Cenedlaethol Lloegr gyda chynhyrchiad David Alden o Peter Grimes yn yr hyn a ddaeth i fod yn berfformiad ffarwel, yn ogystal ag un o uchafbwyntiau cerddorol ei saith mlynedd gyda nhw. Arweiniodd hefyd berfformiad prin o New Year gan Tippett gyda Cherddorfa Symffoni BBC yr Alban, gan ei recordio i’w rhyddhau ar NMC.

Ymysg ei uchafbwyntiau symffonig diweddar mae arwain Symffoni Fetropolitan Tokyo yn Suntory Hall, Boulez gyda Symffoni’r BBC, ei ymddangosiad cyntaf gyda Symffoni Genedlaethol Denmarc a dychwelyd at Symffoni Antwerp, BBC yr Alban a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Y tymor diwethaf, dychwelodd at gerddorfeydd Symffoni Adelaide a BBC yr Alban, Lahti Sinfonia a Deutsche Radiophilharmonie. Mae ei uchafbwyntiau ym Malmö y tymor hwn yn cynnwys Concerto Korngold i’r Ffidil gyda Bomsori Kim, concerto Jörg Widmann i’r utgorn Towards Paradise, Labyrinth VI, gyda Håkan Hardenberger a chyngerdd blynyddol Nos Galan.

Mae ei recordiadau llwyddiannus o bron i 150 o gryno ddisgiau’n amrywio o rai Rhamantaidd i rai cyfoes. Mae wedi cael tair Gwobr Gramophone, Gwobr Opera Cannes a’r Grand Prix du Disque.

Astudiodd Martyn Brabbins gyfansoddi yn Llundain ac arwain gydag Ilya Musin yn St Petersburg, cyn ennill y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Arweinwyr Leeds ym 1988 a lansiodd ei yrfa ryngwladol.

David Childsewffoniwm

Ymddangosodd David Childs, unawdydd ar yr ewffoniwm o Brydain, am y tro cyntaf ym Mhroms y BBC gyda Cherddorfa Ffilharmonig y BBC yn 2001, a dychwelodd yn 2004 i roi’r perfformiad cyntaf yn Llundain o goncerto Alun Hoddinott, The Sunne Rising – The King Will Ride. Yn fwyaf diweddar, ymddangosodd ym Mhroms eleni gyda’r Black Dyke Band.

Mae’n frwd o blaid cerddoriaeth newydd ac mae wedi rhoi’r perfformiadau cyntaf erioed o 16 concerto ar gyfer ewffoniwm, gan gynnwys y perfformiad cyntaf yn UDA o Goncerto Syr Karl Jenkins i’r Ewffoniwm yn Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, a’r perfformiad cyntaf erioed o Goncerto Paul Mealor i’r Ewffoniwm ym Mhroms Cymru. Yn 2022, rhoddodd y perfformiad cyntaf o drawsgrifiad ar gyfer ewffoniwm Concerto Vaughan Williams i’r Tiwba gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ac yn gynharach eleni rhoddodd y perfformiad cyntaf yn yr Unol Daleithiau o goncerto Syr James MacMillan i’r ewffoniwm Where the Lugar Meets the Glaisnock gyda Cherddorfa Symffoni Dallas dan arweiniad Edward Gardner.

Mae David Childs wedi ei fagu ym myd bandiau pres Prydain, ac mae’n gyn-aelod o Fand Pres Cenedlaethol Ieuenctid Prydain a Band Cory, lle bu’n Brif chwaraewr Ewffoniwm am 10 mlynedd, o dan arweiniad ei dad a’i gyn-athro, Robert Childs. Mae’n Athro Ymchwil Nodedig ar yr Ewffoniwm ym Mhrifysgol Gogledd Texas.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys ei Phrif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngerdd i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Paul Mealor

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC


Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Róisín Verity
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Ruth Heney **
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Grace Shepherd
Gary George-Veale
Elena Abad
Charlie Brooks
Lucia D
’Avanzo-Lewis

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Sheila Smith +
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Lydia Caines
Michael Topping
Roussanka Karatchivieva
Katherine Miller
Frances Richards
Christiana Mavron

Fiolâu
Rebecca Jones *
Alex Thorndike #
Peter Taylor
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Anna Growns
Mungo Everett-Jordan
Nancy Johnson
Ania Leadbeater
Charlotte Limb

Soddgrythau
Findlay Spence ‡
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Rachel Ford
Alistair Howes
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Dominic Dudley
Emma Prince
Ketan Curtis
Cole Morrison
Telmo Martins

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Lydia Griffiths
Amy McKean

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White †
Lenny Sayers ** +

Clarinét Bas
Lenny Sayers † ** +

Sacsoffon Tenor
Megan Glover

Baswnau
Jaroslaw Augustiniak *
Patrick Bolton
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Alex Willett
Flora Bain
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Jon Holland

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
James Tavares

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Elliott Gaston Ross *
Phil Hughes
Rhydian Griffiths
Max Ireland
Andrea Porter

Telynau
Deian Rowlands
Emily Harris

Piano/Selesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall +
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Llyfrgellydd y Gerddorfa Jenny Dobinson (cyfnod mamolaeth)
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham +
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Uwch Oruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Cynhyrchydd AddysgApril Heade (cyfnod mamolaeth)
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cydlynydd Marchnata Twf Angharad Muir–Davies
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Prentis Marchnata Mya Clayden
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications