Marwolaeth a Thrawsnewid
Nos Iau 14/5/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 15/5/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe
Ludwig van Beethoven
Concerto i’r Ffidil yn D fwyaf 42’
EGWYL: 15 munud
SyrGeorge Benjamin
Concerto for Orchestra 18’
Richard Strauss
Tod und Verklärung (Marwolaeth a Thrawsnewid) 23’
Alexandre Bloch arweinydd
Veronika Eberle ffidil
Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf
Mae'r cyngerdd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 ar gyfer Radio 3 in Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.
Cyflwyniad
Croeso cynnes i’n cyngerdd heno, sy’n cael ei arwain gan Alexandre Bloch. Mae’r rhaglen yn dechrau gydag un o’r concerti gorau oll i’r ffidil – unig gyfraniad Beethoven i’r genre. Dyma waith a oedd ymhell o flaen ei amser, ac yn ddigon i ddrysu cynulleidfaoedd cynnar. Bu raid aros cryn amser ar ôl marwolaeth y cyfansoddwr i Joseph Joachim roi’r concerto ar y map, ac yntau’n ddim ond 12 oed. I’w berfformio heno mae’n bleser o’r mwyaf cael croesawu Veronika Eberle yn ôl atom.
Teyrnged diffuant yw Concerto for Orchestra Syr George Benjamin i’w gyd-gyfansoddwr Oliver Knussen, a fu’n gyfaill agos iddo am dros bedwar degawd. Yma mae Benjamin unwaith eto’n cyfuno lliw ac egni yn hynod o effeithiol o fewn ffurf gryno’r concerto.
Gorffennwn gyda Marwolaeth a Thrawsnewid gan Richard Strauss, cathl symffonig a ysgrifennodd yng nghanol ei ugeiniau, ond sy’n hynod rymus wrth fynegi oriau olaf ei arwr, wrth i’r gerddoriaeth ein cludo o frwydr bydol i drosgynoldeb llewyrchol.
Mwynhewch!
Lisa Tregale
Cyfarwyddwr
Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.
Ludwig van Beethoven (1770–1827)
Concerto i’r Ffidil yn D fwyaf, Op. 61 (1806)
1 Allegro ma non troppo
2 Larghetto –
3 Rondo: Allegro
Veronika Eberle ffidil
Erbyn i Beethoven gyfansoddi ei goncerto cyflawn cyntaf – a’i unig un – i’r ffidil, roedd eisoes yn feistr ar ysgrifennu ar gyfer yr offeryn. Roedd wedi cyfansoddi cyfres o naw sonata i ffidil a phiano, dwy Ramant unigol i ffidil a cherddorfa, ac yn ei ieuenctid roedd wedi dechrau ar Goncerto i’r Ffidil yn C fwyaf, WoO5. Felly mae’n syndod, efallai, mai derbyniad llugoer ar y gorau a roddwyd i berfformiad cyntaf ei Goncerto i’r Ffidil yn D fwyaf yn 1806. ‘Ni chafodd y concerto lwyddiant mawr,’ ysgrifennodd ei gofiannydd, Anton Schindler. ‘Cafodd ei anwybyddu’n llwyr: gwrthodwyd y gwaith gan feiolinwyr ... fel darn di-fudd.’
Bu raid aros tan 1844, pan atgyfodwyd y concerto gan fachgen 12 mlwydd oed, Joseph Joachim, dan arweiniad Mendelssohn i ‘gymeradwyaeth wyllt’, i’r gwaith sicrhau ei le yn y repertoire. Erbyn hynny, roedd chwaeth pobl wedi newid ac roedd nodweddion a ystyrid 40 mlynedd ynghynt yn ‘fentrus’ a ‘dryslyd’ bellach yn fwy derbyniol. Doedd yr ergydion anesboniadwy ar y timpani yn yr agoriad ddim yn swnio’n od bellach. Roedd hyd annisgwyl y concerto – 15 munud yn hirach nag unrhyw un o goncertos ffidil Mozart – bellach yn fwy cydnaws â natur estynedig y concerto Rhamantaidd. Ac roedd disgleirdeb y rhan ffidil unigol yn atyniad mawr i gynulleidfaoedd, a oedd bellach wedi arfer â champau cerddorol ysbrydoledig a thrawiadol yn y neuadd gyngerdd.
Wedi dweud hynny, mae’n debyg fod Concerto Ffidil Beethoven fel rydyn ni’n ei adnabod heddiw yn eitha gwahanol i’r fersiwn a glywyd yn y première ym 1806. Yn ôl Carl Czerny, cwblhaodd Beethoven y gwaith ar frys ar gais Franz Clement, a gomisiynodd y concerto. Roedd Clement eisiau concerto newydd i’w berfformio mewn cyngerdd elusen yn Fienna yn Rhagfyr 1806 ac mae adroddiadau’n awgrymu mai prin wedi’i orffen oedd y sgôr cyn i’r ymarferion cyntaf ddechrau – i’r graddau bod Clement fwy neu lai’n perfformio ar yr olwg gyntaf yn y première. Cafodd y gwaith ei ddiwygio sawl gwaith cyn ei gyhoeddi, gan gynnwys ei drawsnewid i fod yn goncerto i’r piano.
Fel ‘Angau’ sy’n curo ar ddechrau’r Bumed Symffoni, mae’r curiadau timpani sy’n agor y gwaith yn ffurfio sylfeini’r concerto. Mae’r pum strôc syml hyn yn llenwi’r symudiad agoriadol, gan ymblethu â’r thema gyntaf a ffurfio sail i gyfeiliant yr ail, yn fygythiol a dathliadol am yn ail.
Mae’r symudiad cyntaf eang hwn, yn llawn rhyngweithio thematig dwys a chyferbyniadau deinamig dramatig, yn hollol wahanol i dawelwch y Larghetto canolog – cyfres o amrywiadau ysgafn sy’n rhoi’r argraff fod yr unawdydd yn byrfyfyrio’n rhydd dros linynnau wedi’u distewi. Does dim o ddisgleirdeb y symudiadau allanol yn perthyn i’r gilfach dawel hon o’r concerto, a’i mynegiant digynnwrf, adaraidd bron fel petaen nhw’n rhoi darlun inni o’r hyn oedd i ddod yn The Lark Ascending Vaughan Williams dros gan mlynedd yn ddiweddarach.
Ceir cyferbyniad llwyr yn y symudiad olaf, chwa o ddrama a lliw sy’n ffrwydro allan o’r Larghetto heb gymryd saib. Caiff alaw ffidil unigol fugeiliol ei meddiannu’n fuan gan y gerddorfa lawn, a gyda phob ailadrodd mae’r thema syml hon yn mynd yn fwyfwy technegol, gan arwain yn y pen draw at uchafbwynt diweddglo sy’n llawn cyffro a chwarae meistrolgar.
Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride
EGWYL: 15 munud
Syr George Benjamin (ganwyd 1960)
Concerto for Orchestra (2021)
Ysgrifennwyd y concerto hwn i gerddorfa er cof am Oliver Knussen, a fu’n gyfaill mynwesol imi am ddeugain mlynedd. Bu galaru mawr yn y byd cerddorol pan fu farw yn 2018; roedd ei ddisgleirdeb rhyfeddol fel cyfansoddwr ac arweinydd – a’i garedigrwydd a’i haelioni fel person – yn ddihafal. Mewn rhai ffyrdd mae’r gwaith hwn yn ceisio ail-greu rhyw arlliw o’r egni, yr hwyl a’r ysbryd rwy’n eu cysylltu â’m ffrind, ac mae ei naws yn aml yn chwareus, er ei fod ar adegau’n troi i dir llawer mwy cythryblus.
Mae’r sgôr hefyd wedi’i chyflwyno i – ac wedi’i hysgrifennu ar gyfer – Cerddorfa Siambr Mahler, ensemble rydw i wedi datblygu perthynas waith arbennig o agos â nhw. Mae’r ysgrifennu cerddorfaol yn aml yn dechnegol iawn a chaiff pob offeryn ddod i flaen y llwyfan yn ei dro – dyna ergyd y teitl.
Mae’n waith di-dor sy’n para deunaw munud, a hynny bron yn gyfan gwbl o fewn un tempo, gydag amrywiaeth eang o ddyfeisgarwch offerynnol sy’n esblygu, yn rhyngweithio ac yn arosod. Ceir llinellau hir, gohiriedig sy’n ymlwybro trwy weadau cyferbyniol, rhai’n gyflym a chwareus, eraill yn fwy deinamig a grymus. Mae pob offeryn yn chwarae rôl luosog – yn ddramatig a seinyddol – ar draws y gwaith, gan gynnwys tiwba unigol tanllyd, deuawdau corn cywrain, clarinetau byrlymus a dau bâr o dimpani dwndrus. Yr amlycaf o’r rhain yw’r feiolinau cyntaf angerddol, sydd bron â chael y gair olaf yn ystod diweddglo tawel y gwaith.
Nodyn y rhaglen © Syr George Benjamin
Richard Strauss (1864–1949)
Tod und Verklärung (Marwolaeth a Thrawsnewid) (1888–9)
Ym mis Tachwedd 1889 cyfansoddodd Richard Strauss ei waith mawr cyntaf, sef y gathl symffonig i gerddorfa, Don Juan. Yn yr un mis, cwblhaodd ddarn gwahanol iawn yn yr un genre, darn yr oedd wedi bod yn gweithio arno ers yr haf blaenorol. Yn ei eiriau ef, mae Marwolaeth a Thrawsnewid (Tod und Verklärung) yn darlunio ‘oriau olaf dyn a oedd wedi ymdrechu tuag at yr amcanion delfrydol uchaf, amcanion artist, efallai wir’. Nid yw’n glir beth ysgogodd Strauss – yng nghanol ei ugeiniau ac mewn iechyd da – i archwilio’r pwnc hwn, ond efallai bod cysylltiad rhwng ei thema – trawsffurfiad – â’i ddiddordeb yn Tristan ac Isolde Wagner.
Amlinellodd y cyfansoddwr naratif y gwaith mewn llythyr dyddiedig 1894. Yn yr adran agoriadol, mae rhythmau curo tawel yn cyfleu ‘anadlu afreolaidd trwm’ y dyn sâl, tra bod unawdau chwythbrennau a ffidil yn darlunio’i ‘freuddwydion cyfeillgar’. Mae’r ail adran yn cyfleu ei ‘boenau ofnadwy’ wrth ddeffro, trwy ruo’r offerynnau pres ac ymchwydd y llinynnau. Wrth i’w boen leddfu, clywn fotiff sy’n codi yn yr adran bres: cynyrfiadau cyntaf thema ‘trawsnewid’ y gwaith. Yn y drydedd adran mae’r dyn yn hel atgofion. Mae deialog ysgafn rhwng llinynnau a chwythbrennau’n awgrymu ei blentyndod: ffanfferau corn yn cyfleu ei ymdrechu arwrol, ac alaw linynnol frwd yn cyfleu carwriaeth ddwys. Daw ei boen yn ôl a chyda hi gerddoriaeth ffyrnig yr ail adran, cyn datganiad llawn o thema’r trawsnewid yn y pres. Darlunnir marwolaeth ei hun trwy glissando (sleid) ac un trawiad ar y gong. Mae’r adran olaf yn archwilio thema’r trawsnewid urddasol, sy’n dwysáu wrth i’r enaid ganfod ‘mewn gofod tragwyddol gyflawniad gogoneddus y pethau hynny na ellid eu cyflawni yma islaw’. Fel Liebestod olaf Tristan, mae’r gwaith yn gorffen gyda chordiau trosgynnol, nefolaidd.
Cafodd Marwolaeth a Thrawsnewid ei berfformiad cyntaf llwyddiannus yng Ngŵyl Eisenach 1890, dan arweiniad y cyfansoddwr. Nid anghofiodd Strauss erioed y gathl symffonig hon, gan ddyfynnu ohoni yn un o’i gyfansoddiadau olaf, ‘Im Abendrot’ o’i Vier letzte Lieder (Pedair Cân Olaf, 1948). Ac ar ei wely angau y flwyddyn ganlynol, dywedodd wrth ei ferch-yng-nghyfraith fod y profiad ‘yn union fel y cyfansoddais ef yn Tod und Verklärung’.
Nodyn y rhaglen © Kate Hopkins
Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni
Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:
Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.
Tymhorau a Storïau
Nos Iau 28/5/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Nos Wener 29/5/26, 7.30pm
Eglwys Gadeiriol Aberhonddu
Marta Ptaszyńska Chwedl y Gaeaf
Schumann Concerto i’r Soddgrwth
Mendelssohn A Midsummer Night’s Dream – agorawd
Beethoven Symffoni Rhif 2
Paweł Kapuła arweinydd
Sterling Elliott soddgrwth
DIDDAN | PERSAIN | BYWIOG
Mae’r arweinydd Paweł Kapuła yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW gyda cherddoriaeth o’i famwlad, Gwlad Pwyl, gan ddod â Chwedl y Gaeaf Marta Ptaszyńska’s (1984) yn fyw wrth iddo droi synau cyfarwydd Vivaldi yn fyd iasol breuddwydiol. Mae Sterling Elliott, un o Artistiaid y Genhedlaeth Newydd BBC Radio 3, yntau yn ymddangos am y tro cyntaf gyda’r gerddorfa yn Concerto i’r Soddgrwth gan Schumann, sef gwaith dwys telynegol a myfyriol, cyn i’r agorawd i waith Mendelssohn ein hysgubo i stori dylwyth teg sinematig pefriol. Daw’r rhaglen i ben ag Ail Symffoni Beethoven: gwaith sy’n fwrlwm o bersonoliaeth, hiwmor a gorfoledd, sy’n datgelu cyfansoddwr ar fin gweddnewid ac yn cynnig rhyddhad llawn a disglair.
Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw
Bywgraffiadau
Alexandre Blocharweinydd
Bydd yr arweinydd Ffrengig Alexandre Bloch yn mynd yn Brif Arweinydd Orquesta Sinfónica y Coro RTVE ar ddechrau’r tymor nesaf. Denodd sylw rhyngwladol gyntaf pan enillodd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Arwain Donatella Flick 2012; yn fuan wedyn, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Frenhinol Concertgebouw a chael clod mawr, ar ôl cymryd lle Mariss Jansons ar fyr rybudd.
Ymhlith ei ymrwymiadau diweddar ac i ddod mae cerddorfeydd Symffoni Adelaide, Gwlad y Basg, Bournemouth, Dinas Birmingham, Düsseldorf, Llundain, Utah a Vancouver, Cerddorfeydd Ffilharmonig Brwsel, Dresden, George Enescu, Israel, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Oslo, Radio France, Rotterdam, Brenhinol Lerpwl a Seoul, yr Hallé, Philharmonia, Cerddorfa Ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd, Cerddorfa Ieuenctid Awstralia, Cerddorfeydd Siambr Los Angeles a’r Alban a Cherddorfa Suisse Romande.
Mae’r un mor gartrefol yn y tŷ opera ac wedi ymddangos yn y Bayerische Staatsoper, Munich, Deutsche Oper am Rhein Düsseldorf, Deutsche Oper Berlin, Opéra de Lille ac Opéra de Lyon.
Alexandre Bloch oedd Cyfarwyddwr Cerdd yr Orchestre National de Lille rhwng 2016 a 2024. Yn ei gyfnod gyda’r gerddorfa trefnodd ystod amrywiol o repertoire, gan gynnwys cylch Mahler a cherddoriaeth bale Stravinsky, yn ogystal â chydweithio â’r cyfansoddwyr blaenllaw Magnus Lindberg, Syr George Benjamin a Thierry Escaich. Yn arloeswr ar y podiwm ac oddi arno, dechreuodd brosiectau arbennig gyda’r nod o ddenu cynulleidfaoedd newydd i’r neuadd gyngerdd. Mae ef a’r gerddorfa wedi ymddangos amrywiaeth ystod eang o labeli a sianeli darlledu.
Mae wedi cydweithio â llawer o unawdwyr o fri rhyngwladol, gan gynnwys Frank Peter Zimmermann, Pierre-Laurent Aimard, Patricia Kopatchinskaja, Mischa Maisky, Jean-Yves Thibaudet, Sol Gabetta, Jean-Guihen Queyras, Steven Isserlis, Sharon Kam, Alice Sara Ott, Nemanja Radulović, Veronika Eberle, Véronique Gens a Xavier Demaîstre.
Alexandre Bloch yw Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Symffoni Düsseldorf ac roedd yn dalent newydd ADAMI ac yn Gymrawd Arwain Tanglewood, gan ddod i sylw mentoriaid fel Mariss Jansons, Charles Dutoit, Pierre Boulez, Bernard Haitink, Syr Mark Elder ac Esa-Pekka Salonen.
Veronika Eberleffidil
Louie Thain
Louie Thain
Mae dawn Veronika Eberle a steil ac aeddfedrwydd ei cherddoriaeth wedi cael eu cydnabod gan lawer o gerddorfeydd, lleoliadau a gwyliau gorau’r byd, a hefyd gan rai o’r arweinwyr enwocaf.
Y tymor hwn mae hi’n ymddangos am y tro cyntaf yn Neuadd Carnegie mewn taith o amgylch Ewrop a’r Unol Daleithiau gyda Cherddorfa Siambr Ewrop a Yannick Nézet-Séguin. Ymhlith ei hymddangosiadau cyntaf nodedig eraill mae Konzerthausorchester Berlin gyda Thomas Søndergård, Philharmonic Helsinki gydag Anja Bihlmaier, Symffoni Metropolitan Tokyo gyda John Storgårds, Cerddorfa Hyogo PAC gydag Andreas Ottensamer a Cherddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban gyda Jörg Widmann. Mae’n dychwelyd hefyd at Ffilharmonig Dresden gyda Marc Albrecht, Cerddorfa Gürzenich gydag Anja Bihlmaier a Ffilharmonig Brwsel gyda Kazushi Ōno Ono.
Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae ymddangosiadau cyntaf yn yr Unol Daleithiau gyda Cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd, Cerddorfa Symffoni Boston, Cerddorfa Cleveland a dychwelyd at Ffilharmonig LA, Cerddorfa Symffoni Montreal a Cherddorfa Gŵyl Budapest.
Mae hi wedi gweithio gydag arweinwyr o fri, gan gynnwys Syr Simon Rattle, Bernard Haitink, Daniel Harding, Christian Thielemann, Lorenzo Viotti, Louis Langrée, Robin Ticciati, Paavo Järvi, Alan Gilbert, Heinz Holliger, Syr Antonio Pappano ac Andrés Orozco-Estrada. Mae wedi cydweithio hefyd â chyfansoddwyr fel Toshio Hosokawa, a gyflwynodd ei goncerto i’r ffidil Genesis iddi, a Jörg Widmann, a gyfansoddodd cadenzas newydd ar gyfer Concerto Beethoven i’r Ffidil, iddi eu recordio gyda Syr Simon Rattle a Cherddorfa Symffoni Llundain.
Yn gerddor siambr ymroddedig, mae’n perfformio’n rheolaidd gydag artistiaid fel Sol Gabetta, Steven Isserlis, Julia Hagen, Beatrice Rana, Nils Mönkemeyer a Dénes Várjon, gan ymddangos mewn gwyliau sy’n cynnwys Klosters, Gstaad, Rheingau, Mecklenburg-Vorpommern, Carinthian Summer a Vevey Spring. Yn nhymor 2024–25, dychwelodd i Neuadd Wigmore fel Artist Preswyl.
Mae hi wedi elwa ar gefnogaeth sawl sefydliad pwysig, gan gynnwys y Reinhold Würth Musikstiftung, Sefydliad Cerddoriaeth Nippon, Ymddiriedolaeth Borletti-Buitoni, Orpheum Stiftung, Deutsche Stiftung Musikleben a’r Jürgen-Ponto Stiftung; roedd hi’n Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3 2011–13.
Ganwyd Veronika Eberle yn Donauwörth ac roedd yn fyfyrwraig iau yn y Richard Strauss Konservatorium ym Munich, lle astudiodd gydag Olga Voitova, gan barhau â’i hastudiaethau yn ddiweddarach gyda Christoph Poppen ac Ana Chumachenco. Mae hi’n chwarae Stradivarius ‘Ries’ 1693, sydd ar fenthyg yn garedig oddi wrth y Reinhold Würth Musikstiftung.
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.
Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.
Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.
Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.
Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow
Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins
Ffidlau Cyntaf Lesley Hatfield blaenwr
Tom Aldren blaenwr ar gyfer BeethovenMartin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonaldTerry PorteusSuzanne CaseyCarmel BarberKerry Gordon-SmithEmilie GoddenAnna CleworthRuth Heney **Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Ail Ffidlau
Anna Smith *Kirsty Lovie #Ros ButlerSheila SmithVickie RingguthJoseph WilliamsMichael ToppingKatherine MillerBeverley WescottRoussanka KaratchivievaLydia Caines **Gary George-Veale
Fiolâu
Rebecca Jones *Alex Thorndike #Tetsuumi NagataPeter TaylorRobert GibbonsLydia AbellLaura SinnertonCatherine PalmerAnna GrownsNancy Johnson
Soddgrythau
Findlay Spence ‡Raphael LangSandy BartaiAlistair HowesKeith HewittCarolyn HewittRachel FordKathryn Graham
Basau Dwbl
David Stark *
David F. C. Johnson
Christopher Wescott
Emma Prince
Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis
PiccoloLindsey Ellis †
Oboau
Steve Hudson *Alec Harmon
Amy McKean †
Cor anglais
Amy McKean †
Clarinetau
Nicholas Carpenter *William White
Lenny Sayers +**
Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**
Clarinét Gwrthfas
Steve Morris
Baswnau
Jarosław Augustyniak *Llinos OwenDavid Buckland
Isfasŵn
David Buckland †
Cyrn
Isabella AcklandMeilyr HughesJohn DavyFlora BainTom Taffinder
Utgyrn
Philippe Schartz *Robert Samuel
Corey Morris †
Trombonau
Donal Bannister*Ryan Hulme
Trombôn Bas
Darren Smith †
TiwbaJames Tavares
TimpaniSteve Barnard *
Phil Hughes
Offrynnau Taro
Phil Girling
Andrea Porter
Telynau
Tomos Xerri
Bethan Semmens
* Prif Offerynnwr yr Adran† Prif Offerynnwr‡ Prif Offerynnwr Gwadd# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyolRoedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg
Cyfarwyddwr Lisa Tregale Rheolwr y Gerddorfa Liz WilliamsRheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **Rheolwr Staff y GerddorfaKevin MyersCydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor HallCydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George LeeRheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **Cynhyrchydd Mike SimsCynorthwyydd DarlleduEmily PrestonPennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)Cynhyrchydd Digidol Angus RaceCydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet BaughPrentis Marchnata Mya ClaydenCynhyrchydd AddysgBeatrice CareyCynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa BlofeldRheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead + Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham
+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant
