Main content
Portread o'r Cymry yn un 'twp' - Iestyn Arwel
Wrth sgwrsio am ei raglen newydd, ‘Ar Daith’, Iestyn Arwel sy'n trafod portreadu’r Cymry yn y cyfryngau Saesneg. Esboniai iddo deimlo’n rhwystredig gyda’r cyfleoedd a oedd yn cael eu cynnig iddo fel actor, ac yn siomedig fod y portread o Gymru yn aml yn un dilornus. Arweiniodd hyn at ddechrau sgriptio cymeriadau sy’n gwrthod stereoteipiau.





