Gloria

Dydd Sadwrn 7/2/26, 3.00pm

Neuadd Brangwyn, Abertawe

Dydd Sul 8/2/26, 3.00pm

Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Dehongli BSL: Julie Doyle

Henryk Górecki
Tri Darn yn yr Hen Arddull 10’

Francis Poulenc 
Gloria 28’

EGWYL: 15 munud

Antonín Dvořák
Symffoni Rhif 8 yn G fwyaf 34’

Michał Nesterowicz arweinydd
Sophie Bevan soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC 

Mae Neuadd Hoddinott y BBC wedi’i hardystio gan EcoAudio ac rydyn ni’n falch o gefnogi’r BBC i ddod yn sefydliad mwy cynaliadwy. I gael rhagor o wybodaeth am strategaeth cynaliadwyedd y BBC a’i gynllun i drawsnewid i sero net, ewch i https://www.bbc.co.uk/aboutthebbc/documents/bbc-net-zero-transition-plan-2024.pdf

Mae’r cyngerdd hwn yn cael ei recordio gan BBC Radio 3 i’w ddarlledu yn y dyfodol ar In Concert; bydd ar gael am 30 diwrnod ar ôl ei ddarlledu drwy BBC Sounds, lle gallwch hefyd ddod o hyd i bodlediadau a chasgliadau cerddorol.

Cyflwyniad

Croeso cynnes i’n cyngerdd heddiw, lle bydd yr arweinydd addawol o Wlad Pwyl Michał Nesterowicz yn arwain Cerddorfa Gymreig y BBC am y tro cyntaf gyda rhaglen fydd yn cynnwys cerddoriaeth ei famwlad, campwaith corawl o’r 20fed ganrif, ac un o symffonïau hapusaf Dvořák.

Yn y Tri Darn yn yr Hen Arddull trodd Górecki at gerddoriaeth gynnar Gwlad Pwyl am ysbrydoliaeth. Yr hyn sy’n feistrolgar yw’r modd y mae’n creu cyfres sy’n llawn cymeriad, a phob darn yn swnio’n hynafol ac yn hollol gyfoes ar yr un pryd.

Gwaith comisiwn i Sefydliad Cerddoriaeth Koussevitzky oedd Gloria Poulenc, ond cafodd dipyn o drafferth gyda’r broses, gan mai am symffoni y gofynnwyd yn gyntaf, cyn i’r comisiwn newid i goncerto i’r organ. Dim ond pan roddwyd llechen lân iddo y llwyddodd Poulenc i greu Gloria ar gyfer soprano, corws a cherddorfa. Yn nodweddiadol o’i athrylith anghonfensiynol, mae’n cyferbynnu’r dwys a’r cysegredig gyda’r chwareus. I berfformio’r gwaith heddiw rydym yn falch iawn o groesawu Sophie Bevan a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC.

I gloi, cerddoriaeth gan feistr arall ar gyfansoddi alawon cain: Wythfed Symffoni Dvořák. Caiff unrhyw gysgodion byrhoedlog eu chwalu’n fuan gan gerddoriaeth sydd yn ei thro’n hynod delynegol ac yn llawn egni brwd.

Mwynhewch!

Lisa Tregale
Cyfarwyddwr

Dangoswch barch tuag at aelodau eraill or gynulleidfa ar rhai syn gwrando gartref. Gallwch beidio â diffodd ffonau symudol ond rhaid iddynt fod yn y modd tawel gyda lefel disgleirdeb y sgrin ar ei isaf; dylid diffodd dyfeisiau electronig eraill yn ystod y perfformiad. Ni chaniateir tynnu lluniau na recordio.

Henryk Górecki (1933–2010)

Tri Darn yn yr Hen Arddull (1963)

1 [di-deitl]
2 [di-deitl]
3 [di-deitl]

Roedd y cyfansoddwr o Wlad Pwyl Henryk Górecki yn gerddor neilltuol o amryddawn, a’i arddull yn amrywio o arbrofion avant garde yn y 1960au, i weithiau hynod bersonol ac ysbrydol fel y Drydedd Symffoni, ‘Symffoni’r Caneuon Trist’, 1976. Trwy gydol ei yrfa, gwnaeth Górecki ddefnydd helaeth o ddylanwadau allanol, gan gynnwys cyfansoddwyr yr oedd yn eu hedmygu, a chaneuon gwerin oedd yn adlewyrchu ei dreftadaeth a’i gefndir Catholig – weithiau’n eu dyfynnu’n uniongyrchol ac weithiau’n addasu ac yn ymgorffori eu halawon yn ei gerddoriaeth ei hun.

Mae teitl y Tri Darn yn yr Hen Arddull yn cyfeirio’n ddiamwys at arfer Górecki o groesawu elfennau o gerddoriaeth gynharach, er iddo ysgrifennu’r gwaith yn rhannol fel adwaith i’r derbyniad a gafodd ei gyfansoddiadau mwy heriol. Roedd ei gyfaill Tadeusz Ochlewski, cyfarwyddwr cwmni cyhoeddi Polskie Wydawnictwo Muzyczne ar y pryd, yn arfer pryfocio Górecki nad oedd ei weithiau’n cynnwys alawon. Ymateb Górecki i’r her oedd y darnau hyn, y bu’n gweithio arnynt rhwng 28 Tachwedd a 23 Rhagfyr 1963. Cafwyd y perfformiad cyntaf yn Warsaw ar 30 Ebrill 1964, a hynny gan yr ensemble Con Moto ma Cantabile – dan arweiniad Tadeusz Ochlewski, y dyn oedd wedi ysgogi ysgrifennu’r darnau yn y lle cyntaf.

Ymchwiliodd Górecki’n ddwfn i gerddoriaeth gynnar Gwlad Pwyl i ganfod deunydd crai ar gyfer y darnau hyn. Dechreuodd gyda phapurau academaidd a gafwyd yn y cyhoeddiadau Pwyleg Muzyka a Ruch Muzyczny, yn benodol y gyfres gan Karol Hławiczka, ‘Astudiaethau ar Gerddoriaeth Dadeni Gwlad Pwyl’. Arweiniodd hyn Górecki at ddwy gân o’r Dadeni am fywyd y Brenin Sigismund II Augustus (1520–72), gan gynnwys ‘Cân ar Briodas Ei Fawrhydi’r Brenin Sigismund yr Ail’ sy’n ymddangos yn y trydydd symudiad, lle mae Górecki’n defnyddio llinell tenor y gân i greu gwead aml-haenog.

Darnau moddol yw’r tri darn di-deitl (graddfeydd hynafol yw moddau, a ddefnyddir yn aml mewn cerddoriaeth gynnar), sy’n cyfleu naws cyfnod cynharach ond hefyd yn rhagweld cerddoriaeth lawer diweddarach, yn enwedig, yn achos y darn cyntaf myfyriol ac atmosfferig, sgoriau ffilm cyfoes. Dawns werin solet yw’r ail ddarn, yn perthyn yn amlycach i oes a fu, ac yn y trydydd cawn glywed y driniaeth aml-haenog honno o gân briodas y Dadeni.

Nodyn y rhaglen © Joanna Wyld

Francis Poulenc (1899–1963)

Gloria (1959–61)

1 Gloria in excelsis Deo
2  Laudamus te
3  Domine Deus
4 Domini Fili unigenite
5 Domine Deus, agnus Dei
6 Qui sedes ad dexteram Patris

Sophie Bevan soprano
Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC 

Mae Gloria Poulenc yncyfuno dwy agwedd ei bersonoliaeth: y ‘mynach duwiol’ a’r ‘crwydryn penchwiban’. Ym 1955 cafodd ei gomisiynu gan Sefydliad Cerddoriaeth Koussevitzky i ysgrifennu symffoni, ac wedyn concerto i’r organ. Gwrthod y ddau gomisiwn oedd ei ymateb. Pan roddwyd rhyddid wedyn iddo ddewis y genre, cynigiodd Poulenc Gloria, sef gwaith yr oedd wedi dechrau ei ysgrifennu yn gynharach y flwyddyn honno. Cyflwynodd y gwaith er cof am Serge Koussevitzky, cyfarwyddwr cerddorol Cerddorfa Symffoni Boston, a’i wraig Natalie. Cynhaliwyd y perfformiad cyntaf ar 21 Ionawr 1961, wedi’i berfformio gan Symffoni Boston, Corws Pro Musica a’r unawdydd soprano Adele Addison, dan yr arweinydd Charles Munch. Yn ysbrydoliaeth, cymerodd Poulenc Gloria Vivaldi, RV589, sy’n ailadrodd testun yr Offeren Ladin draddodiadol. Nodwedd ddiffiniol Gloria Poulenc yw’r cyferbyniad sylweddol rhwng y chwe symudiad wrth i Poulenc fynegi ei ffydd trwy ddathlu a thrwy weddi.

Mae’r symudiad cyntaf (‘Gloria in excelsis Deo’) yn agor gyda ffanffer fawreddog, sy’n dwyn i gof agoriad Serenâd Stravinsky i’r piano (1924), gydag offerynnau pres llachar a rhythmau dotiog yn darlunio Duw nerthol. Mae rhythmau trawsacennog yn arwain at bwyslais sillafog annodweddiadol, gan greu naws anrhagweladwy ac ansefydlog.

O ran y ‘Laudamus te’ sy’n dilyn, a’i gyfarwyddyd ‘bywiog a llawen’, dychrynwyd y gynulleidfa i ddechrau gan ei arddull chwareus, seciwlar. Yn ôl Poulenc, ‘Meddwl oeddwn i, wrth ei sgrifennu, am ffresgoau Gozzoli lle mae’r angylion yn tynnu tafod; roeddwn i’n meddwl hefyd am y Benedictiaid difrifol a welais yn chwarae pêl-droed ryw ddiwrnod.’

Mae’r ‘Domine Deus’ yn gyferbyniad llwyr, gan ddechrau gydag alaw soprano ddyrchafol, hiraethus bron. Wrth i fotiff arpeggio taer ddychwelyd dro ar ôl tro gan symud rhwng y soprano a’r corws, crëir cylch o weddïo diddiwedd.

Yn y ‘Domine Fili unigenite’ caiff y gwrandäwr ei daflu’n ôl i mewn i’r Poulenc ysgafndroed, mewn symudiad pontio byr rhwng ei ddau gymydog mwy myfyriol. Mae’r diweddglo swta’n debycach i gân boblogaidd a glywech mewn caffi ym Mharis yn hytrach na gwasanaeth crefyddol.

O gord agoriadol dwys y pumed symudiad (‘Domine Deus, agnus Dei’), mae Poulenc yn creu awyrgylch o daerineb a gostyngeiddrwydd wrth i’r lleisiau erfyn am faddeuant. Tra mai patrwm disgynnol yn bennaf oedd i’r unawd soprano blaenorol, patrymau esgynnol sy’n nodweddu’r llinell leisiol yma, fel petai’n edrych i fyny wrth erfyn am drugaredd.

Ar ôl datganiad Gregoraidd ei naws, mae momentwm y ‘Qui sedes ad dexteram Patris’ terfynol yn adlewyrchu’r symudiad cyntaf, gan ddod â’r ffanffer agoriadol yn ei hôl ac ymgorffori elfennau o bob symudiad dilynol. Fel sy’n gweddu i’r thema o gyferbyniad, daw Poulenc â’r gwaith i ben gyda datganiad eofn y ffanffer, a ddilynir gan ameniau cynnil, sy’n ymdawelu i ddim.

Nodyn y rhaglen © Kerry Bunkhall

Testun

Gloria in excelsis Deo
Gloria in excelsis Deo.
Et in terra pax hominibus bonae voluntatis.

Laudamus te
Laudamus te. Benedicimus te.

Adoramus te. Glorificamus te.
Gratias agimus tibi propter magnam gloriam tuam.

Domine Deus
Domine Deus, rex caelestis,
Deus Pater omnipotens.

Domine Fili unigenite
Domine Fili unigenite, Jesu Christe.

Domine Deus, agnus Dei
Domine Deus, agnus Dei, Filius Patris, rex caelestis,

qui tollis peccata mundi,
miserere nobis;
qui tollis peccata mundi,
suscipe deprecationem nostram.

Qui sedes ad dexteram Patris
Qui sedes ad dexteram Patris,

miserere nobis.
Quoniam tu solus sanctus.
Tu solus Dominus.
Tu solus altissimus, Jesu Christe.
Cum Sancto Spiritu, in gloria Dei Patris.
Amen.

Cyfieithiad

Gogoniant i Dduw yn y goruchaf
Gogoniant i Dduw yn y goruchaf
Ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da.

Moliannwn di
Moliannwn di. Bendithiwn di,
Addolwn di. Gogoneddwn di.
Diolchwn i ti am dy fawr ogoniant.

O Arglwydd Dduw
O Arglwydd Dduw, Frenin nefol,
Duw Dad hollalluog.

Arglwydd, yr unig anedig Fab
Arglwydd, yr unig anedig Fab, Iesu Grist.

Arglwydd Dduw, Oen Duw
Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad, Frenin nefol
tydi sy’n tynnu ymaith bechodau’r byd, trugarha wrthym;
tydi sy’n tynnu ymaith bechodau’r byd, derbyn ein gweddi.


Tydi sy’n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad
Tydi sy’n eistedd ar ddeheulaw Duw Dad, trugarha wrthym.
Oblegid ti yn unig sy’n sanctaidd,
Ti yn unig yw’r Arglwydd,
Ti yn unig sydd Oruchaf, Iesu Grist,
gyda’r Ysbryd Glân, yng ngogoniant Duw Dad.
Amen. 

EGWYL: 15 munud

Antonín Dvořák (1841–1904)

Symffoni Rhif 8 yn G fwyaf, Op. 88 (1889)

1 Allegro con brio
2  Adagio
3  Allegretto grazioso
4  Allegro ma non troppo

I lawer o gyfansoddwyr, mae’n anodd cael hyd i syniadau; problem Dvořák yn aml oedd bod ganddo ormod. ‘Petawn i ond yn gallu eu hysgrifennu i lawr ar unwaith!’ ysgrifennodd at ffrind, ‘Mae alawon yn arllwys allan ohonof i.’ Ym mis Awst 1889 oedd hyn, a Dvořák wrthi’n gorffen ei Bedwarawd Piano bendigedig, Op. 87. Wythnos yn ddiweddarach, roedd yn sgriblo syniadau ar gyfer symffoni newydd, yr un sy’n adnabyddus inni bellach fel ‘Rhif 8’, a chwta fis yn ddiweddarach roedd y sgôr piano wedi’i gwblhau.

Pam roedd hyn yn broblem? Wel, o ran ysgrifennu symffonïau, model Beethoven a Brahms oedd yn tra-arglwyddiaethu ar ddiwedd y 19eg ganrif. Yma, roedd datblygu syniadau lawn mor bwysig â’r syniad ei hun: meddyliwch faint o ddefnydd cerddorol y mae Beethoven yn ei wasgu o’r motiff enwog da-da-da-DA yn ei Bumed Symffoni. Yn ei Seithfed ei hun (1885), roedd Dvořák wedi dangos y gallai roi ei drwyn ar y maen ac, yng ngeiriau Brahms, ‘gwneud i geiniog wneud gwaith swllt’. Ond ar ôl cyflawni hynny, yng ngeiriau ffrind arall aeth ati yn Rhif 8 i greu ‘gwaith gwahanol i’w symffonïau eraill, â syniadau unigol wedi’u datrys mewn ffordd newydd.’ Nid yn unig y mae toreth rhyfeddol o syniadau yn symudiad cyntaf yr Wythfed Symffoni, mae blas cryf ar bob un ohonyn nhw ac maen nhw’n gofiadwy yn syth; mae yna ddatblygiad, ond y themâu eu hunain sy’n ein swyno ac yn ein cyffroi pan ddychwelant. Yn anad dim, mae’r Wythfed Symffoni yn mynegi calon lawen, orlawn. Mewn oes pan oedd symffonïau trasig neu arwrol yn cynrychioli delfryd heriol, roedd Dvořák wedi gwneud rhywbeth arall – creu symffoni sy’n wirioneddol ddedwydd a hapus.

Efallai nad dyna’r argraff gyntaf yn hollol: ar y dechrau mae’r soddgrythau’n arwain gyda thema ddwys, salmdonaidd yn y cywair lleddf, ond toc daw galwad aderyn siriol ar y ffliwt i chwalu’r tristwch, a cheir crescendo cyffrous yn arwain at emyn-dôn yn y cywair mwyaf ar fiolâu a soddgrythau, a honno yn ei thro’n ildio i lawenydd pur y ddawns. Yn y bôn, dyma’r patrwm emosiynol ar gyfer y symffoni gyfan. Gall ambell gysgod basio heibio, ond bydd cynhesrwydd a goleuni bob amser yn drech.

Mae’r ail symudiad yn adleisio trydydd symudiad gwaith piano Dvořák, Poetické Nálady (Naws-luniau Barddonol), Op. 85, ‘Yn yr Hen Gastell’, a gyfansoddwyd yr un flwyddyn. Gallwch ddychmygu’r ymwelydd yn amsugno naws y gaer hynafol: dan gwmwl un funud, yna mewn heulwen, gyda ffanfferau sy’n awgrymu atgofion o hen frwydrau mewn oes ddedwyddach, mwy diogel. Yna daw’r Allegretto grazioso hyfryd, sy’n hanner walts hamddenol, hanner dawns werin hiraethus-felys, gyda chwiw sydyn o ddawnsio cyflym yn y cywair mwyaf ar y diwedd – dim mwy o fân reolau dawns i ni nawr! I gloi, daw ffanffer trwmped afaelgar i gyflwyno alaw emynaidd dan arweiniad y soddgrythau, ond buan y caiff y ffug-ddifrifoldeb hwn ei chwalu gan yr hyn sy’n dilyn: hwyl gwyllt pur yw’r diweddglo. Gallai Dvořák wneud trasiedi, siŵr iawn, ond mae’n anodd canfod yr awgrym lleiaf o hynny yma.

 Nodyn rhaglen © Stephen Johnson

Helpwch ni i wella ein rhaglenni ar-lein.
A fyddech cystal â rhoi 5 munud o’ch amser i roi eich barn ar y nodiadau hyn drwy lenwi’r arolwg hwn? Arolwg Rhaglenni

Digwyddiadau eraill a all fod at eich dant:

Os ydych chi wedi mwynhau’r cyngerdd heddiw, dewch â theulu a ffrindiau gyda chi i’r cyngerdd hwn sydd ar y gweill. Fel aelod cyfredol o’r gynulleidfa, cewch brynu tocynnau ar ei gyfer am £7 drwy ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU wrth brynu ar-lein.

BBC NOW – NAWR!

Nos Iau 19/2/26, 7.30pm
Neuadd Hoddinott y BBC, Caerdydd

Isabella Gellis Valedictions première y DU
Deborah Pritchard ‘Light Circle’ – Concerto i’r Trombôn première y DU
Justė Janulytė Confluere i gerddorfa siambr  première y DU
Hannah Eisendle Azinheira première y DU
Katherine Balch musica pyralispremière y DU

Jack Sheen arweinydd
Peter Moore trombôn

CYFOES | DADLENNOL | UNIGRYW

Dewch i deimlo’r wefr o ddarganfod cerddoriaeth newydd wrth i BBC NOW – NAWR! ddychwelyd yn y gwanwyn gyda phum première penigamp mewn un noson fythgofiadwy. Ymgollwch yn Valedictions cyfareddol Isabella Gellis, yng nghoncerto disglair Deborah Pritchard i'r trombôn – ‘Light Circle’ – gyda’r unawdydd o fri Peter Moore, ac yn Confluere gwych Justė Janulytė. Dewch i deimlo egni trawiadol Azinheira gan Hannah Eisendle a byd nosol hudolus musica pyralis gan Katherine Balch. Dan faton yr arweinydd addawol Jack Sheen, yn ei ymddangosiad cyntaf gyda BBC NOW, dyma’ch cyfle chi i weld dyfodol cerddoriaeth – byw, beiddgar a gwefreiddiol. Peidiwch â cholli’r cyfle!

Gallwch archebu tocynnau am gyn lleied â £7 gan ddefnyddio’r cod hyrwyddo NOWYOU https://www.bbc.co.uk/events/evr6gw

Bywgraffiadau

Michał Nesterowicz arweinydd

Yn y tymhorau diwethaf, mae Michał Nesterowicz wedi sefydlu ei hun yn un o’r arweinwyr Pwylaidd mwyaf adnabyddus ar y llwyfan rhyngwladol. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae gwaith gyda Cherddorfa Frenhinol Concertgebouw, Gewandhausorchester Leipzig, Cerddorfa Symffoni’r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, Konzerthausorchester Berlin a Cherddorfa Tonkünstler.

Bu’n fuddugol yng Nghystadleuaeth Arwain Ewropeaidd Cerddorfa Cadaqués yn 2008 ac enillodd wobr yn chweched Cystadleuaeth Arwain Ryngwladol Grzegorz Fitelberg yn Katowice.

Mae wedi gweithio’n aml gyda Cherddorfa Tonhalle Zurich, cerddorfeydd Ffilharmonig Munich, Nice a Cherddorfa Ffilharmonig Frehinol Lerpwl, a cherddorfeydd Symffoni Cenedlaethol Taiwan a Singapore. Mae hefyd wedi cydweithio â WDR Sinfonieorchester Köln, Deutsches Symphonie-Orchester Berlin, Cerddorfa Gulbenkian, Cerddorfa Symffoni Kyoto, cerddorfeydd Ffilharmonig Copenhagen a Lwcsembwrg, Orchestre National Bordeaux Aquitaine, ac Orchestra della Svizzera italiana.

Bu mewn sawl swydd allweddol, gan gynnwys Arweinydd Gwadd Cyntaf Cerddorfa Symffoni Basel (2016–20), Prif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Tenerife (2012–16), Cyfarwyddwr Artistig Cerddorfa Symffoni Chile (2008–12) a Chyfarwyddwr Artistig cerddorfa Ffilharmonig Gdańsk (2004–08). Ar hyn o bryd mae’n Brif Arweinydd Gwadd Cerddorfa Ffilharmonig Arthur Rubinstein yn Łódź.

Y tymor hwn mae Michał Nesterowicz yn perfformio am y tro cyntaf gydag Orchestra del Teatro Regio di Parma, Cerddorfa Symffoni Milan, Filarmonica Arturo Toscanini, Cerddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd, Cerddorfa Siambr Amadeus o Radio Gwlad Pwyl a Cherddorfa Ffilharmonig Cavatina. Mae hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni’r BBC, Malmö a Singapore, cerddorfeydd Ffilharmonig yr Hag, Malaysia a Stuttgart, Cerddorfa Phion a Musikalische Akademie des Nationaltheater-Orchesters yn Mannheim.

 Sophie Bevansoprano

Sussie Ahlburg

Sussie Ahlburg

Mae Sophie Bevan yn cael ei chydnabod yn un o brif sopranos telynegol ei chenhedlaeth; astudiodd yn y Coleg Cerdd Brenhinol lle dyfarnwyd iddi wobr bwysig y Queen Mother Rose Bowl. Enillodd y wobr Canwr Ifanc yn y Gwobrau Opera Rhyngwladol cyntaf yn 2013 a chafodd ei hurddo’n MBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2019.

Mae hi’n gweithio’n rheolaidd gyda cherddorfeydd blaenllaw ledled y byd a gydag arweinwyr sy’n cynnwys Syr Antonio Pappano, Daniel Harding, Andris Nelsons, Edward Gardner, Laurence Cummings, Syr Mark Elder, Ivor Bolton a Mirga Gražinytė-Tyla.

Yn y neuadd gyngerdd mae ei repertoire yn amrywio o Bach, Handel a Haydn trwy Richard Strauss a Fauré i Britten, Knussen a Ryan Wigglesworth.

Mae hi’n ddatgeiniad o fri ac wedi ymddangos gyda phianyddion sy’n cynnwys Julius Drake, Malcom Martineau, Ryan Wigglesworth, Christopher Glynn a Graham Johnson mewn lleoliadau fel Concertgebouw Amsterdam, Gŵyl Aldeburgh a Gŵyl Lieder Rhydychen, yn ogystal ag ymddangosiadau rheolaidd yn Neuadd Wigmore yn Llundain.

Mae galw mawr am Sophie Bevan i weithio ym myd yr opera, ac mae ei hymrwymiadau diweddar ac yn y dyfodol yn cynnwys Ilia (Idomeneo), Sophie (Der Rosenkavalier),Susanna (Priodas Figaro), Dalinda (Ariodante)a Pamina(Y Ffliwt Hud)yn y Tŷ Opera Brenhinol; Fiordiligi (Così fan tutte)ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru; Ellen Orford (Peter Grimes) ar gyfer Opera Rhufain; Hermione (The Winter’s Tale gan Ryan Wigglesworth), Télaïre (Castor et Pollux)ac un o’r prif sopranos yn 7 Deaths of Maria Callas ar gyfer ENO; Mélisande (Pelléas et Mélisande) ar gyfer Semperoper Dresden; Asteria (Tamerlano)ar gyfer Gŵyl y Grange; Freia (Das Rheingold) yn Teatro Real, Madrid; a Governess (The Turn of the Screw) ar gyfer Garsington Opera. Perfformiodd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Opera Glyndebourne fel Michal (Saul) ac yng Ngŵyl Salzburg a’r Metropolitan Opera fel Beatriz (The Exterminating Angel gan Thomas Adès).

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Mae dros 120 o gantorion yng Nghorws Cenedlaethol Cymreig y BBC ac mae’n un o’r prif gorau symffoni cymysg yn y Deyrnas Unedig. Tra’n cadw ei statws amatur, mae’n gweithio i’r safonau proffesiynol uchaf o dan y Cyfarwyddwr Artistig, Adrian Partington. Yn cynnwys cymysgedd o gantorion amatur ochr yn ochr â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae’r corws, sydd wedi’i leoli yn Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, yn cydweithio’n rheolaidd gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn ogystal â chynnal ei gyngherddau ei hun.

Ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae perfformiadau o Stabat mater Poulenc a pherfformiad cyntaf y byd o Sound of Stardust Alexander Campkingydag enillydd Gwobr y Gynulleidfa yng nghystadleuaeth y BBC Canwr y Byd Caerdydd, Julieth Lozano Rolong a’r arweinydd corawl Sofi Jeannin; 13eg Symffoni Shostakovich gyda’r Prif Arweinydd Ryan Bancroft; a Dewi Sant Syr Karl Jenkins ym mlwyddyn ei 80fed pen-blwydd. Mae’r corws yn ymddangos yn flynyddol hefyd yn y BBC Proms, ac ymhlith yr uchafbwyntiau diweddar mae Requiem Verdi, Harmonium John Adamsgyda Ryan Bancroft a Sea Symphony Vaughan Williams gydag Andrew Manze.

Y tymor diwethaf perfformiodd y corws Stabat mater Rossinigydag enillydd Gwobr Cân Canwr y Byd Caerdydd 2021, Masabane Cecilia Rangwanasha a Nil Venditti; Messiah Handel gyda’r arbenigwr ar gerddoriaeth gynnar, John Butt; a Missa solemnis Beethoven gydag Andrew Manze, yn ogystal â’r cyngerdd carolau blynyddol a rhaglen o waith Brahms gyda Ryan Bancroft.

Mae Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn frwd dros gerddoriaeth Gymreig a chyfoes a rhoddodd yr ail berfformiad erioed o Missa Cambrensis Grace Williams, 45 mlynedd ar ôl ei pherfformiad cyntaf, a ryddhawyd hefyd ar CD. Mae wedi rhoi perfformiadau cyntaf o waith sawl cyfansoddwr, gan gynnwys perfformiad arbennig o Speak Out Kate Whitley, wedi’i osod ar eiriau Araith Malala Yousafzai i’r Cenhedloedd Unedig yn 2013.

Gellir clywed y corws ar BBC Radio 3, BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru, ac yn ddiweddar ymddangosodd ar drac sain Paul Mealor i Wonders of the Celtic Deep ar BBC Wales.

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ers dros 90 mlynedd, mae Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, yr unig gerddorfa symffoni broffesiynol yng Nghymru, wedi chwarae rhan ganolog yn nhirwedd ddiwylliannol y wlad, ac mae ganddi rôl unigryw fel cerddorfa ddarlledu a cherddorfa genedlaethol. Mae BBC NOW yn llysgennad ar ran diwylliant Cymru, ac mae’r gerddorfa a’r corws yn perfformio cerddoriaeth sydd wedi’i chreu yng Nghymru yn rheolaidd, gan gynnwys yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n hyrwyddo cyfansoddwyr ac artistiaid o Gymru.

Yn rhan o BBC Cymru Wales ac yn derbyn cefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae BBC NOW yn perfformio amserlen brysur o gyngherddau byw a darllediadau, gan weithio gydag arweinwyr ac unawdwyr o fri o bob cwr o’r byd, gan gynnwys eu Prif Arweinydd, Ryan Bancroft, sydd wedi ennill gwobrau.

Mae’r gerddorfa wedi ymroi i weithio mewn partneriaeth â grwpiau cymunedol ac elusennau, ac mae’n mynd â cherddoriaeth o’r neuaddau cyngherddau i leoliadau fel ysgolion ac ysbytai er mwyn i eraill brofi a chael eu grymuso gan gerddoriaeth. Mae’n cynnal gweithdai, cyngherddau a pherfformiadau ochr yn ochr i ysbrydoli ac annog y genhedlaeth nesaf o berfformwyr, cyfansoddwyr ac arweinwyr y celfyddydau, ac mae’n croesawu miloedd o bobl ifanc ac aelodau o gymunedau bob blwyddyn drwy ei phrosiectau addysg a gwaith maes.

Mae BBC NOW yn perfformio bob blwyddyn yn nigwyddiad Proms y BBC a bob yn ail flwyddyn yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Mae modd gwrando ar y cyngherddau yn rheolaidd ar draws y BBC: ar Radio 3, Radio Wales a Radio Cymru. Ar y sgrin, mae cerddoriaeth a gaiff ei pherfformio gan BBC NOW i’w chlywed yn helaeth ar draws y BBC a sianeli byd-eang eraill, gan gynnwys traciau sain a cherddoriaeth thema Doctor Who, Planet Earth III, Prehistoric Planet, The Pact a Plant mewn Angen.

Yn ei chartref, Neuadd Hoddinott y BBC ym Mae Caerdydd, mae BBC NOW yn defnyddio stiwdio recordio o’r radd flaenaf gyda system gamera ar gyfer ffrydio byw a darllediadau teledu i ddod â cherddoriaeth BBC NOW i gynulleidfa ehangach ledled Cymru a’r byd. I gael rhagor o wybodaeth am BBC NOW, ewch i www.bbc.co.uk/bbcnow

Noddwr
Ei Fawrhydi Brenin Charles III KG KT PC GCB
Prif Arweinydd
Ryan Bancroft 
Prif Arweinydd Gwadd
Jaime Martín
Cyfansoddwr Cysylltiedig
Gavin Higgins

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Cyfarwyddwr Artistig
Adrian Partington

Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Christopher Williams

Soprano
Elizabeth Aitken
Ella Edwards Beavington
Amelia Beecroft
Kate Bidwell
Iustina Chirila
Logan Clark
Angela Contestabile
Charlotte Crane
Katie Cross
Isabel D
Avanzo
Esme Daniell-Greenhalgh
Beatrice Dyer
Ella Edwards
Sofia Franklin
Olivia Ghanem
Sally Glanfield
Faith Gerber
Claire Hardy
Rhiannon Humphreys
Lucie Jones
Margaret Lake
Carolyn Lee
Qianyu Lin
Amélie Mack
Bethan Nicholas-Thomas
Joanna Osborn
Lucy Paterson
Angharad Phillips
Elizabeth Phillips
Rebecca Reavley
Hannah Robertson
Caroline Thomas
Helen Thomas
Megan Veiga
Jo Westaway
Hannah Williams
Lydia Wilson
Janaki Wickramasinghe
Katherine Woolley
Qin Yan

Alto
Nazanin Dast Afkan
Catherine Bradfield
Alex Butler
Dee Cooke
Alison Davies
Rachel Farebrother
Meredith Gardiner
Kathrin Hammer
Annette Hecht
Yvonne Higginbottom
Naomi Hitchings
Matilda Holder
Max Keith
Lisa May
Lily Pearson
Heather Price
Avery Rabbitt
Kate Reynolds
Cerian Rolls
Zozi Sookanadenchetty
Sophia Szczegolski-Jacobs
Julie Thornton
Vicki Westwell
Julie Wilcox
Jessica Williams 

Tenor
Jake Bussell
Orin Daniel
Meilyr Dafydd
Keith Davies
Roland George
Peter Holmes
Phil Holtam
Huw Lloyd
Andrew Lunn
Rory McIver
Andrew Morris
Richard Shearman
Nick Willmott 

Bas 
Noah Boneham‑Hill
Peter Cooke
David John Davies
Ethan Davies
John Davies
Neil Davies
Daniel Davies
James Downs
Charlie Gedge
Stephen Hammnett
Oliver Hodgson
Stuart Hogg
Gregg Hollister
David Hopkins
Jack Irwin
Emyr Wynne Jones
David McLain
Gareth Nixon
Mike Osborn
Ben Pinnow
Neil Schofield
David Stephens
David Rodgers
Alun Williams
Daniel Williams
  

Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Ffidlau Cyntaf
Lesley Hatfield blaenwr
Roisin Verity
Martin Gwilym-Jones is-flaenwr
Gwenllian Hâf MacDonald
Terry Porteus
Suzanne Casey
Carmel Barber
Kerry Gordon-Smith
Emilie Godden
Anna Cleworth
Ruth Heney **
Žanete Uškāne
Alejandro Trigo
Gary George-Veale

Ail Ffidlau
Anna Smith *
Kirsty Lovie #
Ros Butler
Sheila Smith
Michael Topping
Katherine Miller
Joseph Williams
Beverley Wescott
Vickie Ringguth
Roussanka Karatchivieva
Lydia Caines **
Elizabeth Whittam

Fiolâu
Rebecca Jones *
Tetsuumi Nagata
Peter Taylor
Robert Gibbons
Lowri Taffinder
Laura Sinnerton
Lydia Abell
Anna Growns
Catherine Palmer
Mungo Everett-Jordan

Soddgrythau
Leo Popplewell
Jessica Feaver
Sandy Bartai
Carolyn Hewitt
Keith Hewitt
Rachel Ford
Alistair Howes
Kathryn Graham

Basau Dwbl
David Stark *
Alexander Jones #
Emma Prince
Albert Dennis
Natalia Vázquez Fernández
Adam Precious

Ffliwtiau
Matthew Featherstone *
John Hall †
Lindsey Ellis

Piccolo
Lindsey Ellis †

Oboau
Steve Hudson *
Amy McKean †
Charis Yan Yin Lai

Cor anglais
Charis Yan Yin Lai

Clarinetau
Nicholas Carpenter *
William White
Lenny Sayers **+

Clarinét Bas
Lenny Sayers †**+

Baswnau
Jarosław Augustyniak *
Jo Shewan
Alex Davidson

Isfasŵn
Alex Davidson

Cyrn
Tom Taffinder
Meilyr Hughes
Benjamin Hartnell-Booth
Flora Bain
John Davy

Utgyrn
Corey Morris †
Robert Samuel
John Blackshaw

Trombonau
Donal Bannister*
Dafydd Thomas †

Trombôn Bas
Darren Smith †

Tiwba
Anders Swane

Timpani
Steve Barnard *

Y Delyn
Elen Hydref

* Prif Offerynnwr yr Adran
Prif Offerynnwr
Prif Offerynnwr Gwadd
# Prif Offerynnwr LlinynnolCynorthwyol


Roedd y rhestr o aelodau’r gerddorfa yn gywir wrth fynd i’r wasg

Cyfarwyddwr Lisa Tregale
Rheolwr y Gerddorfa Liz Williams
Rheolwr Cynorthwyol y Gerddorfa Nick Olsen **
Rheolwr Staff y GerddorfaKevin Myers
Cydlynydd y Gerddorfa a GweithrediadauEleanor Hall
Cydlynydd Busnes Georgia Dandy **
Pennaeth Cynhyrchu a Chynllunio Artistig George Lee
Rheolwr Artistiaid a Phrosiectau Victoria Massocchi **
Llyfrgellydd y Gerddorfa Naomi Roberts **
Cynhyrchydd Mike Sims
Cynorthwyydd DarlleduEmily Preston
Pennaeth Marchnata a Chynulleidfaoedd Sassy Hicks
Cydlynydd Marchnata Angharad Muir–Davies (cyfnod mamolaeth)
Cynhyrchydd Digidol Angus Race
Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol Harriet Baugh
Prentis Marchnata Mya Clayden
Cynhyrchydd AddysgBeatrice Carey
Cynhyrchydd Addysg/Rheolwr y Corws Rhonwen Jones
Goruchwylwyr Sain Simon Smith, Andrew Smillie
Rheolwr Busnes Cynhyrchu Lisa Blofeld
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Josh Mead +
Rheolwr Llwyfan a Thechnegol Cynorthwyol Richie Basham

+ Aelod o’r Tîm Gwyrdd
** Fforwm Amrywiaeth a Chynhwysiant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Gwrandewch ar ein darllediadau BBC Radio 3 drwy ap BBC Sounds. Ewch i’n gwefan a’n dilyn ni ar Facebook ac Instagram

Er mwyn ein helpu i wella ein rhaglenni cyngherddau ar-lein, a fyddech cystal â llenwi’r arolwg 5-munud hwn?
Cynhyrchwyd gan BBC Proms Publications