Storïau a’r Tymhorau

Nos Iau 28/5/26, 7.30pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Nos Wener 29/5/26, 7.30pm

Cadeirlan Aberhonddu

Marta Ptaszyńska
Stori’r Gaeaf 9’

RobertSchumann
Concerto i’r Soddgrwth yn A leiaf 25’

EGWYL: 15 munud

FelixMendelssohn
A Midsummer Night’s Dream – agorawd 12’

Ludwig van Beethoven
Symffoni Rhif 2 yn D fwyaf 32’

Paweł Kapułaarweinydd
Sterling Elliott soddgrwth

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd yn Neuadd Hoddinott yn cael ei ddarlledu’n fyw gan BBC Radio 3 ar Classical Live. Bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, sydd hefyd yn cynnwys podlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’n cyngerdd heno, gaiff ei arwain gan yr arweinydd ifanc deinamig o Wlad Pwyl, Paweł Kapuła, sy’n gwneud ei ymddangosiad cyntaf gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Mae’n dechrau gyda cherddoriaeth o’i famwlad – La Novella d’Inverno gan Marta Ptaszyńska, rhyw deyrnged swrrealaidd i Pedwar Tymor Vivaldi.

Wedyn ymunir â’r gerddorfa gan Artist Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3, Sterling Elliott, chwaraewr soddgrwth o’r Unol Daleithiau sy’n prysur wneud enw iddo’i hun yn ei wlad ei hun a hefyd yn rhyngwladol. Yn ei ymddangosiad cyntaf gyda cherddorfa’r BBC mae’n perfformio Concerto ingol o brydferth Schumann i’r Soddgrwth, gwaith sy’n gyfuniad o ddwyster a joie de vivre.

Mae’r ail hanner yn llawn hwyl. Cychwynnwn gydag agorawd afieithus Mendelssohn i A Midsummer Night’s Dream cyn gorffen gydag Ail Symffoni lachar Beethoven, darn egniol a hyder sy’n cuddio’r ffaith iddo gael ei ysgrifennu ar adeg gythryblus yn ei fywyd.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Marta Ptaszyńska (ganwyd 1943)

Stori’r Gaeaf(1984)

Ysgrifennais La Novella d’Inverno (‘Stori’r Gaeaf’) ar gyfer Cerddorfa Siambr Gwlad Pwyl ym 1984 pan oeddwn yn artist preswyl gwadd yn Ysgol Gerdd Prifysgol Indiana yn Bloomington. Mae’r darn wedi’i gyflwyno i’r Gerddorfa honno a’i harweinydd rhagorol Jerzy Maksymiuk.

Perfformiwyd La Novella am y tro cyntaf yn Lisbon ar 5 Mai 1985 gan Gerddorfa Siambr Gwlad Pwyl yng Ngŵyl Gerddoriaeth Gyfoes Sefydliad Gulbenkian. Ers hynny, cafodd ei pherfformio’n helaeth yng ngwledydd Ewrop a’r Unol Daleithiau, ac mewn gwyliau rhyngwladol mawr fel Diwrnodau Cerddoriaeth Byd ISCM yn Oslo, Prix Futura Berlin, Gŵyl Hydref Warsaw, Perth a Chaerwysg.

Ysbrydolwyd La Novella d’Inverno gan weithiau swrrealaidd Max Ernst, Yves Tanguy a Giorgio de Chirico. Fel yn eu darluniau nhw, mae’r gwaith hwn gen i yn uno elfennau o’r byd go iawn â’r delweddau swrreal, isymwybodol a geir ym myd breuddwydion, nes creu gweledigaeth sain newydd, rhagorach. Mae’r byd sain newydd hwn wedi’i adeiladu ar nodweddion adnabyddus, gan gymryd motiffau a rhythmau o Y Pedwar Tymor Vivaldi, a’u trawsnewid a’u haddasu i greu rhywbeth sydd heb os nac oni bai yn epig.

Daw teitl y darn gan Vivaldi ei hun, gan mai o’i goncerto i’r ‘Gaeaf’ y cymerais fenthyg un o’r motiffau olaf, a hynny er mwyn cyflwyno naws o dawelwch a disgleirdeb.

O fewn La Novella d’Inverno mae sawl dilyniant cyflym, ac annisgwyl weithiau, er mai breuddwydiol a swynol yw ei naws ar y cyfan, yn enwedig yr atgan ganol. Rwyf wedi ceisio creu soniareddau dychmygus trwy ddefnyddio adrannau sul ponticello, cyseiniau arallfydol a glissandos. O ran adeiledd, mae’r gwaith 10 munud hwn wedi’i seilio ar ffurf y sonata, gyda dangosiad clir, rhyw lun ar ymhelaethiad, a chyfeiriadau at ailddangosiad yn y diwedd.

Nodyn y rhaglen © Marta Ptaszyńska

Robert Schumann (1810–56)

Concerto i’r Soddgrwth yn A leiaf, Op. 129 (1850)

1  Nicht zu schnell –
2 Langsam –
3 Sehr lebhaft

Sterling Elliott soddgrwth

Roedd gan Robert Schumann berthynas arbennig â’r soddgrwth, sy’n cael lle blaenllaw yn ei weithiau cerddorfaol a siambr. Yn wir, aeth y cerddolegydd Donald Francis Tovey mor bell â honni bod rhinweddau’r offeryn yn adlewyrchu cymeriad creadigol y cyfansoddwr fel ‘breuddwydiwr brwd, annwyl’. Cyfansoddodd Schumann ei Goncerto i’r Soddgrwth mewn cwta bythefnos ym mis Hydref 1850, yn fuan ar ôl dod yn Gyfarwyddwr Cerdd Dinas Düsseldorf. Dyma’r concerto arwyddocaol cyntaf i’r offeryn ers un Haydn yn y ganrif gynt. Roedd gwraig y cyfansoddwr, Clara, yn hoff iawn o’r gwaith, gan ganmol ei ‘ffresni a’i hiwmor’, ‘plethiad hynod ddiddorol y soddgrwth a’r gerddorfa’ a’r ‘teimlad dwfn’ gâi ei gyfleu trwy ei alawon.

Ond yn sgil beirniadaeth gan brif sielydd cerddorfa Düsseldorf, Christian Reimers, a’r cyfansoddwr a’r sielydd Robert Bockmühl, aeth Schumann ati i adolygu’r gwaith yn helaeth. Erbyn cyhoeddi’r concerto ym 1854, roedd wedi dioddef chwalfa feddyliol barhaol, ac ni chafodd erioed glywed ei première, a gynhaliwyd maes o law yn Leipzig bedair blynedd ar ôl ei farwolaeth. Wedi hynny, daeth y concerto i fri rhyngwladol wrth i sawl sielydd blaenllaw, gan gynnwys Pablo Casals, ganu ei glodydd.

Mae Concerto Schumann i’r Soddgrwth yn rhannu dwy nodwedd gyda Choncerto ei ffrind Felix Mendelssohn i’r Ffidil: does dim saib rhwng symudiadau, ac mae’r unawdydd yn dod i mewn bron yn syth, yn hytrach nag ar ôl cyflwyniad cerddorfaol hir. Mae’r symudiad cyntaf wedi’i farcio ‘Nicht zu schnell’ (ddim yn rhy gyflym) ac mae dwy brif thema gyferbyniol iddo, y gyntaf yn angerddol a’r ail yn fyfyriol. Mae’r rhan ganol yn cynnwys llawer o ddeialog gyfnewidiol rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa. Ar ôl ailadrodd y deunydd agoriadol, mae’r gerddoriaeth yn llifo’n ddi-dor i’r symudiad canol araf. Yn y ‘gân heb eiriau’ hon ceir deuawd dyner rhwng yr unawdydd a phrif sielydd y gerddorfa, sydd, medd rhai sylwebwyr, yn cyfleu sgwrs rhwng Robert a Clara Schumann. Mae cyfeiliant pizzicato tawel gan linynnau’r gerddorfa’n creu awyrgylch arbennig o ddiddos. Ar ôl lled-gyfeiriad yn ôl at fariau agoriadol y concerto mae sgwrs ddramatig rhwng yr unawdydd a’r gerddorfa’n arwain yn syth i mewn i’r trydydd symudiad, sydd wedi’i farcio ‘Sehr lebhaft’ (bywiog iawn).

Efallai mai’r rondo olaf hwn a ysbrydolodd Schumann i ddisgrifio’r concerto fel ‘darn eithaf hwyliog’. Ymdeithgan sionc yw’r brif thema ailadroddus, sy’n ymddangos am yn ail ag atganau mwy telynegol. Mae rhannau’r unawdydd yn gyffrous o flodeuog ac yn arwain at cadenza addurnedig i gyfeiliant cerddorfaol cynnil, cyn i’r gerddorfa lawn ddychwelyd i ysgubo’r darn i’w ddiweddglo afieithus.

Nodyn y rhaglen © Kate Hopkins

EGWYL: 15 munud

Felix Mendelssohn (1809–47)

A Midsummer Night’s Dream – agorawd, Op. 21 (1826)

Moses Mendelssohn, un o feddylwyr mwyaf dylanwadol yr Oleuedigaeth yn yr Almaen, oedd ei daid. Un o fancwyr mwyaf llwyddiannus Berlin oedd ei dad, Abraham. Fel plentyn, roedd yn byw ymhlith elît diwylliannol a deallusol Ewrop yng nghartref y teulu yng nghanol Berlin. Felly mae’n debyg na ddylem synnu, ac yntau wedi’i drwytho mor ifanc mewn cerddoriaeth, arlunio, llenyddiaeth ac athroniaeth, fod Felix Mendelssohn yn fuan wedi mopio’n lân ar Shakespeare.

Byddai ef a’i chwaer Fanny yn actio hoff olygfeydd o ddramâu’r Bardd, a phan gafodd y teulu afael ar gyfieithiad Almaeneg newydd o A Midsummer Night’s Dream ym 1826, taniwyd dychymyg y bachgen 17 oed ar unwaith gan ei straeon am gariadon a thylwyth teg, swynion a gweddnewidiadau: cymaint felly nes iddo fynd ati’n gyflym i drosi’r ddrama i gerddoriaeth, gan gwblhau ei agorawd ar Awst 6ed yn yr un flwyddyn.

Dyma gamp hynod o hyderus i lanc 17 oed, ond roedd Mendelssohn eisoes yn dipyn o hen law: roedd wedi cyfansoddi deuddeg symffoni i linynnau rhwng 12 a 14 oed, a’i Wythawd gogoneddus yn 16 oed. Mae’r agorawd wedi’i fwriadu ar gyfer y neuadd gyngerdd yn hytrach na’r theatr, ac nid adrodd stori’r ddrama yw ei nod. Serch hynny, mae cordiau agoriadol hudolus y darn yn gwahodd gwrandawyr i mewn i fyd o hud a lledrith, gan gynnwys brefiadau Bottom yr asyn a gwibiadau traed y tylwyth teg.

Nodyn y rhaglen © David Kettle

Ludwig van Beethoven (1770–1827)

Symffoni Rhif 2 yn D fwyaf, Op. 36 (1802)

1  Adagio molto – Allegro con brio
2 Larghetto
3 Scherzo. Allegro
4 Allegro molto

Hyd yn oed cyn cychwyn gweithio ar ei Symffoni Gyntaf, roedd Beethoven wedi dechrau colli ei glyw. Mae’r cofnodion yn ei ddyddiadur yn datgelu problemau mor gynnar â 1796, ac yn 1801 cyfaddefodd i’w ffrind Franz Wegeler nad oedd wedi mynychu unrhyw ddigwyddiad cymdeithasol ers dwy flynedd, ‘dim ond am fy mod i’n ei chael hi’n amhosib dweud wrth bobl: rwy’n fyddar.’ Yn hytrach na lleihad graddol yn y gallu i ganfod sain, roedd Beethoven yn dioddef ffurf ddwys o tinitws, a sain uchel yn ei glustiau’n mygu pob sŵn allanol. Dros amser, gwaethygu wnaeth ei gyflwr ac erbyn 1816 roedd Beethoven bron yn hollol fyddar.

Dyma gefndir syfrdanol yr Ail Symffoni, gwaith mor heulog ei naws nes ei bod bron yn amhosib dychmygu sut roedd Beethoven yn dioddef yn ystod ei gyfansoddi. Cyfansoddwyd y symffoni ym 1802 tra roedd Beethoven yn adfer ei iechyd ym mhentref bychan Heiligenstadt – sydd bellach yn enwog fel lleoliad ei ‘Testament Heiligenstadt’, llythyr anobeithiol a anfonodd at ei frodyr:

‘Ers chwe blynedd bellach rwyf wedi dioddef anhwylder anobeithiol, a waethygwyd gan feddygon ynfyd, cael fy nhwyllo o flwyddyn i flwyddyn gan obeithion am adferiad, cyn gorfod yn y diwedd wynebu disgwyliad o glefyd parhaol (y bydd iachâd iddo’n cymryd blynyddoedd neu, efallai, yn amhosib) ... Mae fy anffawd ddwywaith mor boenus i mi am fy mod i’n sicr o gael fy nghamddeall; i mi ni all fod dim ymlacio gyda fy nghyd-ddynion, dim sgwrsio diwylliedig, dim cyfnewid syniadau.’

Yn wyneb y gwewyr annirnadwy hyn, penderfynodd Beethoven serch hynny gofleidio beth bynnag a allai fod o’i flaen. ‘Amynedd, medden nhw, yw’r hyn y mae’n rhaid i mi nawr ei ddewis i’m tywys, ac rydw i wedi gwneud hynny ... Efallai y caf wellhad, efallai ddim; rwy’n barod.’

Mae’r Ail Symffoni’n crynhoi’r ysbryd hwn o herfeiddiad a phenderfyniad, gyda chordiau forte beiddgar yn y dechrau un sy’n ein harwain at thema gyntaf heulog. Er bod arlliwiau o dristwch yn y Larghetto sy’n dilyn, caiff yr eiliadau prin hyn eu sgubo i ffwrdd gan ymdeimlad cyffredinol o dawelwch a gobaith. Daw cordiau agoriadol herfeiddiol y symffoni yn ôl ar ddiwedd y symudiad araf hwn, gan dorri drwodd i ddisodli’r seiniau lleddf a chau’r symudiad yn sionc yng nghywair y llywydd, A fwyaf. Nesaf, daw Scherzo brwd, yn lle’r miniwét syber traddodiadol, yn llawn egni ac asbri. Mae’n llawn cyferbyniadau deinamig byw ac ysgrifennu cain i chwythbrennau unigol, gan baratoi’r ffordd ar gyfer symudiad olaf llachar sy’n gyrru’r symffoni ymlaen at ddiweddglo afieithus. Mae ffigwr agoriadol difyr, oddi ar y curiad, yn gyrru’r egni yn y diweddglo, gan arwain yn y pen draw at goda estynedig o ryw 150 o fariau. Y diweddglo hir hwn a ysgogodd un beirniad yn y perfformiad agoriadol i ddisgrifio’r symudiad fel ‘draig wedi’i hanafu, yn gwingo’n erchyll, yn gwrthod marw’ – trosiad addas am ysbryd tanllyd a phenderfynol Beethoven.

Nodyn y rhaglen © Jo Kirkbride

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’n cyngherddau nesaf. Fel un sydd eisoes yn aelod o’n cynulleidfa, gallwch brynu’r tocynnau hyn am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

Dawnsiau Symffonig

Nos Iau 4/6/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd
Ffrwd fyw

Nos Wener 5/6/26, 7.30pm
Neuadd Brangwyn, Abertawe

StravinskyCân yr Eos
Brahms
Concerto Dwbl
Rachmaninov
Dawnsiau Symffonig

Ryan Bancroft arweinydd
Lesley Hatfield ffidil
Alice Neary soddgrwth

HUDOLUS | BYWIOG | THEATRIG

Peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau diweddglo’r tymor a chyngerdd olaf Ryan Bancroft fel Prif Arweinydd BBC NOW. Gan ddechrau gyda Cân yr Eos, cathl symffonig Stravinsky, cawn wedyn glywed ein harweinydd Lesley Hatfield, a’n prif chwaraewr soddgrwth gynt, Alice Neary, yn perfformio Concerto Dwbl Brahms. Byddwn ni’n cloi gyda Dawnsiau Symffonig Rachmaninov, ei gyfansoddiad cyflawn terfynol, lle cyfunir motiffau sy’n deillio o gerddoriaeth eglwysig Rwsia gyda dyfyniadau o’i Symffoni Gyntaf ei hun.

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Paweł Kapuła arweinydd

Kamil Szkopik

Kamil Szkopik

Mae Paweł Kapuła’n cael ei gydnabod yn un o arweinwyr blaenllaw’r to iau. Mae ei raglennu ffres, cyffrous yn dangos creadigrwydd mawr ac mae’n adeiladu presenoldeb cynyddol yn Ewrop a thu hwnt.

Y tymor hwn mae’n gwneud ymddangosiadau cyntaf gyda’r NDR Radiophilharmonie, Hanover, Staatsorchester Mainz a Cherddorfa Ffilharmonig Janáček, ymhlith eraill. Mae’n dychwelyd at gerddorfeydd Ffilharmonig Bodensee a Warsaw, Cerddorfa Symffoni Aarhus a Cherddorfa Glasurol Espinho.

Ymhlith ei lwyddiannau diweddar gwnaeth ymddangosiadau cyntaf llwyddiannus gyda Cherddorfa Gulbenkian, Cerddorfa Symffoni Hamburg, Ffilharmonig Japan yn Neuadd Suntory a cherddorfeydd Symffoni Xi’an a Guiyang yn Tsieina. Cyn hyn bu’n arwain Cerddorfa Ulster, Cerddorfa Siambr Georgia a Ffilharmonig Württemberg, ac erbyn hyn mae ganddo berthynas waith agos â phob un ohonynt. Bu hefyd yn arwain Cerddorfa Opera Oslo, Cerddorfa Symffoni Basel, Cerddorfa Opera Gothenburg a Cherddorfa Ffilharmonig Sibiu.

Ym mis Chwefror 2021 cafodd ei benodi’n Brif Arweinydd Gwadd cerddorfa Ffilharmonig Pomeranian yn Bydgoszcz. Mae ei waith gyda’r gerddorfa wedi denu sylw cerddorfeydd eraill yng Ngwlad Pwyl, gan gynnwys Cerddorfa Symffoni Radio Cenedlaethol Gwlad Pwyl a cherddorfeydd Ffilharmonig Baltig a Warsaw.

Ei brosiect diweddaraf oedd recordio holl goncerti piano Beethoven gyda Reed Tetzloff a Cherddorfa Ffilharmonig Prâg yn Rudolfinum Prâg, gwaith a gafodd ei ryddhau’n ddiweddar. Mae’n eiriolwr brwd hefyd dros gyfansoddwyr Pwylaidd a gafodd eu esgeuluso ac mae wedi gwneud sawl recordiad o’u cerddoriaeth ar gyfer Radio Gwlad Pwyl.

Cafodd Paweł Kapuła ei wersi piano cyntaf yn saith oed. Astudiodd grefft arweinydd gyda Tadeusz Strugala a Stanislaw Krawczynski yn Academi Gerdd Kraków. Cyrhaeddodd rownd derfynol ac ennill y Wobr Ragoriaeth yn y Gystadleuaeth Arwain gyntaf i Fyfyrwyr Adam Kopyciński yn Wrocław yn 2013 ac mae ganddo radd mewn cerddoleg o Brifysgol Jagielloński yn Kraków.

Sterling Elliott soddgrwth

Canmolir Sterling Elliott am ei ddawn gerddorol lawn asbri ac mae’n dderbynnydd Grant Gyrfa Avery Fisher 2021 ac enillydd Adran Hŷn Cystadleuaeth Genedlaethol Sphinx 2019. Mae wedi ymddangos gydag ensembles blaenllaw, gan gynnwys Cerddorfa Philadelphia, Cerddorfeydd Ffilharmonig Los Angeles ac Efrog Newydd, cerddorfeydd Symffoni Boston, Dallas a Detroit a Cherddorfa Cleveland a chafodd glod mawr am ei ymddangosiad cyntaf yn Proms y BBC y llynedd gydag Edwin Outwater.

Y tymor hwn mae’n ymddangos am y tro cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni BBC yr Alban a Phoenix a cherddorfa Ffilharmonig Buffalo. Fel unawdydd gyda’r Sphinx Virtuosi, mae’n cymryd rhan mewn taith aml-ddinas gyda pherfformiadau yn Neuadd Carnegie, Cyfres Cyngherddau Shriver, Cymdeithas Gerddoriaeth Siambr Philadelphia, Amgueddfa Gardner, Clwb Schubert a mwy. Fel cerddor siambr, mae’n parhau â’i breswyliad yn Rhaglen Bowers Cymdeithas Gerddoriaeth Siambr Canolfan Lincoln, gan ymddangos gyda cherddorfa’r Gymdeithas yn Neuadd Alice Tully ac ar daith ledled yr Unol Daleithiau, yn ogystal â pherfformio mewn triawd gydag Anthony McGill a Gloria Chien.

Mae’n Artist Robey gyda’r Young Classical Artists Trust (YCAT) ac yn rhinwedd hynny mae’n perfformio’n rheolaidd ar draws Prydain ac Ewrop, gan gynnwys yn Neuadd Wigmore, Elbphilharmonie Hamburg a Concertgebouw Amsterdam. Yn 2024 cafodd ei enwi’n un o Artistiaid Cenhedlaeth Newydd BBC Radio 3. Dechreuodd ei gysylltiad hir â Sefydliad Sphinx pan enillodd Gystadleuaeth yr Adran Iau yn 2014.

Wedi’i eni i aelwyd gerddorol, dyhead cyntaf Sterling Elliott oedd chwarae’r ffidil fel ei frawd a’i chwaer hŷn. Ar ôl ychydig o anogaeth, fe gwblhaodd Bedwarawd Llinynnol y Teulu Elliott, ensemble a oedd yn mwynhau cyflwyno trefniadau personol o genres fel bluegrass, gospel a ffync.

Mae’n llysgennad i’r Young Strings of America, cynllun nawdd llinynnol a weithredir gan Shar Music. Mae’n perfformio ar soddgrwth Gennaro Gagliano o 1741 ar fenthyg trwy Raglen Noddi Llinynnau Cain Robert F. Smith, mewn partneriaeth â Sefydliad Sphinx.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn y BBC Proms a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Anna Cleworth
Žanete Uškāne
Kerry Gordon-Smith
Ruth Heney **
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Jane Sinclair
Paul Mann
Claudia Fuller

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Sheila Smith
Roussanka Karatchivieva
Beverley Wescott
Lydia Caines **
Katherine Miller
Vickie Ringguth
Michael Topping
Joseph Williams

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Anna Growns
Laura Sinnerton
Catherine Palmer
Lydia Abell
Dáire Roberts

Soddgrythau
Sebastian Comberti ‡
Raphael Lang
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Rachel Ford
Keith Hewitt

Basau Dwbl
David Stark *
Dan Cleave
Cole Morrison
Christopher Wescott

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †

Oboau
Steve Hudson *
Russell Coates

Clarinetau
Lenny Sayers +**
William White

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton

Cyrn
Tim Thorpe *
Meilyr Hughes

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Tiwba
Grady Hasan

Timpani
Steve Barnard *

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications