Yr Ail Ddiwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Dydd Sul roedd 'na nifer o Gymry yn cymryd rhan mewn amryw o gampau yn y Gemau Olympaidd.
Mae BBC Cymru yn dod 芒'r newyddion diweddara i chi o'r campau.
BEICIO:
Roedd y Gymraes o'r Wig ym Mro Morgannwg, Nicole Cooke, yn cystadlu yn y ras ffordd ddaeth i ben ar Y Mall toc wedi 3.30pm brynhawn Sul. Roedd hi'n un o bedair o Brydain yn y ras. Methodd ag ennill medal ond cafodd ei chyd-aelod, Lizzie Armitstead, y fedal arian, y fedal gyntaf i Brydain.
NOFIO:
Yn y ganolfan campau d诺r llwyddodd Georgia Davies o Abertawe yn y rhagbrawf ar gyfer y gystadleuaeth nofio 100m dull cefn. Roedd ei hamser yn well nag un cyd-aelod t卯m Prydain, Gemma Spofforth - 59.92 eiliad ar 么l Emily Seebohm o Awstralia gofnododd record Olympaidd newydd, 58.23 eiliad. Wedi'r ras rhagbrawf dywedodd Davies fod Seehohm "wedi mynd yn gyflym iawn". "Y nod oedd mynd drwodd i'r rownd gyn-derfynol ond cymryd popeth gam wrth gam. Rwy'n gobeithio mynd drwodd i'r rownd derfynol. Roedd y profiad yn wych ac roedd cefnogaeth y dorf yn anhygoel."
Ond methu a sicrhau ei lle wnaeth hi yn y rownd derfynol. Yn y rownd gynderfynol fe wnaeth orffen yn wythfed yn ei ras wedi amser o 1 munud a 0.56 eiliad. Roedd hi'n 14 allan o 16 dros y ddau ragbrawf. Seebohm o Awstralia oedd y cyflyma', ychydig yn arafach nai hamser blaenorol o 58.39 eiliad. Llwyddodd Spofforth a sicrhau ei lle yn y rownd derfynol wedi amser o 59.70 eiliad yn y rownd gynderfynol.
Ond roedd 'na siom i Ieuan Lloyd o Benarth. Fe wnaeth orffen ei ragbrawf 200m dull rhydd mewn 1 munud 48.52 eiliad a hynny yn y chweched safle. Ar un cyfnod roedd yn drydydd. Dywedodd fod yna gystadlu brwd a bod ei goesau wedi blino. "Mae'n anodd iawn nofio mor galed yn gynnar yn y bore ac roedd y gefnogaeth yn wych. Nid hwn yw fy amser gorau."
RHWYFO:
Wedi i d卯m Prydain orffen yn drydydd yn y rhagbrawf cyntaf yn y rhwyfo i ferched (t卯m o wyth) bydd Victoria Thornley o Wrecsam yn y ras ail gyfle ddydd Mawrth. Gorffennodd y t卯m y ras mewn 6 munud 23.51 eiliad. Llwyddodd America i orffen mewn 6 munud a 14.68 eiliad.
SAETHU:
Dyw Elena Allen o Gasnewydd ddim wedi cael lle yn rownd derfynol saethu colomennod clai wedi'r rhagbrawf ddydd Sul ym Marics y Magnelwyr Brenhinol. Cafodd sg么r o 60 a gorffennodd yn 14ydd allan o 17. Kim Rhode o America enillodd y rhagbrawf gyda sg么r o 74.
BOCSIO:
Cychwynnodd Fred Evans o Gaerdydd gystadlu yng Nghanolfan Excel yn y pwysau welter 69kg am 3pm. Roedd yn wynebu Ilyas Abbadi o Algeria yn y rownd gyntaf. Fe wnaeth ei guro 18-10 wedi tair rownd. Ei wrthwynebydd nesaf yw Egidijus Kavaliauskas o Lithwania ddydd Gwener am 3.15pm.
HOCI:
Roedd y Gymraes Sarah Thomas yn nh卯m hoci Prydain wrth iddyn nhw wynebu Japan yn Arena Riverbank nos Sul. Dyma oedd ei g锚m gyntaf ac fe wnaethon nhw ennill o 4-0. Fe wnaeth Thomas sgorio un o'r goliau wedi i Alex Danson roi'r t卯m cartref ar y blaen wedi saith munud. Cafodd Sally Walton y drydedd g么l cyn i Danson sgorio'r bedwaredd yn yr hanner cyntaf. Doedd 'na ddim mwy o goliau yn yr ail hanner. Bydd y t卯m yn chwarae yn erbyn Corea yn yr ail g锚m ddydd Mawrth.
P脢L-DROED:
Llwyddodd t卯m dynion Prydain yn Wembley. Cychwynnodd y pump chwaraewr o Gymry, y capten Ryan Giggs, Craig Bellamy, Joe Allen, Neil Taylor ac Aaron Ramsey, y g锚m. Wedi g么l gan Giggs yn yr hanner cyntaf daeth yr EAU yn 么l cyn i Scott Siclarir a Daniel Sturridge sgorio'r ddwy arall.