Pathétique

Dydd Sadwrn 31/1/26, 3.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Sergey Prokofiev
Symffoni Rhif 1 yn D fwyaf, ‘Clasurol’ 14’

Sergey Rachmaninov 
Concerto i’r Piano Rhif 4 yn G leiaf 26’

EGWYL: 20 munud

Pyotr Tchaikovsky
Symffoni Rhif 6 yn B leiaf, Op. 74, ‘Pathétique’ 45’

Gemma New arweinydd
Vadym Kholodenko piano

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar Classical Live; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’n cyngerdd heno, ac i Gemma New o Seland Newydd sy’n dychwelyd at Gerddorfa Genedlaethol y BBC i arwain rhaglen Rwsiaidd fydd yn cloi gydag un o’r symffonïau Rhamantaidd mwyaf ohonyn nhw i gyd: y ‘Pathétique’ gan Tchaikovsky.

Ond i ddechrau, cawn ddarn tipyn ysgafnach: Symffoni Gyntaf Prokofiev, y ‘Glasurol’. Yn hon, gobaith y cyfansoddwr ifanc oedd cynhyrfu ei gyn-athrawon yn Conservatoire St Petersburg, wrth iddo fynd ati’n ddireidus i wneud hwyl am ben symffonïau Haydn a Mozart.

O’r Prokofiev ifanc i’r Rachmaninov aeddfed. Ysgrifennwyd ei Bedwerydd Concerto i’r Piano ar ôl iddo ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau ac mae’n bosib canfod dylanwad ei wlad fabwysiedig yn y modd y mae elfennau jazz a harmonïau sawrus i’w clywed ynghanol y melodïau swynol roedd y cyfansoddwr mor enwog amdanynt. I’w berfformio heno mae’n bleser aruthrol cael croesawu’r pianydd o Wcráin, Vadym Kholodenko.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Sergey Prokofiev (1891–1953)

Symffoni Rhif 1 yn D fwyaf, Op. 25, ‘Clasurol’ (1916–17)

1 Allegro
2 Larghetto
3 Gavotte: Non troppo allegro
4 Finale: Molto vivace

Yn ei ddyddiadur, dychmygodd Prokofiev y cythrwfl y byddai ei symffoni newydd yn ei achosi ymhlith ei gyn-athrawon yn y Conservatoire: ‘Edrychwch, fedr o ddim gadael i Mozart orwedd mewn hedd; rhaid iddo ddod i’w fyseddu gyda’i fachau brwnt, a halogi perlau pur Clasuriaeth gyda’r anghyseiniau erchyll Prokofievaidd ‘na!’ Roedd Prokofiev yn torri tir newydd gyda symffoni fodern a oedd yn chwarae gyda chonfensiynau Clasuriaeth Fienna. Doedd o ddim yn hapus o gwbl ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach o weld mai Stravinsky, ym Mharis, oedd yr un a gafodd ei goroni’n arloeswr mawr neo-Glasuriaeth.

Roedd Prokofiev wedi mynd ati mewn ffordd hollol wahanol, beth bynnag. Iddo fo, symffoni Glasurol go iawn oedd ei symffoni gyntaf, olynydd i symffonïau Haydn a Mozart. Os oedd eiliadau o ddigrifwch a direidi yn symffoni Prokofiev, roedd llawn cymaint o hynny yng ngherddoriaeth hen feistri Fienna. Yn wahanol i Stravinsky, nid bod yn eironig oedd ei ddiben yn y bôn, ac nid tanwydd i hybu moderniaeth yn unig oedd cerddoriaeth y 18fed ganrif iddo fo. Ac o ystyried sut y datblygodd gyrfa Prokofiev, mae ei ddawn ddiddiwedd i greu alawon hardd yn wir yn caniatáu inni ei weld fel rhyw fath o Mozart i’r 20fed ganrif.

Wrth hwylio i mewn ar sodlau’r cord fortissimo cyntaf, mae Allegro’r symudiad cyntaf yn ymagor yn osgeiddig, gan ddefnyddio trefniant clasurol tryloyw i greu effeithiau ffraeth: pâr o oboau trwynol fan yma, unawd ffliwt powld fan acw. Mae Prokofiev yn mynd trwy ystod lawer ehangach o gyweirnodau nag a wnâi Haydn neu Mozart, ond ar ôl pob dargyfeiriad i lefydd pell byddwn bob amser yn cyrraedd y lle iawn ar yr adeg iawn. Mae’r ffurf sonata Glasurol yn dal yno, yn disgleirio yn ei lliwiau newydd. Mae’r cymylau achlysurol sy’n ymgynnull am eiliad ddramatig bob amser yn gwasgaru heb arwain at ddim.

Mae sawl cyffyrddiad hyfryd yn fersiwn Prokofiev o’r symudiad araf Clasurol. Mae thema brydferth yn y llinynnau’n gwasgaru’n fotiffau bach chwareus mewn ffordd nad oedd wedi’i glywed ers Mozart. Mae’r llinynnau’n siarad fel grŵp, boed hynny gyda’r bwa neu wedi’u plycio, ac yn eu canol clywir y basŵn, sy’n ychwanegu elfen gynnil o gomedi. Caiff yr ymdeimlad cyffredinol o sadrwydd a bodlondeb ei liwio gan ennyd fer o dristwch.

Gavotte yw’r trydydd symudiad yn hytrach na’r minwét Clasurol arferol. Roedd Prokofiev eisoes wedi rhoi cynnig ar gavotte yn ei 10 Darn i’r Piano, cyfres o ddarnau piano i gyd wedi’u modelu ar ddawnsiau Baróc neu Glasurol, fel yr allemande neu’r rigaudon. Fel y cerddorion pentref a gafodd eu parodïo’n enwog gan Mozart, mae’r gavotte yma’n fwriadol drwsgl gan gynnwys cyfres o gamgymeriadau, a dilyniannau cordiau confensiynol sy’n troi i fynd i’r cyfeiriad anghywir, cyn cael eu harwain yn ôl ar y funud olaf.

Ysbrydolwyd y symudiad olaf gan syniad a gafodd ffrind Prokofiev, y cerddolegwr Boris Asafyev (y cyflwynwyd y symffoni iddo), a honnai mai peth prin oedd i gerddoriaeth Rwsiaidd fynegi gwir lawenydd. Penderfynodd Prokofiev, ac yntau’n optimydd o ran natur, y byddai ei symudiad olaf yn gwneud iawn am y diffyg hwn, ac i’r perwyl hwn gosododd her galed iddo’i hun na fyddai’n cynnwys dim cordiau lleddf yn ei harmoni. Mae’n llwyddo’n berffaith, gyda darnau llinynnol gwibiol, ffliwtiau ac oboau prysur, a rhan arwrol o gymhleth i’r timpanydd. Daeth hyn oll i Prokofiev mewn cymaint o fflach o ysbrydoliaeth nes iddo ‘ymfalchïo’n orfoleddus wrth gyfansoddi’. Yn ddiweddarach, poenai y gallai llawenydd anorchfygol y Diweddglo swnio’n ‘anghyfrifol’ (yn amgylchiadau anodd y wlad). Ond siawns bod cerddoriaeth Rwsia’n haeddu o leiaf yr un fflach hwn o heulwen pur.

Nodyn y rhaglen © Marina Frolova-Walker

Sergey Rachmaninov (1873–1943)

Concerto i’r Piano Rhif 4 yn G leiaf, Op. 40 (1925–6, adol. 1941)

1 Allegro vivace
2  Largo –
3  Allegro vivace

Vadym Kholodenko piano

Mae’r olaf hwn o goncerti piano Rachmaninov yn swnio’n rhyfeddol o ifanc i gyfansoddwr a oedd yn 53 oed pan gafodd ei berfformio am y tro cyntaf ym 1927. Mae hyn i’w weld yn fwy rhyfeddol fyth o ystyried helbulon y chwyldro, y dadleoli a’r blynyddoedd caled o deithio a ddioddefodd Rachmaninov, a’i gyfnod fel pianydd teithiol arobryn yn golygu nad oedd cyfle i eistedd i lawr i gyfansoddi am bron i ddegawd. Ond yn ystod y blynyddoedd crwydrol hyn, yn amlwg, fe gadwodd ei glustiau ar agor, ac mae’r canlyniad yn amlwg yma. Er bod hen Ramantiaeth ddiamau Rachmaninov i’w chlywed yn syth, yn ogystal ag adleisiau o Étude-tableau yn C leiaf 1911, mae yma ddylanwad cerddoriaeth newydd hefyd, yn cynnwys cyweireddau mwy beiddgar cyd-gyfansoddwyr fel Hindemith a Bartók, a lliwiau unigryw jazz America.

Parhaodd Rachmaninov i adolygu’r concerto trwy gydol gweddill ei oes, sy’n awgrymu bod y gwaith yn golygu rhywbeth dwfn iddo. Tra bod yr Ail a’r Trydydd concerti fel petaen nhw’n archwilio’r gwrthdaro rhwng tristwch a chariad, mae hwn i’w weld yn ymdrin llawer mwy â’r syniad o frwydro a derbyn. Mae’r dyfyniadau o hen weithiau Rachmaninov (cyn y Chwyldro), y cyfeiriadau at arloesiadau harmonig yr 20fed ganrif a’r elfennau jazz, yn awgrymu efallai bod y gwaith hwn – yn fwy na dim arall – wedi caniatáu i Rachmaninov brosesu ei deimladau tuag at y chwalfeydd mawr a ddigwyddodd yn ei fywyd.

Mae’r concerto’n agor yn ddi-seremoni gyda thân a chynddaredd, gan chwarae gyda motiffau melodig sy’n codi ac yn disgyn. Yn y symudiad cyntaf, mae’r datblygiad thematig yn destun syndod parhaus, gyda sain grwydrol sy’n adeiladu, yn cilio ac yn symud o adran i adran o fewn y gerddorfa, a rhwng y gerddorfa a’r unawdydd. Mae’n anodd gwybod beth yn union rydyn ni’n gwrando arno, ac yn wir mae’r tensiwn yn cynyddu nes ei bod yn ymddangos bod y symudiad yn mynd i ddod i ben mor sydyn ag y dechreuodd. Yn lle hynny, mae’r unawdydd yn cyfeilio wrth i ffliwt unigol ac obo gyflwyno thema sensitif, sy’n adeiladu i grescendo cyn cael ei gymryd gan y fiolinau. Yna cawn ddiweddglo byr, sy’n ailgyflwyno rhwysg agoriad y symudiad, ac uchafbwynt dramatig i gloi.

Agoriad meddylgar sydd i’r Largo, a gyflwynir gan unawd piano sy’n swnio’n fyrfyfyr, yn debyg i’r modd y byddai meistri’r 19eg ganrif yn byrfyfyrio rhwng symudiadau. Ond mae’r lled-fyrfyfyrio hwn yn llawer mwy modern, gan ymchwyddo’n gordiau cyfoethog sy’n amlwg wedi’u tynnu o jazz. Jazz hefyd sy’n darparu strwythur y symudiad – gyda’r unawdydd a’r gerddorfa ill dau yn riffio ar fariau cychwynnol y piano, yn debyg iawn i gerddorfeydd jazz mawr Fletcher Henderson a Duke Ellington, yr oedd Rachmaninov wedi gwirioni arnyn nhw.

Daw’r trydydd symudiad i mewn fel corwynt egnïol, wrth i’r unawdydd gychwyn ar gadenza gwyllt. Cawn naws y syrcas wrth i alaw lawn lliw ymdroelli fel reid mewn ffair, nes bron iawn â cholli rheolaeth. Daw syniadau o’r symudiad cyntaf yn eu hôl, gan gynnwys ei ddiweddglo syfrdanol, sy’n torri’r swyn wrth i’r pianydd ganiatáu i’r cordiau ddadfeilio’n glo cwta, amwys.

Nodyn y rhaglen © Margaret Frainier

EGWYL: 20 munud

Pyotr Tchaikovsky (1840–93)

Symffoni Rhif 6 yn B leiaf, Op. 74, ‘Pathétique’ (1893)

1 Adagio – Allegro non troppo
2  Allegro con grazia
3  Allegro molto vivace
4  Finale: Adagio lamentoso

Ai llythyr hunanladdiad cerddorol mawreddog oedd hwn, ai ildio i rymoedd ‘tynged’ yr oedd wedi brwydro â nhw ar hyd ei oes, ai cyfaddefiad hyd yn oed o’i gyfunrywioldeb, rhywbeth nad oedd yn dderbyniol mwyach yng nghymdeithas St Petersburg? Does dim llawer o ddarnau wedi ennyn cymaint o ddyfalu a damcaniaethu am ystyron cyfrinachol â Chweched Symffoni Tchaikovsky.

Mewn sawl ffordd, fodd bynnag, does neb ond Tchaikovsky i’w feio am hyn. Ef ei hun a’i galwodd hi’n ‘symffoni gyda rhaglen gyfrinachol’ mewn llythyr at y pianydd Alexander Siloti ym 1892; ysgrifennodd hefyd at ei ffrind Konstantin Romanov (ŵyr y Tsar Nicholas I) ‘Rwyf wedi rhoi fy holl enaid yn y symffoni hon’. Ychydig ddyddiau ar ôl ei berfformiad cyntaf, ym mis Hydref 1893, daliodd Tchaikovsky glefyd y geri – colera. Y gred gyffredinol yw ei fod wedi yfed dŵr heb ei ferwi tra roedd y clefyd ar led yn St Petersburg, ac erbyn iddo ganiatáu i feddygon ei weld, roedd hi’n rhy hwyr.

Mae rhai wedi awgrymu mai gweithred fwriadol gan un oedd yn dioddef iselder oedd ei lymaid tyngedfennol, neu hyd yn oed ei fod wedi cael ei orfodi i gyflawni hunanladdiad Socrataidd gan lys answyddogol o bwysigion St Petersburg ar ôl i berthynas gyfunrywiol ddod i’r amlwg. Os na, pam enwi’r symffoni yn ‘Pathétique’?

Mewn gwirionedd, syniad ei frawd Modest oedd teitl y symffoni, ac yn y Rwsieg gwreiddiol mae’n golygu rhywbeth agosach at ‘angerddol’ neu ‘emosiynol’ nag at ‘truenus’. Ac yn wir, does dim llawer o dystiolaeth i gefnogi unrhyw un o’r damcaniaethau annhebygol hyn. Oedd, roedd Tchaikovsky wedi dioddef pyliau o iselder trwy gydol ei oes, ond roedd wedi cael blas ar weithio ar y Chweched Symffoni, ac mewn hwyliau da. Dechreuodd gyfansoddi Symffoni yn E feddalnod (a ailweithiwyd yn ddiweddarach i greu ei Drydydd Concerto i’r Piano) cyn rhoi’r gorau iddi pan sylweddolodd nad oedd yn cyfleu’r hyn roedd yn gobeithio’i fynegi. Ond pan gafodd y syniadau ar gyfer yr hyn a ddaeth yn ‘Pathétique’, bwriodd ati i gyfansoddi gydag angerdd. Roedd wedi ymgodymu â ‘thynged’ mewn gweithiau cynharach hefyd – yn fwyaf amlwg yn ei Bedwaredd a’i Bumed Symffoni. Y gwahaniaeth yma oedd bod Tchaikovsky yn portreadu tynged yn ennill y dydd, gan ymwrthod â diweddglo buddugoliaethus confensiynol – cam chwyldroadol a fyddai’n paratoi’r ffordd ar gyfer symffonïau gan Mahler, Shostakovich a sawl cyfansoddwr arall.

Yn hytrach na chyfleu stori gyfrinachol, mae gwir bŵer y ‘Pathétique’ yn gorwedd yn ei benderfyniad beiddgar i ddisodli optimistiaeth a llawenydd cyhoeddus symffonïau cynharach gyda phoen a thristwch preifat iawn. Gwelir egin brwydr sylfaenol y gwaith yn y gwrthdrawiad yn y symudiad cyntaf rhwng gobaith ac anobaith, egni ac ing. Interliwdiau i bob pwrpas yw ei ddau symudiad canolog, yr ail yn walts wyrgam ond synhwyrol serch hynny mewn amser 5/4, a’r trydydd yn cynnig doppelgänger eironig gwag o finale buddugoliaethus confensiynol. Mae gwir finale distrywiol y symffoni yn dangos Tchaikovsky ar ei fwyaf radical, wrth i’r gerddoriaeth ddychwelyd yn ddi-droi’n-ôl at ei thema agoriadol torcalonnus, cyn llithro i’r llonyddwch mawr ar ei diwedd.

Nodyn y rhaglen © David Kettle

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

BBC NOW – NAWR!

Nos Iau 19/2/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Isabella Gellis Valedictions première y DU
Deborah Pritchard ‘Light Circle’ – Concerto i’r Trombôn première y DU
Justė Janulytė Confluere i gerddorfa siambr  première y DU
Hannah Eisendle Azinheira première y DU
Katherine Balch musica pyralispremière y DU

Jack Sheen arweinydd
Peter Moore trombôn

CYFOES | DADLENNOL | UNIGRYW

Dewch i deimlo’r wefr o ddarganfod cerddoriaeth newydd wrth i BBC NOW – NAWR! ddychwelyd yn y gwanwyn gyda phum première penigamp mewn un noson fythgofiadwy. Ymgollwch yn Valedictions cyfareddol Isabella Gellis, yng nghoncerto disglair Deborah Pritchard i'r trombôn – ‘Light Circle’ – gyda’r unawdydd o fri Peter Moore, ac yn Confluere gwych Justė Janulytė. Dewch i deimlo egni trawiadol Azinheira gan Hannah Eisendle a byd nosol hudolus musica pyralis gan Katherine Balch. Dan faton yr arweinydd addawol Jack Sheen, yn ei ymddangosiad cyntaf gyda BBC NOW, dyma’ch cyfle chi i weld dyfodol cerddoriaeth – byw, beiddgar a gwefreiddiol. Peidiwch â cholli’r cyfle!

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Gemma New arweinydd

Benjamin Ealovega

Benjamin Ealovega

Mae Gemma New, a aned yn Seland Newydd, yn Gynghorydd Artistig a Phrif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Seland Newydd, ac mae galw mawr amdani fel arweinydd gwadd dros y byd i gyd. Enillodd Wobr Arwain Syr Georg Solti yn 2021 a chafodd ei phenodi’n Swyddog Urdd Teilyngdod Seland Newydd yn 2024.

Ymhlith uchafbwyntiau’r tymor hwn mae ymddangosiadau cyntaf gyda cherddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, KBS, Nashville, Pittsburgh a SWR a Cherddorfa Genedlaethol Gwlad Belg, yn ogystal â Houston Grand Opera mewn cynhyrchiad o Barbwr Sevilla Rossini. Yn yr Unol Daleithiau a Chanada, mae’n dychwelyd i arwain cerddorfeydd Symffoni Atlanta, San Diego a Seattle a Cherddorfa Canolfan y Celfyddydau Cenedlaethol yn Ottawa. Yn Ewrop, mae’n dychwelyd at Gerddorfa Ffilharmonig y BBC, Orquesta y Coro Nacionales de España, Cerddorfa Radio Munich, Cerddorfeydd Symffoni Bochum a BBC yr Alban ac Orquesta Sinfónica de Castilla y León. 

Bellach yn ei phedwerydd tymor gyda Cherddorfa Symffoni Seland Newydd, mae’n arwain perfformiadau yn Wellington, Christchurch ac Auckland, ac yn rhoi première byd o waith gan Tabea Squire, yn ogystal â chydweithio gyda’r mezzo-soprano Joyce DiDonato a’r sacsoffonydd Jess Gillam. Ymhlith uchafbwyntiau eraill gyda cherddorfa Seland Newydd mae Symffoni Rhif 7 Bruckner a Chweched Symffoni Mahler.

Mae hi’n ymddangos yn rheolaidd gyda cherddorfeydd blaenllaw yng Ngogledd America ac Ewrop, ac wedi arwain cerddorfeydd Ffilharmonig y BBC, Helsinki, Los Angeles ac Efrog Newydd, cerddorfeydd Symffoni Atlanta, Baltimore, Detroit, Montreal, National, St Louis, San Diego, San Francisco, Sydney a WDR, Cerddorfa Philadelphia, Cerddorfa Cleveland, Cerddorfa Minnesota, Hallé, Orchestre National de Lyon ac Orquesta Nacional de España, ymhlith eraill.

Yn gyn-Gymrawd Arwain Dudamel gyda’r Los Angeles Philharmonic, cyn hynny bu’n Arweinydd Cyswllt Cerddorfa Symffoni New Jersey. Yn 2018 roedd hi’n Gymrawd Arwain yn Tanglewood, lle arweiniodd y première byd o In America gan Michael Gandolfi.

Mae’n lladmerydd brwd dros gerddoriaeth newydd a pherfformiodd yn Neuadd Carnegie am y tro cyntaf yn 2013 gyda gweithiau gan John Adams ac Andrew Norman. Yn 2010, sefydlodd y Lunar Ensemble, ensemble cerddoriaeth gyfoes naw aelod a berfformiodd premières 30 o weithiau dros chwe thymor. Mae hi wedi arwain gweithiau gan Thomas Adès, Anna Clyne, Kevin Puts, Steve Mackey, Aaron Jay Kernis a llawer mwy.

Cafodd Gemma New radd Meistr mewn Cerddoriaeth mewn arwain cerddorfaol o Sefydliad Peabody yn Baltimore. Graddiodd gydag anrhydedd o Brifysgol Canterbury yn Seland Newydd â gradd Baglor mewn Cerddoriaeth mewn perfformio ar y ffidil.

Vadym Kholodenkopiano

Jean-Baptiste Millot

Jean-Baptiste Millot

Vadym Kholodenko oedd enillydd Medal Aur Cystadleuaeth Piano Ryngwladol Van Cliburn yn 2013; mae ei allu nodedig ar y piano a’i ddoniau artistig dyfnion wedi arwain at wahoddiadau gan lawer o gerddorfeydd a neuaddau cyngerdd gorau’r byd.

Ymhlith uchafbwyntiau concerto diweddar ac i ddod mae perfformiadau gyda cherddorfeydd rhyngwladol blaenllaw fel cerddorfeydd Symffoni Atlanta, Cincinnati, Cenedlaethol Denmarc, Indianapolis, Sydney, Tokyo Metropolitan a Fienna, Cerddorfa Philadelphia, Cerddorfa Gŵyl Budapest, Filarmonica della Scala a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain. Yn y tymhorau diwethaf mae wedi dal swydd Artist Preswyl gyda Cherddorfa Symffoni Fort Worth a Cherddorfa Symffoni SWR. Yn 2025 gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn y BBC Proms.

Mae wedi meithrin partneriaethau cerddorol cryf gyda llawer o arweinwyr mwyaf blaenllaw’r byd, gan gynnwys Karina Canellakis, Myung-Whun Chung, Christoph Eschenbach, Iván Fischer, Marie Jacquot, Cristian Măcelaru, Susanna Mälkki, Gemma New, Syr Antonio Pappano, Dima Slobodeniouk, Thomas Søndergård, Krzysztof Urbański a Kazuki Yamada.

Mae’n ymddangos fel artist datganiadau ar lwyfannau blaenllaw’r byd. Mae galw mawr amdano hefyd fel cerddor siambr, ac mae’n mwynhau cydweithredu ag artistiaid fel Clara-Jumi Kang, Anastasia Kobekina, Vadim Repin a phedwarawdau llinynnol Belcea a Jerwsalem. Mae wedi gwneud sawl recordiad gyda’r feiolinydd Alena Baeva, ac yn ddiweddar mae wedi neu’n mynd i ymddangos gyda hi mewn cyngherddau yn Fflorens, Llundain a Pharis.

Mae ganddo repertoire anarferol o fawr, a’i ddisgograffeg yn cynnwys gweithiau unigol gan J. S. Bach, Balakirev, Beethoven, Chaplygin, Kurbatov, Liszt, Medtner, Prokofiev, Rachmaninov, Rzewski, Schubert, Scriabin, Siloti, Stravinsky a Tchaikovsky, yn ogystal â choncertos gan Grieg, Prokofiev a Saint-Saëns. Ar y ddisg ddiweddaraf iddo’i rhyddhau ceir Amrywiadau ‘Diabelli’ Beethoven a The People United Will Never Be Defeated! Rzewski.

Ganwyd Vadym Kholodenko yn Ciyf, Wcráin, cymerodd ei wersi piano cyntaf yn chwech oed, a dechreuodd deithio’n rhyngwladol yn 13. Addysgwyd ef yn Lyceum Cerddoriaeth Wladwriaethol Lysenko Ciyf a Conservatoire Tchaikovsky Gwladwriaeth Moscow, gan astudio gyda Natalia Gridneva, Borys Fedorov a Vera Gornostaeva. Cyn ei lwyddiant yn y Van Cliburn, enillodd y Wobr Gyntaf yng nghystadlaethau piano Sendai a Schubert.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Gongbo Jiang
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Ruth Heney **
Emilie Godden
Kerry Gordon-Smith
Žanete Uškāne
Anna Cleworth
Alejandro Trigo
Carmel Barber
Zhivko Georgiev
Laura Senior

Ail Ffidlau
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Joseph Williams
Lydia Caines **
Michael Topping
Roussanka Karatchivieva
Katherine Miller
Elizabeth Whittam
Laurence Kempton

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Lowri Taffinder
Lydia Abell
Robert Gibbons
Catherine Palmer
Laura Sinnerton
Anna Growns
Mungo Everett-Jordan

Soddgrythau
Thomas Isaac
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Alistair Howes
Rachel Ford
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Emma Prince
Christopher Wescott
Imogen Fernando

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Russell Coates

Cor anglais
Russell Coates

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
Lenny Sayers **+

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Patrick Bolton

Cyrn
Tim Thorpe *
Tom Taffinder
Sarah Pennington
Flora Bain
John Davy

Utgyrn
Philippe Schartz *
Robert Samuel

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
James Tavares

Timpani
Steve Barnard *

Offrynnau Taro
Elliott Gaston-Ross
Phil Girling
Andrea Porter
Rhydian Griffiths
Sarah Mason

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications