BBC NOW – NAWR!

Nos Iau 19/2/26, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Isabella Gellis
Valedictions première bydc9’

Deborah Pritchard
Concerto i’r Trombôn, ‘Light Circle’ première y DU 25’

EGWYL: 15 munud

Justė Janulytė
Confluere i gerddorfa siambr  première y DU 8’

Hannah Eisendle
Azinheira première y DU 8’

Katherine Balch
musica pyralispremière y DU 10’

Jack Sheen arweinydd
Peter Moore trombôn

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’r cyngerdd heno, lle bydd Jack Sheen yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW i arwain rhaglen sy’n arddangos pump o weithiau gan rai o sêr mwyaf disglair y genhedlaeth iau o gyfansoddwyr. Dyma’r tro cyntaf erioed i’r pum darn gael eu perfformio yn y Deyrnas Unedig.

Byddwn ni’n dechrau gyda Valedictions hudolus Isabella Gellis, cyn clywed Concerto Deborah Pritchard i’r Trombôn. Dyma ddarn sy’n archwilio synaesthesia’r cyfansoddwr ac sydd wedi’i ysgrifennu ar gyfer yr unawdydd heno, sef Peter Moore (bydd llawer yn ei gofio fel y person ieuengaf erioed i ennill cystadleuaeth Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC). Cyfansoddwyd Confluere disglair Justė Janulytė fel rhagarweiniad i 40fed Symffoni Mozart, ac fe ysbrydolwyd Azinheira Hannah Eisendle gan wydnwch y dderwen fythwyrdd, sef coeden frodorol o dde Portiwgal. Byddwn yn cloi’r cyngerdd ym myd nosol hudolus musica pyralis gan Katherine Balch.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Isabella Gellis

Valedictions (2023)


première byd

Darn sy’n ceisio ailadeiladu ei hun o weddillion ei fywyd blaenorol yw Valedictions; clywir alaw 10 bar fel ysbryd yn yr aer, nad yw’n gwbl amlwg, ond ceir cysur drwy deimlad a symlrwydd. Astudiaeth o unseiniau sydd yma – rhai fertigol a lletraws. Cafodd y gwaith ei ysgrifennu ar gyfer Gŵyl Gerddoriaeth Aspen yn 2023.

Nodyn y rhaglen © Isabella Gellis

Deborah Pritchard

Concerto i’r Trombôn, ‘Light Circle’ (2025–6)


première y DU

1 Cylch –
Gosododd gylch dros y dyfnder (Diarhebion 8.27)
2 Cromen y Ddaear –
Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear [ac yn] taenu’r nefoedd fel llen (Eseia 40.22)
3 Olwyn Lachar –
Gwelais olwynion ar y llawr yn ymyl y creaduriaid, un ar gyfer pob wyneb (Eseciel 1.15–21)
4 Nefolaidd –
Clywais lais angylion lawer; yr oeddent o amgylch yr orsedd (Datguddiad 5.11)

Peter Moore trombôn

Mae Light Circle wedi’i ysbrydoli gan y darlun dyfrlliw ac inc o’r un enw gan Wassily Kandinsky o 1922 – ei gyfnod Bauhaus. Drwy fy synaesthesia (lle rwy’n cysylltu lliw â’r cyfyngau rhwng nodau) rwy’n datgelu’r lliwiau cyferbyniol a’r ffurf cylch disglair yn raddol drwy naratif sy’n llifo’n barhaus ar y trombôn unawdol. Ceir yma ddeialog a thensiwn rhwng y trombôn a’r gerddorfa.

Yn unol ag ymagwedd ysbrydol ddofn Kandinsky at bŵer siapiau, yn enwedig sut mae’n gweld y cylch fel arwydd o’r dwyfol dragwyddol, rwyf hefyd wedi gosod newidiadau strwythurol y gwaith ochr yn ochr â phedwar testun cysegredig o’r Beibl. Mae’r cyntaf, ‘Cylch’, yn dechrau mewn tywyllwch a dirgelwch, gan ildio’n raddol i lais symbolaidd y trombôn yn ei holl gryfder. Wrth i’r gerddoriaeth gyflymu, mae’n dod yn fwy golau gydag arlliwiau disglair yn arwain at yr ail symudiad, ‘Cromen y Ddaear’, lle mae’r trombôn yn llithro dros dapestri sy’n symud yn gynt ac yn gynt. Mae’r ymdeimlad hwn o obaith yn datblygu drwy gydol y symudiad canlynol (‘Olwyn Lachar’) cyn i ni ddychwelyd at y tensiwn agoriadol, er bod y llewyrch yn ailymddangos wrth i’r delyn a’r selesta dreiddio drwy’r dirwedd, gyda chwythbrennau unawdol ysgafn a phedwarawd llinynnol mewn deialog a rhannau hiraethus, tawel y trombôn. Daw’r trombôn digyfeiliant â’r adran hon i ben, gan arwain at y symudiad olaf, ‘Nefolaidd’, lle mae’r unawd trombôn yn canu dros linynnau wedi’u rhannu’n gyfoethog a harmonïau moddol agos, gan rwymo’r cynfas disglair hwn at ei gilydd – wedi’i ysbrydoli gan liwiau Kandinsky a goleuni cysegredig y Datguddiad.

Nodyn y rhaglen © Deborah Pritchard

EGWYL: 15 munud

Justė Janulytė

Confluere (2024)


première y DU

Cyfansoddwyd ‘Confluere’ (gair Lladin sy’n golygu ‘cyd-lifo’), fel un afon yn llifo i mewn i’r llall, i gael ei berfformio fel rhagarweiniad i 40fed Symffoni Mozart yn G leiaf. Mae’r darn yn cymryd thema gyntaf y symffoni – ffigur ochneidiol y sospiro – ac yn ei hailadrodd yn ddi-anadl, a bron yn obsesiynol, drwy’r haenau gwahanol yng ngwead dwys y gerddorfa, gan ei harafu’n sylweddol. Mae’r motiff hwn yn y cywair lleiaf, sy’n seiliedig ar yr ail symudiad, yn cael ei archwilio drwy amryw o onglau a lliwiau, harmonïau ac ansoddau, gan ehangu ei ystod yn raddol i’r eithafion, a thrwy hynny mae’n paratoi’r gwrandawyr – yn y gosodiad gwreiddiol – ar gyfer dyfodiad symffoni Mozart.

Nodyn y rhaglen © Juste Janulyte

Hannah Eisendle

Azinheira (2024)


première y DU

1 Arian –
2 Gwyn –
3 Gwyrdd Tywyll

Mae’r darn wedi’i enwi ar ôl yr y dderwen fythwyrdd, neu’r Azinheira, coeden frodorol o dde Portiwgal sy’n sefyll allan mewn tirwedd sydd fel arall yn ddiffrwyth ac wedi’i ddeifio gan yr haul. Mae’r dderwen fythwyrdd yn wydn ac yn darparu cysgod a lloches; mae’n sefyll yn dyst tawel dros yr oesoedd: gyda rhai o’r coed hyn yn byw am ganrifoedd. Yn y gwaith hwn, daw’r goeden yn drosiad o wydnwch, ac o sut mae dycnwch unig, gorthrymedig yn araf droi’n undod cynulliadol.

Mae’r darn mewn tair rhan, wedi’u henwi ar ôl gwahanol liwiau dail y dderwen fythwyrdd wrth iddynt ymddangos yn y gwanwyn: ‘Arian’, ‘Gwyn’ a ‘Gwyrdd Tywyll’. Mae’r camau hyn yn dilyn proses raddol yn hytrach na ffrwydrad sydyn. Fel yr awgrymir yma, nid gweithred unigol o ryddhad yw rhyddid, ond yn hytrach gyflawniad ar y cyd sy’n fregus ac yn esblygu – un y mae’n rhaid ei sicrhau, ei gynnal a’i adnewyddu.

Wrth wraidd y gwaith y mae’r cwestiwn – sut gall llu o leisiau ddod i gytundeb cyffredin. Yn gerddorol, mae’r ymchwiliad hwn yn datblygu drwy drin motiff o Grândola, Vila Morena, y gân a ddaeth yn anthem i’r mudiad gwrth-ffasgaidd ym Mhortiwgal yn ystod Chwyldro Carnation 1974. Mae’r motiff ymddangos yn yr offerynnau unawdol i ddechrau, yn betrus ac yn fregus, fel pe bai’n profi’r posibilrwydd o gael ei glywed. Wrth iddo ymledu drwy’r gerddorfa, mae’n cael ei drawsnewid, ei amsugno, ei wrthsefyll a’i dorri dro ar ôl tro, gan adlewyrchu ansefydlogrwydd prosesau cyfunol a’r pendiliad rhwng undod ac ymraniad.

Yn hytrach na dilyn naratif â buddugoliaeth anochel, mae’r darn yn rhoi lle i eiliadau o fethiant, petruster a blinder. Mae’r diweddglo, fodd bynnag, yn troi tuag at ewfforia tebyg i ddawns, lle mae symudiad a rhythm yn awgrymu egni ac adnewyddiad ar y cyd – ond eto heb ddileu olion y frwydr. Oes, mae yna ddathliad yn atseinio yn y barrau olaf, ond mae yna hefyd atgof o’r daith hir y daethom drwyddi gyda’n gilydd: ennyd o orffwys, efallai, yng nghysgod derwen fythwyrdd na ŵyr neb faint yw ei hoed hi bellach.

Nodyn y rhaglen © Hannah Eisendle

Katherine Balch

musica pyralis (2023)


première y DU

Comisiynwyd musica pyralis ar y cyd gan Gerddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd a Cherddorfeydd Symffoni Pittsburg, Santa Rosa, Erie ac Ann Arbor, gyda chefnogaeth rhaglen ‘Amplifying Voices’ New Music USA.

Mae’r rhan fwyaf o fy ngherddoriaeth yn ceisio cyfleu golygfeydd a synau fy amgylchedd fy hun drwy’r offerynnau rydw i’n ysgrifennu ar eu cyfer, fel gogr cerddorol o ryw fath. Yn musica pyralis, mae’r gerddorfa’n canu seinwedd fy nghartref newydd yng nghefn gwlad Connecticut yn ystod yr haf, lle mae pryfed tân swil – diolch i’r ychydig iawn o lygredd golau sydd yno – yn goleuo cacoffoni’r llyffantod a’r criciaid, a’r llu o greaduriaid bach eraill a glywir gyda’r nos. Natur yw’r gerddorfa orau sydd – er bod y seinwedd yn llawn dop o synau, mae modd clywed pob un peth sy’n gwneud sŵn, oherwydd bod gan bob un ei gwmpasran a’i ansawdd unigryw ei hun. Yn y darn cyngerdd hwn sy’n sionc (ar y cyfan), rydw i’n ceisio rhoi cipolwg ar y dwysedd gwyrthiol o dryloyw yma, a hefyd yn ceisio cyfleu pefriad tyner hollbresennol y pryf tân (neu’r photinus pyralis) drwy gân.

Nodyn y rhaglen © Katherine Balch

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Adleisiau o Ffrainc

Nos Iau 26/2/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Sibelius Pelléas et Mélisande – cyfres
Ravel
Concerto i’r Piano ar gyfer Llaw Chwith
Chausson Symffoni yn B leiaf

Clelia Cafiero arweinydd
Nicholas McCarthypiano

CYFOETHOG | GWYCH | ANGERDDOL

Bydd Nicholas McCarthy, y seren llaw chwith ar y piano, yn ymddangos am y tro cyntaf gyda BBC NOW i berfformio Concerto trydanol Ravel i’r Piano ar gyfer y Llaw Chwith. Darn atmosfferig tywyll Sibelius, Pelléas et Mélisande, fydd yn agor y cyngerdd, ac yna cawn glywed Symffoni bwerus a hynod liwgar Chausson – sy’n mynd â ni ar daith o egni llachar i ddwyster tawel, cyn gorffen gyda diweddglo disglair.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Jack Sheen arweinydd

Hugo Glendinning

Hugo Glendinning

Arweinydd a chyfansoddwr o Fanceinion yw Jack Sheen, sy’n adnabyddus am ei ddull dyfeisgar o greu cerddoriaeth, sy’n cyfuno traddodiadau cerddorfaol â phersbectif rhyngddisgyblaethol eang.

Mae wedi arwain rhai o brif gerddorfeydd y byd, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni’r BBC, Cerddorfa BBC yr Alban, a Cherddorfa Symffoni Llundain, Cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC a Llundain, yn ogystal â rhai sy’n arbenigo mewn cerddoriaeth newydd, fel Cerddorfa Gyfoes Gŵyl Lucerne, Ensemble 10:10, Ensemble Bit20, a Sinfonietta Llundain. Y tymor hwn, bydd Jack yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ulster a’r Manchester Camerata, ac yn dychwelyd i Klangforum Wien.

Mae’r arweinydd yr un mor gartrefol ym myd yr opera ac yn 2022, ymddangosodd am y tro cyntaf yn y Tŷ Opera Brenhinol, gan arwain y perfformiad cyntaf erioed o Last Days gan Oliver Leith a Matt Copson, a gafodd lawer o glod. Yn 2024, arweiniodd gynhyrchiad newydd o The Rake’s Progress gan Stravinsky gyda’r English Touring Opera, a dychwelodd i Tanglewood i arwain Lessons in Love and Violence gan Syr George Benjamin.

Mae wedi cydweithio ar brosiectau rhyngddisgyblaethol gydag artistiaid gweledol, dawns ac arbrofol blaenllaw, gan gynnwys Matthew Barney, Cerith Wyn Evans, Burrows & Fargion, ac Elaine Mitchener. Yn 2024, bu’n cyd-gyfarwyddo Sinfonietta Llundain mewn perfformiad byw prin o Quad gan Beckett yng Nghanolfan Southbank, ynghyd â For Samuel Beckett gan Feldman.

Fel cyd-gyfarwyddwr Gŵyl Cerddoriaeth Gyfoes Llundain, mae wedi curadu digwyddiadau poblogaidd ar hyd a lled y brifddinas, gan ddod ag artistiaid rhyngwladol profiadol ac artistiaid llawr gwlad o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau at ei gilydd mewn rhaglenni sydd wedi cael eu galw’n anturus a phryfoclyd.

Fel cyfansoddwr, mae llawer o’r cerddorfeydd a’r ensembles y mae’n eu harwain wedi comisiynu gweithiau ganddo ac wedi perfformio ei gyfansoddiadau. Mae hefyd wedi cael comisiynau gan sefydliadau celfyddydol amlwg fel La Biennale de Venezia, Casa de Serralves yn Porto, a V&A a Chanolfan Gelf Camden yn Llundain. Mae ei brosiectau diweddar yn cynnwys Lag, darn cerddorfaol gofodol a gomisiynwyd gan BBC SSO ac Ilan Volkov ar gyfer Gŵyl Tectonics; Press, pumawd piano a gomisiynwyd gan Neuadd Wigmore ac Apartment House; a Ceremony Container, perfformiad gofodol a gomisiynwyd gan Ensemble Mosaik a Silent Green o Berlin. Mae Wien Modern wedi ei gomisiynu i gyfansoddi gwaith ar gyfer ffliwt, acordion, soddgrwth a sain wedi’i recordio ymlaen llaw.

Mae gwobrau diweddaraf Jack Sheen yn cynnwys Cyfnod Preswyl Progetto Positano yn Sefydliad Ernst von Siemens (2024) a Chronfa Cyfansoddwyr PRS (2021). Enillodd wobr Cyfansoddwr Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2011.

Peter Mooretrombôn

Ganed Peter Moore yn Belfast a chafodd ei fagu ym Manceinion Fwyaf; roedd y profiadau a gafodd fel rhan o ddiwylliant bandiau pres byd-enwog Gogledd Lloegr yn hanfodol i’w ddatblygiad cyflym fel offerynnwr ifanc iawn. Daeth i sylw rhyngwladol yn 2008 pan enillodd wobr Cerddor Ifanc y Flwyddyn y BBC ac yntau ond yn 12 oed – y person ieuengaf erioed i ennill y wobr hon – gan lansio gyrfa fel unawdydd sy’n parhau i fynd o nerth i nerth.

Mae wedi perfformio gyda cherddorfeydd blaenllaw, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni’r BBC, cerddorfeydd Symffoni Llundain a Lucerne, Cerddorfa Gyngerdd y BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl, Cerddorfa Siambr Gwlad Pwyl a Cherddorfa Ulster. Mae hefyd wedi rhoi datganiadau yn rhai o leoliadau a gwyliau mwyaf nodedig y byd, gan gynnwys Concertgebouw Amsterdam, Kölner Philharmonie, Elbphilharmonie Hamburg, Canolfan Barbican a Neuadd Wigmore yn Llundain, Musikverein Fienna a Tonhalle Zurich, yn ogystal â Gŵyl Spoleto. Mae ei deithiau wedi mynd ag ef mor bell ag Awstralasia, Tsieina, Japan, De America a De Korea, a rhwng 2015 a 2017 roedd yn un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3.

Mae ei repertoire yn ymestyn o’r cyfnod Baróc cynnar i drawsgrifiadau lieder Rhamantaidd, ac i weithiau cyfoes. Mae wedi perfformio premières o weithiau trombôn a ysgrifennwyd ar ei gyfer gan Francisco Coll (Chanson et Bagatelle), Roxanna Panufnik (When You Appear), Dani Howard (Concerto i’r Trombôn) a llawer mwy. Ef hefyd a roddodd y perfformiad cyntaf yn y DU o Goncerto Syr James MacMillan i’r Trombôn gyda Cherddorfa Symffoni Llundain, a’r perfformiad cyntaf yn Ewrop o Ligeia gan Joe Chindamo gyda’r Gerddorfa Symffoni Genedlaethol yn Nulyn.

Mae ei uchafbwyntiau ym myd y concerti wedi cynnwys perfformiadau yn Neuadd Suntory yn Tokyo gyda Syr Simon Rattle, ac ym Mhroms y BBC gyda Vasily Petrenko.

Rhyddhawyd ei albwm cyntaf, Life Force, yn 2018. Gyda chyfeiliant gan James Baillieu, mae’r record yn cynnwys detholiad o ganeuon lieder wedi’u trefnu ar gyfer trombôn a phiano, yn ogystal â gweithiau a ysgrifennwyd yn wreiddiol ar gyfer y trombôn.

Bu Peter Moore yn Brif Drombonydd gyda Cherddorfa Symffoni Llundain, gan ymuno â’r gerddorfa yn 2014 fel y chwaraewr ieuengaf erioed. Ar ôl 10 mlynedd, ymddiswyddodd er mwyn canolbwyntio ar ei yrfa fel unawdydd. Ar hyn o bryd mae’n athro yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ac mae wedi rhoi dosbarthiadau meistr ym mhedwar ban byd mewn sefydliadau sy’n cynnwys Ysgol Juilliard, Conservatoire Paris a’r New England Conservatory.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Mark Derudder
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Emilie Godden
Anna Cleworth
Ruth Heney **
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Nadine Nigl
Catherine Fox
Grace Shepherd

Ail Ffidlau
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Michael Topping
Katherine Miller
Beverley Wescott
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Laurence Kempton
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Robert Gibbons
Lydia Abell
Lowri Taffinder
Mungo Everett-Jordan

Soddgrythau
Pedro Silva
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Alistair Howes
Keith Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
Neil Tarlton
James Manson
Richard Lewis
Emma Prince
Imogen Fernando
Clare Larkman

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean
Flic Cowell

Clarinetau
William White
Chris Gibbons
Lenny Sayers **+

Clarinét Bas
Lenny Sayers †**+

Baswnau
Patrick Bolton
Llinos Owen
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Kota Umejima
Flora Bain
John Davy

Utgyrn
Phillipe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †

Trombonau
Donal Bannister *
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Aled Meredith-Barrett

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Ewan Millar
Phil Girling
Sarah Mason

Y Delyn
Tomos Xerri

Piano/Celesta
Catherine Roe Williams

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications