Rhyfel a Heddwch

Nos Fercher 11/11/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Iau 12/11/26, 7.30pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Nos Wener 13/11/26, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones, Bangor

Maurice Ravel
Le tombeau de Couperin 17’

Ralph Vaughan Williams
Songs of Travel 25’

EGWYL: 20 munud

Jean Sibelius
Symffoni Rhif 1 yn E leiaf 38’

Ryan Bancroftarweinydd
Steffan Lloyd Owenbariton

Mae’r cyngerdd yng Nghaerdydd yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Radio 3 in Concert; mae’r cyngerdd ym Mangor yn cael ei recordio i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live ar BBC Radio 3. Byddant ar gael am 30 diwrnod ar ôl eu darlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.

Croeso

Mewn tri chyngerdd yng Nghaerdydd, Aberystwyth a Bangor, rydym yn croesawu Ryan Bancroft a’r bariton nodedig o Gymru, Steffan Lloyd Owen, yn ôl atom. Byddant yn cyflwyno cerddoriaeth sy’n archwilio teithiau’r ysbryd dynol, gan olrhain llwybrau trwy dirweddau ffisegol ac emosiynol.

Mae Le tombeau de Couperin gan Ravel yn agor y cyngerdd gyda thaith trwy’r cof. Cafodd ei gyfansoddi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – mewn byd oedd yn newid yn gyflym – a’i gyflwyno gan Ravel i ffrindiau a gollwyd yn y gyflafan. Mae’n anrhydeddu’r gorffennol trwy gerddoriaeth sy’n parhau i fod yn gain ac yn dathlu bywyd, yn hytrach na bod yn drist neu’n dywyll.

Yna cawn Songs of Travel gan Vaughan Williams, sy’n gosod geiriau Robert Louis Stevenson i gerddoriaeth. Mae’r caneuon hyn yn dilyn crwydryn trwy dirweddau a chyflyrau meddyliol sy’n newid, a rhoir bywyd iddo yma gan Steffan Lloyd Owen. Fel gwaith Ravel, mae’r gerddoriaeth yn archwilio themâu fel unigrwydd, dyfalbarhad a’r ymgais parhaol i ddarganfod ystyr – i gyd wedi’u mynegi trwy enghreifftiau o gerddoriaeth fwyaf telynegol Vaughan Williams.

Wedi’r egwyl, mae Symffoni Gyntaf Sibelius yn mynd â ni i fyd o seiniau dramatig. O’r agoriad cofiadwy ar y clarinét hyd at y diweddglo cyffrous, mae’r symffoni yn olrhain taith emosiynol epig, sy’n llawn brwydro, penderfyniad a buddugoliaeth a enillir drwy ymdrech galed.

George Lee
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill o’r gynulleidfa a’r rhai sy’n gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Maurice Ravel (1875–1937)

Le tombeau de Couperin(1914–17, trefn. 1919)

1 Prélude
2 Forlane
3 Menuet
4 Rigaudon

Mae François Couperin wedi byw ddwywaith yn hanes cerddoriaeth Ffrainc – yn ei gyfnod ei hun fel y cyfansoddwr pwysicaf rhwng Lully a Rameau, ac (ar ôl cyfnod hir o gael ei anwybyddu) yn rhan gynnar yr 20fed ganrif, pan gafodd ei ailddarganfod fel ymgorfforiad o holl rinweddau cerddoriaeth Ffrainc. Mae’n wir bod Corelli wedi cael dylanwad cryf arno, ond roedd gwerthoedd Eidalaidd eisoes wedi’u hymgorffori’n ddwfn yng ngherddoriaeth Ffrainc beth bynnag. Y peth anhepgor am Couperin – yn ôl barn Debussy a Ravel, a drodd yn ôl ato am ysbrydoliaeth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – oedd ei fod yn cynrychioli cyfnod pan oedd dylanwad yr Almaen ar gerddorion Ffrainc ar ei leiaf. Rhwng 1915 a 1917, gan gyfeirio ato’i hun yn fwriadol fel ‘musicien français’ (cerddor Ffrengig) yn ei lofnod, cwblhaodd Debussy dair sonata sy’n amlwg yn ddyledus i’r arddull Baróc Ffrengig yn fwy nag i’r arddull Glasurol Fiennaidd. Tua’r un adeg, cyfansoddodd Ravel y gyfres i’r piano Le tombeau de Couperin; daeth y gwaith hwn yn fwy poblogaidd fyth pan drefnodd bedwar o’i chwe symudiad ar gyfer cerddorfa ym 1919.

Roedd y defnydd a wnaeth Ravel o’r term ‘tombeau’ (sy’n golygu ‘bedd’ yn llythrennol) – term a ddefnyddid yn aml gan gyfansoddwyr y cyfnod Baróc ar gyfer gweithiau a gyflwynwyd er cof am gydweithwyr a fu farw – yn hynod addas ar gyfer gwaith a gyflwynwyd nid yn unig fel teyrnged i’w hoff gyfansoddwr Ffrengig ar gyfer yr harpsicord, ond hefyd fel darn i goffáu ffrindiau a laddwyd yn y rhyfel. Serch hynny, nid yw’r agwedd goffaol yn amlwg iawn yma, ac ychydig o gyfeiriadau bwriadol sydd at arddull allweddellol François Couperin. Byddai’n anodd, er enghraifft, olrhain cysylltiad uniongyrchol rhwng y Prélude agoriadol – yn enwedig yn y fersiwn gerddorfaol a berfformir heno – ag unrhyw ddarn penodol gan Couperin. Er bod y darn yn ymhyfrydu yn ei alawon addurniadol sy’n llawn mordentau (addurniadau cerddorol) a harmonïau sy’n rhagflaenu’r cyfnod Clasurol, mae’n ein hatgoffa o farn Ravel: bod Le tombeau yn ‘deyrnged nid cymaint i Couperin fel unigolyn, ond i gerddoriaeth Ffrainc yn ei chyfanrwydd yn y 18fed ganrif’.

Wedi’i gyfareddu a’i ddifyrru gan ddatganiad y Pab fod y tango yn anfoesol, ac y dylai’r forlane – dawns werin o Fenis – gymryd ei le, daeth Ravel o hyd i enghraifft o’r Forlane yn y pedwerydd Concert royal gan Couperin, a’i haddasu at ei ddiben ei hun. Gan gadw ei strwythur rondo, defnyddiodd Ravel harmonïau oedd mor nwydus â’r rhai y gellid eu clywed mewn tango.

Mae’r Menuet yn cynnig cyferbyniad llwyr; mae ganddo naws aristocrataidd nodedig a phrudd-der sydd bron yn amhosib ei ffrwyno. Daw cyferbyniad pellach yn y musette swynol sy’n ffurfio’r rhan ganol; mae’n dechrau’n dawel cyn ymchwyddo’n ddramatig. Yna, deuir â’r ddwy thema at ei gilydd, a daw’r symudiad i ben mewn cytgord disglair annisgwyl.

Dewisodd Ravel y Rigaudon– pedwerydd symudiad y fersiwn piano o Le tombeau de Couperin – fel y darn olaf yn y gyfres gerddorfaol. Mae’n addas iawn gan fod rhythmau a harmonïau cadarn y rhannau allanol yn cael eu cydbwyso’n effeithiol gan ran ganol sy’n fwy telynegol. Roedd y rigaudon yn ddawns yr oedd Couperin yn ei mwynhau i’r un graddau â’i gyfoedion yn Ffrainc a Lloegr. 

Nodyn y rhaglen © ystâd Gerald Larner

Ralph Vaughan Williams (1872–1958)

Songs of Travel (1901–4)

1 The Vagabond
2 Let Beauty awake
3 The roadside fire
4 Youth and love
5 In dreams
6 The infinite shining heavens
7 Whither must I wander?
8 Bright is the ring of words
9 I have trod the upward and the downward slope

Steffan Lloyd Owenbariton

Roedd y syniad barddonol o’r ‘Crwydryn’ – ffigwr sydd weithiau’n siriol, ond yn amlach yn fyfyriol a thywyll ei naws, ar daith unig trwy dirwedd wledig sy’n ymddangos fel drych o’i unigedd – yn gynnyrch cyfnod cynnar y Rhamantwyr, ac fe barhaodd i apelio at artistiaid cenedlaethau diweddarach. Un ohonynt oedd Robert Louis Stevenson (1850–94), y nofelydd, bardd, awdur teithio, ysgrifwr a chyfansoddwr o’r Alban.

Fodd bynnag, nid chwilio am ysbrydoliaeth mewn unigedd yng nghanol rhyfeddodau natur oedd yr unig reswm dros awydd Stevenson i deithio. Gan ei fod wedi dioddef o glefyd ar ei ysgyfaint ers oedd yn ifanc, treuliodd flynyddoedd olaf ei fywyd byr – ond eithriadol o greadigol – yn chwilio am hinsawdd a fyddai’n rhoi cyfle iddo oroesi cyhyd â phosibl. Roedd hon yn rhyw fath o bererindod orfodol a’i harweiniodd o Ewrop i America ac, yn y pen draw, i ynys drofannol Samoa yn y Môr Tawel. Cyhoeddwyd ei gasgliad Songs of Travel and Other Verses ar ôl ei farwolaeth ym 1896, ac ymhlith ei ddarllenwyr cynnar roedd y cerddor ifanc, Vaughan Williams. Roedd ef ar y pryd yn dechrau gwneud enw iddo’i hun fel cyfansoddwr â medr technegol cadarn, er nad oedd wedi datblygu llais creadigol unigryw ar yr adeg honno.

Yna, digwyddodd rhywbeth annisgwyl a ysgogodd y cerddor ifanc i gymryd y cam olaf tuag at aeddfedrwydd. Ym mis Rhagfyr 1903, yn Brentwood, Essex, clywodd Vaughan Williams weithiwr – Charles Pottipher – yn canu’r gân werin ‘Bushes and Briars’ tra oedd yn cymryd saib o’i waith. Ysbrydolodd hyn Vaughan Williams i ymgymryd â gyrfa gyfochrog, lle ymroddodd i gasglu a thrawsgrifio caneuon gwerin Saesneg – trysorfa gyfoethog a ddaeth, yn ei thro, yn ddylanwad canolog ar ei gerddoriaeth ei hun.

Cafodd Songs of Travel eu perfformio gyntaf fel cylch o ganeuon ym 1904, ac fe’u hystyrir yn un o ddatganiadau mawr cyntaf y cyfansoddwr. Ond, er bod uniondeb y modd y gosodwyd y geiriau i gerddoriaeth yn gysylltiedig â’i ddarganfyddiad o ganeuon gwerin Saesneg, mae cysylltiadau eraill hefyd. Cyfansoddwyd y seithfed gân, ‘Whither must I wander?’, cyn y lleill – yn ôl pob tebyg ym 1901, ac yn sicr cyn i ganu Charles Pottipher newid cyfeiriad bywyd cerddorol Vaughan Williams. Mae cerddi Stevenson, hefyd – er eu bod i ryw raddau yn dynwared geiriau caneuon gwerin – yn waith artist soffistigedig sy’n ysgrifennu ar gyfer darllenwyr sy’n perthyn, i raddau helaeth, i’r dosbarth canol. Llwyddiant y cylch yw ei fod yn cyfuno’r ddau fyd cerddorol – y gân werin a’r ‘gân gelf’ – gyda sicrwydd pwrpas sydd wedi sicrhau bod Songs of Travel wedi aros yn y repertoire byth ers hynny.

Mae’r gân agoriadol, ‘The Vagabond’, yn cyfleu ar unwaith naws o optimistiaeth y teithiwr – optimistiaeth sy’n wynebu heriau – trwy linell ddiamwys yn y llais uwchben llinell fas gerddorfaol gadarn. Dilynir ‘Let Beauty awake’ – gyda thelyn sy’n llifo fel dŵr, a’r chwythbrennau a’r llinynnau uchaf – gan ‘The roadside fire’, lle mae’r cyfeiliant sy’n pitran-patran yn y ddau bennill cyntaf yn ehangu i fod yn ffrwd hyfryd o delynegiaeth yn y trydydd.

Yng nghanol y cylch, yn y gân ‘Youth and love’, mae rhyngweithio syml rhwng rhythmau dwpled a thripled yn cynnal hynt y gân, sydd wedi’i llunio’n hynod fedrus; mae rhyddid y teithiwr i grwydro yn gwneud iddo sylweddoli’n fwy craff ar yr hyn mae’n ei golli – sef bywyd sefydlog o gariad – rhywbeth a bortreadir yn angerddol yn yr ail bennill. Yn ‘In dreams’, mae llinell gromatig y canwr yn archwilio naws o ing tywyll, sy’n cael ei gydbwyso gan gyfuniadau o nodau disglair yng nghyfeiliant ‘The infinite shining heavens’. Mae ‘Whither must I wander?’ wedi’i osod mewn arddull syml, tebyg i faled; ac mae’r ddau bennill yn ‘Bright is the ring of words’ yn symud tuag at naws ddwys a theimladwy ei ddwy linell olaf. Yno, mae’r bardd a’r canwr (sy’n cynrychioli’r teithiwr ei hun) wedi marw, ond mae ei waith yn goroesi ac yn cael ei gofio.

Pan berfformiwyd y cylch am y tro cyntaf ym 1904, dyma lle daeth i ben: roedd Vaughan Williams wedi hepgor y gosodiad olaf, ‘I have trod the upward and the downward slope’. Nodweddir y gân hon gan arddull rethregol stoicaidd ac epilog cerddorfaol sy’n dwyn i gof y llinell fas sy’n cerdded yn ‘The Vagabond’. Erbyn hynny, roedd ei berthynas â’i wraig gyntaf, Adeline – er ei bod yn agos mewn sawl ffordd – i bob golwg wedi rhoi’r gorau i fod yn berthynas gorfforol. Efallai fod Vaughan Williams wedi teimlo bod y cyfeiriad yn y gerdd at dranc cariad yn rhy agos at yr asgwrn o’r herwydd? Arhosodd y gân yn anhysbys nes iddi gael ei darganfod ymhlith ei bapurau ym 1960, ddwy flynedd wedi ei farwolaeth. 

Nodyn y rhaglen © Malcolm Hayes

Testun

1 The Vagabond
Give to me the life I love,
Let the lave go by me,
Give the jolly heaven above,
And the byway nigh me.
Bed in the bush with stars to see,
Bread I dip in the river – 
There’s the life for a man like me,
There’s the life for ever.

Let the blow fall soon or late,
Let what will be o’er me;
Give the face of earth around,
And the road before me.
Wealth I seek not, hope nor love,
Nor a friend to know me;
All I seek, the heaven above,
And the road below me.

Or let autumn fall on me
Where afield I linger,
Silencing the bird on tree,
Biting the blue finger.
White as meal the frosty field – 
Warm the fireside haven – 
Not to autumn will I yield,
Not to winter even!

2 Let Beauty awake
Let Beauty awake in the morn from beautiful dreams,
Beauty awake from rest!
Let Beauty awake
For Beauty’s sake
In the hour when the birds awake in the brake
And the stars are bright in the west!
Let Beauty awake in the eve from the slumber of day,
Awake in the crimson eve!
In the day’s dusk end
When the shades ascend,
Let her wake to the kiss of a tender friend,
To render again and receive!

3 The roadside fire
I will make you brooches and toys for your delight
Of bird-song at morning and star-shine at night,
I will make a palace fit for you and me
Of green days in forests, and blue days at sea.

I will make my kitchen, and you shall keep your room,
Where white flows the river and bright blows the broom;
And you shall wash your linen and keep your body white
In rainfall at morning and dewfall at night.

And this shall be for music when no-one else is near,
The fine song for singing, the rare song to hear!
That only I remember, that only you admire,
Of the broad road that stretches and the roadside fire.

4 Youth and love
To the heart of youth the world is a highwayside.
Passing for ever, he fares; and on either hand,
Deep in the gardens golden pavilions hide,
Nestle in orchard bloom, and far on the level land
Call him with lighted lamp in the eventide.

Thick as stars at night when the moon is down,
Pleasures assail him. He to his nobler fate
Fares; and but waves a hand as he passes on,
Cries but a wayside word to her at the garden gate,
Sings but a boyish stave and his face is gone.

5 In dreams
In dreams unhappy, I behold you stand
As heretofore:
The unremember’d tokens in your hand
Avail no more.

No more the morning glow, no more the grace,
Enshrines, endears.
Cold beats the light of time upon your face
And shows your tears.

He came and went. Perchance you wept awhile
And then forgot.
Ah me! but he that left you with a smile
Forgets you not.

6 The infinite shining heavens
The infinite shining heavens
Rose, and I saw in the night
Uncountable angel stars
Showering sorrow and light.

I saw them distant as heaven,
Dumb and shining and dead,
And the idle stars of the night
Were dearer to me than bread.

Night after night in my sorrow
The stars looked over the sea,
Till lo! I looked in the dusk
And a star had come down to me.

7 Wither must I wander?
Home no more home to me, whither must I wander?
Hunger my driver, I go where I must.
Cold blows the winter wind over hill and heather:
Thick drives the rain and my roof is in the dust.
Loved of wise men was the shade of my roof-tree,
The true word of welcome was spoken in the door – 
Dear days of old with the faces in the firelight,
Kind folks of old, you come again no more.

Home was home then, my dear, full of kindly faces,
Home was home then, my dear, happy for the child.
Fire and the windows bright glittered on the moorland;
Song, tuneful song, built a palace in the wild.
Now when day dawns on the brow of the moorland,
Lone stands the house, and the chimney-stone is cold.
Lone let it stand, now the friends are all departed,
The kind hearts, the true hearts, that loved
the place of old.

Spring shall come, come again, calling up the moorfowl,
Spring shall bring the sun and rain, bring the bees and flowers;
Red shall the heather bloom over hill and valley,
Soft flow the stream through the even-flowing hours.
Fair the day shine as it shone on my childhood – 
Fair shine the day on the house with open door;
Birds come and cry there and twitter in the chimney – 
But I go for ever and come again no more.

8 Bright is the ring of words
Bright is the ring of words
When the right man rings them,
Fair the fall of songs
When the singer sings them,
Still they are carolled and said – 
On wings they are carried – 
After the singer is dead
And the maker buried.

Low as the singer lies
In the field of heather,
Songs of his fashion bring
The swains together.
And when the west is red
With the sunset embers,
The lover lingers and sings
And the maid remembers.

9 I have trod the upward and the downward slope 
I have trod the upward and the downward slope;
I have endured and done in days before;
I have longed for all, and bid farewell to hope;
And I have lived and loved, and closed the door.

Robert Louis Stevenson (1850–94)

EGWYL: 20 munud

Jean Sibelius (1865–1957)

Symffoni Rhif 1 yn E leiaf, Op. 39 (1898–9, diw. 1900)

1 Andante, ma non troppo – Allegro energico
2 Andante (ma non troppo lento)
3 Scherzo: Allegro – Lento (ma non troppo) – Tempo I
4 Finale (quasi una fantasia): Andante – Allegro molto

Wrth fyfyrio ar bwrpas symffoni, ysgrifennodd Sibelius ei fod yn ystyried y gweithiau hyn fel ‘datganiadau o ffydd mewn cyfnodau gwahanol o fywyd. Dyna pam mae fy holl symffonïau mor wahanol i’w gilydd.’ Gellir ystyried ei Symffoni Gyntaf, a ddechreuodd ym 1898, yn ddatganiad o ffydd mewn cenedlaetholdeb Ffinnaidd. Er i Sibelius, yn ddiweddarach, geisio cadw pellter oddi wrth gysylltiadau o’r fath – gan holi ym 1910 a oedd wedi troi’n ‘ddim byd mwy na rhyw gywreinbeth “cenedlaetholaidd”’ – mae ei ddatblygiad fel cyfansoddwr yn anwahanadwy oddi wrth y mudiad hwnnw.

Roedd dechrau’r 20fed ganrif yn gyfnod cythryblus i wleidyddiaeth y Ffindir. Ers 1809, roedd y wlad wedi bod yn Uchel Ddugiaeth ymreolaethol o fewn yr Ymerodraeth Rwsiaidd, ond trwy gydol y 19eg ganrif cafwyd galwadau eang am annibyniaeth wleidyddol i’r Ffindir. Carreg filltir bwysig oedd cyhoeddi casgliad o chwedlau gwerin o ranbarth Karelia, o’r enw’r Kalevala, ym 1835. Gan ei fod wedi’i ysgrifennu mewn Ffinneg, daeth y llyfr yn arwrgerdd genedlaethol, gan roi hanes i’r Ffiniaid yn eu hiaith eu hunain. Cafodd effaith ddiwylliannol enfawr, gan ysbrydoli artistiaid, awduron a cherddorion y wlad. Defnyddiodd Sibelius destun o’r Kalevala ar gyfer y gwaith a sicrhaodd ei lwyddiant mawr cyntaf: y symffoni gorawl Kullervo. Gan seilio’r gwaith ar un o brif gymeriadau trasig y Kalevala, cafodd y darn dderbyniad brwdfrydig iawn pan berfformiwyd ef am y tro cyntaf ym 1892. ‘Rydym yn cydnabod y tonau hyn fel rhai sy’n perthyn i ni, hyd yn oed os nad ydym erioed wedi eu clywed fel y cyfryw o’r blaen,’ datganodd y cyfansoddwr a’r beirniad Oskar Merikanto.

Wedi’i annog gan ei wraig Aino – yr oedd ei theulu’n amlwg yn y mudiad cenedlaetholaidd – parhaodd Sibelius i gyfansoddi gweithiau oedd yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r mudiad hwnnw. Y mwyaf adnabyddus ohonynt heddiw yw Finlandia (1899). Dechreuodd y gwaith hwnnw fel rhan o gerddoriaeth ar gyfer cyfres o olygfeydd hanesyddol a oedd yn darlunio genedigaeth y Ffindir fel cenedl annibynnol; perfformiwyd y rhain mewn digwyddiad a oedd yn protestio yn erbyn sensoriaeth Rwsia ar y wasg, yn dilyn maniffesto a oedd yn cyfyngu ar ymreolaeth y Ffindir.

Yn y cyd-destun hwn y dechreuodd Sibelius gyfansoddi ei Symffoni Rhif 1. Roedd gan y genre hwn statws uchel iawn fel ffurf fawreddog, a oedd â’r potensial i gyfuno teimladau cenedlaetholgar â theimladau cyffredinol, dynol. Fe’i hystyriwyd yn uchafbwynt cyflawniad cyfansoddiadol: fel y dywedodd un beirniad, ‘Ychydig sy’n mentro ymgymryd â strwythur mawreddog y symffoni, oherwydd mai ychydig sy’n meddu ar y grefft anodd o ddatblygu syniad cerddorol hyd at y diwedd – yn rhesymegol ac yn gynhwysfawr – gan ganiatáu iddo ehangu i ystyr cyffredinol a rhoi dimensiwn ysbrydol i’r ffurf.’ Pe gallai Sibelius greu symffoni y gellid ei hystyried yn argyhoeddiadol fel un ‘genedlaethol’, byddai hynny’n cadarnhau ei statws fel prif gyfansoddwr y wlad.

Roedd y gwaith a ddeilliodd o hyn yn llwyddiant poblogaidd arall. Mae’n cynnwys pedwar symudiad ac yn agor gyda llinell clarinét dros rymial tawel y drymiau (timpani), cyn ffrwydro i mewn i alaw egnïol a hylifol yn yr offerynnau llinynnol. Mae’n hawdd deall pam y cysylltwyd cerddoriaeth Sibelius mor gyflym â thirwedd y Ffindir. Cyfansoddodd yn helaeth ar gyfer y theatr, ac ymsefydlodd y nodweddion cerddorol a gysylltir â delweddau neu emosiynau penodol ar y llwyfan yn ei weithiau offerynnol. Yn wir, drafftiodd y gerddoriaeth achlysurol ar gyfer y ddrama hanesyddol King Christian II ar yr un pryd â’r gwaith hwn, ac mae tebygrwydd trawiadol rhwng y ddau. Mae agoriad y symffoni yn dwyn i gof dirwedd eang, wag, gan greu teimlad o unigrwydd a phrudd-der. Yn ei ddrafftiau cynnar ar gyfer y gwaith, nododd Sibelius y geiriau ‘Mae’r gwynt yn chwythu’n oer, tywydd oer o’r llyn’ fel ‘arwyddair’ ar gyfer y symudiad cyntaf.

Mae’r Andante – yr ail symudiad – yn cynnwys nifer o eiliadau sy’n cyfleu delweddau atgofus. Mae’n dechrau gydag un o alawon hardd nodweddiadol y cyfansoddwr; llinell freuddwydiol, felodaidd sy’n cael ei hategu gan delyn sy’n dirgrynu’n ysgafn. Mae symudiadau fel hwn yn dangos pa mor ddisglair oedd Sibelius wrth drefnu cerddoriaeth ar gyfer cerddorfa. Mae’r brif alaw yn newid ei naws sawl gwaith wrth iddi gael ei dadelfennu a’i throsglwyddo rhwng gwahanol offerynnau. Daw darn arbennig o effeithiol yng nghanol y symudiad, lle mae soddgrwth unawdol yn chwarae darnau o’r alaw yn erbyn y chwythbrennau – yna, yn sydyn, mae Sibelius yn agor golygfa symffonig eang a mawreddog, wrth i’r cyrn chwarae’r alaw uwchben seiniau tonnog tawel y ffidlau, tra bo’r delyn yn chwarae arpeggi troellog. Daw’r Andante i ben yn heddychlon, cyn symud yn syth i’r Scherzo bywiog, sy’n cael ei yrru gan fotiff nodedig ar y tympanau.

Er gwaethaf cyd-destun gwleidyddol y symffoni hon, mae’n dangos – hyd yn oed mewn gwaith mor gynnar – pa mor anodd yw gosod Sibelius mewn categori cul fel cyfansoddwr ‘Ffinnaidd’ yn unig. Mae dylanwad amlwg i’w weld drwy’r darn, sef dylanwad y Rwsiad Tchaikovsky, yn enwedig yn y symudiad olaf ffrwydrol. Mae’r ffurf, yr offeryniaeth a’r modd y mae’r alawon wedi’u llunio yn ddyledus iawn i’r cyfansoddwr hŷn hwnnw, yr oedd gan Sibelius barch mawr ato. Ond roedd cysyniad y Ffiniad o genedlaetholdeb bob amser yn un oedd yn edrych tuag allan. Teithiodd yn helaeth, ac mae ei arddull gerddorol mor ddyledus i Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Rwsia, ag y mae i wledydd Gogledd Ewrop. Efallai mai un o’r rhesymau pam y mae ei waith wedi cael ei gofleidio mor eang yw ei fod wedi creu gofodau cerddorol lle gallai’r Ffindir gwrdd â’r byd fel cenedl fodern, gosmopolitaidd.

Nodyn y rhaglen © Leah Broad

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Sibelius 6 a 7

Nos Iau 25/2/27, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC
https://www.bbc.co.uk/events/ehp9hn?prog

Wagner Agorawd Tannhäuser
Grieg Concerto i’r Piano
Sibelius Symffoni Rhif 6
Sibelius Symffoni Rhif 7

Pietari Inkinen arweinydd
Anna Geniushenepiano

GWRTHDARO | MYTH | LLONYDDWCH

Dan arweiniad Pietari Inkinen, mae’r rhaglen hon yn symud o ddrama Ramantaidd i eglurder Nordig. Agorir y cyngerdd gydag Agorawd Tannhäuser Wagner, ac yna bydd Anna Geniushene yn perfformio Concerto Grieg i’r Piano, cyn inni goroni’r noson gyda Chweched a Seithfed Symffoni Sibelius.

Gwerin y Dwyrain  

Nos Iau 11/3/27, 7.30pm
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
https://www.bbc.co.uk/events/eb3fbp?prog

Nos Wener 12/3/27, 7.30pm
Neuadd Prichard-Jones, Bangor
https://www.bbc.co.uk/events/ez5mzc?prog

Bartók Dawnsiau Gwerin Rwmanaidd
Tabakova Concerto i’r Fiola
LutosławskiCyfres Fach
Tchaikovsky Symffoni Rhif 4

Delyana Lazarova arweinydd
Maxim Rysanov fiola

GWERINOL | TELYNEGOL| BUDDUGOLIAETHUS    

Daw gwreiddiau gwerin a drama symffonig ynghyd dan arweiniad Delyana Lazarova. Dawnsiau Gwerin Rwmanaidd Bartók fydd yn agor y cyngerdd, ac yna Concerto Dobrinka Tabakova i’r Fiola gyda Maxim Rysanov, a Phedwaredd Symffoni Tchaikovsky sy’n olrhain hynt taith o ffawd i fuddugoliaeth.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Pob Nodyn yn Gwneud Gwahaniaeth! 

Gall eich cefnogaeth chi helpu i ddod â llawenydd cerddoriaeth fyw i fwy o bobl ym mhob cwr o Gymru. Mae Cyfeillion Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn elusen gofrestredig (Rhif yr elusen: 1062645) sy’n ariannu ein gwaith gydag ysgolion, a’n gwaith cymunedol ac allgymorth, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a rhannu cerddoriaeth lle mae ei hangen fwyaf. Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, ystyriwch roi arian. Gallwch gyfrannu’n ddiogel gyda cherdyn neu arian parod ym mhwynt rhoddion y Cyfeillion ar y Bont Gyswllt wrth i chi fynd i mewn i Neuadd Hoddinott y BBC. Mae pob rhodd, beth bynnag ei maint, yn helpu i wneud gwahaniaeth. 

Mwynhewch BBC NOW yn fyw gartref 

Dylai pawb allu mwynhau cerddoriaeth wych. Efallai eich bod chi’n methu dod i’r neuadd gyngerdd neu’n byw filltiroedd o’r lleoliad agosaf, ond gallwch chi fwynhau rhai o gyngherddau Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn fyw drwy gydol tymor 2026/27. Gwyliwch nhw ar ein gwefan neu eu mwynhau gartref ar BBC iPlayer. Cliciwch i weld rhestr lawn o’n ffrydiau byw y tymor hwn. BBC NOW 2026-27 Ffrwd Fyw - Digwyddiadau - BBC

 Cyngherddau Gwyrddach

 Fel cerddoriaeth, mae gofalu am ein planed yn dod â phobl at ei gilydd. Os gallwch chi, dewiswch fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, beicio neu rannu car i’r cyngerdd. Os ydych chi’n ymweld â Neuadd Hoddinott y BBC, fe welwch chi finiau ailgylchu drwy'r lleoliad i helpu i leihau gwastraff. Drwy newid i raglenni cyngherddau digidol, rydyn ni eisoes wedi arbed dros 2 dunnell fetrig o bapur rhag mynd i safleoedd tirlenwi. Diolch i chi am ein helpu ni i wneud cerddoriaeth fyw yn fwy cynaliadwy. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich syniadau ynglŷn â sut gallwn ni wella. Anfonwch e-bost now@bbc.co.uk

Bywgraffiadau

Ryan Bancroft arweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2018, pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth Malko i Arweinwyr Ifanc yn Copenhagen. Ef oedd Prif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o fis Medi 2021 tan ddiwedd y tymor diwethaf. Mae hefyd yn Artist Cyswllt gyda’r Tapiola Sinfonietta, ac ers mis Medi 2023, mae wedi bod yn Brif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm.

Ar ôl dechrau ei gyfnod fel Prif Arweinydd yn Stockholm gyda pherfformiad cyntaf y gerddorfa o The High Mass gan Sven-David Sandström, roedd ei ail dymor yn cynnwys perfformiadau o symffonïau gan Mahler a Bruckner, ynghyd â’r perfformiadau cyntaf erioed o weithiau gan Chrichan Larson a Zacharias Wolfe, a chydweithrediadau gydag unawdwyr enwog fel Leif Ove Andsnes, Maxim Vengerov a Víkingur Ólafsson.

Y tymor diwethaf, perfformiodd am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Symffoni Boston a Cherddorfa Symffoni Radio’r Ffindir, y Deutsches Symphonie-Orchester Berlin yn y Berlin Philharmonie, a’r WDR Symphonieorchester yn Cologne.

Mae Ryan Bancroft yn frwd dros gerddoriaeth gyfoes; mae wedi perfformio gyda’r Nieuw Ensemble yn Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i waith Sur incises yn Los Angeles, wedi cyflwyno premières o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron, ac wedi gweithio gydag arloeswyr cerddoriaeth fyrfyfyr fel Wadada Leo Smith a Charlie Haden. Astudiodd yn y California Institute of the Arts, y Royal Conservatoire of Scotland ac yn yr Iseldiroedd.

Steffan Lloyd Owenbariton

Y bariton o Gymru Steffan Lloyd Owen oedd enillydd Cystadleuaeth Opera Paris 2025 a Chystadleuaeth Josep Palet 2025.

Ymhlith ei uchafbwyntiau’r tymor hwn mae ei ymddangosiad cyntaf yn y Semperoper Dresden fel Sam yn Trouble in Tahiti ar gyfer Semper Zwei, a dychweliad i Dŷ Opera Zurich i ganu rhan Bello yn La Fanciulla del West. Hefyd, mae’n gwneud ei ymddangosiadau cyntaf yn y tŷ opera fel Sciarrone yn Tosca (gyda’r English National Opera) ac yn y brif ran yn Hedd Wyn (gydag Opera Cenedlaethol Cymru).

Roedd yn aelod o’r International Opera Studio yn Opera Zurich rhwng 2024 a 2026. Ymhlith y rhannau a berfformiodd yno roedd Marullo (Rigoletto), Silvano (Un ballo in maschera), Hermann (Les contes d’Hoffmann) a’r brif ran yng nghynhyrchiad y stiwdio o Gianni Schicchi.

Ymhlith ei uchafbwyntiau eraill mae perfformio rhan Ragondin yn Serch yw’r Doctor gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru; ei ymddangosiad cyntaf yn chwarae rhan Escamillo (Le tragédie de Carmen) yng Ngŵyl Buxton; y Doctor yn Macbeth (Verdi) ar gyfer Opera Canolbarth Cymru; a Guglielmo yn Così fan tutte ar gyfer Opera Cymru.

O ran ei gyngherddau diweddar a’r rhai sydd ganddo ar y gweill, mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys cyngerdd olaf Tomáš Hanus gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yng Ngŵyl Abergwaun, lle perfformiodd A Shropshire Lad gan Butterworth; dathliad y canmlwyddiant gyda Syr Bryn Terfel yng Ngŵyl Portmeirion; Requiem Mozart gyda’r Orchestre National de Bretagne yn Rennes (dan arweiniad Grant Llewelyn); a’r Offeren yn C a’r Ffantasi Gorawl gan Beethoven, a berfformiwyd fel rhan o gyngerdd gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, gan ail-greu’r Cyngerdd Budd hanesyddol a gynhaliwyd gan Beethoven yn Fienna ym 1808.   

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys ei Phrif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngerdd i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Paul Mealor

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Jens Lynen
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Emilie Godden
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Ruth Heney **
Grace Shepherd

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith +
Roussanka Karatchivieva
Michael Topping
Vickie Ringguth
Katherine Miller
Lydia Caines
Beverley Wescott

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Mungo Everett-Jordan
Anna Growns
Carl Hill

Soddgrythau
Sébastien van Kuijk ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt

Basau Dwbl
David Stark *
Sam Rice
Emma Prince
Thea Sayer

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean

Cor anglais
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers + **

Baswnau
Jaroslaw Augustiniak *
Patrick Bolton

Cyrn
John Davy
Meilyr Hughes
Andrew Budden
Michael Gibbs
Alex Hocknull

Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
Louis Barclay

Trombonau
Donal Bannister *
Rhodri Thomas

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Sasha Koushk-Jalali

Timpani
Christina Slominska

Offrynnau Taro
Elliott Gaston Ross *
Phil Hughes

Y Delyn
Tomos Xerri

* Prif Offerynnwr yr Adran
† Prif Offerynnwr
‡ Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall +
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Llyfrgellydd y Gerddorfa Jenny Dobinson (cyfnod mamolaeth)
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham +
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Uwch Oruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Cynhyrchydd AddysgApril Heade (cyfnod mamolaeth)
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Amy Campbell-Nichols +
Cydlynydd Marchnata Twf Angharad Muir–Davies
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Prentis Marchnata Mya Clayden
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications