Gwasanaethau brys yn taclo tân gwair 'sylweddol' yn y de

Mae mwy na 40 o swyddogion tân yn ceisio mynd i'r afael â thân mynydd mawr yn Nhorfaen.

Dechreuodd y tân ar Fynydd Garnclochdy brynhawn Sul rhwng Abersychan a Blaenafon.

Mae'r tân yn cwmpasu tua 80 erw o dir ac mae nifer o eiddo sydd yn llwybr y tân yn cael eu diogelu.

Gallwch weld y mwg filltiroedd i ffwrdd, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cael galwadau am y digwyddiad gan bobl yng Nghaerffili a Chaerdydd.