Main content

Telerau ac Amodau : Cystadleuaeth Dyfalu'r Flwyddyn Radio Cymru 2

Telerau ac Amodau Cystadleuaeth WhatsApp Radio Cymru 2

Trefnydd y gystadleuaeth yw’r BBC.

Pwy Sy’n Gymwys
Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i holl drigolion y DU, gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, sy’n 18 mlwydd oed neu’n hŷn, ac eithrio gweithwyr y BBC neu gwmni Grŵp y BBC, ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth. Gellir gofyn am brawf o oedran a chymhwysedd.

Mae’r BBC yn cadw’r hawl i ofyn i unrhyw ymgeisydd neu enillydd ddarparu prawf o oedran, hunaniaeth a chymhwysedd, ac i ddiarddel unrhyw ymgeisydd neu enillydd sy’n torri’r telerau hynny, sy’n darparu gwybodaeth ffug, neu os na ellir cadarnhau ei oedran, ei hunaniaeth neu ei gymhwyster i foddhad rhesymol y BBC.

Sut i gystadlu
Bydd gwrandawyr yn cael eu gwahodd i ‘ddyfalu’r flwyddyn’ y mae detholiad o ganeuon i gyd yn dod ohoni.

Bydd pob cystadleuaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Iau (yn amodol ar newid golygyddol). Dydd Llun, bydd clip byr o gân adnabyddus o flwyddyn benodol yn cael ei chwarae. dydd Mawrth, bydd ail glip o gân o’r un flwyddyn yn cael ei ychwanegu, ac yn y blaen nes y bydd pedwar clip o ganeuon o’r un flwyddyn yn cael eu chwarae erbyn dydd Iau. Bydd amseroedd agor a chau pob rownd ddyddiol yn cael eu cyhoeddi ar yr awyr cyn gwahodd ceisiadau.

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhaid anfon neges WhatsApp i 03703 500 500, gan ddechrau gyda’r gair ‘DAU’ ac yna pedwar digid y flwyddyn y mae’r cystadleuydd yn credu bod y caneuon yn dod ohoni, er enghraifft: ‘DAU 1994’.

Mae negeseuon WhatsApp yn rhad ac am ddim, ond gall taliadau data fod yn berthnasol. Holwch eich darparwr rhwydwaith am gostau union.

Dim ond un cais fesul rhif ffôn ym mhob rownd o’r gystadleuaeth a ganiateir. Gall cystadleuwyr gyflwyno cais ar unrhyw adeg rhwng dydd Llun a dydd Iau tra bo’r gystadleuaeth ar agor, ond ni fydd unrhyw geisiadau ychwanegol yn cael eu cyfrif a dim ond eich cais cyntaf fydd yn cael ei dderbyn.

Ni fydd ceisiadau nad ydynt yn dechrau gyda’r wybodaeth a nodir uchod yn cael eu hystyried yn geisiadau dilys ar gyfer y gystadleuaeth hon. Ni dderbynnir unrhyw ddull arall o gystadlu.

Ni chaiff cyn enillwyr cystadlaethau’r orsaf ennill eto o fewn 12 mis i’w buddugoliaeth ddiweddaraf.

Drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon drwy WhatsApp, mae cystadleuwyr yn cydnabod eu bod yn gadael platfform y BBC. Mae WhatsApp yn wasanaeth trydydd parti a ddarperir gan WhatsApp LLC ac mae’n ddarostyngedig i’w delerau ac amodau ei hun. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am wasanaeth WhatsApp nac am unrhyw ddata a brosesir gan WhatsApp. Dylai cystadleuwyr ddarllen telerau a pholisi preifatrwydd WhatsApp cyn defnyddio’r gwasanaeth.

Bydd y cyflwynydd yn cyhoeddi pryd y bydd llinellau ar agor ar gyfer ceisiadau.

Ar ôl cau’r gystadleuaeth, caiff yr enillydd ei ddewis ar hap o bob cais cymwys a’i hysbysu ar ôl cau cystadleuaeth yr wythnos honno. Gwahoddir yr enillydd i ymddangos ar raglen Radio Cymru 2 ar y dydd Iau i sgwrsio ar awyr.

Os na chaiff yr alwad ei hateb, neu os caiff ei dargyfeirio i unrhyw fath o neges llais, peiriant ateb neu wasanaeth ateb awtomtig, ystyrir nad yw’r cystadleuydd wedi ateb.

Os nad yw’r cystadleuydd yn ateb, os yw’r cystadleuydd sydd ar y rhestr fer yn anghwrtais neu’n sarhaus, neu os nad yw’n gymwys i ennill y wobr, mae’r BBC yn cadw’r hawl i’w ddiarddel a chysylltu â’r cystadleuydd cymwys nesaf a ddewiswyd ar hap. Bydd y broses ddethol yn dechrau eto, a bydd hyn yn parhau nes bod y wobr wedi’i hennill.

Bydd unrhyw wobr sy’n parhau heb ei hawlio ar ôl i bob ymgais resymol i gysylltu â chystadleuwyr cymwys gael ei wneud yn cael ei chanslo, ac ni fydd yn cael ei throsglwyddo i unrhyw gystadleuaeth ddilynol.

Bydd y BBC yn gwneud addasiadau rhesymol i’w weithdrefn galw’n ôl er mwyn darparu ar gyfer cystadleuwyr sy’n defnyddio gwasanaeth trosglwyddo cydnabyddedig neu wasanaeth cyfathrebu arall at ddibenion hygyrchedd.

Unwaith y bydd yr enillydd wedi’i gadarnhau, bydd ei enw cyntaf a’i leoliad yn cael eu cyhoeddi ar yr awyr.

Gall y gystadleuaeth gael ei chynnal yn fisol, a bydd hyn yn cael ei egluro’n glir ar yr awyr ac o bosibl ar-lein. Dim ond yn ystod yr amseroedd a gyhoeddir ar yr awyr y bydd y gystadleuaeth ar agor. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir y tu allan i’r amseroedd hyn yn cael eu cofrestru.

Rhaid i’r ffôn y mae’r cais WhatsApp yn cael ei anfon ohono yn ystod y broses gofrestru fod yn ffôn y cystadleuydd ei hun. Rhaid i’r cystadleuydd fod yn cymryd rhan ar ei ran ei hun.

Mae’r BBC yn cadw’r hawl i ddiarddel unrhyw gystadleuydd nad oedd wedi cystadlu gan ddefnyddio ei ffôn ei hun, a atebodd alwad i ffôn rhywun arall, neu a gafodd rywun arall i ateb ei ffôn ar ei ran, ac eithrio lle mae’r cystadleuydd yn defnyddio gwasanaeth trosglwyddo ffôn cydnabyddedig (fel Relay UK) neu gymorth cyfathrebu trydydd parti fel addasiad rhesymol.

Gwobr
Y wobr yw’r un a ddisgrifir gan y BBC ar yr awyr ac, mewn rhai achosion, ar y tudalennau ar lein cyfatebol lle bo hynny’n berthnasol. Bydd natur a gwerth y wobr, ynghyd ag unrhyw amodau neu gyfyngiadau sylweddol sy’n effeithio ar y wobr, yn cael eu cyflwyno i’r gwrandawyr pan roddir y gwahoddiad i gymryd rhan.

Oni nodir yn benodol fel arall, nid yw’r wobr yn cynnwys teithio, llety nac unrhyw gostau eraill, a chyfrifoldeb yr enillydd fydd talu’r rhain.

Mae’r wobr at fwynhad personol yr enillydd yn unig. Ni chaiff yr enillydd gopïo, ail greu, dosbarthu na manteisio’n fasnachol ar y wobr. Ni chaiff yr enillydd ddefnyddio nac ail greu unrhyw enw, brand neu logo’r BBC neu raglen sy’n gysylltiedig â’r wobr. Ni ddylai’r enillydd wneud unrhyw beth gyda’r wobr a allai ddwyn anfri ar y BBC.

Nid oes dewis arall o arian parod yn lle unrhyw wobr. Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo gwobrau, ac ni chaniateir eu gwerthu. Mae’r BBC yn cadw’r hawl i roi gwobr arall o werth cyfatebol neu uwch yn lle’r wobr wreiddiol os bydd amgylchiadau’n golygu bod hynny’n angenrheidiol.

Lle bo angen, bydd y BBC yn trosglwyddo manylion yr enillydd i ddarparwr priodol y wobr neu’r lleoliad er mwyn trefnu i’r wobr gael ei ddarparu. Os yw’r wobr yn gofyn am gamau ychwanegol, megis casglu tocynnau, rhaid i’r enillydd ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir, a all gynnwys darparu prawf adnabod. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am unrhyw fethiant i ddilyn cyfarwyddiadau o’r fath.

Gall fod gofynion ychwanegol yn gysylltiedig â’r wobr sy’n newid meini prawf cymhwystery gystadleuaeth, megis, ond heb fod yn gyfyngedig i, derfyn oedran ar gyfer mynediad i ddigwyddiad y cynigir tocynnau ar ei gyfer. Yn yr achosion hyn, bydd unrhyw newidiadau i’r gofynion cymhwyster yn cael eu cyhoeddi’n glir ar yr awyr ac ar-lein, lle bo hynny’n berthnasol, cyn i’r gystadleuaeth agor.

Os yw’r wobr yn cynnwys tocynnau neu fynediad i ddigwyddiad, ni fydd y BBC yn gyfrifol am unrhyw fethiant gan yr enillydd a’i westeion, lle bo hynny’n berthnasol, i gael mynediad neu ailfynediad i’r digwyddiad oherwydd eu hymddygiad neu oherwydd eu bod wedi methu â bodloni gofynion mynediad y digwyddiad, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, isafswm oedran. Cyfrifoldeb yr enillwyr yw gwirio gofynion mynediad y lleoliad.

Mae’r enillydd yn cydnabod bod telerau ac amodau ychwanegol yn berthnasol i docynnau digwyddiadau. Mae’r enillwyr, a’u gwesteion lle bo hynny’n berthnasol, yn cytuno i gydymffurfio â thelerau ac amodau’r digwyddiad y mae angen tocyn ar ei gyfer, ac â holl bolisïau iechyd, diogelwch a diogeledd perthnasol y lleoliad. Nid yw’r BBC yn gyfrifol am delerau trydydd parti nac am wefannau trydydd parti sy’n gysylltiedig â’r wobr.

Lle mae’r wobr yn cynnwys mynd i ddigwyddiad neu gymryd rhan mewn profiad, rhaid i’r enillydd, a’i westeion lle bo hynny’n berthnasol, roi gwybod i’r BBC am unrhyw ofynion iechyd neu hygyrchedd cyn i’r wobr gael ei darparu. Ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw fethiant i ddarparu ar gyfer gofynion na ddatgelwyd ymlaen llaw.

Ni fydd y BBC yn gyfrifol os caiff y digwyddiad sy’n rhan o’r wobr ei ohirio neu ei ganslo. Os yw’r wobr yn cynnwys mynediad i ddigwyddiad chwaraeon, ni ddylai’r enillydd, na’i westeion lle bo hynny’n berthnasol, fod yn destun unrhyw orchymyn sy’n eu gwahardd rhag mynychu digwyddiadau o’r fath.

Cyffredinol
Mae cystadleuwyr yn cytuno i gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd cyhoeddusrwydd rhesymol yn dilyn y gystadleuaeth, os gofynnir iddynt wneud hynny.

Bydd enwau a lleoliad bras yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi’n gyhoeddus.

Mae penderfyniad y BBC ynghylch cystadleuwyr, enillwyr a’r gwobrau a ddyfernir yn derfynol. Ni fydd y BBC yn gohebu ynghylch y gystadleuaeth.

Ni all y BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau a/neu ei asiantaethau dderbyn unrhyw gyfrifoldeb o gwbl am unrhyw fethiant neu nam technegol, nac unrhyw broblem arall gydag unrhyw weinydd, rhwydwaith, system neu unrhyw beth cyffelyb a allai olygu nad yw cais yn cael ei gofrestru’n briodol.

Mae’r BBC yn cadw’r hawl i:

  1. ddiwygio’r telerau ac amodau hyn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, amseroedd agor a chau’r gystadleuaeth;
  2. diarddel unrhyw gystadleuydd sy’n torri’r rheolau, sydd wedi ymddwyn yn dwyllodrus mewn unrhyw ffordd, neu sydd wedi dwyn anfri ar y BBC;
  3. lle bo hynny’n berthnasol, ddiarddel cystadleuydd neu enillydd, tynnu gwobr yn ôl neu roi gwobr arall yn ei lle, os bydd unrhyw gystadleuydd, enillydd neu ei westai, ar unrhyw adeg, yn ymddwyn mewn modd amhriodol neu beryglus, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, fod dan ddylanwad alcohol, cyffuriau anghyfreithlon neu sylweddau cemegol, neu achosi niwsans, cyn neu wrth fod ar yr awyr, wrth ymweld ag adeiladau’r BBC, neu, os yw’r wobr yn cynnwys mynd i ddigwyddiad, ei wahardd o’r digwyddiad hwnnw;
  4. gosod unrhyw gyfyngiadau neu ofynion ychwanegol ar geisiadau os yw natur y wobr a gynigir yn gofyn am hynny, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, docynnau ar gyfer digwyddiadau sydd ag isafswm oedran neu ofynion mynediad eraill; a
  5. chanslo neu amrywio’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, yn ôl ei ddisgresiwn llwyr, os yw’r BBC, yn ei farn resymol, yn credu bod hynny’n angenrheidiol, neu os bydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth yn codi.

I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y BBC yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, p’un a oedd difrod neu golledion o’r fath wedi’u rhagweld, yn rhagweladwy, yn hysbys neu fel arall, gan gynnwys colled ariannol, niwed i enw da neu siom.

Ystyrir bod cystadleuwyr, wrth gofrestru, wedi derbyn y rheolau hyn ac wedi cytuno i fod yn rhwym wrthynt.

Corfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC) yw hyrwyddwr y gystadleuaeth, a chyfreithiau Cymru a Lloegr yw’r gyfraith berthnasol.

Mae’r gystadleuaeth hon yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad y BBC ar gyfer Cystadlaethau a Phleidleisio.