Enigma

Dydd Sadwrn 18/4/26, 3.00pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 19/4/26, 3.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Ffrwd fyw

Grace Williams
Sea Sketches 18’

CamilleSaint-Saëns
Concerto Rhif 3 i’r Ffidil yn B leiaf 29’

EGWYL: 15 munud

Edward Elgar
‘Enigma’ Variations 31’

Jaime Martín arweinydd
Akiko Suwanai ffidil

Mae’r cyngerdd ar 19 Ebrill yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 ar Classical Live ac yn fyw ar BBC iPlayer ac ar wefan BBC NOW. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’n cyngerdd heddiw, ac i’n Prif Arweinydd Gwadd, Jaime Martín, sydd yn ei ôl gyda rhaglen sy’n dechrau’n agos at adref.

Roedd Grace Williams yn Llundain yn ystod y rhyfel pan gyfansoddodd ei Sea Sketches, ond mae ei hiraeth am y Barri, ei thref enedigol, yn amlwg ar bob tudalen. Yn briodol iawn, perfformiwyd y gwaith am y tro cyntaf gan linynnau Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC (rhagflaenydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC), dan arweiniad Mansel Thomas.

Mae’n braf croesawu Akiko Suwanai yn ôl at y gerddorfa i chwarae Trydydd Concerto Saint-Saëns i’r Ffidil – darn sy’n cyfuno meistrolaeth afieithus (ysgrifennwyd y darn ar gyfer un o fawrion y ffidil, Pablo de Sarasate) ac alawon hyfryd mewn trefniant moethus.

I gloi, ‘Enigma Variations’ poblogaidd Elgar, sy’n oriel bortreadau o’i ffrindiau a’i gydweithwyr a gyflwynir gyda chymysgedd gwyrthiol o anwyldeb a ffraethineb, mawredd a rhyfeddod.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Grace Williams (1906–77)

Sea Sketches (1944)

1 High Wind
2 Sailing Song
3 Channel Sirens
4 Breakers
5 Calm Sea in Summer

Roedd Grace Williams yn gweithio fel athrawes gerddoriaeth yn Ysgol Ferched Camden yn Llundain yn ystod y rhyfel, ac fe gwblhaodd ei Sea Sketches ym mis Awst 1944. Cyflwynodd y Gyfres i’w rhieni ‘a fu’n ddigon call i ymgartrefu ar arfordir Morgannwg’, ac mae’n debyg i’r gwaith gael ei gyfansoddi gydag atgofion o’r golygfeydd o’r môr oedd i’w gweld o gartref ei theulu yn y Barri. Cyfaddefai’n aml i’w ffrindiau yn Llundain ar y pryd ei bod hi’n breuddwydio am gyfansoddi a byw ar lan y môr ac, yn 1947, dychwelodd adref i fyw a gweithio yng Nghymru. Yn ddigon addas, cafwyd perfformiad cyntaf ei Sea Sketches ym mis Mawrth y flwyddyn honno gan linynnau Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC, dan arweiniad Mansel Thomas.

Mae’r darn yn agor gyda symudiad bywiog ‘High Wind’ (Allegro energico) lle caiff alaw ffanfferaidd gan y ffidlau uchel ei datblygu yn erbyn ffigurau chwarter cwafer chwyrnellog a gaiff eu taflu rhwng y llinynnau uchaf ac isaf – fel fflwcs ewyn môr mewn gwynt cryf. Darlunnir môr tawelach yn ‘Sailing Song’ (Allegretto), a hynny i ddechrau drwy sigl alaw ysgafn yn y fiolâu, a defnyddir gwahanol liwiau llinynnol (triliau a pizzicato) i olrhain cwrs y cwch wrth i’r symudiad ddatblygu.

Cawn ddarlun o’r môr gyda’r nos yn ‘Channel Sirens’ (Lento misterioso), sy’n dechrau gyda sŵn corn niwl pell wedi’i gyfleu gyda mudydd ar y fiolâu a’r soddgrythau dan gordiau gohiriedig, dirgrynol yn y llinynnau uchaf. Wrth i’r symudiad ddatblygu, mae Williams yn gwneud defnydd dychmygus o weadau a soniaredd llinynnol – gan gynnwys cyseiniau, glissandos, adrannau unawdol a tutti – i awgrymu golygfa annaearol o gychod yn llywio trwy niwl trwchus y nos. Caiff naws anesmwyth y Lento ei chwalu toc gan ‘Breakers’ (Presto), symudiad heulog, scherzoaidd sy’n byrlymu â graddfeydd cromatig a themâu arpeggio yn cwympo dros ei gilydd fel tonnau’n torri ar y lan. Daw’r ‘Sketch’ olaf, ‘Calm Sea in Summer’, fel cyferbyniad llwyr – Andante o linellau melodig cordeddog sy’n siglo’n araf. Ceir ambell ffrae angerddol yn y llinynnau yn ystod y symudiad, ond mae’n gorffen yn ddistaw ar nodyn o dawelwch ym môr cynnes yr haf.

Nodyn y rhaglen © Rhiannon Mathias

Camille Saint-Saëns (1835–1921)

Concerto Rhif 3 i’r Ffidil yn B leiaf, Op. 61 (1880)

1 Allegro non troppo
2  Andantino quasi allegretto –
3  Molto moderato e maestoso

Akiko Suwanai ffidil

Yn ogystal â bod yn ŵr gwirioneddol hyddysg, a llenyddiaeth, ffosiliau a seryddiaeth ymhlith ei ddiddordebau, chwaraeodd Saint-Saëns ran hanfodol yn natblygiad cerddoriaeth Ffrainc. Wedi i’r wlad gael ei threchu yn Rhyfel Ffrainc a Phrwsia 1870–71, cyd-sefydlodd y Société Nationale de Musique i gynyddu cyfleoedd i berfformio gweithiau Ffrengig newydd ac annog arddull cyfansoddi oedd yn rhydd oddi wrth ddylanwad llethol Wagner. Pan bleidleisiodd y gymdeithas dros dderbyn gweithiau o dramor ym 1886, gwylltiodd Saint-Saëns ac ymddiswyddodd fel llywydd.

Mae Concerto Rhif 3 i’r Ffidil yn B leiaf wedi’i gyflwyno i’r feiolinydd a’r cyfansoddwr mawr o Sbaen, Pablo de Sarasate, a oedd wedi hyfforddi yn y Paris Conservatoire ers oedd yn 12 oed – iddo ef yn ogystal yr oedd Saint-Saëns wedi ysgrifennu ei Introduction et Rondo capriccioso. Mae ysgrifennu Saint-Saëns i’r ffidil yn gwneud y gorau o’r ddwy elfen, a mwy: mae’r glust am ffasiwn y boulevarde a’r awydd i arddangos dawn yn cynnig digon o gyfleoedd i unawdydd medrus.

Does dim awgrym yn y gerddoriaeth fod ei chyfansoddwr 44 oed yn ceisio ymdopi â chwalfa’i briodas ar y pryd. Roedd ei ddau fab bychan wedi marw ddwy flynedd ynghynt mewn amgylchiadau trasig; y flwyddyn ganlynol, cerddodd Saint-Saëns allan ar ei wraig tra oeddent ar wyliau ac ni ddychwelodd. Ond ni fu erioed yn un i arllwys ei galon yn ei gerddoriaeth. Fe ysgrifennodd unwaith y geiriau enwog hyn: ‘Bwriad celfyddyd yw creu prydferthwch a chymeriad. Dim ond wedyn y daw teimlad, a gall celf wneud yn iawn hebddo. Mewn gwirionedd, mae’n llawer gwell arni felly.’ Ac yn sicr ddigon, mae’r Trydydd Concerto i’r Ffidil yn arddangos rhinweddau nodweddiadol y cyfansoddwr sef crynoder, canolbwyntio, rhythmau cymhellol, asbri, drama rethregol ac, nid lleiaf, alawon hynod o gofiadwy.

Traethiad pwerus ar linyn dyfnaf yr unawdydd yw’r agoriad cyflwyniadol, sy’n cynnwys ambell naid eang sy’n dal i ddychryn feiolinwyr. Wrth i’r symudiad cyntaf fynd yn ei flaen, mae’n archwilio hwyliau cyferbyniol iawn rhwng dwyster y thema gyntaf yn B leiaf a’r melyster nefol a enynnir gan yr ail thema yn E fwyaf.

Cân heb eiriau ar ffurf barcarolle yw’r ail symudiad yn B feddalnod fwyaf, sy’n bwrw ei swyn ei hun, a sgyrsiau’r ffidil â gwahanol offerynnau chwyth yn cyfoethogi ei agosatrwydd. Mae’r arpeggios cyseiniol tua’r diwedd yn porthi hoffter Sarasate o’r dechneg hon. Mae pont ac iddi naws adroddgan yn arwain i mewn i’r symudiad olaf mawr: taith gyffrous trwy tarantella ysgafn, tanbaid, ail destun cyferbyniol, ehangach, a chorâl sy’n dod i mewn yn dawel bach, ond sydd wedyn yn codi i uchelfannau mwy, gan yrru’r gwaith tuag at ei ddiweddglo buddugoliaethus.

Nodyn y rhaglen © Jessica Duchen

EGWYL: 15 munud

Edward Elgar (1857–1934)

Variations on an Original Theme (‘Enigma’), Op. 36 (1898–9)

Thema (‘Enigma’)
1 C.A.E.
2 H.D.S.-P.
3 R.B.T.
4 W.M.B.
5 R.P.A.
6 Ysobel
7 Troyte
8 W.N.
9 Nimrod
10 Dorabella
11 G.R.S.
12 B.G.N.
13 * * * (Romanza)
14 Finale: E.D.U.

‘The Enigma I will not explain’, ysgrifennodd Elgar, ‘its “dark saying” must be left unguessed ... further, through and over the whole set another and larger theme “goes”, but is not played.’ Mae sawl ymgais ddyfeisgar wedi’u gwneud i ddod o hyd i’r ‘thema fwy’ honno. A allai ‘Auld Lang Syne’, neu hyd yn oed ‘Rule Britannia’, fod yn hanner cuddio yn y gerddoriaeth yn rhywle? Neu a yw’n rhywbeth mwy – wel – enigmatig? Roedd Elgar wrth ei fodd â geiriau mwys ac ystyron dwbl, felly tybed a oes rhywbeth arall, rhywbeth ehangach, ymhlyg yn y gair ‘thema’?

Ceir cliw i hynny yn ei ddisgrifiad o sut y daeth thema’r ‘Enigma’ iddo yn wreiddiol. Ac yntau wedi blino wedi diwrnod o ddysgu, roedd Elgar yn byrfyfyrio wrth y piano, pan dorrodd ei wraig, Alice, ar ei draws yn sydyn:

‘Edward, dyna diwn dda.’ Deffrais o’r freuddwyd: ‘E? Tiwn, pa diwn?’ Ac meddai hi, ‘Chwaraea hi eto, rwy’n hoffi’r diwn yna.’ Dyma fi’n chwarae ac yn strymian, ac yn chwarae, ac wedyn dyma hi’n gweiddi: ‘Dyna’r diwn!’

Mewn fersiwn arall o’r stori, mae Alice yn holi Elgar beth mae’n ei chwarae: ‘Dim byd,’ meddai, ‘ond falle y gallwn i wneud rhywbeth ohono.’ Po fwyaf y mae rhywun yn ei wybod am y cyfansoddwr uchelgeisiol ond hynod ansicr hwn, mwyaf y mae hyn yn swnio fel disgrifiad o Elgar ei hun ar y pryd. Er ei fod eisoes yn ei bedwardegau, roedd yn dal ymhell o fod wedi’i sefydlu yng nghylchoedd diwylliannol Prydain, ac roedd yn teimlo’n rhwystredig ac ynysig. Flynyddoedd yn ddiweddarach dywedodd wrth y beirniad Ernest Newman fod y thema ‘Enigma’ yn mynegi pan gafodd ei hysgrifennu (yn 1898) ‘fy nheimlad o unigrwydd yr artist ... ac i mi, mae’n dal i ymgorffori’r ymdeimlad hwnnw’.

Felly ai’r ‘thema fwy’ sy’n rhedeg trwy’r ‘Enigma’ Variations yw Elgar ei hun, yn unig a phetrus ar y dechrau, ond yn datgelu agweddau eraill ar ei gymeriad cymhleth wrth i’r 14 amrywiad fynd rhagddynt? Mae’r thema’n aros yn glir, fwy neu lai, ond mae’n mynd trwy drawsnewidiadau cyfoethog a dyfeisgar wrth gwrdd â phob un o’r ‘ffrindiau’ sydd, yn ôl Elgar, ‘wedi’u darlunio yn y gwaith’. Ceir angerdd yng nghwmni Alice (Amr. 1), naws chwareus a phryfoclyd yng nghwmni ‘Dorabella’ (Amr. 10), tristwch dwys wrth ymddadlwytho i’r soddgrythwr Basil Nevinson (Amr. 12) ac urddas yn yr enwog ‘Nimrod’ (Amr. 9), sy’n cofnodi sut y gwnaeth ei gyfaill o gyhoeddwr August Jaeger ei annog i geisio cyrraedd y pegynau mwyaf aruchel. Yna, yn y diweddglo (Amr. 14), daw Elgar ei hun i’r amlwg fel y glöyn byw o’r crysalis, a’i adenydd ysblennydd ar led. Os mai Elgar yr artist yw’r ‘thema fwy’ sy’n ‘mynd’ trwy Amrywiadau’r ‘Enigma’, yna yn yr uchafbwynt gogoneddus hwn mae’n dweud wrth bob un o’r ffrindiau hynny, ‘Wele beth a wnaethoch ohonof fi!’

Nodyn y rhaglen © Stephen Johnson

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Marwolaeth a Thrawsffurfiad 

Nos Iau 14/5/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd 

Nos Wener 15/5/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

Beethoven Concerto i’r Ffidil
Syr George Benjamin Concerto i’r Gerddorfa 
R. Strauss Tod und Verklärung (Marwolaeth a Thrawsffurfiad)

Alexandre Bloch arweinydd
Veronika Eberle ffidil

MYNEGIANNOL | DEINAMIG | CLODFORUS 

Mae Concerto bythol-boblogaidd Beethoven i’r Ffidil yn datblygu gyda cheinder ffri, o’r curiadau agoriadol nodweddiadol ar y drymiau, i set ddisglair o amrywiadau, a Rondo bywiog. Bydd y ddihafal Veronika Eberle yn dod â chynhesrwydd, pwyll, a gwychder i’r campwaith oesol hwn. 

Mae Concerto Syr George Benjamin i’r Gerddorfa yn deyrnged fywiog i Oliver Knussen, sy’n llenwi'r llwyfan â lliw, ffraethineb ac egni wrth i bob llais cerddorfaol gael cyfle i ddisgleirio, cyn i Marwolaeth a Thrawsffurfiad Strauss fynd â ni o drafferth daearol i esgyniad llewyrchol. Mae’r arweinydd arobryn o Ffrainc, Alexandre Bloch, yn dychwelyd i’r podiwm ar gyfer y rhaglen bwerus hon.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Jaime Martín arweinydd

Paul Marc Mitchell

Paul Marc Mitchell

Ar hyn o bryd mae’r arweinydd o Sbaen Jaime Martín yn Gyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Siambr Los Angeles, yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Melbourne ac yn Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae hefyd wedi dal swyddi Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Iwerddon (2019–24), Prif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Genedlaethol Sbaen (2022–24) a Chyfarwyddwr Artistig a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Gävle (2013–22).

Ar ôl treulio blynyddoedd lawer fel ffliwtydd uchel ei barch, trodd at arwain yn llawn-amser yn 2013 ac yn fuan daeth galw mawr amdano ar y lefel uchaf.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor diwethaf roedd Gŵyl Beethoven dros 11 diwrnod gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne, lle arweiniodd bob un o’r naw symffoni. Dychwelodd hefyd i arwain cerddorfeydd yn Sbaen, Prydain ac Awstralia ac ymgymerodd â thaith trwy Brydain ac Ewrop gyda Cherddorfa Symffoni Melbourne gan gynnwys ymddangosiadau yn y BBC Proms a Gŵyl Ryngwladol Caeredin.

Yn nhymor 2025/26 mae’n arwain cerddorfeydd Symffoni Aalborg, Colorado, Euskadi, Gothenburg, Seland Newydd a Queensland, Cerddorfa Gŵyl Budapest, cerddorfeydd Ffilharmonig George Enescu a Strasbwrg, Cerddorfa Symffoni Radio Berlin ac RTVE Madrid.

Mae ei ddisgograffeg helaeth yn cynnwys recordiadau gyda cherddorfeydd Symffoni Barcelona, Gävle a Melbourne, Cerddorfa Cadaqués a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain.

Mae Jaime Martín yn Gynghorydd Artistig a chyn Gyfarwyddwr Artistig Gŵyl Santander ac yn Gymrawd y Coleg Cerdd Brenhinol, lle bu’n athro ffliwt.

Akiko Suwanaiffidil

Marco Borggreve

Marco Borggreve

Mae’r feiolinydd o Japan, Akiko Suwanai, yn gerddor hynod o amryddawn a chanddi repertoire eang iawn. Ers ennill Cystadleuaeth Ryngwladol Tchaikovsky ym 1990 mae hi wedi cael gyrfa ffyniannus, gan berfformio’n rhyngwladol ym maes cerddoriaeth siambr a datganiadau, ac ymddangos gyda cherddorfeydd ac arweinwyr mwyaf blaenllaw’r byd.

Dechreuodd y tymor hwn trwy ddychwelyd at Gerddorfa Symffoni Lucerne a Duncan Ward, ac at Gerddorfa Gŵyl Budapest a Jaime Martín, a gwnaeth ei hymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Mozarteum Salzburg ac Andrey Boreyko. Bydd ei chyngherddau’r tymor yma hefyd yn cynnwys perfformio gyda Cherddorfa Hallé a’r Prif Arweinydd Kahchun Wong ar daith yn Tsieina, yn ogystal ag ym Manceinion a Sheffield; a bydd yn ymddangos gyda Cherddorfa Ffilharmonig Nice a Lionel Bringuier, Cerddorfa Symffoni Lahti a Christian Schumann, Cerddorfa Genedlaethol Gwlad Belg ac Antony Hermus, a Cherddorfa Macao a Lio Kuokman.

Mae hi’n enwog am ehangder ei repertoire a’i hangerdd dros gerddoriaeth newydd, ac ym mis Chwefror rhoddodd y première byd o Goncerto Misato Mochizuki i’r Ffidil gyda Cherddorfa Symffoni Yomiuri Nippon a Mario Venzago. Mewn tymhorau a fu mae hi wedi rhoi’r perfformiadau cyntaf erioed o Goncerto Dwbl Dai Fujikura ar gyfer ffliwt a ffidil, a Seven gan Peter Eötvös. Mae hi hefyd wedi rhoi’r premières Asiaidd o goncerti newydd pwysig i’r ffidil gan Syr James MacMillan, Esa-Pekka Salonen a Krzysztof Penderecki. Ymhlith ei pherfformiadau nodedig eraill o weithiau newydd mae Genesis gan Toshio Hosokawa a Lost Horizons gan Guillaume Connesson.

Mae ganddi gontract recordio ecsgliwsif ac ymhlith yr ychwanegiadau diweddar i’w disgograffi mae Sonatas Brahms i’r Ffidil (2024) a Sonatas a Partitas Bach ar gyfer Ffidil Unawdol (2022).

Yn 2012 lansiodd Ŵyl Gerdd Ryngwladol NIPPON yn Nagoya a Tokyo, lle mae’n Gyfarwyddwr Artistig. Dyma ŵyl ddwyflynyddol sy’n cyflwyno amrywiaeth o gerddorfeydd gwadd a chyngherddau siambr ac yn comisiynu gweithiau newydd a premières byd gan gyfansoddwyr o Japan ac yn rhyngwladol. Yn yr ŵyl hon, mae hi wedi rhoi premières o weithiau newydd fel Concerto Karol Beffa i’r Ffidil a Pitter-Patter gan Dai Fujikura.

Mae Akiko Suwanai yn perfformio ar ffidil ‘Charles Reade’ Guarneri del Gesù (1732), a fenthycwyd yn hael iddi gan Ryuji Ueno, casglwr a dyngarwr Japaneaidd-Americanaidd.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Mira Marton
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Anna Cleworth
Ruth Heney **
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Zhivko Georgiev
Grace Shepherd
Claudia Fuller

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Lydia Caines **
Michael Topping
Roussanka Karatchivieva
Jane Sinclair
Katherine Miller
Jane Sinclair

Fiolâu
Joel Hunter
Alex Thorndike #
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Catherine Palmer
Anna Growns
Lydia Abell
Laura Sinnerton
Robert Gibbons
Nancy Johnson

Soddgrythau
Leo Popplewell
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Mark O’Leary
Emma Prince
Christopher Wescott
Phoebe Clarke
Thea Sayer

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers +**

Clarinét Bas
Lenny Sayers †+**

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton
David Buckland

Isfasŵn
David Buckland †

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes
Alex Willett
Flora Bain
Tom Taffinder

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel
Corey Morris †
Tim Barber

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †
Fernando Martin

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Richard Evans

Timpani
Phil Hughes

Offrynnau Taro
Elliott Gaston-Ross
Phil Girling
Andrea Porter

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications